 |

Mae Arad Goch bob tro yn croesawu ymateb gan ein cynulleidfa. Gwelir
rhai
isod.Mae
croeso i chi anfon eich sylwadau am ein gwaith neu anfon lluniau drwy
gysylltu â ni. Byddwn yn rhoi'r rhai gorau ar y wefan hon.
Cliciwch
yma am ein casgliad o erthyglau ac eitemau ysgrifenedig
eraill gan
aelodau Arad Goch am gwaith, hanes a datblygiad y cwmni
|
RWTSH
RATSH RALA RWDINS
Gan Angharad Tomos
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Adolygiad o'r sioe yn Sherman
8.6.09
" Roedd yna hen
edrych ymlaen yn ty ni dros y penwythnos i weld sioe ddiweddara Arad
Goch, Rwtsh Ratsh Rala Rwdins yn theatr y Sherman. Felly dyna
straffaglio a chwilota am fy hen lyfra Rala Rwdins i pan oeddwn i yn
ifanc. Dyna fynd a fi nôl mewn amser, nostalgia llwyr, sy’n dangos pa
mor berthnasol ydi Rala Rwdins i blant Cymru ers blynyddoedd.
Heidiodd y plant i fewn i’r theatr un ar ôl y llall yn llawn bwrlwm,
gyda ambell un wedi mynd i ymdrech arbennig ac wedi creu hetiau hir fel y
Dewin Doeth, ac eraill wedi gwisgo yr un fath ar cymeriadau! Roedd
Nansi a finna yn weddol agos at y blaen, ac wrth i’r golau gilio daeth
set liwgar llawn lefelau amrywiol i’r golwg. Roedd y sêr wedi denu
llygaid y plant, ar haul ar lleuad bob ochor i’r llwyfan yn hynod
effeithiol.
Ac yna fe ymddangosodd Rala Rwdins, yn rhadlon braf ac yn gwenu arnom,
roeddwn yn falch iawn o hynny, gan y gallai cymeriad mewn du gyda het
hir gam ar yr olwg gyntaf godi ofn ar y plant, ond roedd pawb, ar y
cyfan yn hapus!
Cafwyd actio arbennig gyda phortreadu cyflawn llawn direidi. Gyda stori
dda yn dilyn hynt a helynt y Dewin Dwl, wedi iddo ddarganfod bod gan y
Dewin Doeth bot o aur! Tyfodd y cnewyllyn syml yma yn antur fawr i
Rwdlan, y Dewin Dwl, ar Llipryn Llwyd, a oedd yn gwybod ble oedd yr aur
wedi ei guddio gydol yr amser.
Caewyd sawl llygaid a rhoddwyd sawl ochenaid pan ymddangosodd Strempan
ar y llwyfan. Gwaith Strempan oedd i godi ofn ar y tri, ac yn bendant fe
wnaeth hi hynny, ac mae’n bwysig cofio bod profi teimladau ac emosiynau
gwahanol yn rhan o fynd i’r theatr, ac mi oedd y plant gafodd weld y
sioe yma yn freintiedig iawn. Roedd y canu yn hynod effeithiol, biti na
fydda mwy o hynny yn y sioe! Er mai dim ond dwy a hanner ydi Nansi fe
fwynhaodd hi’r sioe yn fawr iawn! Ddyddiau yn ddiweddarach mae hi yn dal
yn sôn am gymeriadau Gwlad y Rwla!
Sioe liwgar gyda ôl paratoi oedd ‘Rwtsh Ratsh Rala Rwdins’ gan Gwmni
Theatr Arad Goch gyda’r sêr ar actorion yn sgleinio!
" |
| adolygiad gan: |
Gweno Glyn, 08 / 06 / 2009 |
| |
|
| |
|
|
Twm
Sion Cati
Gan Jeremy Turner
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Twm Siôn Cati - Gwell na Robin
Hood!
" • Adolygiad Gwyn
Griffiths o Twm Siôn Cati. Sioe haf Theatr Arad Goch i blant 7-11 oed.
Caerdydd. Mehefin 20, 2008
Ar drothwy'r pedwar cant
Wn i ddim a fydd yna gofio y flwyddyn nesaf ond yn 2009 bydd bedwar can
mlynedd union ers marw Thomas Jones, neu Twm Siôn Cati.
Ceir cyfeiriad yn rhaglen y sioe lwyfan Twm Siôn Cati fod tua 400 o
flynyddoedd ers y bu Twm yn crwydro daear ardal Tregaron. Wel, 1609 oedd
blwyddyn ei farw.
Wn i ddim ai dyma gychwyn cyfres o ddigwyddiadau i nodi'r dyddiad hwnnw a
dathlu ei fywyd.
Os felly, mae'n gychwyn addawol a theilwng.
Ar y rhaglen a'r tocyn mynediad i'r sioe yn theatr The Gate, Caerdydd,
cyfeiriwyd ato fel The Welsh Robin Hood.
Ond fe dylid cofio bod Twn Siôn Cati yn berson go iawn o gig a gwaed. Yn
fardd, mae o leiaf un cywydd o'i waith wedi goroesi.
Yn ŵr o ddiwylliant ac, ar ôl ymbarchuso, yn ddyn o ddylanwad.
Ffrwyth dychymyg a chwedl yw Robin Hood.
Ond wna i ddim edliw'r ystryw marchnata bach yna. Mae hon yn sioe sy'n
haeddu'r gynulleidfa orau bosib.
Pwysodd sgript Jeremy Turner yn drwm ar y chwedlau am Twm, rai ohonynt
yn cael eu hadrodd hyd yn oed heddiw yn ardal Tregaron.
A sgript llawn asbri oedd hi gyda'r actorion, Ffion Wyn Bowen; Emyr
Bell, Lowri Sion, Marc Roberts, Ioan Gwyn, yn hoelio sylw llond y theatr
o blant bywiog Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd a'u cadw'n gwrando'n astud
am awr gyfan.
Mae chwedloniaeth Twm yn addas iawn i blant.
Triciau direidus sydd yma, twyllo'r barus a'r drwg o'u harian a'u heiddo
gan roi'r ysbail i'r tlawd.
Mae'r straeon a ddefnyddiwyd yn y sioe yn ddieithriad yn ddoniol a da -
fel honno pan fo Twm gerbron llys a'r lle'n mynd braidd yn afreolus.
"Clear the court," meddai'r barnwr, ac wrth hel y dorf allan mae Twm
yntau yn diflannu gyda nhw.
Rhaid imi ddweud gair am gwmni Arad Goch, rhywbeth sy'n gyffredin i bob
un o'r cwmnïau Theatr Mewn Addysg y caf y cyfle i'w gweld o dro i dro.
Mae eu cyflwyniadau yn gyson ardderchog ac yn wir addysgiadol.
Mae'n hyfryd gweld ar y llwyfan yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn digwydd
tu cefn i'r llenni, yr actorion yn newid cymeriadau drwy fymryn o newid
gwisg ac osgo.
Gwych o beth i danio dychymyg cynulleidfaoedd ifanc.
Sylwais fod Arad Goch yn cynnal sesiynau gloywi iaith i ddisgyblion
ysgol ac er yn rhwydd ac ystwyth yr oedd iaith y sioe hon o ansawdd
hyfryd.
Trueni na fyddai rhai o bobol S4C yn gweld y sioe hon er mwyn gweld nad
oes yn rhaid defnyddio bratiaith er mwyn ystwythder.
Braf, hefyd, gweld dawnsio gwerin a chanu gwerin o'r cyfnod.
Llongyfarchiadau i'r cast bob un am berfformio caboledig a hwyliog.
Roeddwn yn falch gweld y sioe'n cael ei llwyfannu yn The Gate, theatr a
chanolfan gelfyddydol a diwylliannol yn Y Rhath.
Gwneir llawer iawn o waith da yma ac y mae seddau'r theatr, sef galeri
hen gapel, yn gyffyrddus. Gwers i rai o theatrau eraill Caerdydd!
Dyma fanylion gweddill y daith wedi Caerdydd:
Mae Twm Siôn Cati ar daith o amgylch Cymru gyda pherfformiadau Cymraeg a
Saesneg.
• 20.6.08 Y Gate, Y Rhath, Caerdydd 10.30 ; 1pm (Cymraeg) Menter
Caerdydd 02920 565658
• 23.6.08 Neuadd Dwyfor Pwllheli 1.30pm (Cymraeg) 01758 704088
• 24.6.08 Neuadd Dwyfor Pwllheli 10am (Cymraeg); 1.30pm (Cymraeg) 01758
704088
• 25.6.08 Galeri Caernarfon 1pm (Cymraeg) 01286 685222
• 26.6.08 Theatr Gwynedd Bangor 1.30pm (Cymraeg) 01248 351708
• 27.6.08 Theatr Gwynedd Bangor 10.30am (Cymraeg) 01248 351708
• 30.6.08 Theatr Felinfach 1.30pm (Cymraeg) 01570 470697
• 01.7.08 Theatr Elli Llanelli 1.15pm (Cymraeg) 0845 22635 08/09/10
• 02.7.08 Theatr Elli Llanelli 10am (Cymraeg); 1.15pm (Saesneg) 0845
22635 08/09/10
• 04.7.08 Theatr John Ambrose Rhuthun 10am (Cymraeg); 1.30pm (Saesneg)
01678 540528
" |
| adolygiad gan: |
Gwyn Griffiths, 23 / 06 /
2008 |
| ffynhonell: |
Gwefan BBC Cymru
|
| |
|
| |
|
|
Agor
Drysau 2008
Gan
cyfarwyddwyd gan
" I managed an
overnight visit to Agor Drysau last week. I wasn’t there long enough to
get a full flavour of what was on offer, I missed out particularly on
theatre for the very young, but I did see three very different
productions in three different locations.
The first was Theatr Iolo’s Lenny, a poetic realisation of a bullied
small boy’s desperate longings to be as hard as the nails he swallows.
It would have been interesting to see this with some of its target
audience. I found the script a little uncertain; there were times when
it felt like a spoken adult text rather than the thoughts of a
frightened small boy. That could be to do with it being a translation
from French Canadian and thus from very different cultural values. It
would be good to know if any of that bothers the schoolchildren for whom
it’s intended.
Outweighing the moments of awkwardness though were the times when the
vividness of the imagery made it powerful and moving. That was
particularly so of Lenny’s realisation that his big, strong brother has a
tiny, frightened persona cowering inside him.
Prowling around the circular dirty white floor covering, which evoked an
urban, industrial wasteland, and slipping from character to character
in an instant, solo performer Kevin Lewis gripped the attention
throughout. There was a brilliant sound design too with startling
moments when paper bags seemed to be talking.
That was late night in Arad Goch’s headquarters in town. The next
morning saw crowds of noisy schoolchildren disgorging from buses at
Aberystwyth Arts Centre and pouring excitedly into the theatre. So how
was an hour of dance, movement and live music going to be received by
these chattering hoards?
Echoa by French company Arcosm was one of the finest pieces of physical
theatre I’ve ever seen and its target audience clearly agreed with me.
Their attention was focussed on the stage throughout and not a sound was
to be heard from them; except that is for the loud laughter that
erupted at the many moments of exquisite, dead-pan humour.
It’s almost impossible to convey just how extraordinary this show was.
There were two dancers, one male and one female. There were two
percussionists, both male. There were drums, xylophones and metal
scaffolding subdivided into room-like spaces.
Then there were the other percussion instruments, the floor, the
scaffolding, the performers’ bodies, the performers’ vocal sounds and,
most amazingly, the air. It was a little like watching very
sophisticated playground behaviour with a gamelin orchestra in
residence. It was awe-inspiring, beautiful, jaw-droppingly energetic,
done with meticulous precision and very, very funny. Utterly fantastic.
And so to a school hall and Hamlet; but it was no ordinary Hamlet. This
version, by the Danish company Det Lille Turn_teater, was 75 minutes
long and performed in English by two actors and two double bass players.
Surprisingly effective it was too. Somehow the story was all there with
the poetry and emotions of the words being provided by the voices of
the double basses. They also became coffins, the ghost and, most
memorably, they perform the play within the play.
The two personable actors slip easily from character to character, no
matter what sex they may be, sometimes even conversing with themselves,
and they convincingly evoke the multiple deaths of the climax. It was
also played with two short intervals during which they have the audience
on its feet doing loosening-up exercises. The teenagers seemed
genuinely gripped by the production which was full of energy, wit,
imagination and, yes, poetry.
There were other shows I wish I could have seen. I got a strong sense of
a very good festival giving a wider showcase for the often neglected
field of theatre for young people.
" |
| adolygiad gan: |
Victor Hallett, 31 / 03 /
2008 |
| ffynhonell: |
Gwefan Theatre in Wales
|
| |
|
| |
|
|
CANERI,
GWYLAN A BRAN 2007
Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
" Annwyl Arad Goch,
Diolch am yr perfformiad o Caneri Gwylan a Bran. Roedd e'n doniol iawn a
roedd pawb yn chwerthin. Roedd yr actio yn edrych yn galed. Diolch yn
fawr oddi wrth Catrin Evans Ysgol Llanafan
" |
| adolygiad gan: |
Catrin Evans, Ysgol Llanafan, 08
/ 10 / 2007 |
| |
|
| |
|
|
CANERI,
GWYLAN A BRAN 2007
Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Adolygiadau
" Ar ddydd Gwener yr
ugeinfed o Fedi es i i Aberystwyth a gwelais ddrama gan Arad Goch o’r
enw ‘Caneri, gwylan a bran.’ Roedd y ddrama yn y theatr yn y llyfrgell.
Roedd y ddrama yn ddoniol ac roedd e’n ddiddorol achos roedd e’n dweud
faint o lyfrau sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Fy hoff gymeriad i oedd
Mr Porthor achos roedd mor ddoniol.
Ar ddydd Gwener yr unfed ar hugain o Fedi bues yn Aberystwyth yn gweld
drama. Roeddwn ni wedi mwynhau'r ddrama. Roedd yn ddoniol ac roedd pawb
yn chwerthin. Yr unig gymeriadau oedd Beth a Mr Porthor. Roedd gwisgoedd
diddorol ganddynt. Roedd y stori am Beth. Roedd Beth yn drist iawn
achos roedd pawb yn gas iawn iddi. Neges y ddrama oedd bod yn neis i
bawb ac i ddefnyddio llyfrau i fod yn berson dewrach a mwy clyfar.
Roedd y cymeriadau yn ddiddorol ac yn ddwl. Roedd y wisg ddim yn sefyll
allan, roedd yn ddigon cyffredin. Roeddwn i’n hoffi'r hiwmor. Roedd y
neges yn bwysig ac yn dweud llawer am Beth a’i bywyd hi. Roeddwn ni ddim
wedi mwynhau’r ddrama llawer achos welais y llwyfan yn fach a dau
gymeriad yn ddiflas.
Roedd y ddrama yn wahanol achos roedd dim ond dau gymeriad ond roedd e
yn ddoniol. Roedd y cefndir bach yn ddiflas ac yn blaen ond roedd y
neges yn dda ac yn hawdd deall.
Roeddwn ni yn meddwl roedd y gwisgoedd yn dda ac roedd y porthor yn
ddoniol. Roedd y lluniau yn y cefndir hefyd yn dda. Roeddwn i yn meddwl
bod yr hiwmor yn wych. Roedd y neges am Beth yn rhedeg i ffwrdd i’r
llyfrgell yn wahanol ond roeddwn yn hoffi bod y porthor yn gwneud hi yn
ddewrach a mwy clyfar a'i bod yn gallu sefyll ar ddwy droed ei hun.
Roedden i'n meddwl bod yr hyd damaid yn hir achos hoffwn wedi cael mwy o
amser i fynd o gwmpas y llyfrgell.
Ar yr unfed ar hugain o Fedi cafodd blwyddyn chwe gwahoddiad i ddod i’r
llyfrgell Genedlaethol. Roedd y daith ar y bws yn hir iawn ond pan
gyrhaeddon ni welais fod y lle yn anferth. Pan oedd Ashley wedi cnocio
ar y drws roedd y dyn wedi agor y drws ac estyn croeso mawr i ni i’r
llyfrgell. Roeddwn wedi hoffi hynny. Cawsom weld drama yn y theatr ac
wedyn amser i fwyta cinio. Roedd yn drip ardderchog a bydden yn rhoi can
allan o gant am y daith.
Roedd y ddrama yn gyffrous ac yn ddoniol ond syml.
Roedd y cymeriadau yn ddoniol. Roedd Beth yn dda ac yn siarad yn glir
roedd Mr Porthor yn hapus, doniol ac yn siarad yn glir hefyd. Fy hoff
beth oedd pan oedd Beth wedi gadael y llyfrgell yn hapus. Y peth mwyaf
gwael oedd pan roedd e’n siarad am y plant yn y pyllau glo. Roedd yn
neges bendant ond trist. Roedd y daith lan yn hir ond werth e.
Roedd y ddrama yn fyr ac yn ddoniol. Neges wir a doniol oedd yn y
ddrama. Roedd yn ddrama fach lyfn ond diddorol. Roedd ganddyn nhw
wisgoedd cŵl, cymeriadau gwych ac iaith cŵl. Roedd y ddrama fach fel
stori i ddangos eich bod chi yn gallu sefyll ar eich dwy droed eich hun,
bod yn gryf a bod yn glyfar. Roedd Mr Porthor a Beth yn actio yn y
ddrama yn dda.
Yn anffodus, roeddwn i yn sâl ar ddiwrnod y trip i’r Llyfrgell
Genedlaethol a pherfformiad Arad Goch, Ar ôl clywed fy ffrindiau yn
siarad am y trip rwy'n siomedig iawn oherwydd rwy'n credu mod i wedi
colli allan ar ddiwrnod gwych.
Rydw i wedi clywed tipyn am y perfformiad ac yn ôl beth mae fy
ffrindiau wedi dweud wrthyf am, roedd popeth yn y ddrama yn wych. Roedd y
cymeriadau, gwisg, hiwmor, neges a'r hyd yn berffaith.
Mae'r Llyfrgell yn swnio'n wych, hefyd! Rwy'n methu credu bod
pum miliwn o lyfrau yn y llyfrgell Genedlaethol, chwaith! Mae e bron yn
amhosibl credu! Mae Aberystwyth yn lwcus iawn i gael Llyfrgell
Genedlaethol Cymru yn ei dref!
Rwy’n anlwcus iawn i golli cyfle mor arbennig, ond gobeithio
gallai gael cyfle arall i fynd i’r Llyfrgell. Os byddai yn ddigon
ffodus i gael y cyfle eto byddai’n ei gymryd, sâl neu beidio!
" |
| adolygiad gan: |
gan ddisgyblion bl. 6 Ysgol Glan Cleddau, Hwlffordd, 02 / 10 / 2007 |
| |
|
| |
|
|
CANERI,
GWYLAN A BRAN 2007
Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Adolygiad gan ddisgyblion ysgol
Beulah
" Mwynhaeon ni y
sioe ond roeddem yn meddwl doedd dim digon o cymeriadau. Roedd y gofalwr
yn ddoniol iawn ac roedd Beth yn edrych fel merch neis iawn ac yn
eithaf doniol. Dysgom ni llawer iawn am y Llyfyrgell Genedlaethol. Roedd
y gweithgareddau yn eithaf rhwydd.
" |
| adolygiad gan: |
Elen, Ifan a Dafydd Ysgol Beulah., 02 / 10 / 2007 |
| |
|
| |
|
|
Rhieni
Hanner Call a Gwyrdd/The Impossible Parents Go Green
Gan addasiad Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Adolygiadau gan ddisgyblion
Alway Primary, Casnewydd
" "I liked the play
it was very good. I liked the part when the mum do the dance and when
the dad do the rock and roll and please do a play again."
"I liked the play because it made me laugh and it was funny. I laughed
when the parents had no clothes on."
"I loved the play it was so funny I laughed so much. The green part was
so funny I hope we can see you again."
"I liked the play I liked the part when the dad was pretending to play
the guitar."
I liked the play. My favourite part was when Mr Norm washed with the
green sponge it was funny and made me laugh."
"I liked the play. I had a good time. I liked the bit where the man was
washing itself with a green sponge it was really really good. Thank
you."
"I liked the play it was funny and they were fantastic my favourite part
at the play is when they think there skin will come off like banana
peal."
"The play was good. The part I liked best was when Nia was cleaning the
bath."
"I liked the play. My favourite part was at the end when they were all
dancing."
" |
| adolygiad gan: |
, 09 / 07 / 2007 |
| |
|
| |
|
|
Rhieni
Hanner Call a Gwyrdd/The Impossible Parents Go Green
Gan addasiad Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Adolygiad gan ddisgyblion Ysgol
Bethel, Gwynedd
" "Mwynheais y sioe
Rhieni Hanner Call yn fawr iawn. Roedd y stori llawn hiwmor. Roedd yn fy
ngwneud i chwerthin. Mi roeddwn yn hoffi y cymeriadau. Mi roeddwn yn
hoffi pan roedd Mr. Norm a Mrs. Norm yn troi yn wyrdd ac pan roedd Mr.
Norm yn torri gwynt. Doedd na ddim llawer o brops yn yr ysgol ac roedd
llawer o brops yn y ty. Doeddwn ddim yn deall rhai o'r geiriau de. Roedd
props y ty yn arbennig o dda roedd y grisiau yn mynd i'r llofft yn dda
hefyd. Diolch am sioe mor dda mi hoffwn weld y sioe eto."
"Hoffais y darn pan roedd Mr Norm yn gollwng gwynt ac yn rhoi bai ar Mrs
Norm.Roedd y props roeddech yn defnyddio yn ardderchog. Roedd y
gwisgoedd yn dda hefyd. Buaswn i wrth fy modd yn gweld sioe arall gan y
cwmni."
"Diolch yn fawr am adael i ni ddod i wylio'r sioe (Rhieni hanner call).
Roeddwn i'n hoffi'r sioe. Y darn gorau gen i oedd pan penderfynodd Wyn a
Nia chwarae tric ar ei rhieni ac yn rhoi inc gwyrdd ar y sbwnj. Roedd
yn dda fel roedd dau beth yn digwydd ar un waith. Roni'n hoff o wisg
Miss Jones yr athrawes pam roedd hi yn fwydyn. Roedd yr actorion yn
siarad yn glir. Mi faswn i yn hoffi gweld sioe arall. Roeddwn i'n hoff
o'r perfformiad."
"Diolch Cwmni Ard Goch am rhoi sioe arbennig a ddoniol. Roedd y sioe yn
llawn hiwmor. Fy hoff rhan oedd pam roedd Mr Norm yn torri gwynt yn
andros o swnllyd. Roedd y sioe mor dda mi fyswn i ac Matthew yn hoffi
gweld Rhieni Hanner Call a Gwyrdd 2. Diolch am sioe mi ryden ni yn
gobeithio ein bod ni yn cael gweld sioe arall o Rhieni hanner call a
gwyrdd."
Diolch am y sioe Rhieni hanner call a gwyrdd yn Theatr Gywnedd ar
3/7/07. Roeddwn yn mwynhau y darn pan roedd y fam yn bola dawnsio a Dad
yn gwnedu pwmp. Redd Gwyn a Nia Norm wedi cael llond bod ar eu rhieni
hanner call. Roeddem yn meddwl eu bod wedi troi yn chwarter call.
Roedden ni wedi mwynhau yr actorion i gyd yn rhieni hanner call. Roedd y
set yn syml iawn ac yn effeithiol a'r props. Roeddem yn meddwl fod Gwyn
yn mynd i ddisgyn oddi ar y llwyfan pam roedd ar y troli. Mwynheais Nia
pam roedd yn actio yn yr ysgol pam oedd yn cael llond bol ar yr
athrawes. Roedd yn ddoniol ac roeddem ni wedi mwynhau. Gobeithio gawn ni
sioe arall yn fuan."
"Diolch yn fawr iawn am i chi ddod i'r Theatre. Mi wnes i a fy ffrind
fwynhau yn arw iawn. Roedd y fam yn ddoniol yn gwneud y dawnsio bola.
Roedd y tad yn meddwl roedd o yn popstar yn canu ac smalio roedd ganddo
gytar yn ei law. Doedd yr athrawes ddim byd fel athrawon ni yn yr ysgol.
Roedd y props yn syml ac pan roedd nhw yn mynd i mewn yr bath pan
wnaeth nhw droi yn wyrdd roedd yn ddoniol iawn. Roedd y acen y de yn
wahanol ond yn gwneud y ddrama yn mwy doniol. Rhaid i mi ddweud dydy Mr a
Mrs Norm ddim byd fel Rhieni ni."
"Diolch yn fawr iawn Cwmni Arad Goch am berfformiad sioe Rhieni Hanner
Call gwych i plant blwyddyn 3 a 4 ysgol Bethel. Roedd y set a'r props yn
lliwgar iawn ac yn syml. Roedd y ty ar un ochr o'r llwyfan a'r Ysgol ar
yr ochr arall. Roeddwn i'n hoffi hynny ac doeddech chi ddim yn gorfod
symud dim byd. Fy darn gorau oedd Mr Norm oherwydd bod o'n torri gwynt
trwy'r adeg! a smalio chware gitar. Diolch yn fawr iawn Cwmni Arad
goch."" |
| adolygiad gan: |
Disgyblion o Ysgol Bethel, Gwynedd., 05 / 07 / 2007 |
| |
|
| |
|
|
Nid Fi /
Not Me 2007
Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Ioan Evans
Ysgol Gynradd Stebonheath - Nid
Fi
" "Many thanks once
again. You are quite the best theatre company we have ever seen. Well
done!"
"Llawer o ddiolch unwaith eto. Chi yw'r cwmni theatr gorau rydym ni wedi
weld. Da iawn!"
(wedi ei gyfieithu o'r gweriddiol)" |
| adolygiad gan: |
Ysgol Gynradd Sirol Stebonheath County Primary School, 02 / 04 / 2007 |
| |
|
| |
|
|
Crash
(2007)
Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Crash (2007) - Disgyblion
Llanfyllin
" ADOLYGIAD GAN
DDISGYBLION YSGOL UWCHRADD LLANFYLLIN:
“Hoffwn ddiolch i chi am ddod i actio y sioe CRASH yn Theatr Llwyn ar y
23.2.07. Mwynheais y sioe yn fawr iawn. Roedd Rhys a oedd yn cael ei
chwarae gan Robin Ceiriog yn ddoniol iawn, roeddwn yn crio. Roedd llawer
o emosiwn yn y ddrama ac roedd yn dal sylw y gynulleidfa. Dwi’n credu
bod y ddrama wedi apelio i Blant blwyddyn 10+. Roedd y cerddoriaeth byw
yn gret. Roedd y set yn syml ond yn effeithiol. Mwynheais y golygfa pan
roedd Rhys yn canu yn ei lofft. Roedd yn dda y ffordd roeddent yn medru
newid y set mor gyflym. Nid oeddwn yn hoffi y diwedd, buaswn wedi hoffi
gwybod os wnaeth Rhys fynd i nôl Elin. Roedd y back-drop yn effeithiol
iawn. Hoffwn weld sioe arall, a gobeithio y wnewch chi ddod nôl cyn bo
hir.”
I would like to thank you for performing Crash at Theatr Llwyn on
23/2/07. I thoroughly enjoyed the play. Rhys, played by Robin Ceiriog,
was so funny, I was crying! There was plenty of emotion in the play;
therefore it captured the audience’s attention. I believe the play
appealed to children years 10+. The live music was great. The set was
simple, but effective. I enjoyed the scene where Rhys was singing in his
bedroom. Changing the set so quickly was very good. I didn’t enjoy the
ending; I would have liked to know if Rhys went to collect Elin. The
back drop was very effective. I would like to see another play, I hope
you will come back in the very near future.
" |
| adolygiad gan: |
DISGYBLION YSGOL UWCHRADD LLANFYLLIN, 16 / 03 / 2007 |
| |
|
| |
|
|
Nid Fi /
Not Me 2007
Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Ioan Evans
ADOLYGIAD O NID FI
" ADOLYGIAD O NID FI
Ar ddechrau mis Chwefror, fe ddaeth Arad Goch i berfformio drama o’r enw
“Nid Fi” ac fe wnaethom ni fwynhau. Roeddwn yn dweud i’n gilydd pa mor
realistig yr oedd y ddrama. Roedd y ddrama yn dangos bod pethau fel hyn
yn digwydd bob dydd ar fan chwarae neu yng nghartrefi pobl ac hyd yn oed
yn y dref. Roedd y sioe yn dangos sut roedd bwlio yn effeithio bywyd
plant pob dydd.
Hoffwn hefyd ddweud pa mor dda oedd yr actorion yn actio plant newydd
gyrraedd ysgol fawr - roedd hynny yn glir iawn. Roeddwn hefyd yn meddwl
bod y set yn wahanol a diddorol. Hoffwn ddiolch i Arad Goch am ddod i’r
ysgol a perfformio perfformiad da. Hoffwn rhoi pump seren allan o bump
i’r cynhyrchiad.
*************************
Ar ddechrau mis Chwefror, fe ddaeth cwmmni Arad Goch i berfformio sioe i
ni am blant ysgol oedd yn cael eu bwlio. Enw’r sioe oedd “Nid Fi”,a’r
prif gymeriadau oedd Sali(y plentyn ysgol newydd), Gareth(ffrind y bwli
ond eisiau bod yn ffrind Sali), a Lydia(y bwli). Roedd y sioe yn dangos i
chi sut yr oedd Sali yn teimlo, ac yn dangos i ni pam yr oedd Lydia yn
bwlio. Roedd yn hawdd i gydymdeimlo a’r tri ohonynt. Mwy na dim, roedd y
sioe yn dangos bod pethau fel hyn yn digwydd bob dydd ar fan chwarae
neu yng nghartrefi pobl. Roedd y sioe yn dangos sut roedd bwlio yn
effeithio bywyd plant pob dydd, ac fel yr oeddynt yn ymateb i’r
sefyllfa. Er enghraifft, roedd Gareth wedi cloi ei hun yn ei ystafell
wely ac esgus bod yn sâl, ond ar y llaw arall, roedd Sali wedi esgus
ffonio ei mham(yr oedd wedi marw), a dweud wrthi ei thrwblau.
Yn gweld y sioe yr oedd aelodau o flynyddoedd 5 a 6, yr Ysgol Gymraeg.
Hefyd, roedd ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn wedi ymuno gyda ni.Roedd pawb
wedi mwynhau y sioe realistig, ac roedd yn gyfle da i wneud ffrindiau
newydd o’r ysgol arall.
Cafodd y sioe ei ddilyn gan weithdy gan y cast, efo pawb yn rhannu i
dair grwp, ac aelodau o’r grwp a’r cast yn eu rheoli. Hoffwn ddweud
diolch i’r canlynol:
Ffion Wyn Bowen
Mari Beard
Sioned Wyn Jones
Mark Roberts
(A gweddill y cwmni yr oedd wedi eu helpu i roi perfformiad gwych iddyn
ni fel ysgol!)
Gan ddisgyblion Bl.6 Ysgol Gymraeg Aberystwyth
A translation will appear shortly" |
| adolygiad gan: |
Disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 14 / 03 / 2007 |
| |
|
| |
|
|
Crash
(2007)
Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Crash (2007) - David Adams
" Crash ! It’s a
popular title, maybe because it sums up for so many modern life: with or
without an exclamation mark, as in computer crash, as in gatecrash, as
in crash out, as in crash editing, as in crash metal, as in car crash.
Originally staged in 2005 and now revived, Sera Moore Williams’s
carefully crafted play deals with several meanings of the word, starting
with one and ending with another, as it tracks a few weeks in the lives
of three teenage school pupils going through exams, adolescence and the
emotional pile-up that is part and parcel of the transition to
adulthood.
Elin is a typically misunderstood teenage girl, struggling with hormones
and temptation and exams and parents who want the best from her, a
romantic wannabe mermaid-cum-angel; her nogoodboyo boyfriend is a school
drop-out, doing drugs and booze and stealing cars, without a home, an
aggressive wannabe drugs baron; and her long-time best friend is an
immature geek left behind as she moves on to new experiences, but a wimp
who can speak sense: “No-one our age fits in at home,” he points when
maybe she thinks her parents are stricter than anyone else’s and her lot
therefore the more exceptionally unjust.
Three very recognisable characters here transported into a modern
tragedy where the inevitable inches ever closer as surely as it does in
Greek drama: but who will be the tragic hero (or heroine), whose the
hubris and the nemesis, where the catharsis ? We swing from character to
character and, to the play’s credit, the climax is surprise.
As if to emphasise the classic model, the playwright/director employs a
heightened style of writing and performance that gives it a
not-quite-real quality that makes for an intensely theatrical experience
that is also utterly credible.
Although being pretty full-on, the production is also full of subtleties
and hints of deeper themes (I liked how Elin wears her angel badge and
then Rhys goes to a fancy-dress party as a devil – both wildly
inappropriate pretences).
The only discordant element is, perhaps, Rhys the nerd: while the others
are familiar kids, albeit slightly exaggerated, he is maybe too much of
a comic character, the Fool alongside the lovers. It makes for some
very entertaining moments – his party dance routine is very well done –
but adds an edginess that is rather too disconcerting as we wonder
whether he has behavioural problems or whether he’s just being played
too OTT.
Crash ! is certainly an involving and an intelligent piece of theatre
for young audiences, exploring what to most must be all-too-familiar
situations but wrapped in the extraordinariness of theatre, exploring
themes of friendship, of need and dependency, of wanting to escape, of
peer pressure, of relationships with parents, of the clashes and crashes
of adolescence.
Sera Moore Williams, whose Riff remains of the best shows I’ve seen from
Arad Goch, is beyond the age of hanging around street corners but she
obviously listens to young people, and creates dialogue that is
arresting and authentic enough to be at times almost incomprehensible to
the likes of me, and allows her cast to find generally credible
characters.
There are energetic performances from a confident cast, Dafydd Rhys
Evans, Rhiannon Morgan and Robin Ceiriog, with some effective guitar
support from Oliver Morys, though his brief foray into acting as a
rapping hoodie was less convincing.
Crash! Mae’n deitl poblogaidd, efallai am ei fod yn crynhoi bywyd
modern i nifer: gyda neu heb ebychnod – crash cyfrifiadurol, crashio
parti, crashio mas, crash metal, a chrash car.
Mae’r Crash yma gan Sêra Moore Williams a lwyfannwyd yn wreiddiol yn
2005 yn ddrama a luniwyd yn grefftus ac mae’n ymdrin â nifer o ystyron y
gair, gan ddechrau â un a gorffen ag un arall, wrth ddilyn ychydig
wythnosau ym mywyd tri disgybl ysgol yn eu harddegau sy’n wynebu
arholiadau, llencyndod a’r pair emosiynol sy’n rhan annatod o dyfu i
fyny.
Mae Elin yn ferch ifanc sy’n cael ei chamddeall; mae’n brwydro â
hormonau a themtasiynau, arholiadau a rhieni sydd eisiau’r gorau iddi,
yn forforwyn ac angel ramantus; mae ei chariad da-i-ddim yn ddropowt
sy’n cymryd cyffuriau, yn yfed a dwyn ceir; yn ddigartref a bygythiol
mae’n breuddwydio am fod yn farwn cyffuriau; a’i ffrind gorau hirdymor
sy’n geek anaeddfed sy’n cael ei adael ar ôl wrth i Elin ganfod
profiadau newydd, ond mae’n wimp sy’n medru siarad synnwyr: “Does neb
ein hoed ni yn ffitio fewn adre” yw ei sylw wrth i Elin gwyno bod ei
rhieni hi yn fwy llym na rhieni neb arall a bod ei sefyllfa hi yn un
arbennig o galed.
Tri chymeriad adnabyddadwy iawn mewn trasiedi fodern, lle, fel mewn
drama Roegaidd, mae’r stori yn symud tuag at ddiweddglo anochel: ond
pwy fydd ein harwr (neu arwres) trasig, pwy yr hwbris a’r nemesis, ble’r
catharis? Rydym yn gogwyddo rhwng un cymeriad a’r llall, a da o beth
fod yr uchafbwynt yn annisgwyl.
Fel petai i bwysleisio’r model clasurol, mae’r dramodydd/gyfarwyddydd yn
defnyddio arddull ddwys o ysgrifennu a pherfformio sy’n rhoi gwedd
ddim-yn-hollol real i’r gwaith gan greu profiad theatrig cryf iawn sydd
hefyd yn hollol gredadwy.
Er bod hwn yn gynhyrchiad ‘yn eich hwyneb’ mae hefyd yn llawn cynildeb
ac awgrymiadau o thêmau dwysach (hoffais fod Elin yn gwisgo bathodyn
angel a Rhys yn mynd i ddisgo gwisg ffansi fel diafol – y ddau yn
rithiau hollol anaddas).
Yr unig elfen nad yw efallai yn taro deuddeg yw cymeriad Rhys – y
‘nerd’: tra bo’r lleill yn bobl ifanc da’n ni gyd yn eu hadnabod (er
efallai yn cael eu gorliwio rhywfaint), mae Rhyw o bosib yn gymeriad
ychydig rhy ddoniol, y Ffŵl ochr yn ochr a’r carwyr. Mae nifer o
ddarnau difyr dros ben yn deillio o hyn – mae ei ddawns yn ystod y parti
yn arbennig o dda – ond mae’n ychwanegu rhyw haen sy’n anesmwytho wrth i
ni ddyfalu a oes gan Rhys broblemau ymddygiad neu a yw’r cymeriad yn
cael ei chwarae yn rhy OTT.
Mae Crash! yn sicr yn ddarn sy’n tynnu cynulleidfa i fewn ac yn ddarn
deallus i gynulleidfaoedd ifanc, sy’n delio a sefyllfaoedd sy’n rhy
gyfarwydd i nifer ond a barselir yma yn anghyffredinedd theatr; yn
archwilio themâu sy’n ymwneud â chyfeillgarwch, ag angen a dibyniaeth, o
eisiau dianc, o bwysau cyfoedion, o berthynas â rhieni, o wrthdrawiadau
llencyndod.
Mae Sêra Moore Williams, sydd a’i darn Riff ymhlith y dramâu gorau dwi
wedi’u gweld gan Arad Goch, yn rhy hen i fod yn loetran ar gorneli
strydoedd, ond mae’n amlwg yn gwrando ar bobl ifanc, ac yn creu deialog
sy’n drawiadol a digon dilys i fod, ar adegau, bron yn annealladwy i
bobl fel fi, ac yn caniatáu i’w chast ganfod cymeriadau sydd ar y cyfan
yn gredadwy.
Mae yma berfformiadau egniol gan gast hyderus, Dafydd Rhys Evans,
Rhiannon Morgan a Robin Ceiriog, gyda chefnogaeth effeithiol gan Oliver
Morys ar y gitâr, er bod ei ddarn byr fel actor yn chwarae hoodie sy’n
rapio yn llai credadwy.
(cyfieithiad o adolygiad David Adams)
" |
| adolygiad gan: |
David Adams, 14 / 03 / 2007 |
| |
|
| |
|
|
Crash
(2007)
Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Adolygiad o 'Crash' yn y Galeri
yng Nghaernarfon.
" Llygad ar y
Llwyfan gyda Paul Griffiths.
Crash – cynhyrchiad allai wneud â rhagor o gyffro.
Mae cadw diddordeb unrhyw gynulleidfa yn sialens, ond pan mae dau lond
bws o fyfyrwyr TGAU yn eich aros, mae’r her dipyn yn fwy! Wrth wylio’r
môr o fyfyrwyr yn llifo drwy ddrysau Galeri yng Nghaernarfon, ar gyfer
perfformiad Cwmni Theatr Arad Goch o ddrama Sêra Moore Williams ‘CRASH’
roeddwn i’n dechrau cydymdeimlo efo’r cwmni a’r cast. Sut oedd y pedwar
actor ifanc am drosglwyddo’r stori a’i neges i’r gynulleidfa
‘falch-o-gael-dianc-o’r-ysgol’
yma?!.....................................................
Does dim dwywaith bod gan Arad Goch y profiad o ddelio efo
cynulleidfaoedd ifanc, a nhwtha yn ‘arbenigo mewn theatr i blant a phobl
ifanc’ ac yn ymweld ag ‘ysgolion, theatrau a chanolfannau cymunedol yng
Nghymru a thu hwnt’.
Theama gyfoes sydd i’r ddrama hon, a hynny am ‘bobl ifanc sy’n dwyn
ceir, eu gyrru ar ras gan achosi niwed iddyn nhw eu hunain ac i
aelodau’r gymuned.’
Roedd y sgript yma yn nodweddiadol o waith Sêra, yn frith o
gyfeiriadaeth at angylion a’r môr ac unigrwydd. I gyd-fynd a’r tecst, fe
gafwyd trac cerddorol wedi’i berfformio yn fyw gan Oliver Morys, er
mwyn gosod naws gyfoes ac i apelio at yr ieuenctid.
Gwnaeth y tri actor oedd yn perfformio eu gwaith yn arbennig o dda –
Dafydd Rhys Evans, Rhiannon Morgan ac yn enwedig felly Robin Ceiriog
oedd â dawn ryfeddol i swyno’r gynulleidfa efo’i bortread comig ac
eto’n sensitif o’r ‘hogyn da’ oedd heb gael ei ddenu gan y bwlis i ddwyn
ceir. Mae gan Robin y dalent brin honno yng Nghymru sef presenoldeb
llwyfan – mae’n bleser i’w wylio, a’i amseru o ran comedi yn berffaith.
Fel cyfanwaith, fe lwyddodd y sioe ar y cyfan, ond allai ddim dweud
mod i wedi dysgu namyn mwy wrth adael nag a wyddwn i wrth fynd i mewn!
Braidd yn wan a di-bwrpas oedd y sgript. Roeddwn i yn disgwyl rhywbeth
llawer iawn mwy caled a chyfoes. Chefais i mo fy nychryn o gwbl, na fy
nghyflyru i feddwl – bod hyn yn beth drwg, allai achosi niwed mawr i
rywun. Ai dyma oedd y diben?
Gwan hefyd oedd y gerddoriaeth a’r set; byddai taflunio delweddau o
geir yn rasio ar y sgrîn tu cefn i’r actorion wedi bod llawer mwy
cyffrous na’r tegan o gar yn troi yn ei unfan. Doedd y ‘buzz’ mae’r
ieuenctid yma yn ei gael o wneud hyn ddim yn cael ei gyfleu yn ddigonol
gan yr actorion, a hynny oherwydd y sgript oedd yn rhy neis-neis a
chywrain; mae angen caledi a chyffro a pherygl ac nid angylion, adennydd
a stori garu.
Gwan a rhy dawel oedd y solo ar y gitar drydan hefyd, er iddi gynyddu
fymryn wrth i’r sioe fynd rhagddi.
Beth bynnag fo’r pwnc, dwi’n credu fod theatr sydd wedi’i anelu at
ieuenctid yn holl bwysig. Dyma gyfle gwych i ddangos pa mor ddramatig a
theatrig y gall y theatr fod. Mae angen apelio at ein synhwyrau; ein
dychryn drwy eiriau a delweddau, fel bod pob un o bob oed yn gadael y
ganolfan wedi’u heffeithio gan yr hyn mae nhw wedi’i weld.
Yn anffodus, y tro yma, wnes i ddim. Mae’r daith bresennol wedi dod i
ben yng Nghymru, ond mae cynlluniau i’w theithio yn yr Almaen ym mis
Medi.
Crash – a production that could do with more excitement
Keeping the attention of an any audience is a challenge, but when two
bus loads of GCSE student await it is a much bigger challenge! As I
watched the throng of students enter through the doors of Galeri in
Caernarfon for Arad Goch’s performance of ‘CRASH’ by Sêra Moore Williams
I was beginning to sympathise with the company and cast. How were the
four young actors going to get the story and its message across to this
happy-to-have-escaped-from-school audience?!.......
There is no doubt that Arad Goch have the experience to deal with young
audiences as they ‘specialise in theatre for children and young people’
and ‘visit schools, theatres and community centres throughout Wales and
beyond’.
The theme is a contemporary one about ‘young people who steal cars and
drive them at speed causing injury to themselves and to members of their
community’.
This script was typical of Sêra’s work, with numerous references to
angels and the sea and loneliness. To coincide with the text there was
live music performed by Oliver Morys in order to create a contemporary
feel and to appeal to the young.
The three actors performed very well – Dafydd Rhys Evans, Rhiannon
Morgan and especially so Robin Ceiriog with the extraordinary ability to
enthral the audience with his comic yet very sensitive portrayal of the
‘good boy’ who has not been drawn by the bullies to steal cars. Robin
has a talent rare in Wales, that of stage presence, – it is a pleasure
to watch him and his comic timing is perfect.
As a whole the show worked, but I cannot say that I learned anything
from it! The script was rather weak and lacked purpose. I was
expecting something far harder and more contemporary. I wasn’t scared
at all nor was I persuaded to think that this is a very bad thing that
could cause someone great injury. Was this the purpose?
The music and set were also weak; projecting images of cars racing on
the screen behind the actors would have been far more exciting than the
toy car that turned around and around. The ‘buzz’ that young people get
from doing this was not sufficiently conveyed by the actors because the
script was too nice and skilful; what’s needed is hardness and
excitement and danger, not angels, wings and a love story.
The electric guitar solo was also too weak and quiet although it did
increase slightly as the show went on.
Whatever the subject I believe that theatre aimed at young people is all
important. This is a fantastic opportunity to show how dramatic and
theatrical theatre can be. Our senses need to be appealed to; we need to
be scared by words and images, so that everyone of every age leaves the
venue having been affected by what they have seen.
Unfortunately, this time, I did not.
(translation of review by Paul Griffiths)
" |
| adolygiad gan: |
Paul Griffiths, 05 / 03 /
2007 |
| ffynhonell: |
Y CYMRO, Chwefror 23, 2007.
|
| |
|
| |
|
|
Nid Fi /
Not Me 2007
Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Ioan Evans
Nid Fi - Aled Morgan
" Yn y flwyddyn olaf
cyn gadael am yr ysgol Uwchradd, roedd "Nid Fi" wedi'i amseru'n
berffaith i nifer o ddisgyblion Blwyddyn 6. Mae'r syniad o symud o'r
ysgol gynradd, o fywyd weddol gysurus, yn siwr o fod yn pwyso ar feddwl
llawer ohonynt. Roedd y cyflwyniad bywiog hwn yn cyffwrdd ar fwlian, yn
dangos yr effaith mae'n cael ar fywyd plant, yn ogystal a cynnig
rhesymau pam y mae rhai plant yn troi at fwlio. Roedd y sesiwn drafod
a'r gweithdy a ddilynodd yn addas iawn, gan ei fod yn gyfle i'r plant i
leisio'u barn am yr hyn a welsant. Roedd yn gyfle iddynt i drafod a
dadansoddi teimladau'r cymeriadau. Roedd y perfformiad yn bendant o fudd
mawr iddynt. Diolch yn fawr am ein diddanu.
In their last year before leaving for secondary education, "Not Me" was
perfectly timed for Year 6. The thought of leaving the relatively
care-free lifestyle they lead, must surely be pressing on their mind.
The lively performance was about bullying, and showed the effect it has
on children, whilst also giving suggestions as to why children feel the
need to bully each other. The workshop afterwards was a great chance for
the children to give opinions on what they'd seen. It was a chance for
them to discuss the characters' emotions. It was an excellent
performance of a very relevant topic.
" |
| adolygiad gan: |
Mr Aled Morgan, 05 / 03 /
2007 |
| ffynhonell: |
Ysgol Gymraeg, Aberystwyth
|
| |
|
| |
|
|
Nid Fi /
Not Me 2007
Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Ioan Evans
Ymatebion i'r cynllun 'Nid Fi'
" “Plant yn gwrando
yn astud – pwnc yn bwrpasol ac yn addas iawn.”
“An excellent performance, pupils were totally involved in the plot.”
“The topic covered is very relevant to the PSE curriculum. Discussions
worth brought out many feelings, opinions and suggestions of how to cope
with bullying.”
Dyma gerddi gan ddisgyblion Ysgol Ffynnonbedr, Llanbedr Pont Steffan.
Here are some poems by pupils Ysgol Ffynnonbedr, Lampeter.
Bullying or Friendship?
Punching, kicking, pushing,
That’s what bullying is.
Spitting, threatening, ignoring,
That’s what bullying is.
Hatred, racism, name-calling,
That’s what bullying is.
Leaving out, pinching, stealing,
That’s what bullying is.
Hugging, laughing, playing,
That’s what friendship is.
Sleepovers, parties, games,
That’s what friendship is.
Picnics, football in the park, sharing,
That’s what friendship is.
Playing together, outings together, being together,
That’s what friendship is.
Bullying or friendship,
Which one is best?
Bullying is nasty and cruel,
Friendship is good, it beats the rest!”
Not Me
There I was lying on the floor,
After the bully had knocked me out the door.
There he was running at me,
Because he was going to attack me,
I didn’t know what to do
All the breath had been knocked out of me,
I couldn’t shout I couldn’t scream
I woke up it was just a dream.
I dreaded school the next day
At home I wasn’t allowed to stay
I pumped up my chest and than got dressed
I walked into school and funnily everything was cool!
" |
| adolygiad gan: |
Athrawon a disgyblion Ysgol Ffynnonbedr, 02 / 03 / 2007 |
| |
|
| |
|
|
Crash
(2007)
Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Crash 2007 - Pam Parker
" Ymateb i'r
perfformiad 'Crash' yng Nghanolfan Ddawns, Llandrindod nos Sadwrn y
24ain o Chwefror.
Response to the performance of 'Crash' in Llandrindod Dance Centre,
Saturday night the 24th of February.
I just wanted to drop you a line to say how brilliant Crash was on
Saturday night. We have seen a number of youth targeted drama
productions but this was the best by far and the first one in
Llandrindod. The mix of music and humour added an extra dimension and
feedback from young people has been very positive.
Numbers were lower than expected on the night and perhaps making a
charge would have solved that but we wanted it to be as inclusive as
possible and despite the low numbers we had a wide range of young people
attending which was the aim.
Thank you once again
Best wishes
Pam
Pam Parker
Senior Area Youth Worker
Mid Wales Area PCC youth services
Hoffwn ysgrifennu atoch i ddweud mor wych oedd Crash nos Sadwrn. ‘Rydym
wedi gweld nifer o gynyrchiadau sydd wedi cael eu hanelu at bobl ifanc
yn eu harddegau, ond dyma’r ore o bell ffordd, a’r gyntaf yma yn
Llandrindod. Roedd cynnwys cerddoriaeth a hiwmor yn ychwanegu dimensiwn
arall i’r perfformiad, a chafwyd ymateb cadarnhaol iawn gan y bobl ifanc
a’i gwelodd.
Roedd y niferoedd yn is na’r disgwyl ar y noson ac efallai pe bawn wedi
codi tâl byddai hyn yn datrys y broblem, ond roeddem am iddo fod mor
gynhwysol a phosibl. Er bod y niferoedd yn fychan, mynychodd nifer o
bobl ifanc, a dyma mewn gwirionedd oedd y nôd.
Diolch unwaith eto,
Cofion Cynnes,
Pam
Pam Parker
Senior Area Youth Worker
Mid Wales Area PCC youth service.
" |
| adolygiad gan: |
Pam Parker, 02 / 03 / 2007 |
| |
|
| |
|
|
Nid Fi /
Not Me 2007
Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Ioan Evans
Nid Fi - Ysgol Bronant
" “Roedd y
perfformiad yn tynnu sylw’r plant at fwlian – sut y teimlai unigolion, y
dylent siarad a rhywun os ydynt yn cael eu bwlian a hefyd effallai bod
rhesymau pam bod unigolion yn bwlian. Roedd yr iaith yn addas ar gyfer y
disgyblion ac roedd amrywiaeth yr eirfa yn y gweithdy yn sicrhau ei fod
yn addas ar gyfer ystod eang o allu.”
" |
| adolygiad gan: |
Ysgol Bronant., 27 / 02 /
2007 |
| |
|
| |
|
|
Nid Fi /
Not Me 2007
Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Ioan Evans
Nid Fi - Ysgol Craig yr Wylfa
" “Cyflwyniad bywiog
a ddaliodd sylw’r plant. Llawer o’r plant sydd ar fin symud i ysgol
Uwchradd wedi cael llawer o galondid tra’n gwylio.”" |
| adolygiad gan: |
Ysgol Craig yr Wylfa, 26 /
02 / 2007 |
| |
|
| |
|
|
Stones/ Tafliad Carreg
Gan Tom Lycos a Stefo Nantsou
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Carys Mai Lloys - Tafliad Carreg
" Adolygiad o
‘Tafliad Carreg’
A hithau’n fore ddydd Gwener yn dilyn wythnos hir a chaled o waith,
dyma fi’n darganfod fy hun yn eistedd mewn llys barn yn trafod dedfryd
dau fachgen ifanc a gyhuddwyd o ddynladdiad wedi iddynt daflu carreg
oddi ar bont uwchben traffordd.
A’r cwestiwn mawr – euog neu di-euog?
Mewn gwirionedd, roeddwn i’n eistedd yn un o nifer yn neuadd Ysgol Gyfun
Penweddig yn dilyn perfformiad gonest a dirdynnol gan gwmni Arad Goch o
‘Tafliad Carreg’. Dyma ail-gynhyrchiad Arad Goch o’r ddrama a
berfformir gan ddau actor brwd ac egniol sef Iwan Charles ac Owain Llyr
Edwards ac mae eu perfformiadau yn ganolog i lwyddiant y ddrama hon.
Mae Tafliad Carreg wedi ei selio ar ddigwyddiad go iawn ac ar gymeriadau
go iawn ac o ganlyniad i hyn, mae gonestrwydd y sefyllfa yn ymestyn yn
ddi-rwystr i galon y gynulleidfa.
Mae’r ddrama a ysgrifennwyd gan Tom Lycos a Stefo Nantsou wedi ei selio
ar adroddiad papur newydd â’r teitl ‘Boys on Death Charge’ sy’n adrodd
hanes dau fachgen ifanc sy’n darganfod eu hunain mewn cythrwfl wedi i
chwarae droi’n chwerw.
Yn y ddrama, fe’n cyflwynir ni i bedwar cymeriad : dau grwt ifanc, y
naill yn bymtheg a’r llall yn dair-ar-ddeg sy’n brwydro yn erbyn
cydymffurfiaeth a rheolau cymdeithas ar un llaw; ac ar y naill llaw yn
ysu i gael eu derbyn ac i berthyn.
Y ddau gymeriad arall yw’r ddau ditectif sydd yng ngofal yr ymchwiliad
ac sydd yn rhoi strwythur i’r ddrama. Maent yn gymeriadau gwrthrychol
sy’n cyflwyno a gwthio’r ddadl a’r drafodaeth a’i gadael yn benagored
i’r gynulleidfa. Mae crefft yr actorion wrth symud o naill gymeriad
i’r llall yn syfrdanol a llwyddant i gynnal yr egni yn ddi-ben-draw.
Fe’m tywysir drwy’r stori yn gelfydd ac mae arddull fywiog y ddrama yn
croesawu ymateb didwyll y gynulleidfa ac mae’r actorion ar eu gorau o
gael ymateb gan y bobl ifanc.
Mae natur y gofod yn syml dros ben, ac eto, ceir ymgais deilwng i abrofi
gyda deinamig y set ac amrywiadau delweddol. Mantais set syml, wrth
gwrs, ydy’r agosatrwydd â’r gynulleidfa a dyma un o gryfderau’r
cynhyrchiad hwn. Er mwyn cynnal yr agosatrwydd hyn, mae’r actorion wedi
creu cymeriadau didwyll, mewn sefyllfa real gan arbrofi â thechnegau
dramatig creadigol dros ben.
Un o’r uchafbwyntiau personol i mi oedd y rhyddid creadigol oedd ynghlwm
wrth y perfformiad. Ni chyfyngwyd yr actorion na’r gynulleidfa yn ystod
y ddrama a chafwyd perfformiad llawn egni, cyffro, angst, hiwmor a
cherddoriaeth gyfoes oedd ar yr un pryd yn ymdrin â thema a phwnc dwys a
difrifol.
Dyma un o’r perfformiadau theatr-mewn-addysg prin a lwyddodd i hoelio
sylw a diddordeb pob un unigolyn yn yr ystafell drwy gydol y perfformiad
ac a daniodd ddadl chwilboeth yn dilyn y ddrama ynghylch dedfryd y ddau
fachgen.
Dyma i chi berfformiad theatrig pwerus a ffraeth sy’n cwrdd a’r
gynulleidfa ar lefel aeddfed a deallusol ac sy’n ysgogi dychymyg y
gwyliwr mewn modd cyffrous ac unigryw.
Review of ‘Stones’
It’s a Friday morning of a very long and tiring week, and I find myself
sitting in a court room discussing the verdict of two young boys who,
following an incident involving them throwing stones from a motorway
bridge, are accused of manslaughter. The big question being : guilty or
not guilty?
In fact, I wasn’t in a courtroom at all, I was one of many captivated
individuals in Penweddig School hall following an honest and moving
performance by Arad Goch called ‘Stones’. This is the second time for
the company to perform this play. It is performed by two gripping and
energised actors : Iwan Charles and Owain Llyr Edwards and their
performances are central to the success of this play.
‘Stones’ is based on a true story an real characters and therefore the
truth and reality of the situation is easily accesssible to the audience
and we were gripped from the very first scene.
The play, which is written by Tom Lycos and Stefo Nantsou is based on a
newspaper report entitled ‘Boys on Death Charge’ which recalls the story
of two boys who find themselves in a sticky situation after one foolish
act.
The story is narrated using four main charcters : the two young boys,
who are typical teenage boys fighting against conformism and society
expectations on the one hand and on the other hand in desperate need of
acceptance.
The other two characters are the ditectives in charge of the
investigation who give structure to the play. They are objective
characters who skilfully present the argument and discussion arising
from the play in a way which leaves it open ended to the audience. The
actors’ technique of switching back and forth from the different
characters is extraordinary and they successfully maintain the energy
throughout the performance.
The story is presented exquisitely and the energetic style of the
performance welcomes an organic and honest reaction from the audience
and the actors are at their best when encouraged by the audience.
The nature of the set and space is relatively simple, but there is a
conscious effort to experiment with the dynamic of the set and imagistic
variations. One of the advantages of a relatively bare set, of course,
is the close proximity between audience and actor and this is one of the
strengths of this production. In order to maintain this closeness, the
actors have created believable characters, in a real situation
experimenting with crreative dramatic techniques. A personal highlight
for me is the creative freedom throughout the performance. Neither the
actors or the audience were restricted in any way, shape or form which
resulted in a performance full of energy, excitement, anxst, humour and
contemporary music which simultaneoulsy dealt with a gritty and intense
subject matter.
This was one of the few theatre in education productions which
successfully captured the attention of every member of the audience
throughout the hour performance and which provoked a heated discussion
at the end.
This is a gritty and powerful drama which meets the audience on an
intellectual and understanding level and which inspires the audience in
and unique and exciting way.
" |
| adolygiad gan: |
Carys Mai Lloyd, 03 / 02 /
2006 |
| |
|
| |
|
|
Llyfrau'n
Taro 10 2006
Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Sioe 2006 yn llwyddiant mawr
" Mae sioe Taro 10
2006 ar daith ar hyn o bryd ac yn profi'n llwyddiant ysgubol. Dyma farn
rhai o'r bobl ifanc sydd wedi ei gweld:
Roeddwn i’n hoffi Ca Va Safana a Pen Dafad gorau ond roedd Creadyn a
Sgwbiw Aur yn dda hefyd. Roedd yr actorion yn newid cymeriadau llawer a
roeddwn i’n hoffi hyn. Rydw i’n credo Ca Va Safana oedd y perfformiad
gorau. Roedd e’n ddoniol pan roedden nhw’n symud ei pennau nol a mlaen
felt air iâr. Rydw i’n mynd i drio darllen y llyfrau i gyd.
F.J Morgan (Ysgol Tregaron)
Mwynheuais y perfformiad wnaethoch ar y pedwar llyfr sef Sgwbidw Aur,
Creadyn, Pen Dafad a Ca va Safana. Mwynheuais Pen Dafad yn fwy na'r
lleill oherwydd bod y syniad bod y bachgen yma wedi mynd i gysgu un nos a
wedyn codi a wedi throi'n ddafad yn hollol ddwl, ond yn syniad wych.
Roedd yr actio'n dda iawn ac yn ddoniol, hoffwn pe byddech yn dod yn aml
i'r ysgol a gwneud rhagor o berfformiadau ar lyfrau Cymraeg yn y
dyfodol.
Steffani James, Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul
Roedd y perfformiad a welsom y bore yma yn dda iawn. Hoffwn weld mwy o
llyfrau yn cael ei actio fel y gwnaethoch chi. Rwyf wedi darllen
Credadyn ac ddim yn ei ddeall yn fawr iawn, ond nawr rwyf yn.
Rhiain Davies (Ysgol Tregaron)
Oedd yn iawn llawn emosiwn ac yn ddoniol iawn. Roedd gyda hiwmor oedran
ni ac yn dda iawn. Yn arbennig Dafydd, eisiau brec pob eiliad!!! lol.
Rydw i wedi gweld lot o perfformiadau yn y gorffenol. Ond perfformiad
chi yn arbennig, y fwyaf doniol.
Gareth Hinton (Ysgol y Strade)
Ar ôl gweld y perfformiad rydw i’n ysu i ddarllen y llyfrau yn enwedig
Sgwbidŵ Aur. Roeddwn wedi darllen Pen Dafad a roeddwn yn credu eich bod
wedi cyfleu y llyfr yn dda iawn.
Meirian Morgan (Ysgol Tregaron)
Roeddaf wedi mwnhau eich berffomiad. Yn y Ysgol y Strade ar y 19/1/06.
Roeddwn wedi cael sbri oherwydd roedd Dafydd yn ddoniol iawn!
Roedd yr un cyntaf y Sgwbidwaur yn ddoniol ac roeddwn yn chwerthin fy
pen bant.
James Bowen (Ysgol Y Strade)
fy hoff un oedd Creadyn oherwydd roedd e’n ddoniol iawn. Rwy’n gobeithio
prynu’r llyfr yma. Rydw fyw debygol o brynu llyfr sydd wedi cael darn
wedi ei action allan ohono’r llyfr!!
Lowri Davies (Ysgol Dyffryn Teifi)
Roeddwn wedi mwynhau'n arw ac roedd pob un o'r golygfeydd yn ddoniol
iawn a llawn bywyd. Fy hoff gyflwyniad oedd 'Pen Dafad'gan fy mod wedi
ei ddarllen eisoes ac ei fod yn llawn hiwmor - roeddwn wedi chwerthin
nes o'n i'n crio! Bydd y cyflwyniadau eraill yn fy annog i ddarllen y
llyfrau eraill.
Elain Mair (Ysgol Brynhyfryd)
Mi wnes i a phawb arall fwynhau y darnau o ddrama. Fy hoff ddarn oedd
allan o ‘Pen Dafad’ Bethan Gwanas. Rwyf ar fin archebu’r llyfr ac rwy’n
siwr y gwnaf ei fwynhau. Gobeithiaf eich gweld nol yn yn yr ysgol cyn
gynted a phosib.
Ffion Jones (Ysgol Uwchradd Llanfyllin)
Roeddwn i yn meddwl roedd o'n ddoniol iawn.Roedd Dafydd yn cwl. Fy hoff
lyfr i oedd Ca Va Safana. Doeddwn i ddim yn gallu stopio chwerthin. Rydw
i eisiau darllen mwy.
Rebecca Collins, Ysgol Syr Thomas Jones
" |
| adolygiad gan: |
, 26 / 01 / 2006 |
| |
|
| |
|
|
Tafliad
Carreg/Stones
Gan Tom Lycos & Stefano Nantsou
cyfarwyddwyd gan
Chware'n Troi'n Chwerw
" A hithau’n fore
ddydd Gwener yn dilyn wythnos hir a chaled o waith, dyma fi’n darganfod
fy hun yn eistedd mewn llys barn yn trafod dedfryd dau fachgen ifanc a
gyhuddwyd o ddynladdiad wedi iddynt daflu carreg oddi ar bont uwchben
traffordd.
A’r cwestiwn mawr – euog neu di-euog?
Mewn gwirionedd, roeddwn i’n eistedd yn un o nifer yn neuadd Ysgol Gyfun
Penweddig yn dilyn perfformiad gonest a dirdynnol gan gwmni Arad Goch o
‘Tafliad Carreg’. Dyma ail-gynhyrchiad Arad Goch o’r ddrama a
berfformir gan ddau actor brwd ac egniol sef Iwan Charles ac Owain Llyr
Edwards ac mae eu perfformiadau yn ganolog i lwyddiant y ddrama hon.
Mae Tafliad Carreg wedi ei selio ar ddigwyddiad go iawn ac ar gymeriadau
go iawn ac o ganlyniad i hyn, mae gonestrwydd y sefyllfa yn ymestyn yn
ddi-rwystr i galon y gynulleidfa.
Mae’r ddrama a ysgrifennwyd gan Tom Lycos a Stefo Nantsou wedi ei selio
ar adroddiad papur newydd â’r teitl ‘Boys on Death Charge’ sy’n adrodd
hanes dau fachgen ifanc sy’n darganfod eu hunain mewn cythrwfl wedi i
chwarae droi’n chwerw.
Yn y ddrama, fe’n cyflwynir ni i bedwar cymeriad : dau grwt ifanc, y
naill yn bymtheg a’r llall yn dair-ar-ddeg sy’n brwydro yn erbyn
cydymffurfiaeth a rheolau cymdeithas ar un llaw; ac ar y naill llaw yn
ysu i gael eu derbyn ac i berthyn.
Y ddau gymeriad arall yw’r ddau ditectif sydd yng ngofal yr ymchwiliad
ac sydd yn rhoi strwythur i’r ddrama. Maent yn gymeriadau gwrthrychol
sy’n cyflwyno a gwthio’r ddadl a’r drafodaeth a’i gadael yn benagored
i’r gynulleidfa. Mae crefft yr actorion wrth symud o naill gymeriad
i’r llall yn syfrdanol a llwyddant i gynnal yr egni yn ddi-ben-draw.
Fe’m tywysir drwy’r stori yn gelfydd ac mae arddull fywiog y ddrama yn
croesawu ymateb didwyll y gynulleidfa ac mae’r actorion ar eu gorau o
gael ymateb gan y bobl ifanc.
Mae natur y gofod yn syml dros ben, ac eto, ceir ymgais deilwng i abrofi
gyda deinamig y set ac amrywiadau delweddol. Mantais set syml, wrth
gwrs, ydy’r agosatrwydd â’r gynulleidfa a dyma un o gryfderau’r
cynhyrchiad hwn. Er mwyn cynnal yr agosatrwydd hyn, mae’r actorion wedi
creu cymeriadau didwyll, mewn sefyllfa real gan arbrofi â thechnegau
dramatig creadigol dros ben.
Un o’r uchafbwyntiau personol i mi oedd y rhyddid creadigol oedd ynghlwm
wrth y perfformiad. Ni chyfyngwyd yr actorion na’r gynulleidfa yn ystod
y ddrama a chafwyd perfformiad llawn egni, cyffro, angst, hiwmor a
cherddoriaeth gyfoes oedd ar yr un pryd yn ymdrin â thema a phwnc dwys a
difrifol.
Dyma un o’r perfformiadau theatr-mewn-addysg prin a lwyddodd i hoelio
sylw a diddordeb pob un unigolyn yn yr ystafell drwy gydol y perfformiad
ac a daniodd ddadl chwilboeth yn dilyn y ddrama ynghylch dedfryd y ddau
fachgen.
Dyma i chi berfformiad theatrig pwerus a ffraeth sy’n cwrdd a’r
gynulleidfa ar lefel aeddfed a deallusol ac sy’n ysgogi dychymyg y
gwyliwr mewn modd cyffrous ac unigryw.
" |
| adolygiad gan: |
Carys Mai, 26 / 01 / 2006 |
| |
|
| |
|
|
Tafliad
Carreg/Stones
Gan Tom Lycos & Stefano Nantsou
cyfarwyddwyd gan
Gritty and powerful
" It’s a Friday
morning of a very long and tiring week, and I find myself sitting in a
court room discussing the verdict of two young boys who, following an
incident involving them throwing stones from a motorway bridge, are
accused of manslaughter. The big question being : guilty or not guilty?
In fact, I wasn’t in a courtroom at all, I was one of many captivated
individuals in Penweddig School hall following an honest and moving
performance by Arad Goch called ‘Stones’. This is the second time for
the company to perform this play. It is performed by two gripping and
energised actors : Iwan Charles and Owain Llyr Edwards and their
performances are central to the success of this play.
‘Stones’ is based on a true story and real characters and therefore the
truth and reality of the situation is easily accessible to the audience
and we were gripped from the very first scene.
The play, which is written by Tom Lycos and Stefo Nantsou is based on a
newspaper report entitled ‘Boys on Death Charge’ which recalls the story
of two boys who find themselves in a sticky situation after one foolish
act.
The story is narrated using four main characters: the two young boys,
who are typical teenage boys fighting against conformism and society
expectations on the one hand and on the other hand in desperate need of
acceptance.
The other two characters are the detectives in charge of the
investigation who give structure to the play. They are objective
characters who skilfully present the argument and discussion arising
from the play in a way which leaves it open ended to the audience. The
actors’ technique of switching back and forth from the different
characters is extraordinary and they successfully maintain the energy
throughout the performance.
The story is presented exquisitely and the energetic style of the
performance welcomes an organic and honest reaction from the audience
and the actors are at their best when encouraged by the audience.
The nature of the set and space is relatively simple, but there is a
conscious effort to experiment with the dynamic of the set and imagistic
variations. One of the advantages of a relatively bare set, of course,
is the close proximity between audience and actor and this is one of the
strengths of this production. In order to maintain this closeness, the
actors have created believable characters, in a real situation
experimenting with creative dramatic techniques. A personal highlight
for me is the creative freedom throughout the performance. Neither the
actors or the audience were restricted in any way, shape or form which
resulted in a performance full of energy, excitement, angst, humour and
contemporary music which simultaneously dealt with a gritty and intense
subject matter.
This was one of the few theatre in education productions which
successfully captured the attention of every member of the audience
throughout the hour long performance and which provoked a heated
discussion at the end.
This is a gritty and powerful drama which meets the audience on an
intellectual and understanding level and which inspires the audience in
and unique and exciting way.
" |
| adolygiad gan: |
Carys Mai, 26 / 01 / 2006 |
| |
|
| |
|
|
Merch
Cae Bach
Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Anwen a Kate ar Merch Cae Bach
" "Mwynheuom y sioe
yn fawr iawn, oherwydd mae'n dangos sut oedd bywyd yn yr Ail Ryfel Byd
ac mae'n dangos faint o fwyd roeddent efo pob wythnos. Ein hoff gymeriad
oedd Emlyn/Mr Howells oherwydd roedd yn ddoniol. Ein hoff ran oedd pan
oedd Joan yn dysgu Cymraeg..."" |
| adolygiad gan: |
Anwen a Kate, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 08 / 11 / 2005 |
| |
|
| |
|
|
Merch
Cae Bach
Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Sean, Ben a Matt ar Merch Cae
Bach
" "Roeddwm ni wedi
mwynhau y sioe ond roedd rhai o'r rhannau yn y sioe ddim mor ddiddorol
fel pan oedd Joan yn cyflwyno ei hun. Roedd yr actor oedd yn chwarae Mr
Howells a Emlyn yn glyfar i chwarae dau ran yn y sioe. Roeddem ni yn
hoffi'r rhan pan oedd Emlyn yn ysgrifennu llythyr i'w fam. Roedd y
gweithdy yn ddiddorol iawn ac yn hwyl i'w wneud"." |
| adolygiad gan: |
Sean, Ben a Matt, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 08 / 11 / 2005 |
| |
|
| |
|
|
Merch
Cae Bach
Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Catrin ac Emma-Rose ar Merch Cae
Bach
" "Roeddwn yn hoffi
Merch Cae Bach yn fawr. Ar y dechrau roedd Rhiannon yn egluro beth oedd
yn digwydd yr amser hynny yn gret. Roedd y gwisgoedd fel petaent yn hen
iawn. Roedd cefndir yr amgueddfa yn rhoi syniad i ni beth oedd yn
digwydd yn adeg 1939. Roedd llygaid yr actorion i gyd yn siarad. Byddwn
yn hoffi os byddech wedi dod menw a mwy o gymeriadau yn y sioe."" |
| adolygiad gan: |
Catrin ac Emma-Rose Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 08 / 11 / 2005 |
| |
|
| |
|
|
Merch
Cae Bach
Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Menna, Ceri ac Elin ar Merch Cae
Bach
" Mwynheuom y sioe
yn fawr iawn oherwydd roedd yn dangos i ni fod yn ddiolchgar am beth
sydd gyda ni. Joan oedd ein hoff gymeriad ni oherwydd roedd yn
ddiddorol i weld sut roedd yn dysgu Cymraeg pan oedd ganddi acen mor
gryf o Lerpwl. Ein hoff ran oedd Joan yn dechrau dysgu Cymraeg a dweud
'll' a 'ch'." |
| adolygiad gan: |
Menna, Ceri ac Elin, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 08 / 11 / 2005 |
| |
|
| |
|
|
Merch
Cae Bach
Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Efa Lois a Marged Lois ar Merch
Cae Bach
" "Rydym wedi
mwynhau'r perfformiad o Merch Cae Bach y bore ma.Roeddem yn cael ein
sugno mewn i'r stori. Roedd yr actorion yn actio'n arbennig ac yn
cyflwyno'r stori yn dda i'r gynulleidfa." |
| adolygiad gan: |
Efa Lois a Maged Lois, 08 /
11 / 2005 |
| |
|
| |
|
|
Conffeti
Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Confetti yn Eisteddfod
Genedlaethol Eryri 2005
" Crash oedd teitl y
ddrama roedd Arad Goch wedi’i hysbysebu fel eu drama ar gyfer wythnos
yr Eisteddfod eleni, ond oherwydd salwch un o aelodau’r cast a gyda
ychydig ddyddiau yn unig o rybudd, fe berfformiwyd Conffeti yn ei lle,
ail-lwyfaniad o ddrama berfformiwyd am y tro cyntaf yn 2002. Er bod y
cast o dri wedi chwarae’r un rhannau yn y llwyfaniad gwreiddiol, mae’r
ffaith ei bod hi’n wedi’i llwyfanu ar gymaint o fyr rybudd yn ei gwneud
hi’n fwy rhyfeddol byth mai dyma un o gynhyrchiadau cryfaf yr wythnos
hon.
Mae hi’n ddiwrnod priodas tad Mark a Steve, ac mae’r ddau frawd yn
cyfarfod am y tro cyntaf ers wyth mlynedd, ers i Mark godi’i bac a
gadael Steve ar ei ben ei hun gyda’i dad yn dilyn marwolaeth eu mham.
Yno hefyd yn dathlu mae Luke, cyfaill Mark a Steve o’u harddegau, ac ef
sy’n gyfrifol am dywys y gynulleidfa drwy hanes y ddau frawd. Luke yw
storiwr y noson ac wrth iddo adrodd hanes y tri mae’r parti priodas yn
troi’n noson o hel atogion, y cyfeillgarwch, yr hwyl, straeon sydd yn
aml yn ddigri a hwyliog, ac weithiau’n drist a dirdynnol.
Roedd y llwyfannu’n hynod o syml a chynnil ac yn hollol effeithiol;
roedd y set wedi’i lunio o dri rostra du, nid oedd yna unrhyw newid yn y
goleuo plaen drwy gydol y perfformiad, ac roedd newidiadau gwisgoedd
wedi’i gyfyngu i ddim ond i dynnu siacedi’r siwtiau. Serch hynny, roedd
nifer lleoliadau gwhanaol y ddrama yn niferus, ynghyd a’r anghenion
effeithiau sain. Dyma oedd prif gryfder y cynhyrchiad: roedd y
lleoliadau’n cael eu hawgrymu a’r effeithiau sain yn cael eu creu drwy
ystumiau a synnau a grewyd gan y tri actor, yn ogystal a’r pyiau o
gerddoriaeth a oedd yn cael eu perfformio ganddynt drwy gydol y
perfformiad.
Roedd y cynhyrchiad yn amlwg wedi’i ganoli’n dyn o amgylch y tri actor
gan mai nhw oedd yn gyfrifol am bopeth. Roedd angen felly cael tri actor
hyblyg iawn er mwyn medru cyrraedd anghenion y darn ac roedd donniau
Rhys ap Trefor, Owain Llyr Edwards and Iwan Charles yn llenwi’r
anghenion hynny’n hawdd. Nid yn unig roedd yn rhaid iddynt fod yn
actorion cryf, roedd angen iddynt fod yn berfformwyr cryfach, ac roedd y
tri yn arbennig o dda yn y ddau ystyr.
Iwan Charles a Rhys ap Trefor oedd yn chwarae rhan y ddau frawd, Mark a
Steve. Roedd yna gysylltiad amlwg rhwng y ddau, a hawdd iawn oedd
credu’r berthynas. Roedd yma ddyfnder i’r perfformiadau; sawl tro y
sylwais ar Steve yn sefyll ar ei ben ei hun heb ddweud na gwneud dim ond
bwyta’i greision, ond roedd yn amlwg ar wyneb Rhys ap Trefor fod yna
lawer iawn yn digwydd ym meddwl Steve. Er bod emosiwn ffyrnig y ddrama
yn bennaf yng ngholygfeydd y ddau frawd, yn enwedig y rhai diweddaraf,
roedd y ddau hefyd yn gyfrifol am lawer o’r hiwmor. Er nad oedd yna fawr
o jocs fel y cyfryw yn y sgript roedd amseru comic yr actorion, Iwan
Charles yn enwedig, yn troi’r llinellau mwyaf diniwed, megis y ffaith
bod Mark yn gobeithio priodi, cael ty “a pets a ballu” yn hynod o
ddigri.
Er nad yw’n actor cyn gryfed a’i ddau gyd-berfformiwr, roedd cyfranniad
Owain Llyr Edwards yn grefftus ac yn hanfodol. Ac er mai cymeriad
eilradd yw Luke ym mhlot y ddrama, fe fuaswn yn dadlau mai’i ran ef yw’r
un pwysicaf yn y cynhyrchiad. Yn ystod sawl golygfa rhwng y ddau frawd,
roedd Owain Llyr Edwards yn eistedd a’r ochr y llwyfan yn chwarae’i
gitar, yn isgerddoriaeth i ddigwyddiadau’r ddrama. Ni fuasai’r olygfa
drist wrth i’r ddau frawd drafod marwoleath eu mam wedi bod hanner mor
effeithiol oni bai bod yna gerfforiaeth dyner wedi’i chwarae drwyddi. Yn
yr un modd, wrth i Mark drio tagu Steve trwy glymu’i dei’n rhy dyn,
roedd lefel y sain a chyflymder y gerddoriaeth yn cynyddu wrth iddo
fygu. Luke oedd hefyd yn aml yn gwneud synnwyr o’r plot, yn esbonio’r
digwyddiadau neu’n rhannu’i farn a’r gynulleidfa, ac eto roedd
effeithiolrwydd y ddrama yn ddibynnol ar hynny. Ni fuasai’r diweddglo
wedi bod hanner mor effeithiol heb i Luke ddatgan yn ddi-emosiwn, “Mae
pethau’n digwydd weithiau, tydi?”
Os oedd yna un broblem gyda’r perfformiadau, yr anghysonebau yn
llafariaeth y ddeialog oedd hynny. Ar y cyfan, roedd y ddeialog yn
sgyrsiol a naturiol, ac felly roedd ffurfioldeb rhai brawddegau yn
tarddu ar natur lafar y script. Er enghraifft, fe ddywedodd Mark
“anghofies i” pan yn hytrach y buaswn wedi disgwyl iddo ddweud “nesh i
anghofio.” Ond wrth gwrs, mater bach ydi peth fel hyn pan mae’r
perfformiadau mor gryf.
Wrth gwrs, mae hi o hyd yn haws creu perfformiadau crefftus fel hyn pa’n
mae’r script a’r cyfarwyddo, y ddau gan Sera Moore Willaims, mor fedrus
a’i gilydd ac yma eto roedd Conffeti yn rhagorol. Roedd yr ysgrifennu’n
gryno ac yn llawn drama heb unwaith fod yn felodramatic. Er bod yna
sawl digwyddiad yng nghefnidir y ddau frawd (megis y cyffuriau,
marwoaleth y fam, y lladrata, y tad tresigar) a fuasai o bosib wedi cael
eu defnyddio fel canolbwynt drama arall, yma roeddent yn cael eu dangos
fel un elfen o stori fwy ac roedd y ddrama yn gryfach oherwydd hynny;
nid oedd yma unrhyw farnu na chondemnio o’r yfed na chymeryd cyffuriau
na’r tor-cyfraith a gyflawnwyd gan y tri. Yn hytrach fe gafwyd portread
sensitif o blant, yn dilyn diffyg arweiniad gan eu tad, oedd bellach ar
goll yn y byd. Os oedd un cymeriad yn cael ei gondemnio yn y darn, y tad
di-enw oedd hwnnw, ac un o drasediau mawr y ddrama oedd gwybod bod ei
wraig newydd ddim ond mis i ffwrdd o roi genedigaeth i’w drydydd
plentyn. Drama am fethiannau oedolion sydd yma ac nid drama am ieuenctid
wedi mynd yn rhemp. Mae hi’n ddrama amserol tu-hwnt.
Er bod hyn i gyd yn swnio’n ofnadwy o lleddf, a fod yna dristwch a
siomedigaethau cyffyrddadwy yn mywydau’r tri, rhaid pwysleiso bod yna
lif o dynerwch yn rhedeg drwy gydol y ddrama. Er bod yn well gan Mark
fynd i yfed gyda’i dad yn hytrach na gwylio’i frawd bach yn perfformio
rhan blodyn mewn drama, fe ddangoswyd yn yr olygfa ganlynol ei fod, gyda
llafn rasal, wedi cerfio siap blodyn ar ei fraich, ynghyd ag enw Donna,
ei gariad. Ni ddywedywd be na pwy oedd y blodyn i fod yn symbol ohono,
ond weithiau mae dweud dim yn datgelu’r cyfan.
Roedd y cyfarwyddo yn dynn a chywrain, ac er bod y set yn noeth ac na
ddefnyddiwyd unrhyw brops nag effeithiau sain technnegol, roedd hi
wastad yn hawdd dehongli lleoliad yr olygfa. Heb silffoedd na troli,
roedd hi’n bosib gweld yn syth ein bod ni mewn archfarchnad a hynny’i
gyd o ystumiau’r actorion. Yn yr un modd yn ddiweddarach, fe grewyd
arced a hynny dim ond trwy efelychu synna’r gemau a’r peiriannau gamblo.
Conffeti yw’r cynhyrchiad mwyaf theatrig, grymus, a chelfydd yr wyf wedi
cael y pleser o’i weld yn ddiweddar, ac mae hi’n haeddu cael ei gweld
gan lawer mwy na’r gynulleidfa fach oedd yn y theatr yr un noson a mi.
‘Crash’ was the title of the play Arad Goch Theatre Company was
advertising as their play for the Eisteddfod week this year, but due to
illness, and with only a few day’s notice, the company performed
‘Confetti’ instead, a play which they had performed for the first time
in 2002. Although the cast of three played the same characters as in the
original production, the fact that they had only days to get ready made
it even more surprising that this was one of the week’s strongest
performances.
Mark and Steve’s father is getting married, and the two brothers meet
again. It is eight years since Mark moved away and left Steve on his own
with his father following their mother’s death. Luke - Mark and
Steve’s friend from their teenage years is also there to join in the
celebrations, and it is he who tells the audience of the family’s
history. Luke is the storyteller, and as he reveals their stories, the
wedding party turns into a night of reminiscing - the friendship, the
fun, stories that are often funny and light-hearted, sometimes sad and
painful.
The staging was very simple and understated, and totally effective; the
set was formed from three black rostra, there was no change to the
simple lighting throughout the performance, and the costume changes were
limited to just taking off of jackets. Despite this there were many
different locations in the play together with various sound effects.
This was the production’s greatest strength: the locations were
suggested and the sound effects created by the movements and sounds
created by the three actors, in addition to the extracts of music that
were performed by the actors throughout the production.
The production obviously focused on the three actors because they were
responsible for everything. That meant that three multi-talented actors
were needed so that the needs of the play were achieved, and the talents
of the three actors – Rhys ap Trefor, Owain Llŷr Edwards and Iwan
Charles fulfilled these needs easily. They had to be strong actors and
even stronger performers, and the three were extremely good in both
senses.
Iwan Charles and Rhys ap Trefor played the brothers – Mark and Steve.
There was an obvious connection between the two and it was easy to
believe in the relationship. There was a depth to the performances,
more than once I saw Steve standing on his own, saying nothing and doing
nothing except munching his crisps, but it was obvious on Rhys ap
Trefor’s face that there was much more going on in Steve’s mind.
Although there is tremendous emotion in the play, mainly conveyed in the
scenes involving the two brothers, and especially the last scene, the
two also were responsible for a lot of the humour. Although there
weren’t many jokes in the script the very precise comic timing of the
actors, and Iwan Charles in particular, made some of the most innocent
lines, such as the fact that Mark hoped to get married and ‘have pets
and so on’ very funny indeed.
Although he isn’t as strong an actor as the others, Owain Llŷr Edwards’s
contribution was very accomplished and essential to the play. And
although Luke is a secondary character in the play, I would argue that
his role is the most important in the production. In many scenes between
the two brothers Owain Llŷr Edwards is sitting at the edge of the stage
playing his guitar, an accompaniment to the events of the play. The
scene where the brothers talk about their mother’s death would not have
been half as moving without the gentle music played throughout the
scene. In the same way in the scene where Mark tries to choke Steve by
knotting his tie too tightly the level of the music increases in sound
and tempo as the brother is choking. Luke is also often the one who
makes sense of the plot by explaining the situations or by sharing his
opinions with the audience, and again the effectiveness of the play was
dependent on this. The ending of the play would not have been half as
effective had Luke not emotionlessly declared: “Things happen sometimes,
don’t they?
If there was one problem with the production, it was that the diction
was not always consistent. On the whole, the dialogue was natural and
chatty, and therefore the formalness of some sentences was not in
keeping with the more natural conversational style adopted. But of
course this is a very small criticism in such a strong performance.
Of course it is always easy to create skilled performances like this one
when the script and the directing, both by Sêra Moore Williams, are so
good, and in these aspects again Confetti was excellent. The writing was
compact and full of drama without once being melodramatic. Although
there are many events in the brothers’ lifeves (such as drugs, their
mother’s death, the stealing, a violent father) that might have been the
focus in other plays, here they were all used as a part of a bigger
story - and because of this the play was much stronger; there was no
condemnation of the drinking or the drug taking or the breaking of the
law committed by the three. Instead there is a sensitive portrayal of
children, who lacking parental guidance, feel confused and alone. If any
character is condemned in the play, it is the nameless father, and one
of the play’s greatest tragedies is that his new wife is just about to
give birth to his third child. This is a play about the failure of
adults and not a drama about young people going ‘off the rails’. It is a
very timely play.
Although the play sounds very dark and sadness and disappointment has
certainly often touched the lives of the three characters, it must be
stressed that there is a lot of tenderness in the play. Although Mark
prefers to go out drinking with his father rather that watching his
younger brother play the part of a flower in the school drama, in the
next scene we realise that Mark has (with a razor blade) carved the
shape of a flower on his arm, together with the name of his girlfriend,
Donna. Nothing is said of the significance of the flower on his arm,
but sometimes saying nothing discloses a lot.
The directing was extremely skilful and although the set was bare and
that neither props nor technical sound effects were used, it was always
easy to understand the location. Without shelves or trolleys, we knew we
were in a supermarket, all this conveyed by the characters’ body
language. In the same way in another scene, an arcade was created simply
by imitating the sound of the slot-machines.
Confetti is the most theatrical, powerful and skilful production that I
have had the pleasure of seeing recently, and it deserves to be seen by a
much larger audience than the few that were in the theatre at the same
time as me.
" |
| adolygiad gan: |
Gareth Evans, 16 / 08 / 2005 |
| ffynhonell: |
www.theatr-wales.co.uk
|
| |
|
| |
|
|
CRASH
Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Sound boys!!!
" we are doing a
theatre review on crash.we thought the play was sound boys!!! lol the
play was easy 2 understand it was amazing lmao! hope 2 c ya soon loadza
lv christie nd kirsty xx
" |
| adolygiad gan: |
Kirsty Knights and Christie Jones, 13 / 07 / 2005 |
| ffynhonell: |
by email
|
| |
|
| |
|
|
Llew
Lletchwith
Gan Gwyn Morgan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Llew Lletchwith - Adolygiad
Meinir Edwards
" Roedd Theatr y
Werin yn llawn plant eiddgar yn disgwyl cynhyrchiad diweddaraf Arad
Goch. Addasiad o lyfr Gwyn Morgan oedd y sioe, a chredaf fod addasu
llyfrau’n weledol ar lwyfan fel hyn yn syniad ardderchog ar gyfer yr
oedran 7-11 oed. Mae’n creu diddordeb mewn llyfrau ac yn sbarduno ambell
un i fynd i chwilio am gopi ar silffoedd y llyfrgell
Heb ddatgelu gormod o’r plot, stori am gowbois yw hi, wedi ei lleoli yn
salwn Lwlw Lewis ym mhentre Gwlff Garw. Yn wahanol i’r llyfr, cawn wybod
yn syth fod Lwlw a Llew wedi priodi ac mae’r sioe’n dechrau yng ngwledd
eu priodas. Cen Cwrw, ffrind pennaf Llew yw’r gwas smala, ac yn yr un
araith briodas mae’n adrodd hanes ‘y dydd sul ofnadwy ‘na pan gafodd
Gwthgan Jenkins, y baddie, ei ryddhau o garchar San Antonio. O dipyn i
beth mae Gwthgan a’i griw yn dychwelyd i Gwlff Garw er mwyn dial ar y
siryff Llew a anfonodd ef i’r carchar ugain mlynedd ynghynt am grogi
defaid. Dyfalwch chi pwy yw’r arwyr ar ddiwedd y stori!
Daliwyd sylw’r plant o’r eiliad gyntaf pan gawsom arddangosfa o ddawnsio
llinell egniol iawn gan y pump actor. Yr un actorion oedd yn perfformio
am 50 munud yn ddi-stop, er fod yna oleiaf ddeg cymeriad yn cael eu
portreadu i gyd! Roedd hyn ychydig yn ddryslyd i’r plant ieuengaf, ond
nid bai’r actorion oedd hynny o gwbl. Roedd yr actio’n wych a’r
cymeriadu gwahanol yn golygu fod yn rhaid i’r gynulleidfa, a’r actorion
fod ar flaenau eu traed o hyd. Roedd cymeriad Lwlw Lewis yn arbennig
wedi dal yn nychymyg llawer o’r plant oherwydd ei gwisg drawiadol.
Roedd y gwisgoedd i gyd yn effeithiol a gwnaed defnydd da o’r ychydig o
brops, fel yr hetiau a’r gynau. Hoffais y rhan pan oedd Cen Cwrw’n
defnyddio’r brws llawr fel dryll. Roedd y newid cymeriadau’n slic a
di-ffws. Roedd y set yn dal llygad, ond nid yn tynnu sylw’n ormodol oddi
wrth fwrlwm a chyffro’r stori. Sylw un plentyn oedd – “Trueni na fydden
nhw wedi newid y set yn yr ail hanner fel roedd y salwn ugain mlynedd
yn gynt” Sylw digon craff a synhwyrol yn fy marn i hefyd. Roedd y
goleuadau yn effeithiol, yn enwedig pan oedd Gwthgan a’i griw’n mynd nol
i’r pentre ar gefnau’u ceffylau. Roedd wynebau’r dihirod yn ddigon i
godi ofn ar y Gorllewin Gwyllt i gyd!
Fe basiodd yr amser yn hynod o gyflym – arwydd o fwynhad rwy’n siwr, ac
roedd y diweddglo yr un mor gyffrous a’r dechrau. Mae gen i awydd ymuno a
dosbarth dawnsio llinell ar ôl gweld y perfformiad. Roedd holl
gynhwysion sioe ardderchog ynddi – digon o chwerthin (“Beth am hoe fach?
– Hoi!), tristwch (crio truenus Lwlw), rhamant, ymladd a’r cyfan yn
wledd i’r llygad.
Edrychaf ymlaen bob amser at weld cynhyrchiad o safon uchel gan Arad
Goch, ac ni chefais fy siomi’r tro hwn chwaith.
Theatr y Werin was full to capacity and the children were eagerly
awaiting the start of Arad Goch's latest production. The show was an
adaptation of a book by Gwyn Morgan, and I believe that turing a book
into a stage show is an excellent idea for the 7-11 age group. It
creates interest and inspires one or two to go and look for a copy in
the library.
Without revealing too much of the plot, this is the story about cowboys
located in the saloon of Lwlw Lewis in the village of Gwlff Garw [Rough
Gulf]. Unlike the book we know immediately that Lwlw and LLew are
married and the story actually begins on their wedding day. Cen Cwrw
[Ken Beer] - Llew's closest friend is the best man and in his speech he
refers to that awful Sunday when the baddie, Gwthgan Jenkins, was
released from San Antonio jail. Gwthgan and his mates eventually return
to Gwlff Garw to seek revenge on sheriff Llew who sent Gwthgan to jail
twenty years ago for killing sheep. You guess who the hero is at the
end of the story!
The cast had the childrens' attention from the very beginning when the
five actors gave a very energetic performance of line-dancing. The same
actors performed for the whole 50 minutes and they portrayed ten
different characters! This was a bit confusing for teh little ones -
but this was no fault of the actors. The acting was brilliant and the
different characters meant that the audience, and the actors had to
concentrate to keep up with the action. The character of Lwlw Lewis had
particulary captured the childrens'imagination because of her
spectacular clothes.
All the costumes were extremely effective and good use was made of the
few props like the hats and guns. I especailly liked the part where Cen
Cwrw used a brush as a gun. The character changes were slick and
without fuss. The set was attractive but did not draw too much
attention away from the story. One child commented "it was a pity that
they didn't change the set at half-time to show how it was twenty years
earlier". A very observant and sensible comment in my view. The
lighting was effective, especially when Gwthgan and his friends were
returning to the village on horseback. The faces of the baddies were
enough to scare the whole of the Wild West!
The time passed very quickly - a sure sign of enjoyment, and the ending
was as exciting as the beginning had been. I am tempted to take up
line-dancing after seeing this production. All the ingredients of the
show were excellent - there was humour, sadness, romance, fighting and
all this was a feast for the eyes.
I always look forward to seeing performances of quality by Arad Goch,
and I was not dissapointed this time either. " |
| adolygiad gan: |
Meinir Edwards, Athrawes o Ysgol Rhydypennau, 04 / 05 / 2005 |
| |
|
| |
|
|
Anrheg
Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow
Adolygiad C Francis
" Rhagorol ac yn
ategu at waith y tymor – y disgyblion wedi ymateb yn dda iawn i’r
perfformiad a’r gweithdy – Brysiwch nôl!
Excellent, it supported the work we did during the term. The pupils'
response in the workshop was very good - hurry back!" |
| adolygiad gan: |
C Francis, Ysgol Gwynfryn, Poniets, 14 / 04 / 2005 |
| ffynhonell: |
taflen ymateb
|
| |
|
| |
|
|
CRASH
Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
A simply great production
" The production was
simply great. The acting was realisitc and contained no flaws or
corpsing. I think that Sera Moore Williams really has a strong talent
for playwrighting as the script was so perect for the play. The
characters were amazing and i must say, Rhys's dancing was outstanding!
Well done to every member of the cast and crew and thank you for
visiting Ysgol Tregib in Llandeilo. My class are currently writing a
theatre review on Crash and this website has really come in handy.
Thank you very much
" |
| adolygiad gan: |
Laura Kleinberg, Age 15, Ysgol Tregib Llandeilo, 10 HDM., 12 / 04 / 2005 |
| ffynhonell: |
neges ebost/by e-mail
|
| |
|
| |
|
|
Anrheg
Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow
Adolygiad Meinir Jones
" Hoffais y ffaith
bod y perfformiad yn agos iawn at y plant – a’r plant yn gallu cyffwrdd
â’r set
The fact that the performance was close to the children - so that they
could touch the set was good." |
| adolygiad gan: |
Meinir Jones, Ysgol Llanddarog, 12 / 04 / 2005 |
| ffynhonell: |
ffurflen ymateb
|
| |
|
| |
|
|
Anrheg
Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow
Adolygiad Penny Evans
" Perfformiad
graenus o safon uchel
A very high standard performance.
" |
| adolygiad gan: |
Penny Evans, Ysgol Wdig, 12 /
04 / 2005 |
| ffynhonell: |
taflen ymateb
|
| |
|
| |
|
|
Aderyn
Glas mewn Bocs Sgidiau
Gan Sian Summers
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Adolygiad G Griffiths
" Roedd y plant yn
'mesmerised'
The children were mesmerised" |
| adolygiad gan: |
J Griffiths, Ysgol Mathri, 12
/ 04 / 2005 |
| ffynhonell: |
taflen ymateb
|
| |
|
| |
|
|
Anrheg
Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow
Adolygiad H Watkins
" Llwyddwyd i gynnal
diddordeb pob plentyn.
The play captured every child's attention.
" |
| adolygiad gan: |
H Watkins, Ysgol Y Dderwen, 12
/ 04 / 2005 |
| |
|
| |
|
|
Anrheg
Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow
Adolygiad J Daniels
" Llawer iawn o
wybodaeth wedi ei gyflwyno heb fod y plant yn sylweddoli.
A lot of information was fed to the children without them realising it.
" |
| adolygiad gan: |
J Daniels, Glan Cleddau, 12 /
04 / 2005 |
| |
|
| |
|
|
Anrheg
Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow
Adolygiad Elinor Jameson
" Diolch am gofio am
yr ysgolion bach, gan roi cyfle i ni ddod at ein gilydd a chymdeithasu
ar yr un pryd.
Thank you for remembering the little schools, giving us a chance to get
together and to socialize at the same time.
" |
| adolygiad gan: |
Elinor Jameson, Ysgol Abergwili, 12 / 04 / 2005 |
| ffynhonell: |
ffurflen ymateb
|
| |
|
| |
|
|
Anrheg
Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow
Adolygiad Carol Dyer
" Dysgwyr oedd nifer
o’r plant ac fe oedd pob un wedi deall y cyfan. Helpodd y ddrama i
ddatblygu hyder y plant ymhob agwedd – ieithyddol a chymdeithasol
Many of the children were learners and they understood everything. The
play helped the pupils gain more confidence in all asepcts of language
and social skills." |
| adolygiad gan: |
Carol Dyer, Ysgol Capel Cynfab, 12 / 04 / 2005 |
| ffynhonell: |
ffurflen ymateb
|
| |
|
| |
|
|
Tafliad
Carreg/Stones
Gan Tom Lycos & Stefano Nantsou
cyfarwyddwyd gan
Cynhyrchiad perthnasol, pwerus
" 'Rwyf newydd ddod
o'r Miwni ar ôl mwynhau'r perfformiad yn aruthrol. Llongyfarchiadau ar
gynhyrchiad pwerus, perthnasol iawn i brofiad y gynulleidfa ifanc a
hynod theatrig. Llongyfarchiadau arbennig i'r actorion hefyd.
" |
| adolygiad gan: |
Gareth Miles, 14 / 02 / 2005 |
| ffynhonell: |
ebost
|
| |
|
| |
|
|
Yr
Ysbryd
Gan Caryl Lewis
cyfarwyddwyd gan Iwan Charles
Adolygiadau Athrawon/Teachers'
Responses
" “Bendigedig”
(Llan-non)
“Roedd y perfformiad yn dda ac roedd y disgyblion wedi mwynhau yn fawr”
(Swyddffynnon)
“Perfformiad arbennig o dda gyda actorion o’r safon uchaf [Fel y cawn
bob tro gan y Cwmni]. Sgript addas, bwrpasol mewn iaith dda, gywir.
Ymdriniaeth sensitif o’r pwnc”. (Brynherbert)
“Plant wedi mwynhau a deall y themau/negeseuon” (Mynach)
“Y perfformiad wedi cadw sylw’r plant am y sesiwn gyfan. Llawer ohonynt
wedi siarad am brofiadau tebyg yn y wers ABCh yn dilyn y perfformiad. Y
plant yn gofyn pryd mae’r daith nesaf!" (Craig yr Wylfa)
“Arbennig o dda. Y Pecyn gwaith yn ddefnyddiol iawn” (Llandybie)
“Rwy’n gwybod i’r plant fwynhau gan eu bod wedi siarad am y ddrama am
ddiwrnodau”. (Y Tymbl)
"Fantastic" (Llan-non)
The performance was good and the children enjoyed themselves very much"
(Swyddffynnon)
"The children enjoyed themselves and understtod the themes and
messages". (Mynach)
"A very good performance by good actors [As always with Arad Goch]. A
very appropriate script using a good standard of language. A sensitive
treatment of the subject." (Brynherbert)
"The performance held the children's attention during the whole session.
Several discussed similar situations in the ensuing PSE lesson. The
children want to know when they can expect the next show!" (Craig yr
Wylfa)
"I know the children enjoyed themselves because they talked about the
drama for days afterwards" (Tymbl)
"Especially good. The Resource pack is very valuable" (Llandybie)
" |
| adolygiad gan: |
, 01 / 02 / 2005 |
| |
|
| |
|
|
Yr
Ysbryd
Gan Caryl Lewis
cyfarwyddwyd gan Iwan Charles
Adolygiadau Disgyblion Ysbryd
" “Diolch yn fawr i
chi am ddod i’r ysgol. Rydyn ni bob amser yn hoffi croesawi sioe gan
Arad Goch i’r ysgol. Rydyn ni wedi penderfynu mae prif neges y sioe yw
cael amser i siarad a gwrando ar bawb” (Carys a pawb dosbarth 8)
“Roedd yr actorion yn wych ac roedd y perfformiad yn wych hefyd…Roeddwn
yn hoffi bod yn dditectif hefyd ar y diwedd” (Katie Leanne Powell)
“Roedd y script yn ffantastic! A hoffais y gweithdy ar ddiwedd y ddrama”
(Steffan Williams)
“Roeddwn yn falch gweld bod Ioan, erbyn diwedd y ddrama wedi dechrau
trin ei broblemau a gweld mai nid fe oedd ar fai am farwolaeth ei
frawd”. (Abigail Lowe).
“Ddoe roedd y ddrama Yr Ysbryd mor dda roeddwn eisiau crio”. (Kelly
Douglas)
“Hoffais yr holl gymeriadau, redden nhw’n realistig iawn. Mae plant yn
gallu body n gas i’w gilydd”. (Ben Gamdleh)
“Ni wedi enjoio y sioe. Fi yn rhoi deg mas o ddeg” (Clinton)
“Roeddech chi’n actio’n dda chi. Roedd yn bisyn doniol pryd cwmpodd
Ioan mas o’r gwelyy”. (Dani)
“Fy hoff gymeriad i oedd Ioan, roedd e yn ddoniol a thrist pob hyn a
hyn”. (Ashleigh)
“Yn ystod y ddrama teimlais sawl gwahanol emosiwn.” (Wade James)
“Doeddwn id dim yn hoffi e pan oedd Gareth yn galw enwau ar Ioan am ei
fod yn gwneud i fi deimlo’n drist” (Rhiannon)
“Roedd y stori’n un drist iawn ond roeddwn wedi’i fwynhau’n fawr”
(Michaela)
“Fy hodd gymeriad oedd mam oherwydd hi helpodd Ioan ddod dros ei
broblemau yn y diwedd” (Lowri Stephens)
‘Rydym ni’n meddwl y darn gore yn y ddrama oedd pryd oedd Ioan yn dweud
“Os rwy’n cael stwr na fe yn stwr byr achos rwy wedi blino”’ (Rhodri a
Darren)
“Roedd y set yn dda” (Nia James a Nia Mills)
“Hoffwn i weld y sioe eto” (Stephanie)
"Rwy eisiau dweud diolch yn fawr am berfformio y ddrama yma. Pan redodd
Ioan i ffwrdd teimlais bron mor drist a rhieni Ioan. Roedd y ddrama yn
emosiynol iawn." (Sian Evans)
"Rwy'n credu roeddwn yn mwynhau oherwydd mae pob math o deimladau fel
rhai hapus, rhai doniol a rhai trist". (Lauren Owen)
"Roedd y set gyda llawer o brops fel gwely bync, cadair, ysgubor a
toster. Roedd yr effeithiau sain yn dda iawn oedd lawer o wahanol synau
fel swn y mor, swn yr ambiwlans a swn gweiddi". (Nia Harries)
"I really, really enjoyed it. I very much enjoyedt the workshop too, it
was very interesting. My favourite bit was the end where everything
got sorted out and Iwan and his parents were happy again. P.S My brother
keeps a memory box of our Grandpa, with hats and photos and stuff like
that in". (Nansi Jones)
"My favourite part was when Iwan sent the text message saying something
very! very! rude so I can't really write it or my teacher will tell me
off." (Christopher Harry)
"We really enjoyed the play. It really showed us how to sort out
bullying. We don't hav bullying in school." (Holly Couzens)
"I really liked how the boy Ioan pretended to talk to his brother who
was really dead. I liked how you helped me believe what it feels like
if somebody dies. It really helped." (Claire Davies)
"I had fun making a person out of the objects in the workshop. I think
you are all talented actors and I hope that you'll come back to my
school soon". (Olivia Jones)
"We thought the whole story was sad and were glad it wasn't real. All
of my class enjoyed it and we do hope you have a chance to come again."
(Kimberley Morris)
"Rwy'n gweud diolch i chi a gobeithio eich bod yn dod i fy ysgol eto a
gofynnais i Mr Rees "Ydy nhw'n gallu dod i ysgol Y Tymbl eto?", a
dywedodd e "Wrth gwrs"." Aled Evans
"Roedd y stori yn ddiddorol iawn ac roeddwn wedi mwynhau y rhan pan oedd
Ioan yn dweud geiriau drwg" Carwyn Jones
"Ar y dechrau roedwn ddim yn gwybod pwy oedd Ioan yn siarad efo. Pan
ddaeth amser brecwast roeddwn yn dechrau deall pwy oedd ar goll." Tomos
John
"Diolch am ddod i'n ysgol ni i berfformio 'Ysbryd'. Y rhan o'r ddrama
roeddwn i'n meddwl oedd yn arbennig oedd pryd oedd Ioan yn chwarae myg."
Shelby
"Roeddwn yn hoff iawn o'r 'Ysbryd' er ar brydiau roedd y stori yn rhy
drist". Gareth
"Roedd y sain yn anhygoel fel swn y mor pan oedd Ioan yn rhoi ei glust
yn y gragen". Ynyr
"Roedd y set a'r props yn realistig iawn gyda'r gwely a'r tost a popeth
arall". Evan
"Roedd Ioan yn siarad yn ei gwsg. Dyna beth arall oeddwn yn hoffi".
Craig Harries
" |
| adolygiad gan: |
, 01 / 02 / 2005 |
| |
|
| |
|
|
CRASH
Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Review by Dafydd Prys
" Whenever I see
‘appropriate for 14+’ on a poster advertising a play I inwardly cringe,
assuming the worse from acute experience. It is something which inspires
dread in me after many months research into educational productions. It
is however somewhat misguiding on the poster of Crash as it is a highly
polished production. Arad Goch seem to have settled very cosily into
the niche of the educational production that carries weight amongst
audiences of all ages, amalgamating many genres and techniques which
evades most other touring companies. Crash is no different, in fact, it
competes, and rightfully so, with Stones as the finest in their and
Wales’s repertoire.
The actors all completed fine performances, their diction and clarity,
through some harsh emotions was excellent and they portrayed their
characters with vivacity and obvious relish, enjoying themselves with
avid encouragement from the audience, and very refreshing to see such a
young audience in attendance too, to complement the wonderfully young
cast.
Dafydd Rhys Evans gave a genuine performance as Wes, the apparent
good-for-nothing layabout. He attacked the role with energy and seemed
to make lounging an Olympic sport. Rhys ap Trefor gave yet another
strong and lively performance, a great young actor and good to see him
swapping stage and screen, very good presence on stage with an excellent
range, from timid to raging lion, though maybe a little overplay on the
comic side. But surely it’s time for this man to grasp some meatier
roles on the Welsh stage. Rhiannon Morgan’s performance as Elin, the
central character, was very moving. I thought, wrongly, that I had
passed my teenage years many moons ago, yet her portrayal of such an
innocent soul brought it all back, the anguish of an open mind yet to
realise its role in the world, let alone the family home. Their
inter-mingling worked well within the structure of the whole production,
with dance and movement all woven into the very same cloth of tongue
and sound. The raised platform improved on the vitality of the movement,
seemingly propelling them to an austere oneness with that which they
strived for, “between the clouds and the waves”, trying to find a space
for them to park their own souls.
I felt that Rhiannon Morgan’s role was finely tuned to the others, and a
balancing act ensued, but neither end extended beyond the carefully
placed fulcrum and equilibrium was attained throughout, no mean task as
the play could easily have run away with itself. Also something needs to
be done about the backdrop, I’m not sure what tie-dyed cloth has to do
with anything.
Sêra Moore Williams impressed me further with her obvious talent for
understatement and careful planning, though as I said earlier, maybe
Rhys’s character was a little too comic and threatened certain scenes
with its strength. Also Elin’s character only offered one option for the
actor, tone-wise, and that was upwards, she needed some space at times
to back up, metaphorically, in order to release the energy that is
intrinsically built-up within her.
At times also there were leaps needed for the collective audience to
fill the gaps in the sub-plot and possibly some more emphasis on the
actuality of their crimes, e.g. the stealing of the cars and the crashes
themselves. Though none of these things directly affected the play,
they may, in my opinion, give extra depth to that being already said.
The actors showed great dexterity and presence to accomplish what,
really, is quite a mundane subject matter and to transform it into a
compelling piece of theatre is a rare feat. Not once did I twiddle my
fingers and check out the rest of the audience, high praise indeed.
Ever since Stones crossed Jeremy Turner’s (artistic director, Arad Goch)
path via Travelling Light theatre company, Arad Goch have been leading
exponents in the multi-genre ‘educational’ productions (I use the word
educational with a heavy heart as it implies such atrocious notions -
see moralistic) using live music, strong energetic performances which
compliment a minimalistic stage, perfect for a relatively small touring
company.
Long may this expertise last as it promotes a healthier theatre ethos in
Wales. The sooner that other production companies understand this
simple equation the better, pomp may look good but art and ability
always endears, and is also timeless.
It promotes skilful actors and writers, employing both mind and body to a
more resonant theatre scene. This is where the money is needed (and if
anybody is reading from the Arts Council, or whoever hands out the dough
these days, please give Arad Goch a grant to renovate their dastardly
studio, never have I seen a company go on tour with such relish) not in
empowering new companies to tread their way carefully through the
hellish political minefield of Welsh theatre.
We already have talented companies which are able to put on any
production that they are called upon to produce and have been doing so
for many decades, this is where the real national theatre is and never
will be encapsulated in name. I can’t help but think what wonders
companies like this would have produced having been shown half as much
trust as ‘the authorities’ deemed to go elsewhere.
“That which we call a rose, by any other name would smell as sweet.” Any
body got any garden clippers?
" |
| adolygiad gan: |
Dafydd Prys , 22 / 01 / 2005 |
| ffynhonell: |
www.theatr-cymru.co.uk
|
| |
|
| |
|
|
Crash
Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Crash, Bang, Wallop!
" Mae “crash” yn
meddwl sawl peth yn myd Sera Moore Williams – awdur/gyfarwyddydd drama
newydd i bobol o bob oed.
Mae’n golygu “crashio” mewn ty ffrind ar ôl noson ar y cwrw, “crash”
cyfrifiadur sy’n colli eich gwaith cartre’ hollbwysig, “crash” car a
bywydau’n cael eu dryllio i grash- gyfeiliant tonnau’r môr.
Gall hefyd ddisgrifio agwedd pobol ifanc at fynd trwy fywyd – crash,
bang, wallop! Ac mae’n ddisgrifiad da o’r ddrama ei hun.
Os ydi pobol ifanc yn cael “buzz” o ddwyn ceir a’u gyrru ar ras – gan
wybod y gallen nhw farw yn y funud fwyn - mae yna “buzz” hefyd o wylio’r
ddrama hon.
Mae “Crash” Sera Moore Williams yn daith egnïol iawn – yn gorfforol ac
yn eiriol. Mae yna symud parhaus ar y llwyfan ac yn y stori wrth i’r
awdures/gyfarwyddydd drio dal bwrlwm ieuenctid a gwneud hynny’n
llwyddiannus iawn. dybiwn i.
Fuodd yr Arad Goch erioed yn swil o daclo materion dadleuol – a diolch
byth am hynny. Ac mae “Crash” yn cyffwrdd â phroblemau alcohol,
cyffuriau, di-gartrefwch, trais corfforol a rhyw o dan oedran yn ogystal
â’r dwyn ceir sy’n cael ei awgrymu yn y teitl.
Gyda’r holl bynciau yma o dan sylw fe allai “Crash” fod yn brofiad
diflas i’w gwylio. I’r gwrthwyneb, mae’n ddrama ddoniol iawn – er, dwi
ddim yn siwr nad oedd y gynulleidfa 30+ fel finnau yn chwerthin yn
galetach ar rai o’r jôcs na’r bobol ifanc 17 oed wrth fy ymyl. Ond, yna,
mae pobol ifanc yn gynulleidfa galed i’w plesio!
Yng nghanol y chwerthin, mae yna wirioneddau chwerw yn dod i’r wyneb –
yn arbennig o ddod i nabod Wes, dafad ddu y praidd gymdeithasol yma sy’n
ysu am yr union bethau mae Elin mor barod i’w gwrthod.
Rwy’n siwr y bydd y rhan fwya’ o bobol ifanc yn gallu uniaethu gyda
rhwystredigaeth Elin a’i ffrind, Rhys. Maen nhw’n teimlo fel oedolion,
ond maent wedi eu caethiwo yn eu cartrefi gan reolau rhieni – rhieni
sy’n credu ei bod hi’n llawer mwy pwysig i wneud gwaith cartre’ a swotio
ar gyfer arholiadau, na threulio amser gyda’ch ffrindiau yn mwynhau
eich hun.
Ond y peth wirioneddol ddewr am weledigaeth Williams yw’r ffordd mae’n
troi "Crash" yn stori cwymp o ras Elin.
Dyma ferch ddosbarth canol sy’n mela gyda Wes clwyfedig. Mae Elin yn
twyllo’i hun bod amddifadaeth trasig Wes yn well na diodde pwysau a
phryd o dafod gan rieni cariadus sydd eisiau’r gorau iddi yn y pen draw.
Mae Elin yn llwyddo i dwyllo’i hun – a Wes - bod ei rhieni yn boen go
iawn – ac yn awgrymu’n gelwyddog bod disgyblaeth ei Thad yn ymylu ar
drais corfforol.
Dwi ddim am ddatgeli y stori i gyd, ond mae Williams yn delio gyda’u
deunydd mewn ffordd grefftus gan fwydo’r wybodaeth am gefndir ei
chymeriadau fesul tipyn yn hytrach na’i boeri allan mewn un eisteddiad.
Ar y pegwn arall i Wes, mae Rhys y ffrind gwledig, hoffus ond llai
mentrus, sydd mewn cariad ag Elin ei hun – ond yn llawer rhy ofnus i
ddweud hynny.
Ydi hi’n syndod o gofio’r pwysau ar bobol ifanc heddiw bod ambell un yn
colli ei ffordd mewn drysfa o alcohol, cyffuriau, rhyw neu’r “buzz” o
yrru car cyflym? Eisiau anghofio maen nhw am un foment fach – a rwy’n
siwr bod hyd yn oed ni oedolion “boring” yn gallu uniaethu â’r ddyhead
honno.
Mae llawer o lwyddiant y ddrama yn dod o dri perfformiad gwirioneddol
arbennig. Does dim dwywaith yn fy meddwl i bod yr actorion ifanc wedi
llwyddo i ddal egni, ansicrwydd a chyffro ieuenctid yn eu siarad a’u
symud. Mae Rhiannon Morgan fel Elin yn portreadu ei chwymp o ras a chadw
ein cydymdeimlad, bron, tan y diwedd. Mae Dafydd Rhys Evans yn byw Wes,
yr hogyn â’r broblem agwedd, sy’n troi gweithred greulon diwedd y
ddrama yn gusan garedig. Ac mae Rhys ap Trefor fel Rhys yn rhoi cig a
gwaed ar rôl a allai fod yn gomedi pur – ac yn mynnu ein cydymdeimlad
hyd y diwedd trasig. Seren y dyfodol, dwi’n meddwl.
"Crash" cyffrous. Dyna farn 30 rhywbeth, beth bynnag – ond pwy yw
oedolyn “boring” i ddweud ei barn? Fel y bobol ifanc yn y ddrama sy’n
mynnu eu lleisiau eu hunain, mynnwch eich tocyn a barnwch drosto’ch
hunain.
"Crash" means several different things in the world of Sera Moore
Williams- the author/director of a new drama for people of all ages.
It means 'crashing' as in a friend's house after a night on the pop, a
computer 'crash' that means losing all your all important homework, a
car 'crash' and lives being ruined to the crash of the sea's waves.
It can also refer to the way young people live their lives - crash,
bang, wallop!
And it is a good description of the play itself.
If young people get a 'buzz' from joy-riding - knowing that they could
be killed at any moment - there is also a 'buzz' to be had from watching
this drama.
Sera Moore Williams's 'Crash' is a very energetic ride - both physically
and verbally. There is continious movement on stage and in the story
as the author/director tries to capture the excitement of youth, and
doing so very successfully in my opinion.
Arad Goch has never been shy of tackling controversial topics - and
thank goodness for that. Crash touches upon the problems of alcohol,
drugs, homelessness, physical violence and under age sex in addition to
the car thieving that is implied in the title.
With all these issues watching 'Crash' could have been a tedious affair.
Quite the opposite, it is a very funny play - although I'm not sure
that those in the audience aged 30+ like me laughed more loudley that
the 17 year olds who were sat next to me. But then young people are a
very hard audience to please! Amongst the laughter some hard truths
were expressed - especially as we get to know Wes, the black sheep of
this social flock who yearns for the very things Elin is so ready to
reject.
I'm sure most young people will be able to relate to the frustrations of
Elin and her friend, Rhys. They feel like adults and yet they are ruled
by their parents' rules - parents who think it far more important to do
your homework and revise for exams, rather than hanging out with
friends enjoying yourself.
But the truly brave thing about Williams's vision is the way she turns
'Crash' into the story of Elin's fall from grace.
This is a middle class girl who plays around with damaged Wes. Elin
fools herself into believing that Wes's tragic destitutness is
preferable that putting up with a telling off by loving parents who only
want the best for her in the long term. Elin manages to persuade
herself - and Wes - that her parents are a real pain - and she falsely
insinuates that her father's discipline borders on being physical
violence.
I don't want to reveal the whole story but Williams deals with her
material in a very skilfull way feeding us with details of the
background of the characters in little snippets rather than blurting it
all out in one go. At the other end of the spectrum from Wes is Rhys,
the country boy, likeable but less daring, who is in love with Elin
himself - but is far to scared to say so.
Is it any wonder considering the pressure young people today are under
that a few loose their way in a maze of alcohol, drugs, sex or the
'buzz' of driving a car at speed? They want to forget for one moment -
and I'm sure as 'boring' adults we can relate to that.
Much of the success of the play must be attributed to three great
performances. I have no doubts that the young actors succeeded in
capturing the energy, insecurity and excitement of youth in their chat
and movement. Rhiannon Morgan, as Elin, manages to portray her fall
from grace and hold on to our sympathies almost to the end. Dafydd Rhys
Evans lives Wes, the young man with an attitude problem, who turns the
cruel act at the end of the play into a kind kiss. And Rhys ap Trefor
as Rhys brings to life a character that could be pure comic - and
demands our sympathy to the tragic end. A future star I think.
Exciting 'Crash'. That is the opinion of one 30 something anyway - but
who am I a 'boring' adult to express an opinion? As the young people in
the drama who demand their voices be heard, buy your ticket and judge
for yourself.
" |
| adolygiad gan: |
Meleri Wyn James, 20 / 01 /
2005 |
| |
|
| |
|
|
Caneri
Gwylan a Bran
Gan Jeremy Turner/ Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner a Ffion Bowen
Ymatebion Athrawon CGB
" “Gwerth ieithyddol
cynhwysfawr” (Brynherbert)
“Cyfuniad ffilm/perfformiad llwyfan yn hynod effeithiol” (Crymych)
“Yn werth teithio o Grymych i Aberystwyth. Llongyfarchiadau”
“Roedd y perfformiad yn wefreiddiol a chofiadwy” (Tregaron)
“Roedd pawb wedi mwynhau mas draw a dysgu llawer” (Llanllwni)
“Roedd y gweithdy yn ddilyniant da iawn i’r sioe” (Trefeurig)
“Penderfynwyd y byddai’n dda ac yn fuddiol i dreulio 2-3 wythnos ar y
pecyn gwaith” (Penglais)
“Bywiog, gafaelgar, iaith ddealladwy i’r plant, dal diddordeb drwyddo”
(Aberbanc)
" |
| adolygiad gan: |
, 01 / 10 / 2004 |
| |
|
| |
|
|
Caneri
Gwylan a Bran
Gan Jeremy Turner/ Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner a Ffion Bowen
Adolygiadau Disgyblion
"
“Dysgais lawer o bethau yn enwedig mai dim ond un pwll glo sydd heddiw
ar ôl yng Nghymru …Fy hoff ddywediad o’r ddrama oedd ‘oci – doci –
carioci’. (Morgan Roberts)
“Roeddwn yn teimlo fel fy mod i yn rhan o’r ddrama” (Lauren Harries)
“Roeddwn i wedi mwynhau yn enfawr” (Ben Jones)
“Rwy’n credo fod y neges yn bwysig iawn – mae nid dim ond pobl
academaidd sydd yn gallu mynd i’r llyfrgell” (Lucinda Gaver)
“Roeddwn i’n meddwl fod y rhan pan roedd y plant yn siarad am weithio yn
yr pyllau glo yn dda iawn” (di-enw)
“Roedd yr actorion yn broffesiynol a brwdfrydig” (Carys Jones)
“Roeddwn i wedi mwynhau, a rydw i eisiau dod eto” (Sara)
" |
| adolygiad gan: |
, 01 / 10 / 2004 |
| |
|
| |
|
|
Riff
Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Erchylltra'r stori yn dod yn fyw
" Gellid meddwl mai
peth anodd fyddai trafod cyflafan Ysgol Columbine ar lwyfan yn fyw
gerbron cynulleidfa ifanc. Heblaw am erchylltra'r peth, ni wyr neb pam
yn union y saethodd y ddau fachgen un ar ddeg o'u cyfoedion ac un athro
yn fawr. Gellid meddwl mai tasg anoddach fyddai perthnasu hyn a
chynulleidfa Gymraeg, ond dyna wnaeth Arad Goch yn sioe Riff.
Pymtheg golygfa fer, llwyfan syml, datgelwyd profiadau cymro ifanc a
gafodd ei wthio i'r ymylon ac sy'n chwilio am ffordd i ymateb.
Roedd cynildeb yn rhedeg drwy'r sioe ar bob lefel. Sgaffald oedd y set
syml a ddalai'r cerddor ar blatfform uwch na'r prif actor.
Pwysigrwydd y gwaith hwn yw ei fod yn theatr berthnasol, cyfoes a
deniadol. Mae hon yn sioe galed i'r actor, ac un sy'n gofyn am wrando a
syllu gofalus gan y gynulleidfa. Ond dyna'r her, i greu gwaith anodd
sy'n denu a difyrru ar yr un pryd a phrocio'r meddwl a'r cydwybod.
You would have thought that exploring the Columbine School disaster on
stage, live, before a young audience would be difficult. Apart from the
awfulness of the situation no one knows for sure why the two young men
shot dead 11 of their classmates and one teacher. You would have
thought that making this relevant to a Welsh audience would have been
even more difficult. But that is exactly what Arad Goch did in this
piece - Riff.
Fifteen short scenes, a simple stage, showed how a young Welshman pushed
to the edge seeks a way to react.
There was subtlety throughout the show on all levels. The set was
scaffolding which held the musician on a higher platform than the actor
throughout.
The importance of this work is its relevance, its contemporariness and
its attractiveness.This is a difficult piece for both actor and audience
who are required to listen and look attentively. But this is the
challenge, to produce difficult work that attracts and entertains whilst
at the same time provoking the mind and the conscience.
" |
| adolygiad gan: |
Lisa Lewis, 20 / 03 / 2004 |
| |
|
| |
|
|
Llyfrau
sy'n Taro 10
Gan Criw Arad Goch
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Llwyddo i hybu pobl ifanc i
ddarllen mwy
" Roedd Arad Goch
wedi llwyddo i ddramateiddio yn arbennig o dda ac yn sicr wedi llwyddo i
hybu pobl ifanc i ddarllen mwy – maent wedi gwneud i ddarllen llyfrau
deimlo’n ddeg gwaith gwell!
Arad Goch dramatised the books very well and certainly succeeded in
persuading young people to read more - they have made reading books feel
ten times better!
" |
| adolygiad gan: |
Disgybl o Ysgol Eifionydd Porthmadog , 16 / 10 / 2003 |
| |
|
| |
|
|
Letus
Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Drama rymus a phwerus
" Mae Arad Goch yn
ôl arfer y Cwmni wedi defnyddio llenyddiaeth a deunydd traddodiadol yn
ogystal â cherddoriaeth werin a chlasurol. Maent wedi llwyddo i gyflwyno
drama rymus a phwerus.
Arad Goch have as before used literature and traditional materials as
well as folk and classical music. They have succeeded in presenting a
drama that is powerul and gripping." |
| adolygiad gan: |
Elin Wyn Davies, 23 / 08 /
2003 |
| ffynhonell: |
BBC
|
| |
|
| |
|
|
Brig
Credo
Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Dod a’r hanes yn fyw
" Y perfformiad wedi
sbarduno’r plant ac wedi dod a’r hanes yn fyw i’r llwyfan. Roedd gwerth
addysgol ardderchog i’r cynllun a oedd yn cyffwrdd a nifer o feysydd yn
y cwricwlwm.
The performance inspired the children and brought the history to life on
the stage. The scheme was of great educational value and touched on
many areas of the curriculum." |
| adolygiad gan: |
Athrawes o Ysgol Arberth, Sir Benfro , 08 / 08 / 2003 |
| |
|
| |
|
|
Twm a
Mati Tat a'r Ddoli
Gan Martin Morgan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Chwerthin drwy'r perfformiad
" Roedd sioe Twm a
Mati Tat a'r Ddoli yn gret. Roeddwn i yn hoffi Mati oherwydd bod hi'n
dweud y stori. Roeddwn i yn meddwl bod y sioe yn ddoniol iawn. Hoffais i
sut roedd y criw i gyd yn gweithio gyda'i gilydd. Fy hoff ddarn oedd
pan oedden nhw yn y siop hen bethau yn ffonio'r heddlu. Fe chwerthias i
drwy'r perfformiad.
Twm and Mati Tat and the Dolly was great. I liked Mati because she was
telling a story. I thought the show was very funny. I liked how all
the crew worked together. My best bit was when they were in the antique
show phoning the police. I laughed during the whole performance." |
| adolygiad gan: |
Plentyn o Ysgol Penrhyncoch, 22
/ 07 / 2003 |
| |
|
| |
|
|
Cinio
Ysgol
Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Doniol a diddorol
" y ddrama yma yw’r
un orau yr ydw i erioed wedi ei weld. Roedd e’n ddoniol, diddorol ac
roedd pawb wedi mwynhau! Roedd pawb yn gwrando’n astud (rwy’n credu bod
Miss wedi syfrdanu am hynny) Diolch Arad Goch”
This drama is the best one that I have seen. It was funny, interesting
and everyone enjoyed themselves. Everyone was listening carefully (I
think this really surprised Miss). Thank you Arad Goch." |
| adolygiad gan: |
Disgybl o Ysgol Ffynnonbedr Llanbed , 06 / 06 / 2003 |
| |
|
| |
|
|
Stones/ Tafliad Carreg
Gan Tom Lycos a Stefo Nantsou
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Carys Mai Lloys ar Tafliad
Carreg
" Adolygiad o
‘Tafliad Carreg’
A hithau’n fore ddydd Gwener yn dilyn wythnos hir a chaled o waith,
dyma fi’n darganfod fy hun yn eistedd mewn llys barn yn trafod dedfryd
dau fachgen ifanc a gyhuddwyd o ddynladdiad wedi iddynt daflu carreg
oddi ar bont uwchben traffordd.
A’r cwestiwn mawr – euog neu di-euog?
Mewn gwirionedd, roeddwn i’n eistedd yn un o nifer yn neuadd Ysgol Gyfun
Penweddig yn dilyn perfformiad gonest a dirdynnol gan gwmni Arad Goch o
‘Tafliad Carreg’. Dyma ail-gynhyrchiad Arad Goch o’r ddrama a
berfformir gan ddau actor brwd ac egniol sef Iwan Charles ac Owain Llyr
Edwards ac mae eu perfformiadau yn ganolog i lwyddiant y ddrama hon.
Mae Tafliad Carreg wedi ei selio ar ddigwyddiad go iawn ac ar gymeriadau
go iawn ac o ganlyniad i hyn, mae gonestrwydd y sefyllfa yn ymestyn yn
ddi-rwystr i galon y gynulleidfa.
Mae’r ddrama a ysgrifennwyd gan Tom Lycos a Stefo Nantsou wedi ei selio
ar adroddiad papur newydd â’r teitl ‘Boys on Death Charge’ sy’n adrodd
hanes dau fachgen ifanc sy’n darganfod eu hunain mewn cythrwfl wedi i
chwarae droi’n chwerw.
Yn y ddrama, fe’n cyflwynir ni i bedwar cymeriad : dau grwt ifanc, y
naill yn bymtheg a’r llall yn dair-ar-ddeg sy’n brwydro yn erbyn
cydymffurfiaeth a rheolau cymdeithas ar un llaw; ac ar y naill llaw yn
ysu i gael eu derbyn ac i berthyn.
Y ddau gymeriad arall yw’r ddau ditectif sydd yng ngofal yr ymchwiliad
ac sydd yn rhoi strwythur i’r ddrama. Maent yn gymeriadau gwrthrychol
sy’n cyflwyno a gwthio’r ddadl a’r drafodaeth a’i gadael yn benagored
i’r gynulleidfa. Mae crefft yr actorion wrth symud o naill gymeriad
i’r llall yn syfrdanol a llwyddant i gynnal yr egni yn ddi-ben-draw.
Fe’m tywysir drwy’r stori yn gelfydd ac mae arddull fywiog y ddrama yn
croesawu ymateb didwyll y gynulleidfa ac mae’r actorion ar eu gorau o
gael ymateb gan y bobl ifanc.
Mae natur y gofod yn syml dros ben, ac eto, ceir ymgais deilwng i abrofi
gyda deinamig y set ac amrywiadau delweddol. Mantais set syml, wrth
gwrs, ydy’r agosatrwydd â’r gynulleidfa a dyma un o gryfderau’r
cynhyrchiad hwn. Er mwyn cynnal yr agosatrwydd hyn, mae’r actorion wedi
creu cymeriadau didwyll, mewn sefyllfa real gan arbrofi â thechnegau
dramatig creadigol dros ben.
Un o’r uchafbwyntiau personol i mi oedd y rhyddid creadigol oedd ynghlwm
wrth y perfformiad. Ni chyfyngwyd yr actorion na’r gynulleidfa yn ystod
y ddrama a chafwyd perfformiad llawn egni, cyffro, angst, hiwmor a
cherddoriaeth gyfoes oedd ar yr un pryd yn ymdrin â thema a phwnc dwys a
difrifol.
Dyma un o’r perfformiadau theatr-mewn-addysg prin a lwyddodd i hoelio
sylw a diddordeb pob un unigolyn yn yr ystafell drwy gydol y perfformiad
ac a daniodd ddadl chwilboeth yn dilyn y ddrama ynghylch dedfryd y ddau
fachgen.
Dyma i chi berfformiad theatrig pwerus a ffraeth sy’n cwrdd a’r
gynulleidfa ar lefel aeddfed a deallusol ac sy’n ysgogi dychymyg y
gwyliwr mewn modd cyffrous ac unigryw.
Review of ‘Stones’
It’s a Friday morning of a very long and tiring week, and I find myself
sitting in a court room discussing the verdict of two young boys who,
following an incident involving them throwing stones from a motorway
bridge, are accused of manslaughter. The big question being : guilty or
not guilty?
In fact, I wasn’t in a courtroom at all, I was one of many captivated
individuals in Penweddig School hall following an honest and moving
performance by Arad Goch called ‘Stones’. This is the second time for
the company to perform this play. It is performed by two gripping and
energised actors : Iwan Charles and Owain Llyr Edwards and their
performances are central to the success of this play.
‘Stones’ is based on a true story an real characters and therefore the
truth and reality of the situation is easily accesssible to the audience
and we were gripped from the very first scene.
The play, which is written by Tom Lycos and Stefo Nantsou is based on a
newspaper report entitled ‘Boys on Death Charge’ which recalls the story
of two boys who find themselves in a sticky situation after one foolish
act.
The story is narrated using four main charcters : the two young boys,
who are typical teenage boys fighting against conformism and society
expectations on the one hand and on the other hand in desperate need of
acceptance.
The other two characters are the ditectives in charge of the
investigation who give structure to the play. They are objective
characters who skilfully present the argument and discussion arising
from the play in a way which leaves it open ended to the audience. The
actors’ technique of switching back and forth from the different
characters is extraordinary and they successfully maintain the energy
throughout the performance.
The story is presented exquisitely and the energetic style of the
performance welcomes an organic and honest reaction from the audience
and the actors are at their best when encouraged by the audience.
The nature of the set and space is relatively simple, but there is a
conscious effort to experiment with the dynamic of the set and imagistic
variations. One of the advantages of a relatively bare set, of course,
is the close proximity between audience and actor and this is one of the
strengths of this production. In order to maintain this closeness, the
actors have created believable characters, in a real situation
experimenting with crreative dramatic techniques. A personal highlight
for me is the creative freedom throughout the performance. Neither the
actors or the audience were restricted in any way, shape or form which
resulted in a performance full of energy, excitement, anxst, humour and
contemporary music which simultaneoulsy dealt with a gritty and intense
subject matter.
This was one of the few theatre in education productions which
successfully captured the attention of every member of the audience
throughout the hour performance and which provoked a heated discussion
at the end.
This is a gritty and powerful drama which meets the audience on an
intellectual and understanding level and which inspires the audience in
and unique and exciting way.
" |
| adolygiad gan: |
Carys Mai Lloyd, 06 / 02 /
2003 |
| |
|
| |
|
|
Culhwch
ag Olwen
Gan Jeremy Turner
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Sioe fywiog a symudiadau chwim
" Roedd sioe Culhwch
ac Olwen yn dda iawn. Roedd offerynnau gan yr actorion ac roedd y ferch
yn chwarae'r trwmped yn dda iawn. Er bod cerddoriaeth yn y ddrama, fe
fyddwn i wedi hoffi gweld mwy.
Bore 'ma wrth fwyta fy Frosties fe gefais i'r stori gan mam ac roedd
hi'n stori gymhleth dros ben. Roedd y symudiadau yn wych yn enwedig wrth
hela'r Twrch Trwyth a'r triciau gyda'r casgenni
Roedd y gwisgoedd yn lliwgar iawn a barf Ysbaddaden Bencawr yn
wirineddol dda. Pan fydda i yn mynd lan i ffarm mamgu tro nesaf bydd
rhaid gwylio rhag ofn bod Dilys Farfog yno!
Fe fwynheais i yn fawr iawn. Rydw i yn hoffi straeon a chwedlau fel hyn.
Culwch and Olwen was a very good show. The actors had musical
instruments and the girl who played the trumpet was very good. Although
there was music in the drama, I would have liked more.
This morning as I was eating my Frosties mam told me the story, it is a
very complicated story. The movements were very good especially whilst
hunting the Twrch Trwyth and the tricks with the casks.
The costumes were very colourful and Ysbaddaden Bencawr's beard was
really excellent. When I next go up to mamgu's farm I will have to
watch out in case Dilys Farfog is there!
I really enjoyed myself. I like these kinds of stories and tales." |
| adolygiad gan: |
Plentyn o Ysgol Gymraeg, Aberystwyth, 20 / 06 / 2000 |
| |
|
| |
|
|
Ma's o
'Ma
Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Cymysgedd o syniadau a hiwmor du
" Drama fywiog yw
hon sy'n llwyfan i dri wyneb cyfarwydd, Ioan Evans, Dora Jones a Huw
Llyr.
Llwyfan sy'n taro golwg ar gymeriadau traddodiadol pentre gwledig sydd
ganddo ni dryw'r ddrama gyda'r actorion yn llwyddo i godi gwrychyn a
sgrechfeydd o chwerthin bob yn ail.
Mae yna ddigon o ganu, digonedd o gomedi, a digon o draethu yn mas o ma.
This is a lively drama with three well known actors - Ioan Evans, Dora
Jones and Huw Llyr. This is an opportunity to look at characters from a
traditional Welsh village with the actors able to infuriate and to
raise hoots of laughter. There is plenty of singing, comedy and
declarations in this work." |
| adolygiad gan: |
Lois Eckley, 17 / 03 / 1999 |
| ffynhonell: |
Y Cymro
|
| |
|
| |
|
|
Anna
Mari lyfs Dic Wili
Gan John Glyn Owen
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Noson ygafn, hwyliog
" Wrth gerdded mewn
i'r neuadd mae'r gynulleidfa yn cyfarfod Wil Wirion (Ryland Teifi). Mae
yntau yn ceisio ysgogi pawb i eistedd yn y seddi blaen , a'u hannog i
lenwi ffurflen i ennill trons gan wneud i'r hen a'r ifanc wrido.
Mae'r gwaith yn glyfar ac yn ddigri. Mae brawddegau bachog a nifer o
jocs digri yn rhedeg trwy gydol y ddrama.
Er gwaetha ysgafnder y ddrama mae ynddi negeseuon o oesol bwys - am eim
cybydd-dod am ein hoffter o arian uwchben pawb a phopeth, am awdurdod
hunanol a thrachwantus, am y tyndra oesol rhwng yr hen a'r iau, am
gariad a serch ac am ein ffolineb di-drugaredd.
As they walk into the hall the audience meet Wil Wirion (Ryland Teifi).
He tries to persuade everyone to sit in the front seats, and encouraged
them to fill in forms to win some trousers, causing young and old
blush. The work is clever and funny. There are catchy sentences and a
number of fully jokes throughout the drama.
Despite the lightheartedness of the drama it contains messages that are
always important - about our miserliness, our love of money above all
else, about selfish and gready authority, about the age old tensions
between young and old, about love and about our foolishness." |
| adolygiad gan: |
Lowri Rees, 12 / 03 / 1997 |
| ffynhonell: |
Y Cymro
|
| |
|
| |
|
|
Aderyn
Glas mewn Bocs Sgidiau
Gan Sian Summers
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Sgript ysgafn a hwyliog
" Unig gymeriad
Aderyn Glas Mewn Bocs Sgidiau yw Gary Jones, bachgen 16 oed sydd wedi
cael ei gloi yn ei ystafell am beidio ei glanhau ers dwy flynedd. Mewn
bocsys sy'n llenwi'r stafell, mae atgofion oes gyfan a thrwy bethau fel
crys pel droed Caerdydd, tegannau, rasal a throwser, cawn ein cyflwyno i
gymhlethdod bywyd Gary.
Mae dramau un cymeriad yn gallu bod yn fonolog un donog a diflas, ond
mae gan Gwion Huw y gallu i ddweud stori mewn modd doniol a chyfleu
elfennau trist yn yr un gwynt.
Er gwaethaf elfennau trist y stori, mae'r sgript yn llwyddo i gyflwyno
bywyd Gary mewn modd hwyliog ag ysgafn.
Gall aelodau hyn y gynulleidfa fwynhau gweld rhywun yn mynd drwy'r boen a
fu, a gall y rhai ifanc edrych ymlaen at y boen sydd i ddod.
Aderyn Glas Mewn Bocs Sgidiau has only one character - Gary Jones - a 16
year old boy locked in his room as punishement for not having cleaned
it for two whole years. In the boxes that fill the room there are a
lifetime's memories and through things like the Cardiff football shirt,
toys, razor and trousers, we are introduced to the complexities of
Gary's life.
One character dramas can be tedious and monotonous but Gwion Huw has the
ability to tell a story in a humourous way and portray sad aspects too
all in one breath.
Despite the sad elements in the story the script succeeds in presenting
Gary's life in a light and bright manner.
Older members of the audience can enjoy looking at someone going through
the pain that they once experienced, and younger ones an look forward
to the pain that is to come.
" |
| adolygiad gan: |
Robert- Henri Jones, 31 / 01
/ 1996 |
| ffynhonell: |
Y Cymro
|
| |
|
| |
|
|
Lleuad
yn Olau
Gan
cyfarwyddwyd gan
Y masgiau a'r set yn arbennig
" Llongyfarchiadau
ar berfformiad gwych o 'Lleuad yn Olau'. Roedd y perfformiad yn
llwyddiannus iawn.
Roedd y ddrama a'r set yn effeithiol, ac roedd yr actio yn arbennig a'r
defnydd o le yn dda.
Roeddem ni yn hoffi y masgiau a'r set yn fawr iawn. Hoffwn i weld y
ddrama eto. Diolch am eich perfformiad, roedd pawb wedi mwynhau.
Congratulations on a great performance of 'Lleuad yn Olau'. The
performance was very successful.
The drama and set were effective, and the acting was very good and the
use of space excellent. We liked the masks and the set very much. I
would like to see this drama again. Thank you for the performance,
everyone enjoyed themselves." |
| adolygiad gan: |
Disgyblion Ysgol Llanhari, 00
/ 00 / 0000 |
| |
|
| |
|
|
Rownd y
Byd Mewn Lori
Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Naws ysgafn, gariadus i'r gwaith
" Cyflwynwyd ffiniau
daearyddol yn y ddrama hon - y personol a'r preifat yn cael eu tynnu
allan ar lwyfan yn gyhoeddus. Cyflwyna'r ddrama berthynas sy'n esblygu
rhwng menyw ganol oed a bachgen ifanc, y naill yn traddodi darlith a'r
llall yn gyfieithydd.
Mae un gamddealltwriaeth ar ol y llall yn arwain y ddau i glosio at ei
gilydd, er fod hyn yn tarfu ar y ddarlith sydd i fod ar ein cyfer ni.
Mae'r ddarlith a gaiff y gynulleidfa mewn pylau yn trafod 'hen arferion
caru Cymru' ond mater cyhoeddus ydi darlith. Deillia'r drafodaeth
breifat o'r tyndra a'r egni sy'n cynnal perthynas y dyn a'r fenyw ar
lwyfan.
Gydol y ddrama mae'r cymeriadau yn herio eu honiadau, a gan amlaf maen
nhe am yddfau ei gilydd, ond dyna'n union sydd mor bleserus i'w wylio.
Drwy gicio a brathu...
Geographical boundaries are presented in this drama - the personal and
private being exposed on a public stage. The drama presents the
developing relationship between a middle aged woman and a young boy, one
giving a lecture and the other a translator.
One misunderstanding after another leads them to form a closer
relationship, although this infrindges on the lecture that is supposed
to be for our benefit.
The lecture which the audience is fed bit by bit discusses old Welsh
courting habits, but the lecture is a public performance. The private
discussion is caused by the conflict and energy that surrounds the
relationship of the man and woman on stage.
Throughout the drama the characters challenge the claims made, and
usually they are at each other's throats, but this is exactly what is
such a pleasure to watch. Love hurts... " |
| adolygiad gan: |
Lisa Lewis, |
| ffynhonell: |
Western Mail
|
| |
|
| |
|
|
Merched
y Gerddi
Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Teimlad o naws y cyfnod
" Roeddwn i wedi
mwynhau y ddrama ac ro'n i wedi dysgu llawer am yr amser caled hwnnw yng
nghefn gwlad Cymru - diweithdra, a hyd yn oed y merched yn fodlon
cerdded dau gan milltir i Lundain er mwyn cael ychydig o arian yn eu
poced.
Roedd y dillad yn dda, yr actio yn arbennig, a'r cwbl yn rhoi teimlad i
ni o naws y cyfnod
I enjoyed the drama and learned a lot about that difficult time in rural
Wales - unemployment and even the girls were willing to walk two
hundred miles to London in order to earn a little money.
The costumes were good, the acting excellent and it all gave us a good
idea of how things were at that time." |
| adolygiad gan: |
Plentyn o Ysgol Glanaman, |
| ffynhonell: |
Papur Bro Dyffryn Aman
|
| |
|
| |
|
|
O Fore
Gwyn tan Nos
Gan Jeremy Turner a'r cast
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Pawb yn y dosbarth wedi mwynhau
" Diolch am y
ddrama, roedd pawb yn y dosbarth wedi mwynhau. Fy hoff ran oedd Sara yn
taflu ei dillad dros y lle a gwneud llanast yn ei ystafell wely. Roedd
Steven yn ddoniol yn y ddrama. Roedd Sara methu penderfynu beth oedd hi
yn mynd i wisgo. Roedd Louise yn galw Steven yn 'stinci steven' Roedd
hynna yn ddoniol ond ychydig bach yn gas hefyd. Ydy Arad Goch yn gallu
dod i'r ysgol eto plis?" |
| adolygiad gan: |
Plentyn o Ysgol Pontyberem, |
| |
|
| |
|
|
CRASH
Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Adolygiad Crash
" Crash, Bang,
Wallop!
Mae “crash” yn meddwl sawl peth yn myd Sera Moore Williams –
awdur/gyfarwyddydd drama newydd i bobol o bob oed.
Mae’n golygu “crashio” mewn ty ffrind ar ôl noson ar y cwrw, “crash”
cyfrifiadur sy’n colli eich gwaith cartre’ hollbwysig, “crash” car a
bywydau’n cael eu dryllio i grash- gyfeiliant tonnau’r môr.
Gall hefyd ddisgrifio agwedd pobol ifanc at fynd trwy fywyd – crash,
bang, wallop! Ac mae’n ddisgrifiad da o’r ddrama ei hun.
Os ydi pobol ifanc yn cael “buzz” o ddwyn ceir a’u gyrru ar ras – gan
wybod y gallen nhw farw yn y funud fwyn - mae yna “buzz” hefyd o wylio’r
ddrama hon.
Mae “Crash” Sera Moore Williams yn daith egnïol iawn – yn gorfforol ac
yn eiriol. Mae yna symud parhaus ar y llwyfan ac yn y stori wrth i’r
awdures/gyfarwyddydd drio dal bwrlwm ieuenctid a gwneud hynny’n
llwyddiannus iawn. dybiwn i.
Fuodd yr Arad Goch erioed yn swil o daclo materion dadleuol – a diolch
byth am hynny. Ac mae “Crash” yn cyffwrdd â phroblemau alcohol,
cyffuriau, di-gartrefwch, trais corfforol a rhyw o dan oedran yn ogystal
â’r dwyn ceir sy’n cael ei awgrymu yn y teitl.
Gyda’r holl bynciau yma o dan sylw fe allai “Crash” fod yn brofiad
diflas i’w gwylio. I’r gwrthwyneb, mae’n ddrama ddoniol iawn – er, dwi
ddim yn siwr nad oedd y gynulleidfa 30+ fel finnau yn chwerthin yn
galetach ar rai o’r jôcs na’r bobol ifanc 17 oed wrth fy ymyl. Ond, yna,
mae pobol ifanc yn gynulleidfa galed i’w plesio!
Yng nghanol y chwerthin, mae yna wirioneddau chwerw yn dod i’r wyneb –
yn arbennig o ddod i nabod Wes, dafad ddu y praidd gymdeithasol yma sy’n
ysu am yr union bethau mae Elin mor barod i’w gwrthod.
Rwy’n siwr y bydd y rhan fwya’ o bobol ifanc yn gallu uniaethu gyda
rhwystredigaeth Elin a’i ffrind, Rhys. Maen nhw’n teimlo fel oedolion,
ond maent wedi eu caethiwo yn eu cartrefi gan reolau rhieni – rhieni
sy’n credu ei bod hi’n llawer mwy pwysig i wneud gwaith cartre’ a swotio
ar gyfer arholiadau, na threulio amser gyda’ch ffrindiau yn mwynhau
eich hun.
Ond y peth wirioneddol ddewr am weledigaeth Williams yw’r ffordd mae’n
troi "Crash" yn stori cwymp o ras Elin.
Dyma ferch ddosbarth canol sy’n mela gyda Wes clwyfedig. Mae Elin yn
twyllo’i hun bod amddifadaeth trasig Wes yn well na diodde pwysau a
phryd o dafod gan rieni cariadus sydd eisiau’r gorau iddi yn y pen draw.
Mae Elin yn llwyddo i dwyllo’i hun – a Wes - bod ei rhieni yn boen go
iawn – ac yn awgrymu’n gelwyddog bod disgyblaeth ei Thad yn ymylu ar
drais corfforol.
Dwi ddim am ddatgeli y stori i gyd, ond mae Williams yn delio gyda’u
deunydd mewn ffordd grefftus gan fwydo’r wybodaeth am gefndir ei
chymeriadau fesul tipyn yn hytrach na’i boeri allan mewn un eisteddiad.
Ar y pegwn arall i Wes, mae Rhys y ffrind gwledig, hoffus ond llai
mentrus, sydd mewn cariad ag Elin ei hun – ond yn llawer rhy ofnus i
ddweud hynny.
Ydi hi’n syndod o gofio’r pwysau ar bobol ifanc heddiw bod ambell un yn
colli ei ffordd mewn drysfa o alcohol, cyffuriau, rhyw neu’r “buzz” o
yrru car cyflym? Eisiau anghofio maen nhw am un foment fach – a rwy’n
siwr bod hyd yn oed ni oedolion “boring” yn gallu uniaethu â’r ddyhead
honno.
Mae llawer o lwyddiant y ddrama yn dod o dri perfformiad gwirioneddol
arbennig. Does dim dwywaith yn fy meddwl i bod yr actorion ifanc wedi
llwyddo i ddal egni, ansicrwydd a chyffro ieuenctid yn eu siarad a’u
symud. Mae Rhiannon Morgan fel Elin yn portreadu ei chwymp o ras a chadw
ein cydymdeimlad, bron, tan y diwedd. Mae Dafydd Rhys Evans yn byw Wes,
yr hogyn â’r broblem agwedd, sy’n troi gweithred greulon diwedd y
ddrama yn gusan garedig. Ac mae Rhys ap Trefor fel Rhys yn rhoi cig a
gwaed ar rôl a allai fod yn gomedi pur – ac yn mynnu ein cydymdeimlad
hyd y diwedd trasig. Seren y dyfodol, dwi’n meddwl.
"Crash" cyffrous. Dyna farn 30 rhywbeth, beth bynnag – ond pwy yw
oedolyn “boring” i ddweud ei barn? Fel y bobol ifanc yn y ddrama sy’n
mynnu eu lleisiau eu hunain, mynnwch eich tocyn a barnwch drosto’ch
hunain.
"Crash" means several different things in the world of Sera Moore
Williams- the author/director of a new drama for people of all ages.
It means 'crashing' as in a friend's house after a night on the pop, a
computer 'crash' that means losing all your all important homework, a
car 'crash' and lives being ruined to the crash of the sea's waves.
It can also refer to the way young people live their lives - crash,
bang, wallop!
And it is a good description of the play itself.
If young people get a 'buzz' from joy-riding - knowing that they could
be killed at any moment - there is also a 'buzz' to be had from watching
this drama.
Sera Moore Williams's 'Crash' is a very energetic ride - both physically
and verbally. There is continious movement on stage and in the story
as the author/director tries to capture the excitement of youth, and
doing so very successfully in my opinion.
Arad Goch has never been shy of tackling controversial topics - and
thank goodness for that. Crash touches upon the problems of alcohol,
drugs, homelessness, physical violence and under age sex in addition to
the car thieving that is implied in the title.
With all these issues watching 'Crash' could have been a tedious affair.
Quite the opposite, it is a very funny play - although I'm not sure
that those in the audience aged 30+ like me laughed more loudley that
the 17 year olds who were sat next to me. But then young people are a
very hard audience to please! Amongst the laughter some hard truths
were expressed - especially as we get to know Wes, the black sheep of
this social flock who yearns for the very things Elin is so ready to
reject.
I'm sure most young people will be able to relate to the frustrations of
Elin and her friend, Rhys. They feel like adults and yet they are ruled
by their parents' rules - parents who think it far more important to do
your homework and revise for exams, rather than hanging out with
friends enjoying yourself.
But the truly brave thing about Williams's vision is the way she turns
'Crash' into the story of Elin's fall from grace.
This is a middle class girl who plays around with damaged Wes. Elin
fools herself into believing that Wes's tragic destitutness is
preferable that putting up with a telling off by loving parents who only
want the best for her in the long term. Elin manages to persuade
herself - and Wes - that her parents are a real pain - and she falsely
insinuates that her father's discipline borders on being physical
violence.
I don't want to reveal the whole story but Williams deals with her
material in a very skilfull way feeding us with details of the
background of the characters in little snippets rather than blurting it
all out in one go. At the other end of the spectrum from Wes is Rhys,
the country boy, likeable but less daring, who is in love with Elin
himself - but is far to scared to say so.
Is it any wonder considering the pressure young people today are under
that a few loose their way in a maze of alcohol, drugs, sex or the
'buzz' of driving a car at speed? They want to forget for one moment -
and I'm sure as 'boring' adults we can relate to that.
Much of the success of the play must be attributed to three great
performances. I have no doubts that the young actors succeeded in
capturing the energy, insecurity and excitement of youth in their chat
and movement. Rhiannon Morgan, as Elin, manages to portray her fall
from grace and hold on to our sympathies almost to the end. Dafydd Rhys
Evans lives Wes, the young man with an attitude problem, who turns the
cruel act at the end of the play into a kind kiss. And Rhys ap Trefor
as Rhys brings to life a character that could be pure comic - and
demands our sympathy to the tragic end. A future star I think.
Exciting 'Crash'. That is the opinion of one 30 something anyway - but
who am I a 'boring' adult to express an opinion? As the young people in
the drama who demand their voices be heard, buy your ticket and judge
for yourself.
" |
| adolygiad gan: |
Meleri Wyn James, |
| |
|
| |
|
|
Llyfrau'n
Taro Deg 2004
Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams, Ffion Wyn Bowe
LLyfrau'n Taro Deg 2004
" • Mae’n werth cael
cyfle i weld pytiau o’r nofelau hyn, mae’r plant wrth eu bodd gyda’r
perfformiadau egniol.
• Roedd pawb wedi mwynhau y sioe yn fawr, a
mae pawb eisiau darllen y llyfrau oedd yn cael eu trafod.
• Mae’r syniad o actio darnau o lyfrau i annog pobl ifanc i ddarllen yn
wych.
It is good to have the chance to see these extracts from the novels, the
children really enjoy the energetic performances.
Everyone enjoyed the show very much, and everyone now wants to read the
books that were discussed.
The idea of acting out parts of books in order to encourage young people
to read is an excellent one.
" |
| adolygiad gan: |
, |
| |
|
| |
|
|
Merch
Cae Bach
Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Megan a Lowri ar Merch Cae Bach
" "Roedd y sioe yn
arbennig. Roedd yn swnio fel petai'r actorion wedi byw trwy'r ail ryfel
byd. Roedd acen Lerpwl Rhiannon yn gret a Sara a Eifion yn actio'n
arbennig. Ein hoff ran oedd pan oedd Eifion, Sara a Rhiannon yn mynd yn
deulu mawr. Mwynheuom y seiren yn canu."" |
| adolygiad gan: |
Megan a Lowri, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, |
| |
|
| |
|
|
Penbobi
Hapus/Happy Bobiday
Gan Jeremy Turner
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner a Sera Moore Williams
Penbobi Hapus - adolygiadau
ysgolion
" "Stori a'r plot yn
datblygu mewn ffordd hwylus. Plant wedi mwynhau ac eisiau mynd eto".
(Ysgol Gymraeg y Fenni)
"Yn arbennig o dda - digon o symud i gadw diddordeb y plant. Yr amseru
yn berffaith hefyd - dim yn rhy hir. Ardderchog." (Ysgol Gynradd
Llandysul)
"Mae ein hysgolion ni yn Ne Ddwyrain Cymru yn cymryd plant sydd, yn
gyffredinol, yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Prin iawn yw'r adnoddau ar
gyfer plant tebyg i hyn: mewn sioeau yn y gorffennol arsylwais naill ai
fod fafon yr iaith yn rhy gymleth neu fod y perfformiad yn aneglur. Dw i
'di dod a'r plant yn ol i'r ysgol ar ol sioe, heb syniad beth oedd y
sotri.
Yn y perfformiad yma roedd pob gair yn eglur, y perfformiad yn fywiog a
lliwgar. Cafodd y plant fwynhad - ac roeddent i gyd wedi deall dilyniant
y stori." (Athrawes a aeth a 56 o blant i Theatr Brycheiniog)" |
| adolygiad gan: |
, |
| |
|
| |
|
|
Lleuad
yn Olau
Gan T Llew Jones
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Lleuad yn Olau - ymatebion
ysgolion
" Ymatebion Lleuad
yn Olau Haf 2005
“Rydw i’n meddwl fod eich sioe yn ardderchog…Hoffais i y mochyn pan
roedd o’n sharad ond roedd e wedi marw! Roeddwn i yn adnabod y
gerddoriaeth gwerin roedd yr actorion yn chwarae fel Hen Fenyw Fach Gyd
Weli. Hoffwn yn fawr iawn os fyddech yn dramateiddio perfformia o
Trysor Plas y Wernen gan T Llew Jones”.
(disgybl blwyddyn 5, Ysgol Gymraeg Bro Eirwg)
“..Gwnes i, ac yn bwysicah y plant..fwynhau’r cynhyrchiad. Roedd yn
brofiad gwirioneddol gwerth chweil ac mae’r palnt o Landdaniel yn dal i
son amdano weithiau, ac wedi mynd nol at lyfr T Llew i’w clywed eto.
Diolch yn fawr am gael ein tywys ar hyd y llwybrau lledrithiol”.
(Mared Lewis, Llanddaniel, Mon)
“Dim yn aml mae cyfle yn yr ardal yma i weld perfformiad yn Gymraeg fel
teulu gyda’n gilydd, felly hoffwn ddiolch i’r cwmni. Gwnaeth y plant
fwynhau mas draw..Roeddynt wedi mwynhau y ffordd gwnaeth ond 5 person
ddod a chymaint o gymeriadau i’r llwyfan, heb adael y llwyfan o gwbl, a
syndod mwyfa fy mab odd sut yn y bydd roedd y tri ysbryd yn gallu
eistedd mor llonydd mor hir. Diolch am brynhawn difyr
(Diana Adams, Caerdydd)
" |
| adolygiad gan: |
, |
| |
|
| |
|
|
Merch
Cae Bach
Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
T. Jones - Merch Cae Bach
" “Perfformiad
arbennig o dda oedd yn llawn hiwmor ond â negeseuon pwysig”.
" |
| adolygiad gan: |
T.Jones, Ysgol Brechfa, |
| |
|
| |
|
|
Hel
Meddyliau
Gan Jeremy Turner et al.
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Ysgol Gymraeg Aberystwyth - Hel
Meddyliau
" “Roedd y plant
wedi mwynhau y perfformiad yn fawr iawn – roeddwn yn hoff iawn o’r
gweithdy ar y diwedd hefyd. Thema teimladau’n addas iawn i’r oedran.” " |
| adolygiad gan: |
Ysgol Gymraeg, Aberystwyth., |
| |
|
| |
|
|
Hel
Meddyliau
Gan Jeremy Turner et al.
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Hel Meddyliau - Ysgol
Rhydypennau
" “Perfformiad gwych
yn dal sylw plant ifanc am gyfnod go hir.” " |
| adolygiad gan: |
Ysgol Rhydypennau., |
| |
|
| |
|
|
Crash -
Sioe i Ysgolion 2007
Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Crash - ymateb gan Dr Minchin,
Ysgol Penglais
" Congratulations to
the performers who did four exhausting shows and discussions in
Penglais on Monday and Tuesday and really got the students talking and
thinking. Your plays always make a big impact and this was no exception.
So thank you all very much. We look forward to seeing you again next
year.
Ann Minchin PSHE Co-ordinator.
Llongyfarchiadau i’r perfformiwyr am wneud pedair sioe egniol iawn yn
Ysgol Penglais ddydd Llun a Mawrth, ac am y trafodaethau a lwyddodd i
ysgogi’r myfyrwyr i feddwl a thrafod. Mae eich dramâu bob amser yn creu
argraff mawr a doedd hon ddim yn eithriad. Llawer o ddiolch i chi i
gyd, ‘rydym yn edrych ymlaen i’ch gweld eto y flwyddyn nesaf.
Ann Minchin Cydlynydd ABCh.
" |
| adolygiad gan: |
Dr Ann Minchin, Ysgol Penglais Aberystwyth, |
| |
|
| |
|
|