| |
ARDDANGOSFA JENNY
HUGHES |
|
Awdur:
Cyfarwyddwr:
Nos Fercher 12.11.08 bu lawnsio arddangosfa gwych yr
artist lleol Jenny Hughes. Newydd raddio o Goleg Celf Caerfyddin mae
Jenny ac wedi bod yn artist preswyl yn stiwdio Arad Goch ers ychydig
fisoedd. Wedi'r arddangosfa bydd Jenny yn derbyn gwahoddiad i fynd i
weithio yn Iwerddon. Galwch mewn i brofi gwaith arbennig Jenny yng
Nghanolfan Arad Goch bob dydd tan 15.11.08.
Cast:
Blwyddyn: 2012
|
| |
darllenwch
adolygiadau ARDDANGOSFA JENNY HUGHES yma....
|
| |
TWM SION CATI |
|
'Gwell na Robin Hood'
Awdur: Jeremy Turner
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Bydd y lleidr penffordd enwog Twm Sion Cati yn carlamu o
gwmpas heolydd Cymru unwaith eto eleni – felly byddwch yn barod. Yn
wahanol i 400 mlynedd yn ôl ni fydd yn dwyn wrth neb, yn hytrach bydd yn
rhoi perfformiad llawn hwyl a chaneuon i’r gymuned gyfan.
Creadigaeth Cwmni Theatr Arad Goch yw’r Twm yma, wedi’i selio ar straeon
a chwedloniaeth mae’r sioe yn llawn campau, castiau a cherddoriaeth.
Pa ffordd gwell o ymuno yn nathliadau 400 mlynedd ers marw yr arwr
gwerinol o Dregaron, na chael eich tywys yn ôl i’r 16eg ganrif i ganol
byd ymysg lladron, llawn pheryglon yng nghwmni cast dawnus ‘Twm Sion
Cati’.
Cast:
Criw llawn bwrlwm bydd yn carlamu o gwmpas Cymru gyda'r sioe
hwyliog sef Emyr Bell, Mark Roberts, Ffion Wyn Bowen, Ioan Gwyn a Lowri
Sion. Blwyddyn: 2009
|
| |
darllenwch
adolygiadau TWM SION CATI yma....
|
| |
TAFLIAD CARREG / STONES
'09 |
|
Awdur: gan / by Tom Lycos a Stefo
Nantsou
Cyfarwyddwr: Tom Lycos
Yn dychwelyd i lwyfannau Cymru yr Hydref yma daw’r ddrama
wefreiddiol tafliad carreg. Cyfle i gynulleidfaoedd o bob oed brofi’r
ddrama syml a phwerus yma unwaith yn rhagor.
Stori dau fachgen cyffredin yw tafliad carreg – ond o ganlyniad i un
weithred difeddwl maent mewn sefyllfa anghyffredin ac yn wynebu
cyhuddiad o ddynladdiad. Ers llwyfannu’r ddrama gyntaf ym 1996 fe’u
pherfformiwyd yn Awstralia, Ewrop, Gogledd America ac Asia a’u
chyfieithu i 20 iaith wahanol. Mae tafliad carreg Arad Goch yn llwyddo
i wneud y stori wir yma yn un Gymreig iawn – mae pawb yn adnabod
bechgyn tebyg.
Gyda cherddoriaeth fyw yn gyfeiliant cyffrous i’r comedi a’r crio, dyma
sioe rymus sy’n hoelio sylw. Yn dangos sut mae un foment o wallgofrwydd
yn gallu gadael creithiau oes a bywyd yn medru newid gyda thafliad
carreg.
Cast:
Dewch i weld Iwan Charles a Rhodri Trefor yn y ddrama hollol
wych yma. Awr o theatr ar ei orau. Mae'r ddau yn brysur yn dringo
ysgolion a dringo'i gilydd(!) yn y stafell ymarfer ar hyn o bryd. Sioe
syml ydyw gyda stori gafaelgar am ddau fachgen ifanc sef Wiwer a Trwbwl.
Ni gyd yn adnabod bechgyn tebyg - dewch i weld sut mae eu byd yn newid
yn llwyr gyda tafliad carreg. Mae Iwan a Rhodri yn wynebau cyfarwydd ar
lwyfan a theledu, wedi actio gyda chwmnïau Bara Caws a’r Fran Wen ac
ymddangos yn ‘Emyn Roc a Rôl’ a ‘Tipyn o Stad’ ymysg pethau eraill. Dyma
fydd y trydydd tro i Iwan gamu i dracwisg Wiwer y crwt ifanc, mae
rhywbeth am y darn yn denu Iwan yn ôl dro ar ôl tro.
Blwyddyn: 2009
|
| |
darllenwch
adolygiadau TAFLIAD CARREG / STONES '09 yma....
|
| |
RWTSH RATSH RALA RWDINS |
|
Awdur: Angharad Tomos
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Ydych chi eisiau rhannu cyfrinach? Ydych? Yn fwy pwysig,
rhannu cyfrinach fawr y Dewin Doeth? Dewch felly i ymuno gyda Rwdlan,
Dewin Dwl a’r Llipryn Llwyd ar antur fawr eich bywyd. Dyma sioe liwgar
yn llawn canu, chwerthin a chyffwrdd â’r sêr yng nghwmni ein holl
ffrindiau o Wlad y Rwla.
Sioe addas i blant 3 -8 oed
Bydd y sioe, sy'n rhan o ddathliadau 20 mlynedd y cwmni, ar daith o
amgylch Cymru o'r 19eg o Fai tan y 4ydd o Orffennaf.
Cast:
Blwyddyn: 2009
|
| |
darllenwch
adolygiadau RWTSH RATSH RALA RWDINS yma....
|
| |
Dros y Garreg / Over
the Stone (2008-09) |
|
Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Mae’r ddrama yn ymdrin â phroblemau ymddygiad merch fach.
Mae i’r ddrama arddull weledol gref ochr yn ochr â thraddodiad straeon
gwerin a straeon celwydd golau ag iddynt naws Cymreig.
Cynhyrchiad newydd o sgript a luniwyd gan Mari Rhian Owen ym 1995.
Fe’i gyflwynir yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Addas ar gyfer blynyddoedd 1 a 2
Cast:
Ffion Wyn Bowen a Marc Roberts Blwyddyn: 2009
|
| |
darllenwch
adolygiadau Dros y Garreg / Over the Stone (2008-09)
yma....
|
| |
Yr Ystafell Aros/The
Waiting Room |
|
drama newydd Caryl Lewis
Awdur: Caryl Lewis
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Drama i bobl ifanc ac oedolion. Yn addas i 13+
Yr Awdur:
Mae Caryl Lewis yn awdur amryddawn. Mae wedi ennill gwobrau am ei
nofelau – efallai mae’r nofel a’i gwnaeth yn enw cyfarwydd yw Martha,
Jac a Sianco a enillodd wobr LLyfr y Flwyddyn iddi yn 2005 ac a ryddheir
fel ffilm yn fuan. Mae hefyd yn brofiadol fel awdur i bobl ifanc gan
ennill gwobr Tir-Na-Nog am Iawn Boi! yn 2004. Dyma yr ail ddrama i Arad
Goch ei chomisiynu gan Caryl.
Y Ddrama:
Mae yna ystafelloedd aros ymhobman - yn y clinig iechyd, yn y ganolfan
brawf gyrru, yn yr orsaf drenau ac hyd yn oed y tu ôl i'r llwyfan. Pan
wyt ti'n aros i dy fywyd ddechrau, mae'r byd yn medru teimlo fel un
ystafell aros fawr.
Dyma ddrama am dyfu i fyny. Drama sy'n cwestiynu ein syniad o
'lwyddiant'. Drama sy'n edrych ar pa mor wahanol gall aelodau o'r un
teulu fod. Dilynwn frawd sy'n serennu ar lwyfannau, chwaer sy'n aros i'w
bywyd ddechrau yn ôl adref a mam sydd â chyfrinach fawr fydd yn
gwyrdroi bywydau'r tri am byth.
Os hoffech fwcio perfformiad/au or cynhyrchiad hwn fydd yn teithio rhwng
27 Hydref a 29 Tachwedd 08 cysylltwch â: Heledd Evans 01970 617998;
heledd@aradgoch.org; Stryd y Baddon, Aberystwyth SY23 2NN
Cast:
Ioan Gwyn, Mari Beard Blwyddyn: 2008
|
| |
darllenwch
adolygiadau Yr Ystafell Aros/The Waiting Room yma....
|
| |
YR YSTAFELL AROS / THE
WAITING ROOM |
|
Awdur: Caryl Lewis
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Yr Ystafell Aros / The Waiting Room gan yr awdures
boblogaidd Caryl Lewis fydd cynhyrchiad nesaf Arad Goch i Ysgolion
Uwchradd. Anelir y ddrama at ddisgyblion blynyddoedd 9, 10, 11 a’r 6ed
ddosbarth, ac fe fydd ar daith rhwng y 23ain o Fedi a’r 20fed o Hydref.
Dyma ail ddrama Caryl Lewis i Arad Goch. Mae hon yn ymwneud â hunaniaeth
pobl a'r rhwystrau mae rhai pobl ifanc yn gorfod eu hwynebu wrth geisio
darganfod pwy ydynt mewn gwirionedd. Dyma ddrama am dyfu i fyny. Drama
sy'n cwestiynu ein syniad o 'lwyddiant'. Drama sy'n edrych ar pa mor
wahanol gall aelodau o'r un teulu fod. Dilynwn frawd sy'n serennu ar
lwyfannau, chwaer sy'n aros i'w bywyd ddechrau yn ôl adref a mam sydd â
chyfrinach fawr fydd yn gwyrdroi bywydau'r tri am byth.
Mae'r cynhyrchiad hwn ar gael naill ai yn Gymraeg neu yn Saeseng
Cast:
Ioan Gwyn a Mari Beard Blwyddyn: 2008
|
| |
darllenwch
adolygiadau YR YSTAFELL AROS / THE WAITING ROOM yma....
|
| |
MWNCI AR DAN / BURNING
MONKEY |
|
Awdur: Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Rhwng 14 Ionawr a 20 Chwefror 2008 bydd Cwmni Theatr Arad
Goch yn teithio cynhyrchiad newydd sbon. Mwnci ar Dân yw enw’r gwaith.
Wrth galon Mwnci ar Dân, mae hanes bachgen ifanc anniddig sy'n chwilio
am fywyd gwell, a'i gariad sydd hefyd a'i breuddwydion. Mae dieithryn yn
rhan o'r stori hefyd, oedolyn â gorffennol garw a stori drist i'w
datgelu. Mae'r ddrama yn trafod cyfrifoldeb yr unigolyn am ei hunan a
thros eraill, gyda phwyslais efallai ar y cyfrifoldeb a ddaw yn sgil bod
yn riant.
Mae’r ddrama hon yn dilyn yn nhraddodiad cynyrchiadau diweddar gan Gwmni
Theatr Arad Goch – cwmni sy’n arbenigo mewn gwaith i blant a phobl
ifanc. Fel Crash, gan yr un awdur a fu’n teithio yn Ionawr/Chwefror
2007, mae’n ddrama sy’n mynd i’r afael a bywyd pobl ifanc heddiw. Mae
gwaith Sêra Moore Williams wedi ennill ei blwyf ymhlith disgyblion ysgol
a’u hathrawon fel gwaith sy’n berthnasol, yn ddifyr iddynt, a gwaith
sydd o help gyda gofynion gwaith cwrs yn Llenyddiaeth Saesneg,
Llenyddiaeth Cymraeg a Drama. Daeth grwpiau sylweddol o ysgolion
uwchradd a chlybiau ieuenctid i weld Crash, yn ogystal ag uniogolion o
bob oed, ac rydym yn hyderus yn sgil eu hymateb i’r gwaith hwnnw y daw
cynulleidfaoedd da eto i weld y ddrama hon.
Manylion:
Dyddiadau: 14 Ionawr - 20 Chwefror 2008
Iaith: Ar gael yn Gymraeg a Saesneg (bydd pecyn paratoi i ddysgwyr a
phecyn gwaith i ysgolion ar gael)
Oed: Addas i bawb dros 13+
Hyd: Oddeutu Awr
Gofod perfformio: Stiwdio neu neuadd neu lwyfan theatr cymharol fach
Cast:
Blwyddyn: 2008
|
| |
darllenwch
adolygiadau MWNCI AR DAN / BURNING MONKEY yma....
|
| |
Rhieni Hanner Call a
Gwyrdd/The Impossible Parents Go Green |
|
Awdur: addasiad Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Mae newid ffordd o fyw er mwyn achub y blaned yn beth da
iawn yn tydi? Wel nac ydy wir os taw’r ‘Rhieni Hanner Call a Gwirion’
sydd wrthi! Unwaith eto mae’r rhieni gwirion yn embaras llwyr i’w plant
call, Nia a Wyn, wrth iddynt droi’n wyrdd go iawn! Addasiad llwyfan
byrlymus gan Gwmni Theatr Arad Goch o lyfr hyfryd Brian Patten “Rhieni
Hanner Call a Gwyrdd”. Addas i blant 7-11 oed.
Cast:
Sara Harris-Davies; Darren Stokes; Mari Wyn; Dafydd Rhys
Evans; Lowri Sion. Blwyddyn: 2007
|
| |
darllenwch
adolygiadau Rhieni Hanner Call a Gwyrdd/The Impossible
Parents Go Green yma....
|
| |
Crash (2007) |
|
drama 'galed' llawn hiwmor
Awdur: Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Yn dilyn llwyddiant taith fer Crash yn 2005 penderfynwyd
cynnig cyfle arall i'w gweld.
Drama sy'n delio a phynciau sy'n berthnasol i'n pobl ifanc yw hon -
pwysau cyfoedion, disgwyliadau rhieni, alcohol, cyffuriau, digartrefwch a
thrais. Yr hyn a geir yw darn o waith pwerus, bywiog a llawn hiwmor.
Mewn adolygiad soniodd yr awdures Meleri Wyn James am y 'buzz' a gafodd
wrth wylio'r ddrama ac am yr egni a'r bwrlwm a ddaw o'r perfformiad.
Positif oedd ymateb pobl ifanc a'i gwelodd a hynny wedi ei fynegi mewn
iaith nodyn bodyn - "lol"!
Mae hon yn ddrama ac iddi apel ryngwladol.
Mae'r ddrama yn cael ei hyrwyddo bellach gan asiant yn yr Almaen ac fe
fydd sawl cynhyrchiad ohoni yno o fis Medi ymlaen.
Cast:
Robin Ceiriog, Dafydd Rhys Evans, Rhiannon Morgan
Blwyddyn: 2007
|
| |
darllenwch
adolygiadau Crash (2007) yma....
|
| |
Llyfrau'n Taro 10 2006 |
|
Awdur:
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Cynllun ar y cyd â’r Cyngor Llyfrau sy’n cyflwyno pytiau o
lyfrau newydd mewn modd bywiog a difyr.
Sioe i flynyddoedd 7,8 a 9.
Cast:
Ffion Wyn Bowen
Dafydd Rhys Evans
Robin Ceiriog Blwyddyn: 2006
|
| |
darllenwch
adolygiadau Llyfrau'n Taro 10 2006 yma....
|
| |
Crash |
|
Drama Gomisiwn Arad Goch Eisteddfod
Eryri 2005
Awdur: Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Nos Fercher - Nos Wener 3-5 Awst, 8pm, Neuadd JP,
Prifysgol Bangor. Bws yn rhad ac am ddim o'r maes ac yn ol (7.30pm o'r
man codi gyferbyn a maes parcio 1).
Pobl ifanc eisiau cael hwyl a chymryd risg, eu rhieni eisiau iddynt
basio arholiadau o leiaf cyn gystal a phlant y cymdogion) a chael swyddi
breision. Problemau oesol mewn cyd-destun modern.
Anaddas i unrhywun dan 11ish!
"Yng nghanol y chwerthin mae yna wirioneddau chwerw yn dod i'r
wyneb...tri perfformiad arbennig...mynnwch eich tocyn." - Meleri Wyn
James
Tocynnau £5 (neu 5 am bris 4) ar gael o Siop Pendref, Bangor, Palas
Print, Caernarfon, Arad Goch,Aberystwyth, Theatr y Maes.
am fanylion pellach cysylltwch a Cwmni Theatr Arad Goch, Stryd y Baddon,
Aberystwyth 01970 617998; post@aradgoch.org
Cast:
Rhys ap Trefor
Rhiannon Morgan
Dafydd Rhys Evans Blwyddyn: 2005
|
| |
darllenwch
adolygiadau Crash yma....
|
| |
Lleuad yn Olau |
|
Awdur: T Llew Jones
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Detholiad o lyfr lledrithiol T Llew Jones
Addas i blant 7-11 oed
Mae pawb yn hoffi stori dda ac mae cyfrol T Llew Jones ‘Lleuad yn Olau’
yn llawn chwedlau gwych. Mae yma storïau o’r Mabinogi, storïau sy’n
gyffredin i nifer o’r gwledydd Celtaidd, storïau sy’n seiliedig ar hanes
Cymru; mae yma dylwyth teg, cewri, gwrachod a hud a lledrith. Mae
rhain yn storïau sydd wedi sefyll prawf amser, maent yn ein cludo yn ôl
mewn amser, ond eto maent mor berthnasol ag erioed. Storïau cyffrous,
byrlumus ydynt fydd yn swyno cynulleidfaoedd o blant ac oedolion fel ei
gilydd.
Bydd ein sioe yn cynnwys detholiad o’r storïau yma a’r detholiad hwnnw
yn sicr o gynnwys y stori sy’n rhoi i lyfr T. Llew Jones ei deitl
“Lleuad yn Olau”.
Cast:
Ffion Wyn Bowen, Rhiannon Morgan, Iwan Charles, Eifion Dafydd,
Owain Llŷr Edwards
Blwyddyn: 2005
|
| |
darllenwch
adolygiadau Lleuad yn Olau yma....
|
| |
Llyfrau'n Taro Deg 2004 |
|
Awdur:
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams, Ffion
Wyn Bowe
Bydd y cwmni yn perfformio pytiau o bump nofel Gymraeg
newydd i bobl ifanc yn eu harddegau – Snogs a Sgribls Hogan Flêr, Y Fo
yn y Ty, Beicio yn y Gwaed, Streic a Noson Boring i Mewn. “Mae’r sioe
yn troi’r rhyddiaith yn ddarn o theatr bywiog, fformat sy’n amlwg yn
llwyddo i berswadio pobl ifanc bod llyfrau yn medru bod yn ddiddorol a
pherthnasol iddyn nhw”, meddai Sera Moore Williams un o’r tîm o
gyfarwyddwyr sy’n gweithio ar y sioe “Llyfrau’n Taro Deg”; ac ar ran y
Cyngor Llyfrau meddai Menna Lloyd Williams “rydym yn sicr y bydd y
disgyblion yn cael blas ar y perfformiadau yn ogystal a’r llyfrau”.
Cast:
Mae’r actorion Rhiannon Morgan, Owain Llŷr Edwards ac Eifion
Dafydd yn wynebau cyfarwydd i unrhywun sydd wedi gweld gwaith diweddar
Arad Goch. Mae’r tîm cyfarwyddo hefyd a chysylltiad hir â’r cwmni –
Ffion Wyn Bowen, Sera Moore Williams, a Gareth Potter sydd newydd
ddychwelyd o Kosovo lle bu’n cyfarwyddo drama yn iaith frodorol Albania
Blwyddyn: 2004
|
| |
darllenwch
adolygiadau Llyfrau'n Taro Deg 2004 yma....
|
| |
Caneri Gwylan a Bran |
|
Sioe yn y Drwm, Llyfrgell
Genedlaethol Cymru
Awdur: Jeremy Turner/ Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner a Ffion Bowen
Cyflwyniad theatrig i blant blynyddoedd 5, 6 a 7 sy'n
gwau hen chwedlau a hanes lleol ynghyd gan ddefnyddio ffilm a thechnegau
modern. Stori antur sy'n dilyn llwybr plentyn wrth iddi ddatrys
cwestiynau a chanfod fod taith drwy hanes a gwybodaeth yn brofiad o
ddarganfod a chyffro.
Bydd perfformiadau yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cynru, Aberystywth
Cast:
Rhiannon Morgan
Eifion Dafydd Blwyddyn: 2004
|
| |
darllenwch
adolygiadau Caneri Gwylan a Bran yma....
|
| |
Letus |
|
Drama Gomisiwn Eisteddfod
Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2003
Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Drama wedi ei hysbrydoli gan hanesion am Lis Letus, ydi'r
ddrama gomisiwn yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003.
Dynes fu'n crwydro Maldwyn am flynyddoedd oedd Lis Letus, a down i wybod
bob yn dipyn am ei charwriaeth anarferol yn ystod cwrs y ddrama, pan
mae'n edrych yn ôl dros ei gorffennol.
Mae'r ddrama wedi ei lleoli yn bennaf yn ystafell y meddyg mewn wyrcws,
wrth i Lis, (Sara Harris-Davies) sydd bellach yn heneiddio, siarad
gyda'r doctor (Meilyr Siôn) mae'n datgleu hanesion am ei gorffennol a'i
phresennol.
Awn yn ôl ac ymlaen rhwng y gorffennol a'r presennol, a gwelwn olygfeydd
o Letus yn cyfarfod ei chariad (Iwan Tudor.)
Cast:
Sara Harris-Davies
Meilir Sion
Iwan Tudor Blwyddyn: 2003
|
| |
darllenwch
adolygiadau Letus yma....
|
| |
Llyfrau sy'n Taro 10 |
|
Awdur: Criw Arad Goch
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Cast:
Blwyddyn: 2003
|
| |
darllenwch
adolygiadau Llyfrau sy'n Taro 10 yma....
|
| |
Twm a Mati Tat a'r
Ddoli |
|
Awdur: Martin Morgan
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Mae rhan o waith Arad Goch yn canolbwyntio ar drosglwyddo
llenyddiaeth Gymraeg i theatr fyw a chyfoes. Mae'r Cwmni yn credu'n
gryf mewn hybu llenyddiaeth Gymraeg ac annog plant i ddarllen gan ddod a
theatr fyw, llawn hwyl a chyffro o flaen llygaid plant Cymru.
Cast:
Ffion Wyn Bowen
Sara Harris- Davies
Rhys ap Trefor
Eifion Dafydd
Darren Stokes Blwyddyn: 2003
|
| |
darllenwch
adolygiadau Twm a Mati Tat a'r Ddoli yma....
|
| |
Cinio Ysgol |
|
Awdur: Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Mae'r sioe yma yn cynnig golwg ysgafn a chyffrous ar ran
o'r maes llafur gwyddoniaeth trwy lygaid y cymeriadau holl bwysig yna-
bobl y gegin sy'n paratoi bwyd i'r plant.
Cast:
Ffion Wyn Bowen
Delyth Wyn Blwyddyn: 2003
|
| |
darllenwch
adolygiadau Cinio Ysgol yma....
|
| |
Brig Credo |
|
Yr ymfudiad i'r 'byd newydd' yn yr
Amerig
Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Sioe am hanesion y bobl hynny a ymfudodd o Gymru i
gyfandiroedd pell yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn fwy penodol yr
ymfudiad i'r 'byd newydd' yn yr Amerig. Dyma stori ddychmygol am
fordaith, antur a newid byd - wedi'i seilio ar ffeithiau a digwyddiadau
hanesyddol wir.
Cast:
Eifion Dafydd
Huw Emlyn
Rhys ap Trefor
Rhiannon Morgan Blwyddyn: 2003
|
| |
darllenwch
adolygiadau Brig Credo yma....
|
| |
Nel |
|
Awdur: Dora Jones a Jeremy Turner
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Prosiect theatr mewn addysg i flynyddoedd 1 a 2 sy'n
edrych ar y ffordd mae plant bach yn trin eu gilydd. Dyna fyrdwn y
cyflwyniad - gwneud ffrindiau, eu cadw a'u gwarchod.
Cast:
Dora Jones Blwyddyn: 2002
|
| |
darllenwch
adolygiadau Nel yma....
|
| |
Conffeti |
|
Awdur: Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Yn gymysgedd egniol o hiwmor ag anobaith, i gyfeiliant
cerddoriaeth fyw, cred Arad Goch bod Conffeti yn darparu profiad
theatrig cynhyrfus i bobl ifanc. Mae'r ddrama yn cyffwrdd ar ystod eang o
bynciau sy'n gysylltiedig a chyfrifoldeb gan gynnig man cyhwyn i
drafodaethau dosbarth am berthynas, bwlio, rhyw a chyffuriau.
Cast:
Iwan Charles
Owain Llyr Edwards
Rhys ap Trefor Blwyddyn: 2002
|
| |
darllenwch
adolygiadau Conffeti yma....
|
| |
Y Sied |
|
Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Mae Arad Goch yn aml yn creu cynyrchiadau newydd sbon ar
gyfer plant a phobl ifanc. Er mai drama i blant yw y Sied, nid drama am
blant yw hi. Mae'n ymdrin a materion sensitif a phynciau dyrys
Cast:
Delyth Wyn
Huw Llyr
Llion Williams Blwyddyn: 2002
|
| |
darllenwch
adolygiadau Y Sied yma....
|
| |
Heri Pers |
|
'Rwy'n gallu gwneud Unrhywbeth'
Awdur: Jeremy Turner
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Cynhyrchiad ar y cyd rhwng Arad Goch ac Awdurdod Datblygu
Cymru er mwyn hybu diwylliant o entrepreneuraiaeth yng Nghymru. Mae'r
ddrama wedi ei lleoli yn gryf iawn mewn ardal wledig, ac felly yn
berthnasol iawn i gymuned ac i economi cefn gwald. Prif neges y cynllun
yw mentro a'r syniad o 'Rwy'n gallu gwneud unrhywbeth'
Cast:
Meilyr Sion
Rhian James
Rhiannon Morgan
Mathew Pegram Blwyddyn: 2001
|
| |
darllenwch
adolygiadau Heri Pers yma....
|
| |
Stones/ Tafliad Carreg |
|
Dau fachgen... un weithred ffol...
creithiau oes
Awdur: Tom Lycos a Stefo Nantsou
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Cydweithrediad rhwng Arad Goch a Zeal Theatre o Awstralia
yw'r ddrama hon. Mae cynhyrchiad Arad Goch wedi ei chyfarwyddo gan y
perfformwyr gwreiddiol o Awstralia.
Dramateiddiad o stori go iawn - dau fachgen yn wynebu cyhuddiad o
ddynladdiad am daflu cerrig oddi ar bont traffordd, a lladd doctor yn ei
gar ar ei ffordd adre yn 1994.
Cast:
Blwyddyn: 2000
|
| |
darllenwch
adolygiadau Stones/ Tafliad Carreg yma....
|
| |
Culhwch ag Olwen |
|
Awdur: Jeremy Turner
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Mae stori Culhwch ag Olwen yn frith o sefyllfaoedd y gall
plant uniaethu a nhw:llethu drygioni, gwynebu peryglon ac ansicrwydd a
chyflawni uchelgais. Mae anturiaethau a rhyfeddodau'r straeon yn gweddu
i'r dim ag arddull liwgar a chwareus y cwmni.
Cast:
Iwan Charles
Noni Lewis
Ffion Bowen
Rhian James
Owain Llyr Edwards Blwyddyn: 2000
|
| |
darllenwch
adolygiadolygiadau/index.php.htmadau Culhwch ag Olwen yma....
|
| |
Merched y Gerddi |
|
Drama hanesyddol am garfan o bobl
mewn cyfnod arbennig
Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Mae'r cynllun hwn yn cynnwys amrywiaeth o themau
hanseyddol, oesol a chymdeithasol.
Cast:
Heledd Bianchi
Dora Jones
Carys Griffiths
Darren Stokes Blwyddyn: 2000
|
| |
darllenwch
adolygiadau Merched y Gerddi yma....
|
| |
Hen Het |
|
Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Sioe un person yw Hen Het. O bryd i'w gilydd bydd Arad
Goch yn canolbwyntio ar sioeau un person gan gredu ei bod yn ffordd o
gryfhau technegau theatrig gan greu agosatrwydd rhwng yr actor a'r
gynulleidfa. Mae hefyd yn medru bod yn ffordd o godi proffil actorion
Cast:
Mari Rhian Owen Blwyddyn: 2000
|
| |
darllenwch
adolygiadau Hen Het yma....
|
| |
Clychau'r Mor |
|
Awdur: Jeremy Turner
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Mae cyflwyno gwaith traddodiadol a hen chwedlau lleol
mewn ffordd liwgar a chyffrous yn rhan o ethos Arad Goch. Un o chwedlau
enwocaf Cymru yw stori Cantre'r Gwaelod - y pentref coll o dan y mor.
Ond a'i chwedl yw hon? Yn ol y morwyr mae'n bosib clywed clychau'n canu o
dan y dwr.
Cast:
Dora Jones
Ffion Wyn Bowen
Huw Llyr
Iwan Tudor
Rhys ap William Blwyddyn: 1998
|
| |
darllenwch
adolygiadau Clychau'r Mor yma....
|
| |
Parachutes and
Petticoats |
|
Awdur: Gwasg Honno
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Mae'r cynllun hwn wedi ei seilio ar lyfr a argraffwyd gan
Wasg Honno - llyfr sydd yn gofnod o atgofion menywod yn ystod cyfnod yr
Ail Ryfel Byd. Cynllun Theatr Mewn Addysg i flynyddoedd 9 a 10.
Cast:
Dora Jones
Helen Rosser Davies
Iwan Tudor Blwyddyn: 1998
|
| |
darllenwch
adolygiadau Parachutes and Petticoats yma....
|
| |
Rownd y Byd Mewn Lori |
|
Awdur: Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Drwy gyfuniad o ganu, cerddi, a mymrun o ddawnsio
traddodiadol, ynghyd a stori garu gyfoes ac ambell gip ar beth oedd y
Cymry yn arfer ei wneud wrth garu, mae'r cynhyrchiad yn edrych ar y
pethau sy'n ein cyflyru ni nawr wrth ddewis partner a chynnal perthynas.
Cast:
Gwion Huw
Mari Rhian Owen Blwyddyn: 1997
|
| |
darllenwch
adolygiadau Rownd y Byd Mewn Lori yma....
|
| |
Anna Mari lyfs Dic
Wili |
|
Anterliwt gyfoes, ddireidus
Awdur: John Glyn Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Anterliwt gyfoes, ddireidis
Cast:
Gwion Huw
Huw Llyr
Mari Rhian Owen
Ryland Teifi
Sian Meirion Blwyddyn: 1997
|
| |
darllenwch
adolygiadau Anna Mari lyfs Dic Wili yma....
|
| |
Y Ffin |
|
Awdur: Gwenlyn Parry
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Cyflwyniad o ddrama bryfoclyd Gwenlyn Parry. Cyfyd ynddi
lu o gwestiynau sydd o ddiddordeb parhaus- am ein perthynas a'n gilydd,
am ein cyflwr meidrol, am yr awydd i resymu ein bodolaeth, ac am ein
anallu i wneud hynny.
Cast:
Alun Elidyr
Gwion Huw
Lowri Steffan Blwyddyn: 1997
|
| |
darllenwch
adolygiadau Y Ffin yma....
|
| |
Aderyn Glas mewn Bocs
Sgidiau |
|
Bachgen un ar bymtheg oed wedi ei
gloi yn ei ystafell wely...
Awdur: Sian Summers
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Bachgen un ar bymtheg oed wedi ei gloi yn ei ystafell
wely fel penyd am beidio ei glanhau am ddwy flynedd...
Yn y bocsus sy'n llenwi'r ystafell mae atgofion oes gyfan:
teganau...
crys pel droed...
rasal beryglus yr olwg...
Beth yw eu harwyddocad i'r bachgen?
Beth yw ei freuddwydion, ei ddyheadau, a'i chat up lines i Pamela
Anderson?
Cawn weld y byd drwy lygaid unigryw Gary Jones - hynny yw nes daw ei fam
yn ol o'r siopau ac agor y drws...
Cast:
Gwion Huw Blwyddyn: 1996
|
| |
darllenwch
adolygiadau Aderyn Glas mewn Bocs Sgidiau yma....
|
| |
Taliesin |
|
Cyflwyniad o un o chwedlau hynaf a
mwyaf cyffrous Cymru
Awdur: Jeremy Turner
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Mae Arad Goch yn credu mewn defnyddio hen chwedlau er
mwyn dod a hen hanes yn fyw mewn modd cyffrous a sw real. Mae sioe
Taliesin wedi teithio i Iwerddon, Denmarc, Canada a Llundain. Mae'r
stori wedi'i seilio ar stori draddodiadol Taliesin, lle mae'r wrach
Ceridwen am wneud ei mab hyll a thwp yn olygus a galluog.
Cast:
Reyland Teifi
Gwenfair Vaughan Jones
Ioan Evans
Gwion Huw
Sian Meirion Jones
Blwyddyn: 1996
|
| |
darllenwch
adolygiadau Taliesin yma....
|
| |
Cerdyn Post o Wlad y
Rwla |
|
Awdur: Angharad Tomos
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Comisiynwyd Angharad Tomos i ysgrifennu'r ddrama yn
arbennig ar gyfer Arad Goch.Mae'r ddrama yn dilyn helyntion Rala Rwdins,
Rwdlan a chymeriadau hoffus eraill Gwlad y Rwla wrth iddynt fynd ar
wyliau. Ceir hanes y pacio, y plagio a'r picnic rhyfeddol a noson hudol
dan y ser.
Cast:
Rhys Bleddyn
Carys Huw
Gwion Huw
Mair Tomos Ifans Blwyddyn: 1995
|
| |
darllenwch
adolygiadau Cerdyn Post o Wlad y Rwla yma....
|
| |
Sgrech |
|
Awdur: Gareth Ioan
Cyfarwyddwr:
Prif thema Sgrech yw diffyg grym pobl ifanc yn y
gymdeithas. Mae'r ddrama yn edrych ar y modd y mae pobl ifanc yn cael eu
gwahardd o benderfyniadau cymdeithasol a pholiticaidd sy'n effeithio ar
eu bywydau. Mae'r ddrama yn dangos fod gan bobl ifanc eu syniadau a
disgwyliadau eu hunain ac y byddai'n ddoeth i gymdeithas yn gyffredinol
wrando ar y syniadau hynny yn lle eu anwybyddu.
Cast:
Blwyddyn: 1995
|
| |
darllenwch
adolygiadau Sgrech yma....
|
| |
Saer Doliau |
|
Awdur: Gwenlyn Parry
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Cast:
Blwyddyn: 1995
|
| |
darllenwch
adolygiadau Saer Doliau yma....
|
| |
Ffrwgwd y Tad a'r Mab |
|
Awdur: John Glyn Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Golwg ddoniol a direidus ar berthynas oedolion a'r iyngyr
jenyrseion heddiw. Llond bol o chwerthin!
Cast:
Rhys Bleddyn,
Alun Elidyr,
Carys Huw,
Jonathon Nefydd Blwyddyn: 1994
|
| |
darllenwch
adolygiadau Ffrwgwd y Tad a'r Mab yma....
|
| |
Cai (Caligula) |
|
Awdur: Camus
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Cast:
Blwyddyn: 1994
|
| |
darllenwch
adolygiadau Cai (Caligula) yma....
|
| |
Ty Ni |
|
Awdur: Gareth Ioan
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Cast:
Blwyddyn: 1994
|
| |
darllenwch
adolygiadau Ty Ni yma....
|
| |
Hyn oll yn ei Chalon |
|
Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Drama yn seiliedig ar fywyd y Forwyn Fair. Gyda chymorth
cerddoriaeth, symud, barddoniaeth a chan - cawn rannu rhai o
gyfrinachau'r fenyw arbennig hon a chawn gyfle i chwerthin a chrio
efallai wrth rannu rhai o'i phrofiadau dwysaf.
Cast:
Mari Rhian Owen
Mair Tomos Ifans Blwyddyn: 1993
|
| |
darllenwch
adolygiadau Hyn oll yn ei Chalon yma....
|
| |
Yn Ein Dwylo |
|
Drama Fuddugol Eisteddfod
Genedlaethol Ceredigion, Aberystwyth
Awdur: Pam Palmer
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Hanes teulu o Lithuania ar adeg y frwydr dros
annibyniaeth eu gwlad. Brwydr sydd yn ysbrydoli'r fam i wneud safiad
gwleidyddol am y tro cyntaf erioed.
Cast:
Mari Rhian Owen
Sior Llyfni
Rhys Bleddyn
Huw Garmon
Carys Gwilym
Mair Tomos Ifans
Idris Morris Jones
Sian Summers
Blwyddyn: 0000
|
| |
darllenwch
adolygiadau Yn Ein Dwylo yma....
|
| |
Nid Fi / Not Me 2007 |
|
Mae'r cynllun hwn yn gyfrwng i ddod a
phroblemau bwlian i frig ein hymwybyddiaeth ni i gyd, yn help i
ysgolion wynebu'r problemau ac yn bwysicach na dim yn help i'r
disgyblion ei goresgyn.
Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Ioan Evans
Lluniwyd ‘Nid Fi’ er mwyn ceisio dod â’r broblem o fwlio
i’r amlwg, i geisio sirchau bod bobl yn derbyn ei fod yn broblem a thrwy
hynny i wneud rhywbeth cadarnhaol i roi stop ar yr holl ddioddef a
diflastod.
Sali Morgan yw prif gymeriad y ddrama. Merch unig sydd yn byw gyda’i
mam-gu a hynny ers marwolaeth ei mam ac wedi i’w thad dderbyn swydd
newydd yn Dubai. Sali yw’r ddioddefwraig yn y ddrama, a chaiff ei
phryfocio am fod yn ddisgybl newydd yn yr ysgol gan Lydia Thomas. Wrth
i’r ddrama ddatblygu, daw i’r amlwg bod Lydia ei hun yn anahapus
gartref, a chawn yr argraff ei bod yn cuddio y tu ôl i fwgwd wrth
ymddwyn mor gas tuag at eraill. Diwedd y gân yw bod y ddwy yn rhoi
terfyn ar yr holl gweryla, a maes o law yn datblygu i fod yn ffrindiau.
Mae'r cynllun hwn yn gyfrwng i ddod a phroblemau bwlian i frig ein
hymwybyddiaeth ni i gyd, yn help i ysgolion wynebu'r problemau ac yn
bwysicach na dim yn help i'r disgyblion ei goresgyn.
Crewyd y cynllun hwn yn wreiddiol drwy gydweithrediad rhwng Cwmni Theatr
Arad Goch, yr NSPCC, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Dyfed.
Cast:
Ffion Wyn Bowen
Mari Beard
Sioned Wyn Jones
Mark Roberts Blwyddyn: 0000
|
| |
darllenwch
adolygiadau Nid Fi / Not Me 2007 yma....
|
| |
Winter Pictures |
|
Awdur:
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Anturiaethau Heti a Handel, par o lygod bach wrth iddynt
fwynhau pendwmpian yn haul poeth yr haf. Ond daw'r haf i ben, ac maent
yn gorfod paratoi at hirlwm y gaeaf
Cast:
Blwyddyn:
|
| |
darllenwch
adolygiadau Winter Pictures yma....
|
| |
Cwrw Chips a Darlith
Deg |
|
Comedi gan Sian Summers
Awdur: Sian Summers
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Dyma ail hanner stori cymeriad Gary Jones. Mae'r sioe yn
delio gyda amrywiaeth o brofiadau sy'n gyfarwydd i lawer mae'n siwr -
canlyniadau lefel A, disgwyliadau ac ymateb y teulu, y symud, lle newydd
ac estron a cheisio bodoli a byw yno. Comedi un dyn yn son am ddyddiau
Coleg
Cast:
Gwion Huw Blwyddyn:
|
| |
darllenwch
adolygiadau Cwrw Chips a Darlith Deg yma....
|
| |
Rwtsh Ratsh Rala Rwdins |
|
Awdur: Angharad Tomos
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
"Llipryn! Rwyt ti'n eistedd fan hyn yn gwneud dim byd ond
crio a bod yn ddigalon, ac rydw i'n cynnig Antur Mawr dy fywyd i ti.
Fedri di ddim gwrthod!"
Cast:
Rhys Bleddyn
Iwan Charles
Gwen Lasarus
Siwan Bowen Davies Blwyddyn:
|
| |
darllenwch
adolygiadau Rwtsh Ratsh Rala Rwdins yma....
|
| |
Yn y Dechreuad |
|
Awdur:
Cyfarwyddwr:
Cynllun theatr mewn addysg sy'n ymdrin a chrefydd -
Cristnogaeth a Dyneiddiaeth.
Cast:
Blwyddyn:
|
| |
darllenwch
adolygiadau Yn y Dechreuad yma....
|
| |
Dros y Garreg |
|
Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Mae themau'r ddrama hon yn gyfarwydd i bawb sy'n ymwneud a
phlant bach. Merch fach hunanol yw Lizzie sy'n gwrthod rhannu, yn dewis
bod yn ynysig ac yn filain wrth blant eraill. Drwy ofal llongwr caredig
mae hi'n dysgu pwysigrwydd gofalu am ei ffrindiau, trafod ei theimladau
a bod yn gymdeithasol. Mae nhw'n camu gyda'i gilydd "dros y garreg"
tuag adref.
Cast:
Mari Rhian Owen,
Ryland Teifi Blwyddyn:
|
| |
darllenwch
adolygiadau Dros y Garreg yma....
|
| |
Morus y Gwynt ac Ifan y
Glaw |
|
Awdur:
Cyfarwyddwr:
Mae Morus y Gwynt ac Ifan y Glaw yn ddau gymeriad sy'n
adnabyddus i blant Cymru drwy rimigau a cherddi. Yn y cynhyrchiad hwn
clywir hynt a helynt Morus ac Ifan, storiau am eu bywydau direidus, am y
triciau maent yn eu chwarae ar ei gilydd ac ar y bobl sy'n cerdded
islaw.
Cast:
Ffion Wyn Bowen
Ryland Teifi
Iwan Tudor Blwyddyn:
|
| |
darllenwch
adolygiadau Morus y Gwynt ac Ifan y Glaw yma....
|
| |
Ma's o 'Ma |
|
Awdur: Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Comedi am sioe dalent
Cast:
Ioan Evans
Dora Jones
Huw Llyr Blwyddyn:
|
| |
darllenwch
adolygiadau Ma's o 'Ma yma....
|
| |
Nid Fi |
|
Cynllun i ddod a phroblemau bwlian
i'r amlwg
Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams
Mae'r cynllun hwn yn gyfrwng i ddod a phroblemau bwlian i
frig ein hymwybyddiaeth ni i gyd, yn help i ysgolion wynebu'r problemau
ac yn bwysicach na dim yn help i'r disgyblion ei goresgyn.
Cast:
Darren Stokes
Dora Jones
Ffion Wyn Bowen
Siwan Bowen Davies Blwyddyn:
|
| |
darllenwch
adolygiadau Nid Fi yma....
|
| |
Lleuad yn Olau |
|
Awdur:
Cyfarwyddwr:
Dramateiddiad o lyfr T Llew Jones sy'n gasgliad o hen
chwedlau gwerin.
Cast:
Blwyddyn:
|
| |
darllenwch
adolygiadau Lleuad yn Olau yma....
|
| |
Rushes |
|
Awdur: Lucy Gough
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner
Cast:
Blwyddyn:
|
| |
darllenwch
adolygiadau Rushes yma....
|
| |
Rhyfel y Sais Bach |
|
Awdur:
Cyfarwyddwr:
Cast:
Blwyddyn:
|
| |
darllenwch
adolygiadau Rhyfel y Sais Bach yma....
|
| |
Agor Drysau 2008 |
|
Awdur:
Cyfarwyddwr:
Cast:
Blwyddyn:
|
| |
darllenwch
adolygiadau Agor Drysau 2008 yma....
|
| |
Agor Drysau 2008 |
|
Awdur:
Cyfarwyddwr:
Cast:
Blwyddyn:
|
| |
darllenwch
adolygiadau Agor Drysau 2008 yma....
|
| |
|