cartref newyddion arad goch cynhyrchiadau cyhoeddus cynhyrchiadau i ysgolion cysylltwch a ni adolygiadau cynhyrchiadau arad goch afrchif cynhyrchioadau arad goch

Cwmni Theatr Arad Goch - archif sioeau theatr mewn addysg

sioeau cyfredol | sioeau i ddod | sioeau diweddar | archif sioeau theatr mewn addysg

Dyma archif cynhyrchiadau theatr mewn addysg Arad Goch. Ar hyn y bryd rydym wedi ychwanegu manylion 18 o'n hên sioeau Theatr Mewn Addysg i'r bas data

 

Llyfrau'n Taro 10 2006
Gan , Cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Cynllun ar y cyd â’r Cyngor Llyfrau sy’n cyflwyno pytiau o lyfrau newydd mewn modd bywiog a difyr.

Sioe i flynyddoedd 7,8 a 9.
Blwyddyn: 2006
Cast: Ffion Wyn Bowen
Dafydd Rhys Evans
Robin Ceiriog
  darllenwch adolygiadau Llyfrau'n Taro 10 2006 yma....darllenwch adolygiadau Llyfrau'n Taro 10 2006 yma....
   
Caneri Gwylan a Bran
Gan Jeremy Turner/ Mari Rhian Owen, Cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner a Ffion Bowen
Cyflwyniad theatrig i blant blynyddoedd 5, 6 a 7 sy'n gwau hen chwedlau a hanes lleol ynghyd gan ddefnyddio ffilm a thechnegau modern. Stori antur sy'n dilyn llwybr plentyn wrth iddi ddatrys cwestiynau a chanfod fod taith drwy hanes a gwybodaeth yn brofiad o ddarganfod a chyffro.
Bydd perfformiadau yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cynru, Aberystywth
Blwyddyn: 2004
Cast: Rhiannon Morgan
Eifion Dafydd
  darllenwch adolygiadau Caneri Gwylan a Bran yma....darllenwch adolygiadau Caneri Gwylan a Bran yma....
   
Llyfrau'n Taro Deg 2004
Gan , Cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams, Ffion Wyn Bowe
Bydd y cwmni yn perfformio pytiau o bump nofel Gymraeg newydd i bobl ifanc yn eu harddegau – Snogs a Sgribls Hogan Flêr, Y Fo yn y Ty, Beicio yn y Gwaed, Streic a Noson Boring i Mewn. “Mae’r sioe yn troi’r rhyddiaith yn ddarn o theatr bywiog, fformat sy’n amlwg yn llwyddo i berswadio pobl ifanc bod llyfrau yn medru bod yn ddiddorol a pherthnasol iddyn nhw”, meddai Sera Moore Williams un o’r tîm o gyfarwyddwyr sy’n gweithio ar y sioe “Llyfrau’n Taro Deg”; ac ar ran y Cyngor Llyfrau meddai Menna Lloyd Williams “rydym yn sicr y bydd y disgyblion yn cael blas ar y perfformiadau yn ogystal a’r llyfrau”.

Blwyddyn: 2004
Cast: Mae’r actorion Rhiannon Morgan, Owain Llŷr Edwards ac Eifion Dafydd yn wynebau cyfarwydd i unrhywun sydd wedi gweld gwaith diweddar Arad Goch. Mae’r tîm cyfarwyddo hefyd a chysylltiad hir â’r cwmni – Ffion Wyn Bowen, Sera Moore Williams, a Gareth Potter sydd newydd ddychwelyd o Kosovo lle bu’n cyfarwyddo drama yn iaith frodorol Albania
  darllenwch adolygiadau Llyfrau'n Taro Deg 2004 yma....darllenwch adolygiadau Llyfrau'n Taro Deg 2004 yma....
   
Brig Credo
Gan Mari Rhian Owen, Cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Sioe am hanesion y bobl hynny a ymfudodd o Gymru i gyfandiroedd pell yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn fwy penodol yr ymfudiad i'r 'byd newydd' yn yr Amerig. Dyma stori ddychmygol am fordaith, antur a newid byd - wedi'i seilio ar ffeithiau a digwyddiadau hanesyddol wir.
Blwyddyn: 2003
Cast: Eifion Dafydd
Huw Emlyn
Rhys ap Trefor
Rhiannon Morgan
  darllenwch adolygiadau Brig Credo yma....darllenwch adolygiadau Brig Credo yma....
   
Cinio Ysgol
Gan Sera Moore Williams, Cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Mae'r sioe yma yn cynnig golwg ysgafn a chyffrous ar ran o'r maes llafur gwyddoniaeth trwy lygaid y cymeriadau holl bwysig yna- bobl y gegin sy'n paratoi bwyd i'r plant.
Blwyddyn: 2003
Cast: Ffion Wyn Bowen
Delyth Wyn
  darllenwch adolygiadau Cinio Ysgol yma....darllenwch adolygiadau Cinio Ysgol yma....
   
Llyfrau sy'n Taro 10
Gan Criw Arad Goch, Cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Blwyddyn: 2003
Cast:
  darllenwch adolygiadau Llyfrau sy'n Taro 10 yma....darllenwch adolygiadau Llyfrau sy'n Taro 10 yma....
   
Nel
Gan Dora Jones a Jeremy Turner, Cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Prosiect theatr mewn addysg i flynyddoedd 1 a 2 sy'n edrych ar y ffordd mae plant bach yn trin eu gilydd. Dyna fyrdwn y cyflwyniad - gwneud ffrindiau, eu cadw a'u gwarchod.
Blwyddyn: 2002
Cast: Dora Jones
  darllenwch adolygiadau Nel yma....darllenwch adolygiadau Nel yma....
   
Heri Pers
Gan Jeremy Turner, Cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Cynhyrchiad ar y cyd rhwng Arad Goch ac Awdurdod Datblygu Cymru er mwyn hybu diwylliant o entrepreneuraiaeth yng Nghymru. Mae'r ddrama wedi ei lleoli yn gryf iawn mewn ardal wledig, ac felly yn berthnasol iawn i gymuned ac i economi cefn gwald. Prif neges y cynllun yw mentro a'r syniad o 'Rwy'n gallu gwneud unrhywbeth'
Blwyddyn: 2001
Cast: Meilyr Sion
Rhian James
Rhiannon Morgan
Mathew Pegram
  darllenwch adolygiadau Heri Pers yma....darllenwch adolygiadau Heri Pers yma....
   
Merched y Gerddi
Gan Mari Rhian Owen, Cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Mae'r cynllun hwn yn cynnwys amrywiaeth o themau hanseyddol, oesol a chymdeithasol.
Blwyddyn: 2000
Cast: Heledd Bianchi
Dora Jones
Carys Griffiths
Darren Stokes
  darllenwch adolygiadau Merched y Gerddi yma....darllenwch adolygiadau Merched y Gerddi yma....
   
Parachutes and Petticoats
Gan Gwasg Honno, Cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Mae'r cynllun hwn wedi ei seilio ar lyfr a argraffwyd gan Wasg Honno - llyfr sydd yn gofnod o atgofion menywod yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd. Cynllun Theatr Mewn Addysg i flynyddoedd 9 a 10.
Blwyddyn: 1998
Cast: Dora Jones
Helen Rosser Davies
Iwan Tudor
  darllenwch adolygiadau Parachutes and Petticoats yma....darllenwch adolygiadau Parachutes and Petticoats yma....
   
Nid Fi / Not Me 2007
Gan Mari Rhian Owen, Cyfarwyddwyd gan Ioan Evans
Lluniwyd ‘Nid Fi’ er mwyn ceisio dod â’r broblem o fwlio i’r amlwg, i geisio sirchau bod bobl yn derbyn ei fod yn broblem a thrwy hynny i wneud rhywbeth cadarnhaol i roi stop ar yr holl ddioddef a diflastod.

Sali Morgan yw prif gymeriad y ddrama. Merch unig sydd yn byw gyda’i mam-gu a hynny ers marwolaeth ei mam ac wedi i’w thad dderbyn swydd newydd yn Dubai. Sali yw’r ddioddefwraig yn y ddrama, a chaiff ei phryfocio am fod yn ddisgybl newydd yn yr ysgol gan Lydia Thomas. Wrth i’r ddrama ddatblygu, daw i’r amlwg bod Lydia ei hun yn anahapus gartref, a chawn yr argraff ei bod yn cuddio y tu ôl i fwgwd wrth ymddwyn mor gas tuag at eraill. Diwedd y gân yw bod y ddwy yn rhoi terfyn ar yr holl gweryla, a maes o law yn datblygu i fod yn ffrindiau.

Mae'r cynllun hwn yn gyfrwng i ddod a phroblemau bwlian i frig ein hymwybyddiaeth ni i gyd, yn help i ysgolion wynebu'r problemau ac yn bwysicach na dim yn help i'r disgyblion ei goresgyn.

Crewyd y cynllun hwn yn wreiddiol drwy gydweithrediad rhwng Cwmni Theatr Arad Goch, yr NSPCC, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Dyfed.

Blwyddyn: 0000
Cast: Ffion Wyn Bowen
Mari Beard
Sioned Wyn Jones
Mark Roberts
  darllenwch adolygiadau Nid Fi / Not Me 2007 yma....darllenwch adolygiadau Nid Fi / Not Me 2007 yma....
   
Winter Pictures
Gan , Cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Anturiaethau Heti a Handel, par o lygod bach wrth iddynt fwynhau pendwmpian yn haul poeth yr haf. Ond daw'r haf i ben, ac maent yn gorfod paratoi at hirlwm y gaeaf
Blwyddyn:
Cast:
  darllenwch adolygiadau Winter Pictures yma....darllenwch adolygiadau Winter Pictures yma....
   
Yn y Dechreuad
Gan , Cyfarwyddwyd gan
Cynllun theatr mewn addysg sy'n ymdrin a chrefydd - Cristnogaeth a Dyneiddiaeth.
Blwyddyn:
Cast:
  darllenwch adolygiadau Yn y Dechreuad yma....darllenwch adolygiadau Yn y Dechreuad yma....
   
Morus y Gwynt ac Ifan y Glaw
Gan , Cyfarwyddwyd gan
Mae Morus y Gwynt ac Ifan y Glaw yn ddau gymeriad sy'n adnabyddus i blant Cymru drwy rimigau a cherddi. Yn y cynhyrchiad hwn clywir hynt a helynt Morus ac Ifan, storiau am eu bywydau direidus, am y triciau maent yn eu chwarae ar ei gilydd ac ar y bobl sy'n cerdded islaw.
Blwyddyn:
Cast: Ffion Wyn Bowen
Ryland Teifi
Iwan Tudor
  darllenwch adolygiadau Morus y Gwynt ac Ifan y Glaw yma....darllenwch adolygiadau Morus y Gwynt ac Ifan y Glaw yma....
   
Nid Fi
Gan Mari Rhian Owen, Cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams
Mae'r cynllun hwn yn gyfrwng i ddod a phroblemau bwlian i frig ein hymwybyddiaeth ni i gyd, yn help i ysgolion wynebu'r problemau ac yn bwysicach na dim yn help i'r disgyblion ei goresgyn.
Blwyddyn:
Cast: Darren Stokes
Dora Jones
Ffion Wyn Bowen
Siwan Bowen Davies
  darllenwch adolygiadau Nid Fi yma....darllenwch adolygiadau Nid Fi yma....
   
Lleuad yn Olau
Gan , Cyfarwyddwyd gan
Dramateiddiad o lyfr T Llew Jones sy'n gasgliad o hen chwedlau gwerin.
Blwyddyn:
Cast:
  darllenwch adolygiadau Lleuad yn Olau yma....darllenwch adolygiadau Lleuad yn Olau yma....
   
Rushes
Gan Lucy Gough, Cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner
Blwyddyn:
Cast:
  darllenwch adolygiadau Rushes yma....darllenwch adolygiadau Rushes yma....
   
Rhyfel y Sais Bach
Gan , Cyfarwyddwyd gan
Blwyddyn:
Cast:
  darllenwch adolygiadau Rhyfel y Sais Bach yma....darllenwch adolygiadau Rhyfel y Sais Bach yma....