cartref newyddion arad goch cynhyrchiadau 
cyhoeddus cynhyrchiadau i ysgolion cysylltwch a ni adolygiadau 
cynhyrchiadau arad goch afrchif cynhyrchioadau 
arad goch

theatr mewn 
addysg gan cwmni theatr arad goch aberystwyth

sioeau cyfredol | sioeau i ddod | sioeau diweddar | archif sioeau theatr mewn addysg

Mae Arad Goch yn darparu cyweithiau theatr-mewn-addysg yn bennaf i siroedd Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Gweithreda’r cwmni er mwyn datblygu a darparu theatr gyfoes a chyffrous ag iddi berthnasedd i fywydau a datblygiad plant a phobl ifanc. Bwriedir i bob cywaith theatr-mewn-addysg gynnig profiadau esthetig fydd yn cyfoethogi dealltwriaeth plant a phobl ifanc ohonynt eu hunain, eu cynefin a’u cymdeithas, yn lleol ac yn fyd-eang tra, ar yr un pryd, yn cynorthwyo athrawon a disgyblion yn eu gwaith dosbarth. Rhoddir pwyslais ar yr elfen ‘theatr’ yn y gwaith theatr mewn addysg gan gredu fod theatr gref ac ystyrlon yn gallu esgor ar addysg dda.

Cynnwys y cyweithiau Theatr-mewn-addysg fel arfer yw Rhagolwg i Athrawon, perfformiadau mewn ysgolion unigol, gweithgaredd ymarferol a Phecyn Adnoddau i athrawon.

Mae Arad Goch yn gwerthfawrogi’n fawr y cydweithrediad a geir gan athrawon a swyddogion addysg a’r ymateb adeiladol a geir gan athrawon a disgyblion fel ei gilydd.

 

DARLLENWCH FILIWN O EIRIAU GYDA'CH GILYDD YNG NGHYMRU 2009

DARLLENWCH FILIWN O EIRIAU GYDA'CH GILYDD YNG NGHYMRU 2009

DARLLENWCH FILIWN O EIRIAU GYDA'CH GILYDD YNG NGHYMRU


Fel rhan o’r ymgyrch Darllenwch Filiwn o Eiriau Gyda’ch Gilydd yng Nghymru bydd Cwmni Theatr Arad Goch ar daith o amgylch nifer o ysgolion Cymru yn perfformio i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6. Byddwn ar daith am gyfnod o chwe wythnos ac yn cynnal perfformiad yn seiliedig ar nifer o lyfrau poblogaidd i blant.

I gyda fynd a’r cynllun, byddwn yn darparu pecyn gwaith i athrawon. Gallwch fynd at y pecynnau o'r dudalen yma trwy glicio ar y bar melyn.

Maent hefyd ar gael i'w llawrlwytho o'r wefan: www.llythrenneddbechgyncymru.co.uk

Gan , Cyfarwyddwyd gan
Cast:
darllenwch adolygiadau 
DARLLENWCH FILIWN O EIRIAU GYDA'CH GILYDD YNG NGHYMRU 2009 ymaDarllenwch adolygiadiau DARLLENWCH FILIWN O EIRIAU GYDA'CH GILYDD YNG NGHYMRU 2009
 
Ar daith o 05 10 2009 tan 02 12 2009;
Cliciwch yma am fanylion llawn y daith
 

pecyn addysg DARLLENWCH FILIWN
 O EIRIAU GYDA'CH GILYDD YNG NGHYMRU 2009Pecynnau addysg ac adnoddau eraill i athrawon ar gael yma.......

 
GAIR AM AIR / A WORD'S A WORD 2009-10

GAIR AM AIR / A WORD'S
 A WORD 2009-10

Cynhyrchiad theatr mewn addysg i ddisgyblion blynyddoedd 1 a 2 fydd yn teithio ysgolion Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro o Dachwedd 2009 - Mawrth 2010

Dyma addasiad Mari Rhian Owen o’r ddrama o Ddenmarc ‘Et ord et ord’ gan Michael Ramløse. Drama hyfryd i ddisgyblion blynyddoedd 1 a 2 sy’n llawn haenau o ystyr a chyfaredd. Cawn dreulio ychydig o amser yng nghwmni dau gymeriad (Ffion Wyn Bowen ac Emyr Bell) sy’n dod ar draws nifer o focsys o bob maint a siâp, ac yn penderfynu mynd ati i chwarae siop. Ond nid siop arferol geir yma ond siop yn gwerthu geiriau! Mae’r amrywiol eiriau yn cael dylanwadau gwahanol ar berchnogion y siop a thrwy hiwmor a chyfeillgarwch daw’r ddau i sylweddoli gwerth a phwerau’r holl eiriau- geiriau hapus; geiriau tawel; geiriau drwg a geiriau da.
Mae’r ddrama’n pwysleisio’r rôl o chwarae a defnyddio’r dychymyg. Ceir ynddi hefyd bwyslais ar y themâu o gyfeillgarwch a ffrindiau, cyfathrebu a datblygiad yr iaith a phatrwm a rhythm geiriau – geiriau sy’n odli a chyflythrennu.

Gan , Cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Cast:
Ffion Wyn Bowen a Emyr Bell
darllenwch adolygiadau GAIR 
AM AIR / A WORD'S A WORD 2009-10 ymaDarllenwch adolygiadiau GAIR AM AIR / A WORD'S A WORD 2009-10
 
Ar daith o 23 11 2009 tan 26 03 2010;
Cliciwch yma am fanylion llawn y daith
 

pecyn addysg GAIR AM AIR / A 
WORD'S A WORD 2009-10Pecynnau addysg ac adnoddau eraill i athrawon ar gael yma.......

 
PRINT, PANTS A PICALHOROD / PRINT, POEMS AND PANTS 2010

PRINT, PANTS A PICALHOROD / PRINT, POEMS AND PANTS 2010

Cynhyrchiad theatr mewn addysg i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 fydd ar daith o Ionawr - Chwefror 2010

Dyma berfformiad bywiog wedi ei selio ar lyfrau poblogaidd i blant blynyddoedd 5 a 6. Prif nod y cynhyrchiad yw annog plant i ddarllen gan geisio trosglwyddo’r neges bod geiriau a darllen yn hwyl. Ceisir trosglwyddo rhannau o’r nofelau mewn modd hwyliog gan obeithio denu’r disgyblion i fynd ati i ddarllen y llyfrau yn eu cyfanrwydd. Y llyfrau a addaswyd ar gyfer y perfformiad Cymraeg yw:
• Y Celtiaid Cythryblus - Addasiad Elin ap Hywel
• Y Pants Marwol - Addasiad Daniel Glyn
• Byw gyda Fampirod - Addasiad Eiry Miles
• Trysorfa T. Llew Jones - T. Llew Jones
• Dirgelwch Gwersyll Glan-Llyn-Gareth Lloyd James
• Jôcs Gwirion Gwyn a Dai -Gwyn Morgan a Dai Owen

Gan , Cyfarwyddwyd gan Jeremy Tuner, Angharad Lee
Cast:
Lowri Sion, Ioan Gwyn, Mark Roberts
darllenwch adolygiadau PRINT,
 PANTS A PICALHOROD / PRINT, POEMS AND PANTS 2010 ymaDarllenwch adolygiadiau PRINT, PANTS A PICALHOROD / PRINT, POEMS AND PANTS 2010
 
Ar daith o 04 01 2010 tan 12 02 2010;
Cliciwch yma am fanylion llawn y daith
 

pecyn addysg PRINT, PANTS A 
PICALHOROD / PRINT, POEMS AND PANTS 2010Pecynnau addysg ac adnoddau eraill i athrawon ar gael yma.......