|

sioeau
cyfredol | sioeau i ddod | sioeau
diweddar | archif sioeau theatr mewn addysg
|
YR YSTAFELL AROS / THE WAITING ROOM |
 |
Yr Ystafell Aros / The Waiting Room gan yr awdures boblogaidd Caryl Lewis fydd cynhyrchiad nesaf Arad Goch i Ysgolion Uwchradd. Anelir y ddrama at ddisgyblion blynyddoedd 9, 10, 11 a’r 6ed ddosbarth, ac fe fydd ar daith rhwng y 23ain o Fedi a’r 20fed o Hydref.
Dyma ail ddrama Caryl Lewis i Arad Goch. Mae hon yn ymwneud â hunaniaeth pobl a'r rhwystrau mae rhai pobl ifanc yn gorfod eu hwynebu wrth geisio darganfod pwy ydynt mewn gwirionedd. Dyma ddrama am dyfu i fyny. Drama sy'n cwestiynu ein syniad o 'lwyddiant'. Drama sy'n edrych ar pa mor wahanol gall aelodau o'r un teulu fod. Dilynwn frawd sy'n serennu ar lwyfannau, chwaer sy'n aros i'w bywyd ddechrau yn ôl adref a mam sydd â chyfrinach fawr fydd yn gwyrdroi bywydau'r tri am byth.
Mae'r cynhyrchiad hwn ar gael naill ai yn Gymraeg neu yn Saeseng
|
| |
Ar daith 23 09 2008 tan 20 10 2008 (Cliciwch
yma am fanylion) |
| |
Awdur: Caryl Lewis; Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams |
| |
Cast: Ioan Gwyn a Mari Beard |
| |
|
| |
Cliciwch yma am fanylion y daith
|
| |
|
|
Dros y Garreg (2008) |
 |
Mae’r ddrama yn ymdrin â phroblemau ymddygiad merch fach. Mae i’r ddrama arddull weledol gref ochr yn ochr â thraddodiad straeon gwerin a straeon celwydd golau ag iddynt naws Cymreig.
Cynhyrchiad newydd o sgript a luniwyd gan Mari Rhian Owen ym 1995.
Fe’i gyflwynir yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Addas ar gyfer blynyddoedd 1 a 2
|
| |
Ar daith 19 01 2009 tan 30 03 2009 (Cliciwch
yma am fanylion) |
| |
Awdur: ; Cyfarwyddwr: |
| |
Cast: I'w cadarnhau |
| |
|
| |
Cliciwch yma am fanylion y daith
|
| |
|
|
MERCHED Y GERDDI / THE GARDEN GIRLS |
 |
Yn y ddrama “Merched y Gerddi “ cawn ddilyn profiad a gobeithion dwy ferch ifanc o gefn gwlad Gorllewin Cymru wrth iddynt deithio i weithio yng ngerddi masnachol Llundain yn ystod y 19g.
Wedi’i seilio’n rhannol ar dystiolaeth hanesyddol, gyda’r defnydd o alawon gwerin a chlocsio, dengys y ddrama wroldeb y merched ifainc wrth adael eu cynefin dros dro. Er wynebu blinder, afiechyd, lladron-pen-ffordd, ac ambell berson annisgwyl arall, byddai’r arian enillwyd gan ferched y gerddi yn cynnal eu teuluoedd yn ystod misoedd caled y gaeaf.
Yn y cynhyrchiad hwn ymdrinnir â sawl thema – teithio; bywyd Oes Fictoria; Arferion cefn Gwlad, Cyfiawnder Cymdeithasol ynghyd a delio a chyfeillgarwch a rhagdybiaethau.
Fe’i cyflwynir yn y Gymraeg ac yn Saesneg ac fe fydd ar daith o Ragfyr yr 8fed i’r 13eg o Fawrth ‘09.
Cynhyrchiad i ddisgyblion Bl. 5 a 6
|
| |
Ar daith 08 12 2008 tan 13 03 2009 (Cliciwch
yma am fanylion) |
| |
Awdur: Mari Rhian Owen; Cyfarwyddwr: |
| |
Cast: I'w gadarnhau |
| |
|
| |
Cliciwch yma am fanylion y daith
|
| |
|
|