cartref newyddion arad goch cynhyrchiadau cyhoeddus cynhyrchiadau i ysgolion cysylltwch a ni adolygiadau cynhyrchiadau arad goch afrchif cynhyrchioadau arad goch

Mae Arad Goch bob tro yn croesawu ymateb gan ein cynulleidfa. Gwelir rhai isod.Mae croeso i chi anfon eich sylwadau am ein gwaith neu anfon lluniau drwy gysylltu â ni. Byddwn yn rhoi'r rhai gorau ar y wefan hon.

Cliciwch yma am ein casgliad o erthyglau ac eitemau ysgrifenedig eraill gan aelodau Arad Goch am gwaith, hanes a datblygiad y cwmni

 

Twm Sion Cati

Gan Jeremy Turner
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner

Twm Siôn Cati - Gwell na Robin Hood!

" • Adolygiad Gwyn Griffiths o Twm Siôn Cati. Sioe haf Theatr Arad Goch i blant 7-11 oed. Caerdydd. Mehefin 20, 2008

Ar drothwy'r pedwar cant
Wn i ddim a fydd yna gofio y flwyddyn nesaf ond yn 2009 bydd bedwar can mlynedd union ers marw Thomas Jones, neu Twm Siôn Cati.

Ceir cyfeiriad yn rhaglen y sioe lwyfan Twm Siôn Cati fod tua 400 o flynyddoedd ers y bu Twm yn crwydro daear ardal Tregaron. Wel, 1609 oedd blwyddyn ei farw.

Wn i ddim ai dyma gychwyn cyfres o ddigwyddiadau i nodi'r dyddiad hwnnw a dathlu ei fywyd.
Os felly, mae'n gychwyn addawol a theilwng.

Ar y rhaglen a'r tocyn mynediad i'r sioe yn theatr The Gate, Caerdydd, cyfeiriwyd ato fel The Welsh Robin Hood.

Ond fe dylid cofio bod Twn Siôn Cati yn berson go iawn o gig a gwaed. Yn fardd, mae o leiaf un cywydd o'i waith wedi goroesi.
Yn ŵr o ddiwylliant ac, ar ôl ymbarchuso, yn ddyn o ddylanwad.
Ffrwyth dychymyg a chwedl yw Robin Hood.

Ond wna i ddim edliw'r ystryw marchnata bach yna. Mae hon yn sioe sy'n haeddu'r gynulleidfa orau bosib.

Pwysodd sgript Jeremy Turner yn drwm ar y chwedlau am Twm, rai ohonynt yn cael eu hadrodd hyd yn oed heddiw yn ardal Tregaron.

A sgript llawn asbri oedd hi gyda'r actorion, Ffion Wyn Bowen; Emyr Bell, Lowri Sion, Marc Roberts, Ioan Gwyn, yn hoelio sylw llond y theatr o blant bywiog Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd a'u cadw'n gwrando'n astud am awr gyfan.

Mae chwedloniaeth Twm yn addas iawn i blant.
Triciau direidus sydd yma, twyllo'r barus a'r drwg o'u harian a'u heiddo gan roi'r ysbail i'r tlawd.

Mae'r straeon a ddefnyddiwyd yn y sioe yn ddieithriad yn ddoniol a da - fel honno pan fo Twm gerbron llys a'r lle'n mynd braidd yn afreolus.
"Clear the court," meddai'r barnwr, ac wrth hel y dorf allan mae Twm yntau yn diflannu gyda nhw.

Rhaid imi ddweud gair am gwmni Arad Goch, rhywbeth sy'n gyffredin i bob un o'r cwmnïau Theatr Mewn Addysg y caf y cyfle i'w gweld o dro i dro. Mae eu cyflwyniadau yn gyson ardderchog ac yn wir addysgiadol.

Mae'n hyfryd gweld ar y llwyfan yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn digwydd tu cefn i'r llenni, yr actorion yn newid cymeriadau drwy fymryn o newid gwisg ac osgo.

Gwych o beth i danio dychymyg cynulleidfaoedd ifanc.

Sylwais fod Arad Goch yn cynnal sesiynau gloywi iaith i ddisgyblion ysgol ac er yn rhwydd ac ystwyth yr oedd iaith y sioe hon o ansawdd hyfryd.

Trueni na fyddai rhai o bobol S4C yn gweld y sioe hon er mwyn gweld nad oes yn rhaid defnyddio bratiaith er mwyn ystwythder.

Braf, hefyd, gweld dawnsio gwerin a chanu gwerin o'r cyfnod.

Llongyfarchiadau i'r cast bob un am berfformio caboledig a hwyliog.

Roeddwn yn falch gweld y sioe'n cael ei llwyfannu yn The Gate, theatr a chanolfan gelfyddydol a diwylliannol yn Y Rhath.
Gwneir llawer iawn o waith da yma ac y mae seddau'r theatr, sef galeri hen gapel, yn gyffyrddus. Gwers i rai o theatrau eraill Caerdydd!

Dyma fanylion gweddill y daith wedi Caerdydd:
Mae Twm Siôn Cati ar daith o amgylch Cymru gyda pherfformiadau Cymraeg a Saesneg.
• 20.6.08 Y Gate, Y Rhath, Caerdydd 10.30 ; 1pm (Cymraeg) Menter Caerdydd 02920 565658
• 23.6.08 Neuadd Dwyfor Pwllheli 1.30pm (Cymraeg) 01758 704088
• 24.6.08 Neuadd Dwyfor Pwllheli 10am (Cymraeg); 1.30pm (Cymraeg) 01758 704088
• 25.6.08 Galeri Caernarfon 1pm (Cymraeg) 01286 685222
• 26.6.08 Theatr Gwynedd Bangor 1.30pm (Cymraeg) 01248 351708
• 27.6.08 Theatr Gwynedd Bangor 10.30am (Cymraeg) 01248 351708
• 30.6.08 Theatr Felinfach 1.30pm (Cymraeg) 01570 470697
• 01.7.08 Theatr Elli Llanelli 1.15pm (Cymraeg) 0845 22635 08/09/10
• 02.7.08 Theatr Elli Llanelli 10am (Cymraeg); 1.15pm (Saesneg) 0845 22635 08/09/10
• 04.7.08 Theatr John Ambrose Rhuthun 10am (Cymraeg); 1.30pm (Saesneg) 01678 540528
"

adolygiad gan: Gwyn Griffiths, 23 / 06 / 2008
ffynhonell:

Gwefan BBC Cymru

   
   

Agor Drysau 2008

Gan
cyfarwyddwyd gan

" I managed an overnight visit to Agor Drysau last week. I wasn’t there long enough to get a full flavour of what was on offer, I missed out particularly on theatre for the very young, but I did see three very different productions in three different locations.

The first was Theatr Iolo’s Lenny, a poetic realisation of a bullied small boy’s desperate longings to be as hard as the nails he swallows. It would have been interesting to see this with some of its target audience. I found the script a little uncertain; there were times when it felt like a spoken adult text rather than the thoughts of a frightened small boy. That could be to do with it being a translation from French Canadian and thus from very different cultural values. It would be good to know if any of that bothers the schoolchildren for whom it’s intended.

Outweighing the moments of awkwardness though were the times when the vividness of the imagery made it powerful and moving. That was particularly so of Lenny’s realisation that his big, strong brother has a tiny, frightened persona cowering inside him.

Prowling around the circular dirty white floor covering, which evoked an urban, industrial wasteland, and slipping from character to character in an instant, solo performer Kevin Lewis gripped the attention throughout. There was a brilliant sound design too with startling moments when paper bags seemed to be talking.

That was late night in Arad Goch’s headquarters in town. The next morning saw crowds of noisy schoolchildren disgorging from buses at Aberystwyth Arts Centre and pouring excitedly into the theatre. So how was an hour of dance, movement and live music going to be received by these chattering hoards?

Echoa by French company Arcosm was one of the finest pieces of physical theatre I’ve ever seen and its target audience clearly agreed with me. Their attention was focussed on the stage throughout and not a sound was to be heard from them; except that is for the loud laughter that erupted at the many moments of exquisite, dead-pan humour.

It’s almost impossible to convey just how extraordinary this show was. There were two dancers, one male and one female. There were two percussionists, both male. There were drums, xylophones and metal scaffolding subdivided into room-like spaces.

Then there were the other percussion instruments, the floor, the scaffolding, the performers’ bodies, the performers’ vocal sounds and, most amazingly, the air. It was a little like watching very sophisticated playground behaviour with a gamelin orchestra in residence. It was awe-inspiring, beautiful, jaw-droppingly energetic, done with meticulous precision and very, very funny. Utterly fantastic.

And so to a school hall and Hamlet; but it was no ordinary Hamlet. This version, by the Danish company Det Lille Turn_teater, was 75 minutes long and performed in English by two actors and two double bass players. Surprisingly effective it was too. Somehow the story was all there with the poetry and emotions of the words being provided by the voices of the double basses. They also became coffins, the ghost and, most memorably, they perform the play within the play.

The two personable actors slip easily from character to character, no matter what sex they may be, sometimes even conversing with themselves, and they convincingly evoke the multiple deaths of the climax. It was also played with two short intervals during which they have the audience on its feet doing loosening-up exercises. The teenagers seemed genuinely gripped by the production which was full of energy, wit, imagination and, yes, poetry.

There were other shows I wish I could have seen. I got a strong sense of a very good festival giving a wider showcase for the often neglected field of theatre for young people.
"

adolygiad gan: Victor Hallett, 31 / 03 / 2008
ffynhonell:

Gwefan Theatre in Wales

   
   

CANERI, GWYLAN A BRAN 2007

Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner

" Annwyl Arad Goch, Diolch am yr perfformiad o Caneri Gwylan a Bran. Roedd e'n doniol iawn a roedd pawb yn chwerthin. Roedd yr actio yn edrych yn galed. Diolch yn fawr oddi wrth Catrin Evans Ysgol Llanafan
"

adolygiad gan: Catrin Evans, Ysgol Llanafan, 08 / 10 / 2007
   
   

CANERI, GWYLAN A BRAN 2007

Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner

Adolygiadau

" Ar ddydd Gwener yr ugeinfed o Fedi es i i Aberystwyth a gwelais ddrama gan Arad Goch o’r enw ‘Caneri, gwylan a bran.’ Roedd y ddrama yn y theatr yn y llyfrgell. Roedd y ddrama yn ddoniol ac roedd e’n ddiddorol achos roedd e’n dweud faint o lyfrau sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Fy hoff gymeriad i oedd Mr Porthor achos roedd mor ddoniol.

Ar ddydd Gwener yr unfed ar hugain o Fedi bues yn Aberystwyth yn gweld drama. Roeddwn ni wedi mwynhau'r ddrama. Roedd yn ddoniol ac roedd pawb yn chwerthin. Yr unig gymeriadau oedd Beth a Mr Porthor. Roedd gwisgoedd diddorol ganddynt. Roedd y stori am Beth. Roedd Beth yn drist iawn achos roedd pawb yn gas iawn iddi. Neges y ddrama oedd bod yn neis i bawb ac i ddefnyddio llyfrau i fod yn berson dewrach a mwy clyfar.

Roedd y cymeriadau yn ddiddorol ac yn ddwl. Roedd y wisg ddim yn sefyll allan, roedd yn ddigon cyffredin. Roeddwn i’n hoffi'r hiwmor. Roedd y neges yn bwysig ac yn dweud llawer am Beth a’i bywyd hi. Roeddwn ni ddim wedi mwynhau’r ddrama llawer achos welais y llwyfan yn fach a dau gymeriad yn ddiflas.


Roedd y ddrama yn wahanol achos roedd dim ond dau gymeriad ond roedd e yn ddoniol. Roedd y cefndir bach yn ddiflas ac yn blaen ond roedd y neges yn dda ac yn hawdd deall.


Roeddwn ni yn meddwl roedd y gwisgoedd yn dda ac roedd y porthor yn ddoniol. Roedd y lluniau yn y cefndir hefyd yn dda. Roeddwn i yn meddwl bod yr hiwmor yn wych. Roedd y neges am Beth yn rhedeg i ffwrdd i’r llyfrgell yn wahanol ond roeddwn yn hoffi bod y porthor yn gwneud hi yn ddewrach a mwy clyfar a'i bod yn gallu sefyll ar ddwy droed ei hun. Roedden i'n meddwl bod yr hyd damaid yn hir achos hoffwn wedi cael mwy o amser i fynd o gwmpas y llyfrgell.


Ar yr unfed ar hugain o Fedi cafodd blwyddyn chwe gwahoddiad i ddod i’r llyfrgell Genedlaethol. Roedd y daith ar y bws yn hir iawn ond pan gyrhaeddon ni welais fod y lle yn anferth. Pan oedd Ashley wedi cnocio ar y drws roedd y dyn wedi agor y drws ac estyn croeso mawr i ni i’r llyfrgell. Roeddwn wedi hoffi hynny. Cawsom weld drama yn y theatr ac wedyn amser i fwyta cinio. Roedd yn drip ardderchog a bydden yn rhoi can allan o gant am y daith.






Roedd y ddrama yn gyffrous ac yn ddoniol ond syml.
Roedd y cymeriadau yn ddoniol. Roedd Beth yn dda ac yn siarad yn glir roedd Mr Porthor yn hapus, doniol ac yn siarad yn glir hefyd. Fy hoff beth oedd pan oedd Beth wedi gadael y llyfrgell yn hapus. Y peth mwyaf gwael oedd pan roedd e’n siarad am y plant yn y pyllau glo. Roedd yn neges bendant ond trist. Roedd y daith lan yn hir ond werth e.


Roedd y ddrama yn fyr ac yn ddoniol. Neges wir a doniol oedd yn y ddrama. Roedd yn ddrama fach lyfn ond diddorol. Roedd ganddyn nhw wisgoedd cŵl, cymeriadau gwych ac iaith cŵl. Roedd y ddrama fach fel stori i ddangos eich bod chi yn gallu sefyll ar eich dwy droed eich hun, bod yn gryf a bod yn glyfar. Roedd Mr Porthor a Beth yn actio yn y ddrama yn dda.


Yn anffodus, roeddwn i yn sâl ar ddiwrnod y trip i’r Llyfrgell Genedlaethol a pherfformiad Arad Goch, Ar ôl clywed fy ffrindiau yn siarad am y trip rwy'n siomedig iawn oherwydd rwy'n credu mod i wedi colli allan ar ddiwrnod gwych.
Rydw i wedi clywed tipyn am y perfformiad ac yn ôl beth mae fy ffrindiau wedi dweud wrthyf am, roedd popeth yn y ddrama yn wych. Roedd y cymeriadau, gwisg, hiwmor, neges a'r hyd yn berffaith.
Mae'r Llyfrgell yn swnio'n wych, hefyd! Rwy'n methu credu bod pum miliwn o lyfrau yn y llyfrgell Genedlaethol, chwaith! Mae e bron yn amhosibl credu! Mae Aberystwyth yn lwcus iawn i gael Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ei dref!
Rwy’n anlwcus iawn i golli cyfle mor arbennig, ond gobeithio gallai gael cyfle arall i fynd i’r Llyfrgell. Os byddai yn ddigon ffodus i gael y cyfle eto byddai’n ei gymryd, sâl neu beidio!


"

adolygiad gan: gan ddisgyblion bl. 6 Ysgol Glan Cleddau, Hwlffordd, 02 / 10 / 2007
   
   

CANERI, GWYLAN A BRAN 2007

Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner

Adolygiad gan ddisgyblion ysgol Beulah

" Mwynhaeon ni y sioe ond roeddem yn meddwl doedd dim digon o cymeriadau. Roedd y gofalwr yn ddoniol iawn ac roedd Beth yn edrych fel merch neis iawn ac yn eithaf doniol. Dysgom ni llawer iawn am y Llyfyrgell Genedlaethol. Roedd y gweithgareddau yn eithaf rhwydd.
"

adolygiad gan: Elen, Ifan a Dafydd Ysgol Beulah., 02 / 10 / 2007
   
   

Rhieni Hanner Call a Gwyrdd/The Impossible Parents Go Green

Gan addasiad Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams

Adolygiadau gan ddisgyblion Alway Primary, Casnewydd

" "I liked the play it was very good. I liked the part when the mum do the dance and when the dad do the rock and roll and please do a play again."

"I liked the play because it made me laugh and it was funny. I laughed when the parents had no clothes on."


"I loved the play it was so funny I laughed so much. The green part was so funny I hope we can see you again."

"I liked the play I liked the part when the dad was pretending to play the guitar."

I liked the play. My favourite part was when Mr Norm washed with the green sponge it was funny and made me laugh."

"I liked the play. I had a good time. I liked the bit where the man was washing itself with a green sponge it was really really good. Thank you."

"I liked the play it was funny and they were fantastic my favourite part at the play is when they think there skin will come off like banana peal."

"The play was good. The part I liked best was when Nia was cleaning the bath."

"I liked the play. My favourite part was at the end when they were all dancing."
"

adolygiad gan: , 09 / 07 / 2007
   
   

Rhieni Hanner Call a Gwyrdd/The Impossible Parents Go Green

Gan addasiad Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams

Adolygiad gan ddisgyblion Ysgol Bethel, Gwynedd

" "Mwynheais y sioe Rhieni Hanner Call yn fawr iawn. Roedd y stori llawn hiwmor. Roedd yn fy ngwneud i chwerthin. Mi roeddwn yn hoffi y cymeriadau. Mi roeddwn yn hoffi pan roedd Mr. Norm a Mrs. Norm yn troi yn wyrdd ac pan roedd Mr. Norm yn torri gwynt. Doedd na ddim llawer o brops yn yr ysgol ac roedd llawer o brops yn y ty. Doeddwn ddim yn deall rhai o'r geiriau de. Roedd props y ty yn arbennig o dda roedd y grisiau yn mynd i'r llofft yn dda hefyd. Diolch am sioe mor dda mi hoffwn weld y sioe eto."

"Hoffais y darn pan roedd Mr Norm yn gollwng gwynt ac yn rhoi bai ar Mrs Norm.Roedd y props roeddech yn defnyddio yn ardderchog. Roedd y gwisgoedd yn dda hefyd. Buaswn i wrth fy modd yn gweld sioe arall gan y cwmni."

"Diolch yn fawr am adael i ni ddod i wylio'r sioe (Rhieni hanner call). Roeddwn i'n hoffi'r sioe. Y darn gorau gen i oedd pan penderfynodd Wyn a Nia chwarae tric ar ei rhieni ac yn rhoi inc gwyrdd ar y sbwnj. Roedd yn dda fel roedd dau beth yn digwydd ar un waith. Roni'n hoff o wisg Miss Jones yr athrawes pam roedd hi yn fwydyn. Roedd yr actorion yn siarad yn glir. Mi faswn i yn hoffi gweld sioe arall. Roeddwn i'n hoff o'r perfformiad."

"Diolch Cwmni Ard Goch am rhoi sioe arbennig a ddoniol. Roedd y sioe yn llawn hiwmor. Fy hoff rhan oedd pam roedd Mr Norm yn torri gwynt yn andros o swnllyd. Roedd y sioe mor dda mi fyswn i ac Matthew yn hoffi gweld Rhieni Hanner Call a Gwyrdd 2. Diolch am sioe mi ryden ni yn gobeithio ein bod ni yn cael gweld sioe arall o Rhieni hanner call a gwyrdd."

Diolch am y sioe Rhieni hanner call a gwyrdd yn Theatr Gywnedd ar 3/7/07. Roeddwn yn mwynhau y darn pan roedd y fam yn bola dawnsio a Dad yn gwnedu pwmp. Redd Gwyn a Nia Norm wedi cael llond bod ar eu rhieni hanner call. Roeddem yn meddwl eu bod wedi troi yn chwarter call. Roedden ni wedi mwynhau yr actorion i gyd yn rhieni hanner call. Roedd y set yn syml iawn ac yn effeithiol a'r props. Roeddem yn meddwl fod Gwyn yn mynd i ddisgyn oddi ar y llwyfan pam roedd ar y troli. Mwynheais Nia pam roedd yn actio yn yr ysgol pam oedd yn cael llond bol ar yr athrawes. Roedd yn ddoniol ac roeddem ni wedi mwynhau. Gobeithio gawn ni sioe arall yn fuan."

"Diolch yn fawr iawn am i chi ddod i'r Theatre. Mi wnes i a fy ffrind fwynhau yn arw iawn. Roedd y fam yn ddoniol yn gwneud y dawnsio bola. Roedd y tad yn meddwl roedd o yn popstar yn canu ac smalio roedd ganddo gytar yn ei law. Doedd yr athrawes ddim byd fel athrawon ni yn yr ysgol. Roedd y props yn syml ac pan roedd nhw yn mynd i mewn yr bath pan wnaeth nhw droi yn wyrdd roedd yn ddoniol iawn. Roedd y acen y de yn wahanol ond yn gwneud y ddrama yn mwy doniol. Rhaid i mi ddweud dydy Mr a Mrs Norm ddim byd fel Rhieni ni."

"Diolch yn fawr iawn Cwmni Arad Goch am berfformiad sioe Rhieni Hanner Call gwych i plant blwyddyn 3 a 4 ysgol Bethel. Roedd y set a'r props yn lliwgar iawn ac yn syml. Roedd y ty ar un ochr o'r llwyfan a'r Ysgol ar yr ochr arall. Roeddwn i'n hoffi hynny ac doeddech chi ddim yn gorfod symud dim byd. Fy darn gorau oedd Mr Norm oherwydd bod o'n torri gwynt trwy'r adeg! a smalio chware gitar. Diolch yn fawr iawn Cwmni Arad goch.""

adolygiad gan: Disgyblion o Ysgol Bethel, Gwynedd., 05 / 07 / 2007
   
   

Nid Fi / Not Me 2007

Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Ioan Evans

Ysgol Gynradd Stebonheath - Nid Fi

" "Many thanks once again. You are quite the best theatre company we have ever seen. Well done!"




"Llawer o ddiolch unwaith eto. Chi yw'r cwmni theatr gorau rydym ni wedi weld. Da iawn!"

(wedi ei gyfieithu o'r gweriddiol)"

adolygiad gan: Ysgol Gynradd Sirol Stebonheath County Primary School, 02 / 04 / 2007
   
   

Crash (2007)

Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams

Crash (2007) - Disgyblion Llanfyllin

" ADOLYGIAD GAN DDISGYBLION YSGOL UWCHRADD LLANFYLLIN:


“Hoffwn ddiolch i chi am ddod i actio y sioe CRASH yn Theatr Llwyn ar y 23.2.07. Mwynheais y sioe yn fawr iawn. Roedd Rhys a oedd yn cael ei chwarae gan Robin Ceiriog yn ddoniol iawn, roeddwn yn crio. Roedd llawer o emosiwn yn y ddrama ac roedd yn dal sylw y gynulleidfa. Dwi’n credu bod y ddrama wedi apelio i Blant blwyddyn 10+. Roedd y cerddoriaeth byw yn gret. Roedd y set yn syml ond yn effeithiol. Mwynheais y golygfa pan roedd Rhys yn canu yn ei lofft. Roedd yn dda y ffordd roeddent yn medru newid y set mor gyflym. Nid oeddwn yn hoffi y diwedd, buaswn wedi hoffi gwybod os wnaeth Rhys fynd i nôl Elin. Roedd y back-drop yn effeithiol iawn. Hoffwn weld sioe arall, a gobeithio y wnewch chi ddod nôl cyn bo hir.”





I would like to thank you for performing Crash at Theatr Llwyn on 23/2/07. I thoroughly enjoyed the play. Rhys, played by Robin Ceiriog, was so funny, I was crying! There was plenty of emotion in the play; therefore it captured the audience’s attention. I believe the play appealed to children years 10+. The live music was great. The set was simple, but effective. I enjoyed the scene where Rhys was singing in his bedroom. Changing the set so quickly was very good. I didn’t enjoy the ending; I would have liked to know if Rhys went to collect Elin. The back drop was very effective. I would like to see another play, I hope you will come back in the very near future.





"

adolygiad gan: DISGYBLION YSGOL UWCHRADD LLANFYLLIN, 16 / 03 / 2007
   
   

Nid Fi / Not Me 2007

Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Ioan Evans

ADOLYGIAD O NID FI

" ADOLYGIAD O NID FI

Ar ddechrau mis Chwefror, fe ddaeth Arad Goch i berfformio drama o’r enw “Nid Fi” ac fe wnaethom ni fwynhau. Roeddwn yn dweud i’n gilydd pa mor realistig yr oedd y ddrama. Roedd y ddrama yn dangos bod pethau fel hyn yn digwydd bob dydd ar fan chwarae neu yng nghartrefi pobl ac hyd yn oed yn y dref. Roedd y sioe yn dangos sut roedd bwlio yn effeithio bywyd plant pob dydd.

Hoffwn hefyd ddweud pa mor dda oedd yr actorion yn actio plant newydd gyrraedd ysgol fawr - roedd hynny yn glir iawn. Roeddwn hefyd yn meddwl bod y set yn wahanol a diddorol. Hoffwn ddiolch i Arad Goch am ddod i’r ysgol a perfformio perfformiad da. Hoffwn rhoi pump seren allan o bump i’r cynhyrchiad.

*************************


Ar ddechrau mis Chwefror, fe ddaeth cwmmni Arad Goch i berfformio sioe i ni am blant ysgol oedd yn cael eu bwlio. Enw’r sioe oedd “Nid Fi”,a’r prif gymeriadau oedd Sali(y plentyn ysgol newydd), Gareth(ffrind y bwli ond eisiau bod yn ffrind Sali), a Lydia(y bwli). Roedd y sioe yn dangos i chi sut yr oedd Sali yn teimlo, ac yn dangos i ni pam yr oedd Lydia yn bwlio. Roedd yn hawdd i gydymdeimlo a’r tri ohonynt. Mwy na dim, roedd y sioe yn dangos bod pethau fel hyn yn digwydd bob dydd ar fan chwarae neu yng nghartrefi pobl. Roedd y sioe yn dangos sut roedd bwlio yn effeithio bywyd plant pob dydd, ac fel yr oeddynt yn ymateb i’r sefyllfa. Er enghraifft, roedd Gareth wedi cloi ei hun yn ei ystafell wely ac esgus bod yn sâl, ond ar y llaw arall, roedd Sali wedi esgus ffonio ei mham(yr oedd wedi marw), a dweud wrthi ei thrwblau.
Yn gweld y sioe yr oedd aelodau o flynyddoedd 5 a 6, yr Ysgol Gymraeg. Hefyd, roedd ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn wedi ymuno gyda ni.Roedd pawb wedi mwynhau y sioe realistig, ac roedd yn gyfle da i wneud ffrindiau newydd o’r ysgol arall.
Cafodd y sioe ei ddilyn gan weithdy gan y cast, efo pawb yn rhannu i dair grwp, ac aelodau o’r grwp a’r cast yn eu rheoli. Hoffwn ddweud diolch i’r canlynol:
Ffion Wyn Bowen
Mari Beard
Sioned Wyn Jones
Mark Roberts
(A gweddill y cwmni yr oedd wedi eu helpu i roi perfformiad gwych iddyn ni fel ysgol!)




Gan ddisgyblion Bl.6 Ysgol Gymraeg Aberystwyth


A translation will appear shortly"

adolygiad gan: Disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 14 / 03 / 2007
   
   

Crash (2007)

Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams

Crash (2007) - David Adams

" Crash ! It’s a popular title, maybe because it sums up for so many modern life: with or without an exclamation mark, as in computer crash, as in gatecrash, as in crash out, as in crash editing, as in crash metal, as in car crash.

Originally staged in 2005 and now revived, Sera Moore Williams’s carefully crafted play deals with several meanings of the word, starting with one and ending with another, as it tracks a few weeks in the lives of three teenage school pupils going through exams, adolescence and the emotional pile-up that is part and parcel of the transition to adulthood.

Elin is a typically misunderstood teenage girl, struggling with hormones and temptation and exams and parents who want the best from her, a romantic wannabe mermaid-cum-angel; her nogoodboyo boyfriend is a school drop-out, doing drugs and booze and stealing cars, without a home, an aggressive wannabe drugs baron; and her long-time best friend is an immature geek left behind as she moves on to new experiences, but a wimp who can speak sense: “No-one our age fits in at home,” he points when maybe she thinks her parents are stricter than anyone else’s and her lot therefore the more exceptionally unjust.

Three very recognisable characters here transported into a modern tragedy where the inevitable inches ever closer as surely as it does in Greek drama: but who will be the tragic hero (or heroine), whose the hubris and the nemesis, where the catharsis ? We swing from character to character and, to the play’s credit, the climax is surprise.

As if to emphasise the classic model, the playwright/director employs a heightened style of writing and performance that gives it a not-quite-real quality that makes for an intensely theatrical experience that is also utterly credible.

Although being pretty full-on, the production is also full of subtleties and hints of deeper themes (I liked how Elin wears her angel badge and then Rhys goes to a fancy-dress party as a devil – both wildly inappropriate pretences).

The only discordant element is, perhaps, Rhys the nerd: while the others are familiar kids, albeit slightly exaggerated, he is maybe too much of a comic character, the Fool alongside the lovers. It makes for some very entertaining moments – his party dance routine is very well done – but adds an edginess that is rather too disconcerting as we wonder whether he has behavioural problems or whether he’s just being played too OTT.

Crash ! is certainly an involving and an intelligent piece of theatre for young audiences, exploring what to most must be all-too-familiar situations but wrapped in the extraordinariness of theatre, exploring themes of friendship, of need and dependency, of wanting to escape, of peer pressure, of relationships with parents, of the clashes and crashes of adolescence.

Sera Moore Williams, whose Riff remains of the best shows I’ve seen from Arad Goch, is beyond the age of hanging around street corners but she obviously listens to young people, and creates dialogue that is arresting and authentic enough to be at times almost incomprehensible to the likes of me, and allows her cast to find generally credible characters.

There are energetic performances from a confident cast, Dafydd Rhys Evans, Rhiannon Morgan and Robin Ceiriog, with some effective guitar support from Oliver Morys, though his brief foray into acting as a rapping hoodie was less convincing.






Crash! Mae’n deitl poblogaidd, efallai am ei fod yn crynhoi bywyd modern i nifer: gyda neu heb ebychnod – crash cyfrifiadurol, crashio parti, crashio mas, crash metal, a chrash car.

Mae’r Crash yma gan Sêra Moore Williams a lwyfannwyd yn wreiddiol yn 2005 yn ddrama a luniwyd yn grefftus ac mae’n ymdrin â nifer o ystyron y gair, gan ddechrau â un a gorffen ag un arall, wrth ddilyn ychydig wythnosau ym mywyd tri disgybl ysgol yn eu harddegau sy’n wynebu arholiadau, llencyndod a’r pair emosiynol sy’n rhan annatod o dyfu i fyny.

Mae Elin yn ferch ifanc sy’n cael ei chamddeall; mae’n brwydro â hormonau a themtasiynau, arholiadau a rhieni sydd eisiau’r gorau iddi, yn forforwyn ac angel ramantus; mae ei chariad da-i-ddim yn ddropowt sy’n cymryd cyffuriau, yn yfed a dwyn ceir; yn ddigartref a bygythiol mae’n breuddwydio am fod yn farwn cyffuriau; a’i ffrind gorau hirdymor sy’n geek anaeddfed sy’n cael ei adael ar ôl wrth i Elin ganfod profiadau newydd, ond mae’n wimp sy’n medru siarad synnwyr: “Does neb ein hoed ni yn ffitio fewn adre” yw ei sylw wrth i Elin gwyno bod ei rhieni hi yn fwy llym na rhieni neb arall a bod ei sefyllfa hi yn un arbennig o galed.

Tri chymeriad adnabyddadwy iawn mewn trasiedi fodern, lle, fel mewn drama Roegaidd, mae’r stori yn symud tuag at ddiweddglo anochel: ond pwy fydd ein harwr (neu arwres) trasig, pwy yr hwbris a’r nemesis, ble’r catharis? Rydym yn gogwyddo rhwng un cymeriad a’r llall, a da o beth fod yr uchafbwynt yn annisgwyl.

Fel petai i bwysleisio’r model clasurol, mae’r dramodydd/gyfarwyddydd yn defnyddio arddull ddwys o ysgrifennu a pherfformio sy’n rhoi gwedd ddim-yn-hollol real i’r gwaith gan greu profiad theatrig cryf iawn sydd hefyd yn hollol gredadwy.

Er bod hwn yn gynhyrchiad ‘yn eich hwyneb’ mae hefyd yn llawn cynildeb ac awgrymiadau o thêmau dwysach (hoffais fod Elin yn gwisgo bathodyn angel a Rhys yn mynd i ddisgo gwisg ffansi fel diafol – y ddau yn rithiau hollol anaddas).

Yr unig elfen nad yw efallai yn taro deuddeg yw cymeriad Rhys – y ‘nerd’: tra bo’r lleill yn bobl ifanc da’n ni gyd yn eu hadnabod (er efallai yn cael eu gorliwio rhywfaint), mae Rhyw o bosib yn gymeriad ychydig rhy ddoniol, y Ffŵl ochr yn ochr a’r carwyr. Mae nifer o ddarnau difyr dros ben yn deillio o hyn – mae ei ddawns yn ystod y parti yn arbennig o dda – ond mae’n ychwanegu rhyw haen sy’n anesmwytho wrth i ni ddyfalu a oes gan Rhys broblemau ymddygiad neu a yw’r cymeriad yn cael ei chwarae yn rhy OTT.

Mae Crash! yn sicr yn ddarn sy’n tynnu cynulleidfa i fewn ac yn ddarn deallus i gynulleidfaoedd ifanc, sy’n delio a sefyllfaoedd sy’n rhy gyfarwydd i nifer ond a barselir yma yn anghyffredinedd theatr; yn archwilio themâu sy’n ymwneud â chyfeillgarwch, ag angen a dibyniaeth, o eisiau dianc, o bwysau cyfoedion, o berthynas â rhieni, o wrthdrawiadau llencyndod.

Mae Sêra Moore Williams, sydd a’i darn Riff ymhlith y dramâu gorau dwi wedi’u gweld gan Arad Goch, yn rhy hen i fod yn loetran ar gorneli strydoedd, ond mae’n amlwg yn gwrando ar bobl ifanc, ac yn creu deialog sy’n drawiadol a digon dilys i fod, ar adegau, bron yn annealladwy i bobl fel fi, ac yn caniatáu i’w chast ganfod cymeriadau sydd ar y cyfan yn gredadwy.

Mae yma berfformiadau egniol gan gast hyderus, Dafydd Rhys Evans, Rhiannon Morgan a Robin Ceiriog, gyda chefnogaeth effeithiol gan Oliver Morys ar y gitâr, er bod ei ddarn byr fel actor yn chwarae hoodie sy’n rapio yn llai credadwy.

(cyfieithiad o adolygiad David Adams)
"

adolygiad gan: David Adams, 14 / 03 / 2007
   
   

Crash (2007)

Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams

Adolygiad o 'Crash' yn y Galeri yng Nghaernarfon.

" Llygad ar y Llwyfan gyda Paul Griffiths.

Crash – cynhyrchiad allai wneud â rhagor o gyffro.

Mae cadw diddordeb unrhyw gynulleidfa yn sialens, ond pan mae dau lond bws o fyfyrwyr TGAU yn eich aros, mae’r her dipyn yn fwy! Wrth wylio’r môr o fyfyrwyr yn llifo drwy ddrysau Galeri yng Nghaernarfon, ar gyfer perfformiad Cwmni Theatr Arad Goch o ddrama Sêra Moore Williams ‘CRASH’ roeddwn i’n dechrau cydymdeimlo efo’r cwmni a’r cast. Sut oedd y pedwar actor ifanc am drosglwyddo’r stori a’i neges i’r gynulleidfa ‘falch-o-gael-dianc-o’r-ysgol’ yma?!.....................................................
Does dim dwywaith bod gan Arad Goch y profiad o ddelio efo cynulleidfaoedd ifanc, a nhwtha yn ‘arbenigo mewn theatr i blant a phobl ifanc’ ac yn ymweld ag ‘ysgolion, theatrau a chanolfannau cymunedol yng Nghymru a thu hwnt’.
Theama gyfoes sydd i’r ddrama hon, a hynny am ‘bobl ifanc sy’n dwyn ceir, eu gyrru ar ras gan achosi niwed iddyn nhw eu hunain ac i aelodau’r gymuned.’
Roedd y sgript yma yn nodweddiadol o waith Sêra, yn frith o gyfeiriadaeth at angylion a’r môr ac unigrwydd. I gyd-fynd a’r tecst, fe gafwyd trac cerddorol wedi’i berfformio yn fyw gan Oliver Morys, er mwyn gosod naws gyfoes ac i apelio at yr ieuenctid.
Gwnaeth y tri actor oedd yn perfformio eu gwaith yn arbennig o dda – Dafydd Rhys Evans, Rhiannon Morgan ac yn enwedig felly Robin Ceiriog oedd â dawn ryfeddol i swyno’r gynulleidfa efo’i bortread comig ac eto’n sensitif o’r ‘hogyn da’ oedd heb gael ei ddenu gan y bwlis i ddwyn ceir. Mae gan Robin y dalent brin honno yng Nghymru sef presenoldeb llwyfan – mae’n bleser i’w wylio, a’i amseru o ran comedi yn berffaith.
Fel cyfanwaith, fe lwyddodd y sioe ar y cyfan, ond allai ddim dweud mod i wedi dysgu namyn mwy wrth adael nag a wyddwn i wrth fynd i mewn! Braidd yn wan a di-bwrpas oedd y sgript. Roeddwn i yn disgwyl rhywbeth llawer iawn mwy caled a chyfoes. Chefais i mo fy nychryn o gwbl, na fy nghyflyru i feddwl – bod hyn yn beth drwg, allai achosi niwed mawr i rywun. Ai dyma oedd y diben?
Gwan hefyd oedd y gerddoriaeth a’r set; byddai taflunio delweddau o geir yn rasio ar y sgrîn tu cefn i’r actorion wedi bod llawer mwy cyffrous na’r tegan o gar yn troi yn ei unfan. Doedd y ‘buzz’ mae’r ieuenctid yma yn ei gael o wneud hyn ddim yn cael ei gyfleu yn ddigonol gan yr actorion, a hynny oherwydd y sgript oedd yn rhy neis-neis a chywrain; mae angen caledi a chyffro a pherygl ac nid angylion, adennydd a stori garu.
Gwan a rhy dawel oedd y solo ar y gitar drydan hefyd, er iddi gynyddu fymryn wrth i’r sioe fynd rhagddi.
Beth bynnag fo’r pwnc, dwi’n credu fod theatr sydd wedi’i anelu at ieuenctid yn holl bwysig. Dyma gyfle gwych i ddangos pa mor ddramatig a theatrig y gall y theatr fod. Mae angen apelio at ein synhwyrau; ein dychryn drwy eiriau a delweddau, fel bod pob un o bob oed yn gadael y ganolfan wedi’u heffeithio gan yr hyn mae nhw wedi’i weld.
Yn anffodus, y tro yma, wnes i ddim. Mae’r daith bresennol wedi dod i ben yng Nghymru, ond mae cynlluniau i’w theithio yn yr Almaen ym mis Medi.





Crash – a production that could do with more excitement

Keeping the attention of an any audience is a challenge, but when two bus loads of GCSE student await it is a much bigger challenge! As I watched the throng of students enter through the doors of Galeri in Caernarfon for Arad Goch’s performance of ‘CRASH’ by Sêra Moore Williams I was beginning to sympathise with the company and cast. How were the four young actors going to get the story and its message across to this happy-to-have-escaped-from-school audience?!.......

There is no doubt that Arad Goch have the experience to deal with young audiences as they ‘specialise in theatre for children and young people’ and ‘visit schools, theatres and community centres throughout Wales and beyond’.

The theme is a contemporary one about ‘young people who steal cars and drive them at speed causing injury to themselves and to members of their community’.

This script was typical of Sêra’s work, with numerous references to angels and the sea and loneliness. To coincide with the text there was live music performed by Oliver Morys in order to create a contemporary feel and to appeal to the young.

The three actors performed very well – Dafydd Rhys Evans, Rhiannon Morgan and especially so Robin Ceiriog with the extraordinary ability to enthral the audience with his comic yet very sensitive portrayal of the ‘good boy’ who has not been drawn by the bullies to steal cars. Robin has a talent rare in Wales, that of stage presence, – it is a pleasure to watch him and his comic timing is perfect.

As a whole the show worked, but I cannot say that I learned anything from it! The script was rather weak and lacked purpose. I was expecting something far harder and more contemporary. I wasn’t scared at all nor was I persuaded to think that this is a very bad thing that could cause someone great injury. Was this the purpose?

The music and set were also weak; projecting images of cars racing on the screen behind the actors would have been far more exciting than the toy car that turned around and around. The ‘buzz’ that young people get from doing this was not sufficiently conveyed by the actors because the script was too nice and skilful; what’s needed is hardness and excitement and danger, not angels, wings and a love story.

The electric guitar solo was also too weak and quiet although it did increase slightly as the show went on.

Whatever the subject I believe that theatre aimed at young people is all important. This is a fantastic opportunity to show how dramatic and theatrical theatre can be. Our senses need to be appealed to; we need to be scared by words and images, so that everyone of every age leaves the venue having been affected by what they have seen.

Unfortunately, this time, I did not.

(translation of review by Paul Griffiths)
"

adolygiad gan: Paul Griffiths, 05 / 03 / 2007
ffynhonell:

Y CYMRO, Chwefror 23, 2007.

   
   

Nid Fi / Not Me 2007

Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Ioan Evans

Nid Fi - Aled Morgan

" Yn y flwyddyn olaf cyn gadael am yr ysgol Uwchradd, roedd "Nid Fi" wedi'i amseru'n berffaith i nifer o ddisgyblion Blwyddyn 6. Mae'r syniad o symud o'r ysgol gynradd, o fywyd weddol gysurus, yn siwr o fod yn pwyso ar feddwl llawer ohonynt. Roedd y cyflwyniad bywiog hwn yn cyffwrdd ar fwlian, yn dangos yr effaith mae'n cael ar fywyd plant, yn ogystal a cynnig rhesymau pam y mae rhai plant yn troi at fwlio. Roedd y sesiwn drafod a'r gweithdy a ddilynodd yn addas iawn, gan ei fod yn gyfle i'r plant i leisio'u barn am yr hyn a welsant. Roedd yn gyfle iddynt i drafod a dadansoddi teimladau'r cymeriadau. Roedd y perfformiad yn bendant o fudd mawr iddynt. Diolch yn fawr am ein diddanu.


In their last year before leaving for secondary education, "Not Me" was perfectly timed for Year 6. The thought of leaving the relatively care-free lifestyle they lead, must surely be pressing on their mind. The lively performance was about bullying, and showed the effect it has on children, whilst also giving suggestions as to why children feel the need to bully each other. The workshop afterwards was a great chance for the children to give opinions on what they'd seen. It was a chance for them to discuss the characters' emotions. It was an excellent performance of a very relevant topic.

"

adolygiad gan: Mr Aled Morgan, 05 / 03 / 2007
ffynhonell:

Ysgol Gymraeg, Aberystwyth

   
   

Nid Fi / Not Me 2007

Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Ioan Evans

Ymatebion i'r cynllun 'Nid Fi'

" “Plant yn gwrando yn astud – pwnc yn bwrpasol ac yn addas iawn.”

“An excellent performance, pupils were totally involved in the plot.”

“The topic covered is very relevant to the PSE curriculum. Discussions worth brought out many feelings, opinions and suggestions of how to cope with bullying.”

Dyma gerddi gan ddisgyblion Ysgol Ffynnonbedr, Llanbedr Pont Steffan.
Here are some poems by pupils Ysgol Ffynnonbedr, Lampeter.



Bullying or Friendship?

Punching, kicking, pushing,
That’s what bullying is.
Spitting, threatening, ignoring,
That’s what bullying is.

Hatred, racism, name-calling,
That’s what bullying is.
Leaving out, pinching, stealing,
That’s what bullying is.

Hugging, laughing, playing,
That’s what friendship is.
Sleepovers, parties, games,
That’s what friendship is.

Picnics, football in the park, sharing,
That’s what friendship is.
Playing together, outings together, being together,
That’s what friendship is.

Bullying or friendship,
Which one is best?
Bullying is nasty and cruel,
Friendship is good, it beats the rest!”


Not Me

There I was lying on the floor,
After the bully had knocked me out the door.
There he was running at me,
Because he was going to attack me,
I didn’t know what to do
All the breath had been knocked out of me,
I couldn’t shout I couldn’t scream
I woke up it was just a dream.
I dreaded school the next day
At home I wasn’t allowed to stay
I pumped up my chest and than got dressed
I walked into school and funnily everything was cool!

"

adolygiad gan: Athrawon a disgyblion Ysgol Ffynnonbedr, 02 / 03 / 2007
   
   

Crash (2007)

Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams

Crash 2007 - Pam Parker

" Ymateb i'r perfformiad 'Crash' yng Nghanolfan Ddawns, Llandrindod nos Sadwrn y 24ain o Chwefror.
Response to the performance of 'Crash' in Llandrindod Dance Centre, Saturday night the 24th of February.


I just wanted to drop you a line to say how brilliant Crash was on Saturday night. We have seen a number of youth targeted drama productions but this was the best by far and the first one in Llandrindod. The mix of music and humour added an extra dimension and feedback from young people has been very positive.

Numbers were lower than expected on the night and perhaps making a charge would have solved that but we wanted it to be as inclusive as possible and despite the low numbers we had a wide range of young people attending which was the aim.
Thank you once again

Best wishes

Pam

Pam Parker
Senior Area Youth Worker
Mid Wales Area PCC youth services


Hoffwn ysgrifennu atoch i ddweud mor wych oedd Crash nos Sadwrn. ‘Rydym wedi gweld nifer o gynyrchiadau sydd wedi cael eu hanelu at bobl ifanc yn eu harddegau, ond dyma’r ore o bell ffordd, a’r gyntaf yma yn Llandrindod. Roedd cynnwys cerddoriaeth a hiwmor yn ychwanegu dimensiwn arall i’r perfformiad, a chafwyd ymateb cadarnhaol iawn gan y bobl ifanc a’i gwelodd.

Roedd y niferoedd yn is na’r disgwyl ar y noson ac efallai pe bawn wedi codi tâl byddai hyn yn datrys y broblem, ond roeddem am iddo fod mor gynhwysol a phosibl. Er bod y niferoedd yn fychan, mynychodd nifer o bobl ifanc, a dyma mewn gwirionedd oedd y nôd.

Diolch unwaith eto,

Cofion Cynnes,

Pam

Pam Parker
Senior Area Youth Worker
Mid Wales Area PCC youth service.
"

adolygiad gan: Pam Parker, 02 / 03 / 2007
   
   

Nid Fi / Not Me 2007

Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Ioan Evans

Nid Fi - Ysgol Bronant

" “Roedd y perfformiad yn tynnu sylw’r plant at fwlian – sut y teimlai unigolion, y dylent siarad a rhywun os ydynt yn cael eu bwlian a hefyd effallai bod rhesymau pam bod unigolion yn bwlian. Roedd yr iaith yn addas ar gyfer y disgyblion ac roedd amrywiaeth yr eirfa yn y gweithdy yn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer ystod eang o allu.”
"

adolygiad gan: Ysgol Bronant., 27 / 02 / 2007
   
   

Nid Fi / Not Me 2007

Gan Mari Rhian Owen
cyfarwyddwyd gan Ioan Evans

Nid Fi - Ysgol Craig yr Wylfa

" “Cyflwyniad bywiog a ddaliodd sylw’r plant. Llawer o’r plant sydd ar fin symud i ysgol Uwchradd wedi cael llawer o galondid tra’n gwylio.”"

adolygiad gan: Ysgol Craig yr Wylfa, 26 / 02 / 2007
   
   

Stones/ Tafliad Carreg

Gan Tom Lycos a Stefo Nantsou
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner

Carys Mai Lloys - Tafliad Carreg

" Adolygiad o ‘Tafliad Carreg’

A hithau’n fore ddydd Gwener yn dilyn wythnos hir a chaled o waith, dyma fi’n darganfod fy hun yn eistedd mewn llys barn yn trafod dedfryd dau fachgen ifanc a gyhuddwyd o ddynladdiad wedi iddynt daflu carreg oddi ar bont uwchben traffordd.
A’r cwestiwn mawr – euog neu di-euog?
Mewn gwirionedd, roeddwn i’n eistedd yn un o nifer yn neuadd Ysgol Gyfun Penweddig yn dilyn perfformiad gonest a dirdynnol gan gwmni Arad Goch o ‘Tafliad Carreg’. Dyma ail-gynhyrchiad Arad Goch o’r ddrama a berfformir gan ddau actor brwd ac egniol sef Iwan Charles ac Owain Llyr Edwards ac mae eu perfformiadau yn ganolog i lwyddiant y ddrama hon.
Mae Tafliad Carreg wedi ei selio ar ddigwyddiad go iawn ac ar gymeriadau go iawn ac o ganlyniad i hyn, mae gonestrwydd y sefyllfa yn ymestyn yn ddi-rwystr i galon y gynulleidfa.
Mae’r ddrama a ysgrifennwyd gan Tom Lycos a Stefo Nantsou wedi ei selio ar adroddiad papur newydd â’r teitl ‘Boys on Death Charge’ sy’n adrodd hanes dau fachgen ifanc sy’n darganfod eu hunain mewn cythrwfl wedi i chwarae droi’n chwerw.
Yn y ddrama, fe’n cyflwynir ni i bedwar cymeriad : dau grwt ifanc, y naill yn bymtheg a’r llall yn dair-ar-ddeg sy’n brwydro yn erbyn cydymffurfiaeth a rheolau cymdeithas ar un llaw; ac ar y naill llaw yn ysu i gael eu derbyn ac i berthyn.
Y ddau gymeriad arall yw’r ddau ditectif sydd yng ngofal yr ymchwiliad ac sydd yn rhoi strwythur i’r ddrama. Maent yn gymeriadau gwrthrychol sy’n cyflwyno a gwthio’r ddadl a’r drafodaeth a’i gadael yn benagored i’r gynulleidfa. Mae crefft yr actorion wrth symud o naill gymeriad i’r llall yn syfrdanol a llwyddant i gynnal yr egni yn ddi-ben-draw.
Fe’m tywysir drwy’r stori yn gelfydd ac mae arddull fywiog y ddrama yn croesawu ymateb didwyll y gynulleidfa ac mae’r actorion ar eu gorau o gael ymateb gan y bobl ifanc.
Mae natur y gofod yn syml dros ben, ac eto, ceir ymgais deilwng i abrofi gyda deinamig y set ac amrywiadau delweddol. Mantais set syml, wrth gwrs, ydy’r agosatrwydd â’r gynulleidfa a dyma un o gryfderau’r cynhyrchiad hwn. Er mwyn cynnal yr agosatrwydd hyn, mae’r actorion wedi creu cymeriadau didwyll, mewn sefyllfa real gan arbrofi â thechnegau dramatig creadigol dros ben.
Un o’r uchafbwyntiau personol i mi oedd y rhyddid creadigol oedd ynghlwm wrth y perfformiad. Ni chyfyngwyd yr actorion na’r gynulleidfa yn ystod y ddrama a chafwyd perfformiad llawn egni, cyffro, angst, hiwmor a cherddoriaeth gyfoes oedd ar yr un pryd yn ymdrin â thema a phwnc dwys a difrifol.
Dyma un o’r perfformiadau theatr-mewn-addysg prin a lwyddodd i hoelio sylw a diddordeb pob un unigolyn yn yr ystafell drwy gydol y perfformiad ac a daniodd ddadl chwilboeth yn dilyn y ddrama ynghylch dedfryd y ddau fachgen.

Dyma i chi berfformiad theatrig pwerus a ffraeth sy’n cwrdd a’r gynulleidfa ar lefel aeddfed a deallusol ac sy’n ysgogi dychymyg y gwyliwr mewn modd cyffrous ac unigryw.


Review of ‘Stones’

It’s a Friday morning of a very long and tiring week, and I find myself sitting in a court room discussing the verdict of two young boys who, following an incident involving them throwing stones from a motorway bridge, are accused of manslaughter. The big question being : guilty or not guilty?
In fact, I wasn’t in a courtroom at all, I was one of many captivated individuals in Penweddig School hall following an honest and moving performance by Arad Goch called ‘Stones’. This is the second time for the company to perform this play. It is performed by two gripping and energised actors : Iwan Charles and Owain Llyr Edwards and their performances are central to the success of this play.
‘Stones’ is based on a true story an real characters and therefore the truth and reality of the situation is easily accesssible to the audience and we were gripped from the very first scene.
The play, which is written by Tom Lycos and Stefo Nantsou is based on a newspaper report entitled ‘Boys on Death Charge’ which recalls the story of two boys who find themselves in a sticky situation after one foolish act.
The story is narrated using four main charcters : the two young boys, who are typical teenage boys fighting against conformism and society expectations on the one hand and on the other hand in desperate need of acceptance.
The other two characters are the ditectives in charge of the investigation who give structure to the play. They are objective characters who skilfully present the argument and discussion arising from the play in a way which leaves it open ended to the audience. The actors’ technique of switching back and forth from the different characters is extraordinary and they successfully maintain the energy throughout the performance.
The story is presented exquisitely and the energetic style of the performance welcomes an organic and honest reaction from the audience and the actors are at their best when encouraged by the audience.
The nature of the set and space is relatively simple, but there is a conscious effort to experiment with the dynamic of the set and imagistic variations. One of the advantages of a relatively bare set, of course, is the close proximity between audience and actor and this is one of the strengths of this production. In order to maintain this closeness, the actors have created believable characters, in a real situation experimenting with crreative dramatic techniques. A personal highlight for me is the creative freedom throughout the performance. Neither the actors or the audience were restricted in any way, shape or form which resulted in a performance full of energy, excitement, anxst, humour and contemporary music which simultaneoulsy dealt with a gritty and intense subject matter.
This was one of the few theatre in education productions which successfully captured the attention of every member of the audience throughout the hour performance and which provoked a heated discussion at the end.

This is a gritty and powerful drama which meets the audience on an intellectual and understanding level and which inspires the audience in and unique and exciting way.

"

adolygiad gan: Carys Mai Lloyd, 03 / 02 / 2006
   
   

Llyfrau'n Taro 10 2006

Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams

Sioe 2006 yn llwyddiant mawr

" Mae sioe Taro 10 2006 ar daith ar hyn o bryd ac yn profi'n llwyddiant ysgubol. Dyma farn rhai o'r bobl ifanc sydd wedi ei gweld:

Roeddwn i’n hoffi Ca Va Safana a Pen Dafad gorau ond roedd Creadyn a Sgwbiw Aur yn dda hefyd. Roedd yr actorion yn newid cymeriadau llawer a roeddwn i’n hoffi hyn. Rydw i’n credo Ca Va Safana oedd y perfformiad gorau. Roedd e’n ddoniol pan roedden nhw’n symud ei pennau nol a mlaen felt air iâr. Rydw i’n mynd i drio darllen y llyfrau i gyd.
F.J Morgan (Ysgol Tregaron)

Mwynheuais y perfformiad wnaethoch ar y pedwar llyfr sef Sgwbidw Aur, Creadyn, Pen Dafad a Ca va Safana. Mwynheuais Pen Dafad yn fwy na'r lleill oherwydd bod y syniad bod y bachgen yma wedi mynd i gysgu un nos a wedyn codi a wedi throi'n ddafad yn hollol ddwl, ond yn syniad wych. Roedd yr actio'n dda iawn ac yn ddoniol, hoffwn pe byddech yn dod yn aml i'r ysgol a gwneud rhagor o berfformiadau ar lyfrau Cymraeg yn y dyfodol.
Steffani James, Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul

Roedd y perfformiad a welsom y bore yma yn dda iawn. Hoffwn weld mwy o llyfrau yn cael ei actio fel y gwnaethoch chi. Rwyf wedi darllen Credadyn ac ddim yn ei ddeall yn fawr iawn, ond nawr rwyf yn.
Rhiain Davies (Ysgol Tregaron)

Oedd yn iawn llawn emosiwn ac yn ddoniol iawn. Roedd gyda hiwmor oedran ni ac yn dda iawn. Yn arbennig Dafydd, eisiau brec pob eiliad!!! lol. Rydw i wedi gweld lot o perfformiadau yn y gorffenol. Ond perfformiad chi yn arbennig, y fwyaf doniol.
Gareth Hinton (Ysgol y Strade)

Ar ôl gweld y perfformiad rydw i’n ysu i ddarllen y llyfrau yn enwedig Sgwbidŵ Aur. Roeddwn wedi darllen Pen Dafad a roeddwn yn credu eich bod wedi cyfleu y llyfr yn dda iawn.
Meirian Morgan (Ysgol Tregaron)

Roeddaf wedi mwnhau eich berffomiad. Yn y Ysgol y Strade ar y 19/1/06. Roeddwn wedi cael sbri oherwydd roedd Dafydd yn ddoniol iawn!
Roedd yr un cyntaf y Sgwbidwaur yn ddoniol ac roeddwn yn chwerthin fy pen bant.
James Bowen (Ysgol Y Strade)

fy hoff un oedd Creadyn oherwydd roedd e’n ddoniol iawn. Rwy’n gobeithio prynu’r llyfr yma. Rydw fyw debygol o brynu llyfr sydd wedi cael darn wedi ei action allan ohono’r llyfr!!
Lowri Davies (Ysgol Dyffryn Teifi)

Roeddwn wedi mwynhau'n arw ac roedd pob un o'r golygfeydd yn ddoniol iawn a llawn bywyd. Fy hoff gyflwyniad oedd 'Pen Dafad'gan fy mod wedi ei ddarllen eisoes ac ei fod yn llawn hiwmor - roeddwn wedi chwerthin nes o'n i'n crio! Bydd y cyflwyniadau eraill yn fy annog i ddarllen y llyfrau eraill.
Elain Mair (Ysgol Brynhyfryd)

Mi wnes i a phawb arall fwynhau y darnau o ddrama. Fy hoff ddarn oedd allan o ‘Pen Dafad’ Bethan Gwanas. Rwyf ar fin archebu’r llyfr ac rwy’n siwr y gwnaf ei fwynhau. Gobeithiaf eich gweld nol yn yn yr ysgol cyn gynted a phosib.
Ffion Jones (Ysgol Uwchradd Llanfyllin)

Roeddwn i yn meddwl roedd o'n ddoniol iawn.Roedd Dafydd yn cwl. Fy hoff lyfr i oedd Ca Va Safana. Doeddwn i ddim yn gallu stopio chwerthin. Rydw i eisiau darllen mwy.
Rebecca Collins, Ysgol Syr Thomas Jones





"

adolygiad gan: , 26 / 01 / 2006
   
   

Tafliad Carreg/Stones

Gan Tom Lycos & Stefano Nantsou
cyfarwyddwyd gan

Chware'n Troi'n Chwerw

" A hithau’n fore ddydd Gwener yn dilyn wythnos hir a chaled o waith, dyma fi’n darganfod fy hun yn eistedd mewn llys barn yn trafod dedfryd dau fachgen ifanc a gyhuddwyd o ddynladdiad wedi iddynt daflu carreg oddi ar bont uwchben traffordd.
A’r cwestiwn mawr – euog neu di-euog?
Mewn gwirionedd, roeddwn i’n eistedd yn un o nifer yn neuadd Ysgol Gyfun Penweddig yn dilyn perfformiad gonest a dirdynnol gan gwmni Arad Goch o ‘Tafliad Carreg’. Dyma ail-gynhyrchiad Arad Goch o’r ddrama a berfformir gan ddau actor brwd ac egniol sef Iwan Charles ac Owain Llyr Edwards ac mae eu perfformiadau yn ganolog i lwyddiant y ddrama hon.
Mae Tafliad Carreg wedi ei selio ar ddigwyddiad go iawn ac ar gymeriadau go iawn ac o ganlyniad i hyn, mae gonestrwydd y sefyllfa yn ymestyn yn ddi-rwystr i galon y gynulleidfa.
Mae’r ddrama a ysgrifennwyd gan Tom Lycos a Stefo Nantsou wedi ei selio ar adroddiad papur newydd â’r teitl ‘Boys on Death Charge’ sy’n adrodd hanes dau fachgen ifanc sy’n darganfod eu hunain mewn cythrwfl wedi i chwarae droi’n chwerw.
Yn y ddrama, fe’n cyflwynir ni i bedwar cymeriad : dau grwt ifanc, y naill yn bymtheg a’r llall yn dair-ar-ddeg sy’n brwydro yn erbyn cydymffurfiaeth a rheolau cymdeithas ar un llaw; ac ar y naill llaw yn ysu i gael eu derbyn ac i berthyn.
Y ddau gymeriad arall yw’r ddau ditectif sydd yng ngofal yr ymchwiliad ac sydd yn rhoi strwythur i’r ddrama. Maent yn gymeriadau gwrthrychol sy’n cyflwyno a gwthio’r ddadl a’r drafodaeth a’i gadael yn benagored i’r gynulleidfa. Mae crefft yr actorion wrth symud o naill gymeriad i’r llall yn syfrdanol a llwyddant i gynnal yr egni yn ddi-ben-draw.
Fe’m tywysir drwy’r stori yn gelfydd ac mae arddull fywiog y ddrama yn croesawu ymateb didwyll y gynulleidfa ac mae’r actorion ar eu gorau o gael ymateb gan y bobl ifanc.
Mae natur y gofod yn syml dros ben, ac eto, ceir ymgais deilwng i abrofi gyda deinamig y set ac amrywiadau delweddol. Mantais set syml, wrth gwrs, ydy’r agosatrwydd â’r gynulleidfa a dyma un o gryfderau’r cynhyrchiad hwn. Er mwyn cynnal yr agosatrwydd hyn, mae’r actorion wedi creu cymeriadau didwyll, mewn sefyllfa real gan arbrofi â thechnegau dramatig creadigol dros ben.
Un o’r uchafbwyntiau personol i mi oedd y rhyddid creadigol oedd ynghlwm wrth y perfformiad. Ni chyfyngwyd yr actorion na’r gynulleidfa yn ystod y ddrama a chafwyd perfformiad llawn egni, cyffro, angst, hiwmor a cherddoriaeth gyfoes oedd ar yr un pryd yn ymdrin â thema a phwnc dwys a difrifol.
Dyma un o’r perfformiadau theatr-mewn-addysg prin a lwyddodd i hoelio sylw a diddordeb pob un unigolyn yn yr ystafell drwy gydol y perfformiad ac a daniodd ddadl chwilboeth yn dilyn y ddrama ynghylch dedfryd y ddau fachgen.

Dyma i chi berfformiad theatrig pwerus a ffraeth sy’n cwrdd a’r gynulleidfa ar lefel aeddfed a deallusol ac sy’n ysgogi dychymyg y gwyliwr mewn modd cyffrous ac unigryw.

"

adolygiad gan: Carys Mai, 26 / 01 / 2006
   
   

Tafliad Carreg/Stones

Gan Tom Lycos & Stefano Nantsou
cyfarwyddwyd gan

Gritty and powerful

" It’s a Friday morning of a very long and tiring week, and I find myself sitting in a court room discussing the verdict of two young boys who, following an incident involving them throwing stones from a motorway bridge, are accused of manslaughter. The big question being : guilty or not guilty?
In fact, I wasn’t in a courtroom at all, I was one of many captivated individuals in Penweddig School hall following an honest and moving performance by Arad Goch called ‘Stones’. This is the second time for the company to perform this play. It is performed by two gripping and energised actors : Iwan Charles and Owain Llyr Edwards and their performances are central to the success of this play.
‘Stones’ is based on a true story and real characters and therefore the truth and reality of the situation is easily accessible to the audience and we were gripped from the very first scene.
The play, which is written by Tom Lycos and Stefo Nantsou is based on a newspaper report entitled ‘Boys on Death Charge’ which recalls the story of two boys who find themselves in a sticky situation after one foolish act.
The story is narrated using four main characters: the two young boys, who are typical teenage boys fighting against conformism and society expectations on the one hand and on the other hand in desperate need of acceptance.
The other two characters are the detectives in charge of the investigation who give structure to the play. They are objective characters who skilfully present the argument and discussion arising from the play in a way which leaves it open ended to the audience. The actors’ technique of switching back and forth from the different characters is extraordinary and they successfully maintain the energy throughout the performance.
The story is presented exquisitely and the energetic style of the performance welcomes an organic and honest reaction from the audience and the actors are at their best when encouraged by the audience.
The nature of the set and space is relatively simple, but there is a conscious effort to experiment with the dynamic of the set and imagistic variations. One of the advantages of a relatively bare set, of course, is the close proximity between audience and actor and this is one of the strengths of this production. In order to maintain this closeness, the actors have created believable characters, in a real situation experimenting with creative dramatic techniques. A personal highlight for me is the creative freedom throughout the performance. Neither the actors or the audience were restricted in any way, shape or form which resulted in a performance full of energy, excitement, angst, humour and contemporary music which simultaneously dealt with a gritty and intense subject matter.
This was one of the few theatre in education productions which successfully captured the attention of every member of the audience throughout the hour long performance and which provoked a heated discussion at the end.

This is a gritty and powerful drama which meets the audience on an intellectual and understanding level and which inspires the audience in and unique and exciting way.


"

adolygiad gan: Carys Mai, 26 / 01 / 2006
   
   

Merch Cae Bach

Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner

Anwen a Kate ar Merch Cae Bach

" "Mwynheuom y sioe yn fawr iawn, oherwydd mae'n dangos sut oedd bywyd yn yr Ail Ryfel Byd ac mae'n dangos faint o fwyd roeddent efo pob wythnos. Ein hoff gymeriad oedd Emlyn/Mr Howells oherwydd roedd yn ddoniol. Ein hoff ran oedd pan oedd Joan yn dysgu Cymraeg...""

adolygiad gan: Anwen a Kate, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 08 / 11 / 2005
   
   

Merch Cae Bach

Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner

Sean, Ben a Matt ar Merch Cae Bach

" "Roeddwm ni wedi mwynhau y sioe ond roedd rhai o'r rhannau yn y sioe ddim mor ddiddorol fel pan oedd Joan yn cyflwyno ei hun. Roedd yr actor oedd yn chwarae Mr Howells a Emlyn yn glyfar i chwarae dau ran yn y sioe. Roeddem ni yn hoffi'r rhan pan oedd Emlyn yn ysgrifennu llythyr i'w fam. Roedd y gweithdy yn ddiddorol iawn ac yn hwyl i'w wneud"."

adolygiad gan: Sean, Ben a Matt, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 08 / 11 / 2005
   
   

Merch Cae Bach

Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner

Catrin ac Emma-Rose ar Merch Cae Bach

" "Roeddwn yn hoffi Merch Cae Bach yn fawr. Ar y dechrau roedd Rhiannon yn egluro beth oedd yn digwydd yr amser hynny yn gret. Roedd y gwisgoedd fel petaent yn hen iawn. Roedd cefndir yr amgueddfa yn rhoi syniad i ni beth oedd yn digwydd yn adeg 1939. Roedd llygaid yr actorion i gyd yn siarad. Byddwn yn hoffi os byddech wedi dod menw a mwy o gymeriadau yn y sioe.""

adolygiad gan: Catrin ac Emma-Rose Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 08 / 11 / 2005
   
   

Merch Cae Bach

Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner

Menna, Ceri ac Elin ar Merch Cae Bach

" Mwynheuom y sioe yn fawr iawn oherwydd roedd yn dangos i ni fod yn ddiolchgar am beth sydd gyda ni. Joan oedd ein hoff gymeriad ni oherwydd roedd yn ddiddorol i weld sut roedd yn dysgu Cymraeg pan oedd ganddi acen mor gryf o Lerpwl. Ein hoff ran oedd Joan yn dechrau dysgu Cymraeg a dweud 'll' a 'ch'."

adolygiad gan: Menna, Ceri ac Elin, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 08 / 11 / 2005
   
   

Merch Cae Bach

Gan
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner

Efa Lois a Marged Lois ar Merch Cae Bach

" "Rydym wedi mwynhau'r perfformiad o Merch Cae Bach y bore ma.Roeddem yn cael ein sugno mewn i'r stori. Roedd yr actorion yn actio'n arbennig ac yn cyflwyno'r stori yn dda i'r gynulleidfa."

adolygiad gan: Efa Lois a Maged Lois, 08 / 11 / 2005
   
   

Conffeti

Gan Sera Moore Williams
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams

Confetti yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005

" Crash oedd teitl y ddrama roedd Arad Goch wedi’i hysbysebu fel eu drama ar gyfer wythnos yr Eisteddfod eleni, ond oherwydd salwch un o aelodau’r cast a gyda ychydig ddyddiau yn unig o rybudd, fe berfformiwyd Conffeti yn ei lle, ail-lwyfaniad o ddrama berfformiwyd am y tro cyntaf yn 2002. Er bod y cast o dri wedi chwarae’r un rhannau yn y llwyfaniad gwreiddiol, mae’r ffaith ei bod hi’n wedi’i llwyfanu ar gymaint o fyr rybudd yn ei gwneud hi’n fwy rhyfeddol byth mai dyma un o gynhyrchiadau cryfaf yr wythnos hon.

Mae hi’n ddiwrnod priodas tad Mark a Steve, ac mae’r ddau frawd yn cyfarfod am y tro cyntaf ers wyth mlynedd, ers i Mark godi’i bac a gadael Steve ar ei ben ei hun gyda’i dad yn dilyn marwolaeth eu mham. Yno hefyd yn dathlu mae Luke, cyfaill Mark a Steve o’u harddegau, ac ef sy’n gyfrifol am dywys y gynulleidfa drwy hanes y ddau frawd. Luke yw storiwr y noson ac wrth iddo adrodd hanes y tri mae’r parti priodas yn troi’n noson o hel atogion, y cyfeillgarwch, yr hwyl, straeon sydd yn aml yn ddigri a hwyliog, ac weithiau’n drist a dirdynnol.

Roedd y llwyfannu’n hynod o syml a chynnil ac yn hollol effeithiol; roedd y set wedi’i lunio o dri rostra du, nid oedd yna unrhyw newid yn y goleuo plaen drwy gydol y perfformiad, ac roedd newidiadau gwisgoedd wedi’i gyfyngu i ddim ond i dynnu siacedi’r siwtiau. Serch hynny, roedd nifer lleoliadau gwhanaol y ddrama yn niferus, ynghyd a’r anghenion effeithiau sain. Dyma oedd prif gryfder y cynhyrchiad: roedd y lleoliadau’n cael eu hawgrymu a’r effeithiau sain yn cael eu creu drwy ystumiau a synnau a grewyd gan y tri actor, yn ogystal a’r pyiau o gerddoriaeth a oedd yn cael eu perfformio ganddynt drwy gydol y perfformiad.

Roedd y cynhyrchiad yn amlwg wedi’i ganoli’n dyn o amgylch y tri actor gan mai nhw oedd yn gyfrifol am bopeth. Roedd angen felly cael tri actor hyblyg iawn er mwyn medru cyrraedd anghenion y darn ac roedd donniau Rhys ap Trefor, Owain Llyr Edwards and Iwan Charles yn llenwi’r anghenion hynny’n hawdd. Nid yn unig roedd yn rhaid iddynt fod yn actorion cryf, roedd angen iddynt fod yn berfformwyr cryfach, ac roedd y tri yn arbennig o dda yn y ddau ystyr.

Iwan Charles a Rhys ap Trefor oedd yn chwarae rhan y ddau frawd, Mark a Steve. Roedd yna gysylltiad amlwg rhwng y ddau, a hawdd iawn oedd credu’r berthynas. Roedd yma ddyfnder i’r perfformiadau; sawl tro y sylwais ar Steve yn sefyll ar ei ben ei hun heb ddweud na gwneud dim ond bwyta’i greision, ond roedd yn amlwg ar wyneb Rhys ap Trefor fod yna lawer iawn yn digwydd ym meddwl Steve. Er bod emosiwn ffyrnig y ddrama yn bennaf yng ngholygfeydd y ddau frawd, yn enwedig y rhai diweddaraf, roedd y ddau hefyd yn gyfrifol am lawer o’r hiwmor. Er nad oedd yna fawr o jocs fel y cyfryw yn y sgript roedd amseru comic yr actorion, Iwan Charles yn enwedig, yn troi’r llinellau mwyaf diniwed, megis y ffaith bod Mark yn gobeithio priodi, cael ty “a pets a ballu” yn hynod o ddigri.

Er nad yw’n actor cyn gryfed a’i ddau gyd-berfformiwr, roedd cyfranniad Owain Llyr Edwards yn grefftus ac yn hanfodol. Ac er mai cymeriad eilradd yw Luke ym mhlot y ddrama, fe fuaswn yn dadlau mai’i ran ef yw’r un pwysicaf yn y cynhyrchiad. Yn ystod sawl golygfa rhwng y ddau frawd, roedd Owain Llyr Edwards yn eistedd a’r ochr y llwyfan yn chwarae’i gitar, yn isgerddoriaeth i ddigwyddiadau’r ddrama. Ni fuasai’r olygfa drist wrth i’r ddau frawd drafod marwoleath eu mam wedi bod hanner mor effeithiol oni bai bod yna gerfforiaeth dyner wedi’i chwarae drwyddi. Yn yr un modd, wrth i Mark drio tagu Steve trwy glymu’i dei’n rhy dyn, roedd lefel y sain a chyflymder y gerddoriaeth yn cynyddu wrth iddo fygu. Luke oedd hefyd yn aml yn gwneud synnwyr o’r plot, yn esbonio’r digwyddiadau neu’n rhannu’i farn a’r gynulleidfa, ac eto roedd effeithiolrwydd y ddrama yn ddibynnol ar hynny. Ni fuasai’r diweddglo wedi bod hanner mor effeithiol heb i Luke ddatgan yn ddi-emosiwn, “Mae pethau’n digwydd weithiau, tydi?”

Os oedd yna un broblem gyda’r perfformiadau, yr anghysonebau yn llafariaeth y ddeialog oedd hynny. Ar y cyfan, roedd y ddeialog yn sgyrsiol a naturiol, ac felly roedd ffurfioldeb rhai brawddegau yn tarddu ar natur lafar y script. Er enghraifft, fe ddywedodd Mark “anghofies i” pan yn hytrach y buaswn wedi disgwyl iddo ddweud “nesh i anghofio.” Ond wrth gwrs, mater bach ydi peth fel hyn pan mae’r perfformiadau mor gryf.

Wrth gwrs, mae hi o hyd yn haws creu perfformiadau crefftus fel hyn pa’n mae’r script a’r cyfarwyddo, y ddau gan Sera Moore Willaims, mor fedrus a’i gilydd ac yma eto roedd Conffeti yn rhagorol. Roedd yr ysgrifennu’n gryno ac yn llawn drama heb unwaith fod yn felodramatic. Er bod yna sawl digwyddiad yng nghefnidir y ddau frawd (megis y cyffuriau, marwoaleth y fam, y lladrata, y tad tresigar) a fuasai o bosib wedi cael eu defnyddio fel canolbwynt drama arall, yma roeddent yn cael eu dangos fel un elfen o stori fwy ac roedd y ddrama yn gryfach oherwydd hynny; nid oedd yma unrhyw farnu na chondemnio o’r yfed na chymeryd cyffuriau na’r tor-cyfraith a gyflawnwyd gan y tri. Yn hytrach fe gafwyd portread sensitif o blant, yn dilyn diffyg arweiniad gan eu tad, oedd bellach ar goll yn y byd. Os oedd un cymeriad yn cael ei gondemnio yn y darn, y tad di-enw oedd hwnnw, ac un o drasediau mawr y ddrama oedd gwybod bod ei wraig newydd ddim ond mis i ffwrdd o roi genedigaeth i’w drydydd plentyn. Drama am fethiannau oedolion sydd yma ac nid drama am ieuenctid wedi mynd yn rhemp. Mae hi’n ddrama amserol tu-hwnt.

Er bod hyn i gyd yn swnio’n ofnadwy o lleddf, a fod yna dristwch a siomedigaethau cyffyrddadwy yn mywydau’r tri, rhaid pwysleiso bod yna lif o dynerwch yn rhedeg drwy gydol y ddrama. Er bod yn well gan Mark fynd i yfed gyda’i dad yn hytrach na gwylio’i frawd bach yn perfformio rhan blodyn mewn drama, fe ddangoswyd yn yr olygfa ganlynol ei fod, gyda llafn rasal, wedi cerfio siap blodyn ar ei fraich, ynghyd ag enw Donna, ei gariad. Ni ddywedywd be na pwy oedd y blodyn i fod yn symbol ohono, ond weithiau mae dweud dim yn datgelu’r cyfan.

Roedd y cyfarwyddo yn dynn a chywrain, ac er bod y set yn noeth ac na ddefnyddiwyd unrhyw brops nag effeithiau sain technnegol, roedd hi wastad yn hawdd dehongli lleoliad yr olygfa. Heb silffoedd na troli, roedd hi’n bosib gweld yn syth ein bod ni mewn archfarchnad a hynny’i gyd o ystumiau’r actorion. Yn yr un modd yn ddiweddarach, fe grewyd arced a hynny dim ond trwy efelychu synna’r gemau a’r peiriannau gamblo.

Conffeti yw’r cynhyrchiad mwyaf theatrig, grymus, a chelfydd yr wyf wedi cael y pleser o’i weld yn ddiweddar, ac mae hi’n haeddu cael ei gweld gan lawer mwy na’r gynulleidfa fach oedd yn y theatr yr un noson a mi.


‘Crash’ was the title of the play Arad Goch Theatre Company was advertising as their play for the Eisteddfod week this year, but due to illness, and with only a few day’s notice, the company performed ‘Confetti’ instead, a play which they had performed for the first time in 2002. Although the cast of three played the same characters as in the original production, the fact that they had only days to get ready made it even more surprising that this was one of the week’s strongest performances.

Mark and Steve’s father is getting married, and the two brothers meet again. It is eight years since Mark moved away and left Steve on his own with his father following their mother’s death. Luke - Mark and Steve’s friend from their teenage years is also there to join in the celebrations, and it is he who tells the audience of the family’s history. Luke is the storyteller, and as he reveals their stories, the wedding party turns into a night of reminiscing - the friendship, the fun, stories that are often funny and light-hearted, sometimes sad and painful.

The staging was very simple and understated, and totally effective; the set was formed from three black rostra, there was no change to the simple lighting throughout the performance, and the costume changes were limited to just taking off of jackets. Despite this there were many different locations in the play together with various sound effects. This was the production’s greatest strength: the locations were suggested and the sound effects created by the movements and sounds created by the three actors, in addition to the extracts of music that were performed by the actors throughout the production.

The production obviously focused on the three actors because they were responsible for everything. That meant that three multi-talented actors were needed so that the needs of the play were achieved, and the talents of the three actors – Rhys ap Trefor, Owain Llŷr Edwards and Iwan Charles fulfilled these needs easily. They had to be strong actors and even stronger performers, and the three were extremely good in both senses.

Iwan Charles and Rhys ap Trefor played the brothers – Mark and Steve. There was an obvious connection between the two and it was easy to believe in the relationship. There was a depth to the performances, more than once I saw Steve standing on his own, saying nothing and doing nothing except munching his crisps, but it was obvious on Rhys ap Trefor’s face that there was much more going on in Steve’s mind. Although there is tremendous emotion in the play, mainly conveyed in the scenes involving the two brothers, and especially the last scene, the two also were responsible for a lot of the humour. Although there weren’t many jokes in the script the very precise comic timing of the actors, and Iwan Charles in particular, made some of the most innocent lines, such as the fact that Mark hoped to get married and ‘have pets and so on’ very funny indeed.

Although he isn’t as strong an actor as the others, Owain Llŷr Edwards’s contribution was very accomplished and essential to the play. And although Luke is a secondary character in the play, I would argue that his role is the most important in the production. In many scenes between the two brothers Owain Llŷr Edwards is sitting at the edge of the stage playing his guitar, an accompaniment to the events of the play. The scene where the brothers talk about their mother’s death would not have been half as moving without the gentle music played throughout the scene. In the same way in the scene where Mark tries to choke Steve by knotting his tie too tightly the level of the music increases in sound and tempo as the brother is choking. Luke is also often the one who makes sense of the plot by explaining the situations or by sharing his opinions with the audience, and again the effectiveness of the play was dependent on this. The ending of the play would not have been half as effective had Luke not emotionlessly declared: “Things happen sometimes, don’t they?

If there was one problem with the production, it was that the diction was not always consistent. On the whole, the dialogue was natural and chatty, and therefore the formalness of some sentences was not in keeping with the more natural conversational style adopted. But of course this is a very small criticism in such a strong performance.

Of course it is always easy to create skilled performances like this one when the script and the directing, both by Sêra Moore Williams, are so good, and in these aspects again Confetti was excellent. The writing was compact and full of drama without once being melodramatic. Although there are many events in the brothers’ lifeves (such as drugs, their mother’s death, the stealing, a violent father) that might have been the focus in other plays, here they were all used as a part of a bigger story - and because of this the play was much stronger; there was no condemnation of the drinking or the drug taking or the breaking of the law committed by the three. Instead there is a sensitive portrayal of children, who lacking parental guidance, feel confused and alone. If any character is condemned in the play, it is the nameless father, and one of the play’s greatest tragedies is that his new wife is just about to give birth to his third child. This is a play about the failure of adults and not a drama about young people going ‘off the rails’. It is a very timely play.

Although the play sounds very dark and sadness and disappointment has certainly often touched the lives of the three characters, it must be stressed that there is a lot of tenderness in the play. Although Mark prefers to go out drinking with his father rather that watching his younger brother play the part of a flower in the school drama, in the next scene we realise that Mark has (with a razor blade) carved the shape of a flower on his arm, together with the name of his girlfriend, Donna. Nothing is said of the significance of the flower on his arm, but sometimes saying nothing discloses a lot.

The directing was extremely skilful and although the set was bare and that neither props nor technical sound effects were used, it was always easy to understand the location. Without shelves or trolleys, we knew we were in a supermarket, all this conveyed by the characters’ body language. In the same way in another scene, an arcade was created simply by imitating the sound of the slot-machines.

Confetti is the most theatrical, powerful and skilful production that I have had the pleasure of seeing recently, and it deserves to be seen by a much larger audience than the few that were in the theatre at the same time as me.



"

adolygiad gan: Gareth Evans, 16 / 08 / 2005
ffynhonell:

www.theatr-wales.co.uk

   
   

CRASH

Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams

Sound boys!!!

" we are doing a theatre review on crash.we thought the play was sound boys!!! lol the play was easy 2 understand it was amazing lmao! hope 2 c ya soon loadza lv christie nd kirsty xx
"

adolygiad gan: Kirsty Knights and Christie Jones, 13 / 07 / 2005
ffynhonell:

by email

   
   

Llew Lletchwith

Gan Gwyn Morgan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams

Llew Lletchwith - Adolygiad Meinir Edwards

" Roedd Theatr y Werin yn llawn plant eiddgar yn disgwyl cynhyrchiad diweddaraf Arad Goch. Addasiad o lyfr Gwyn Morgan oedd y sioe, a chredaf fod addasu llyfrau’n weledol ar lwyfan fel hyn yn syniad ardderchog ar gyfer yr oedran 7-11 oed. Mae’n creu diddordeb mewn llyfrau ac yn sbarduno ambell un i fynd i chwilio am gopi ar silffoedd y llyfrgell

Heb ddatgelu gormod o’r plot, stori am gowbois yw hi, wedi ei lleoli yn salwn Lwlw Lewis ym mhentre Gwlff Garw. Yn wahanol i’r llyfr, cawn wybod yn syth fod Lwlw a Llew wedi priodi ac mae’r sioe’n dechrau yng ngwledd eu priodas. Cen Cwrw, ffrind pennaf Llew yw’r gwas smala, ac yn yr un araith briodas mae’n adrodd hanes ‘y dydd sul ofnadwy ‘na pan gafodd Gwthgan Jenkins, y baddie, ei ryddhau o garchar San Antonio. O dipyn i beth mae Gwthgan a’i griw yn dychwelyd i Gwlff Garw er mwyn dial ar y siryff Llew a anfonodd ef i’r carchar ugain mlynedd ynghynt am grogi defaid. Dyfalwch chi pwy yw’r arwyr ar ddiwedd y stori!

Daliwyd sylw’r plant o’r eiliad gyntaf pan gawsom arddangosfa o ddawnsio llinell egniol iawn gan y pump actor. Yr un actorion oedd yn perfformio am 50 munud yn ddi-stop, er fod yna oleiaf ddeg cymeriad yn cael eu portreadu i gyd! Roedd hyn ychydig yn ddryslyd i’r plant ieuengaf, ond nid bai’r actorion oedd hynny o gwbl. Roedd yr actio’n wych a’r cymeriadu gwahanol yn golygu fod yn rhaid i’r gynulleidfa, a’r actorion fod ar flaenau eu traed o hyd. Roedd cymeriad Lwlw Lewis yn arbennig wedi dal yn nychymyg llawer o’r plant oherwydd ei gwisg drawiadol.

Roedd y gwisgoedd i gyd yn effeithiol a gwnaed defnydd da o’r ychydig o brops, fel yr hetiau a’r gynau. Hoffais y rhan pan oedd Cen Cwrw’n defnyddio’r brws llawr fel dryll. Roedd y newid cymeriadau’n slic a di-ffws. Roedd y set yn dal llygad, ond nid yn tynnu sylw’n ormodol oddi wrth fwrlwm a chyffro’r stori. Sylw un plentyn oedd – “Trueni na fydden nhw wedi newid y set yn yr ail hanner fel roedd y salwn ugain mlynedd yn gynt” Sylw digon craff a synhwyrol yn fy marn i hefyd. Roedd y goleuadau yn effeithiol, yn enwedig pan oedd Gwthgan a’i griw’n mynd nol i’r pentre ar gefnau’u ceffylau. Roedd wynebau’r dihirod yn ddigon i godi ofn ar y Gorllewin Gwyllt i gyd!

Fe basiodd yr amser yn hynod o gyflym – arwydd o fwynhad rwy’n siwr, ac roedd y diweddglo yr un mor gyffrous a’r dechrau. Mae gen i awydd ymuno a dosbarth dawnsio llinell ar ôl gweld y perfformiad. Roedd holl gynhwysion sioe ardderchog ynddi – digon o chwerthin (“Beth am hoe fach? – Hoi!), tristwch (crio truenus Lwlw), rhamant, ymladd a’r cyfan yn wledd i’r llygad.

Edrychaf ymlaen bob amser at weld cynhyrchiad o safon uchel gan Arad Goch, ac ni chefais fy siomi’r tro hwn chwaith.

Theatr y Werin was full to capacity and the children were eagerly awaiting the start of Arad Goch's latest production. The show was an adaptation of a book by Gwyn Morgan, and I believe that turing a book into a stage show is an excellent idea for the 7-11 age group. It creates interest and inspires one or two to go and look for a copy in the library.

Without revealing too much of the plot, this is the story about cowboys located in the saloon of Lwlw Lewis in the village of Gwlff Garw [Rough Gulf]. Unlike the book we know immediately that Lwlw and LLew are married and the story actually begins on their wedding day. Cen Cwrw [Ken Beer] - Llew's closest friend is the best man and in his speech he refers to that awful Sunday when the baddie, Gwthgan Jenkins, was released from San Antonio jail. Gwthgan and his mates eventually return to Gwlff Garw to seek revenge on sheriff Llew who sent Gwthgan to jail twenty years ago for killing sheep. You guess who the hero is at the end of the story!

The cast had the childrens' attention from the very beginning when the five actors gave a very energetic performance of line-dancing. The same actors performed for the whole 50 minutes and they portrayed ten different characters! This was a bit confusing for teh little ones - but this was no fault of the actors. The acting was brilliant and the different characters meant that the audience, and the actors had to concentrate to keep up with the action. The character of Lwlw Lewis had particulary captured the childrens'imagination because of her spectacular clothes.

All the costumes were extremely effective and good use was made of the few props like the hats and guns. I especailly liked the part where Cen Cwrw used a brush as a gun. The character changes were slick and without fuss. The set was attractive but did not draw too much attention away from the story. One child commented "it was a pity that they didn't change the set at half-time to show how it was twenty years earlier". A very observant and sensible comment in my view. The lighting was effective, especially when Gwthgan and his friends were returning to the village on horseback. The faces of the baddies were enough to scare the whole of the Wild West!

The time passed very quickly - a sure sign of enjoyment, and the ending was as exciting as the beginning had been. I am tempted to take up line-dancing after seeing this production. All the ingredients of the show were excellent - there was humour, sadness, romance, fighting and all this was a feast for the eyes.

I always look forward to seeing performances of quality by Arad Goch, and I was not dissapointed this time either. "

adolygiad gan: Meinir Edwards, Athrawes o Ysgol Rhydypennau, 04 / 05 / 2005
   
   

Anrheg

Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow

Adolygiad C Francis

" Rhagorol ac yn ategu at waith y tymor – y disgyblion wedi ymateb yn dda iawn i’r perfformiad a’r gweithdy – Brysiwch nôl!


Excellent, it supported the work we did during the term. The pupils' response in the workshop was very good - hurry back!"

adolygiad gan: C Francis, Ysgol Gwynfryn, Poniets, 14 / 04 / 2005
ffynhonell:

taflen ymateb

   
   

CRASH

Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams

A simply great production

" The production was simply great. The acting was realisitc and contained no flaws or corpsing. I think that Sera Moore Williams really has a strong talent for playwrighting as the script was so perect for the play. The characters were amazing and i must say, Rhys's dancing was outstanding! Well done to every member of the cast and crew and thank you for visiting Ysgol Tregib in Llandeilo. My class are currently writing a theatre review on Crash and this website has really come in handy.

Thank you very much



"

adolygiad gan: Laura Kleinberg, Age 15, Ysgol Tregib Llandeilo, 10 HDM., 12 / 04 / 2005
ffynhonell:

neges ebost/by e-mail

   
   

Anrheg

Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow

Adolygiad Meinir Jones

" Hoffais y ffaith bod y perfformiad yn agos iawn at y plant – a’r plant yn gallu cyffwrdd â’r set


The fact that the performance was close to the children - so that they could touch the set was good."

adolygiad gan: Meinir Jones, Ysgol Llanddarog, 12 / 04 / 2005
ffynhonell:

ffurflen ymateb

   
   

Anrheg

Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow

Adolygiad Penny Evans

" Perfformiad graenus o safon uchel

A very high standard performance.


"

adolygiad gan: Penny Evans, Ysgol Wdig, 12 / 04 / 2005
ffynhonell:

taflen ymateb

   
   

Aderyn Glas mewn Bocs Sgidiau

Gan Sian Summers
cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner

Adolygiad G Griffiths

" Roedd y plant yn 'mesmerised'

The children were mesmerised"

adolygiad gan: J Griffiths, Ysgol Mathri, 12 / 04 / 2005
ffynhonell:

taflen ymateb

   
   

Anrheg

Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow

Adolygiad H Watkins

" Llwyddwyd i gynnal diddordeb pob plentyn.

The play captured every child's attention.
"

adolygiad gan: H Watkins, Ysgol Y Dderwen, 12 / 04 / 2005
   
   

Anrheg

Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow

Adolygiad J Daniels

" Llawer iawn o wybodaeth wedi ei gyflwyno heb fod y plant yn sylweddoli.

A lot of information was fed to the children without them realising it.




"

adolygiad gan: J Daniels, Glan Cleddau, 12 / 04 / 2005
   
   

Anrheg

Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow

Adolygiad Elinor Jameson

" Diolch am gofio am yr ysgolion bach, gan roi cyfle i ni ddod at ein gilydd a chymdeithasu ar yr un pryd.

Thank you for remembering the little schools, giving us a chance to get together and to socialize at the same time.
"

adolygiad gan: Elinor Jameson, Ysgol Abergwili, 12 / 04 / 2005
ffynhonell:

ffurflen ymateb

   
   

Anrheg

Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow

Adolygiad Carol Dyer

" Dysgwyr oedd nifer o’r plant ac fe oedd pob un wedi deall y cyfan. Helpodd y ddrama i ddatblygu hyder y plant ymhob agwedd – ieithyddol a chymdeithasol


Many of the children were learners and they understood everything. The play helped the pupils gain more confidence in all asepcts of language and social skills."

adolygiad gan: Carol Dyer, Ysgol Capel Cynfab, 12 / 04 / 2005
ffynhonell:

ffurflen ymateb

   
   

Tafliad Carreg/Stones

Gan Tom Lycos & Stefano Nantsou
cyfarwyddwyd gan

Cynhyrchiad perthnasol, pwerus

" 'Rwyf newydd ddod o'r Miwni ar ôl mwynhau'r perfformiad yn aruthrol. Llongyfarchiadau ar gynhyrchiad pwerus, perthnasol iawn i brofiad y gynulleidfa ifanc a hynod theatrig. Llongyfarchiadau arbennig i'r actorion hefyd.
"

adolygiad gan: Gareth Miles, 14 / 02 / 2005
ffynhonell:

ebost

   
   

Yr Ysbryd

Gan Caryl Lewis
cyfarwyddwyd gan Iwan Charles

Adolygiadau Athrawon/Teachers' Responses

" “Bendigedig” (Llan-non)

“Roedd y perfformiad yn dda ac roedd y disgyblion wedi mwynhau yn fawr” (Swyddffynnon)

“Perfformiad arbennig o dda gyda actorion o’r safon uchaf [Fel y cawn bob tro gan y Cwmni]. Sgript addas, bwrpasol mewn iaith dda, gywir. Ymdriniaeth sensitif o’r pwnc”. (Brynherbert)

“Plant wedi mwynhau a deall y themau/negeseuon” (Mynach)

“Y perfformiad wedi cadw sylw’r plant am y sesiwn gyfan. Llawer ohonynt wedi siarad am brofiadau tebyg yn y wers ABCh yn dilyn y perfformiad. Y plant yn gofyn pryd mae’r daith nesaf!" (Craig yr Wylfa)

“Arbennig o dda. Y Pecyn gwaith yn ddefnyddiol iawn” (Llandybie)

“Rwy’n gwybod i’r plant fwynhau gan eu bod wedi siarad am y ddrama am ddiwrnodau”. (Y Tymbl)

"Fantastic" (Llan-non)

The performance was good and the children enjoyed themselves very much" (Swyddffynnon)

"The children enjoyed themselves and understtod the themes and messages". (Mynach)

"A very good performance by good actors [As always with Arad Goch]. A very appropriate script using a good standard of language. A sensitive treatment of the subject." (Brynherbert)

"The performance held the children's attention during the whole session. Several discussed similar situations in the ensuing PSE lesson. The children want to know when they can expect the next show!" (Craig yr Wylfa)

"I know the children enjoyed themselves because they talked about the drama for days afterwards" (Tymbl)

"Especially good. The Resource pack is very valuable" (Llandybie)


"

adolygiad gan: , 01 / 02 / 2005
   
   

Yr Ysbryd

Gan Caryl Lewis
cyfarwyddwyd gan Iwan Charles

Adolygiadau Disgyblion Ysbryd

" “Diolch yn fawr i chi am ddod i’r ysgol. Rydyn ni bob amser yn hoffi croesawi sioe gan Arad Goch i’r ysgol. Rydyn ni wedi penderfynu mae prif neges y sioe yw cael amser i siarad a gwrando ar bawb” (Carys a pawb dosbarth 8)

“Roedd yr actorion yn wych ac roedd y perfformiad yn wych hefyd…Roeddwn yn hoffi bod yn dditectif hefyd ar y diwedd” (Katie Leanne Powell)

“Roedd y script yn ffantastic! A hoffais y gweithdy ar ddiwedd y ddrama” (Steffan Williams)

“Roeddwn yn falch gweld bod Ioan, erbyn diwedd y ddrama wedi dechrau trin ei broblemau a gweld mai nid fe oedd ar fai am farwolaeth ei frawd”. (Abigail Lowe).

“Ddoe roedd y ddrama Yr Ysbryd mor dda roeddwn eisiau crio”. (Kelly Douglas)

“Hoffais yr holl gymeriadau, redden nhw’n realistig iawn. Mae plant yn gallu body n gas i’w gilydd”. (Ben Gamdleh)

“Ni wedi enjoio y sioe. Fi yn rhoi deg mas o ddeg” (Clinton)

“Roeddech chi’n actio’n dda chi. Roedd yn bisyn doniol pryd cwmpodd Ioan mas o’r gwelyy”. (Dani)

“Fy hoff gymeriad i oedd Ioan, roedd e yn ddoniol a thrist pob hyn a hyn”. (Ashleigh)

“Yn ystod y ddrama teimlais sawl gwahanol emosiwn.” (Wade James)

“Doeddwn id dim yn hoffi e pan oedd Gareth yn galw enwau ar Ioan am ei fod yn gwneud i fi deimlo’n drist” (Rhiannon)

“Roedd y stori’n un drist iawn ond roeddwn wedi’i fwynhau’n fawr” (Michaela)

“Fy hodd gymeriad oedd mam oherwydd hi helpodd Ioan ddod dros ei broblemau yn y diwedd” (Lowri Stephens)

‘Rydym ni’n meddwl y darn gore yn y ddrama oedd pryd oedd Ioan yn dweud “Os rwy’n cael stwr na fe yn stwr byr achos rwy wedi blino”’ (Rhodri a Darren)

“Roedd y set yn dda” (Nia James a Nia Mills)

“Hoffwn i weld y sioe eto” (Stephanie)

"Rwy eisiau dweud diolch yn fawr am berfformio y ddrama yma. Pan redodd Ioan i ffwrdd teimlais bron mor drist a rhieni Ioan. Roedd y ddrama yn emosiynol iawn." (Sian Evans)

"Rwy'n credu roeddwn yn mwynhau oherwydd mae pob math o deimladau fel rhai hapus, rhai doniol a rhai trist". (Lauren Owen)

"Roedd y set gyda llawer o brops fel gwely bync, cadair, ysgubor a toster. Roedd yr effeithiau sain yn dda iawn oedd lawer o wahanol synau fel swn y mor, swn yr ambiwlans a swn gweiddi". (Nia Harries)

"I really, really enjoyed it. I very much enjoyedt the workshop too, it was very interesting. My favourite bit was the end where everything got sorted out and Iwan and his parents were happy again. P.S My brother keeps a memory box of our Grandpa, with hats and photos and stuff like that in". (Nansi Jones)

"My favourite part was when Iwan sent the text message saying something very! very! rude so I can't really write it or my teacher will tell me off." (Christopher Harry)

"We really enjoyed the play. It really showed us how to sort out bullying. We don't hav bullying in school." (Holly Couzens)

"I really liked how the boy Ioan pretended to talk to his brother who was really dead. I liked how you helped me believe what it feels like if somebody dies. It really helped." (Claire Davies)

"I had fun making a person out of the objects in the workshop. I think you are all talented actors and I hope that you'll come back to my school soon". (Olivia Jones)

"We thought the whole story was sad and were glad it wasn't real. All of my class enjoyed it and we do hope you have a chance to come again." (Kimberley Morris)

"Rwy'n gweud diolch i chi a gobeithio eich bod yn dod i fy ysgol eto a gofynnais i Mr Rees "Ydy nhw'n gallu dod i ysgol Y Tymbl eto?", a dywedodd e "Wrth gwrs"." Aled Evans

"Roedd y stori yn ddiddorol iawn ac roeddwn wedi mwynhau y rhan pan oedd Ioan yn dweud geiriau drwg" Carwyn Jones

"Ar y dechrau roedwn ddim yn gwybod pwy oedd Ioan yn siarad efo. Pan ddaeth amser brecwast roeddwn yn dechrau deall pwy oedd ar goll." Tomos John

"Diolch am ddod i'n ysgol ni i berfformio 'Ysbryd'. Y rhan o'r ddrama roeddwn i'n meddwl oedd yn arbennig oedd pryd oedd Ioan yn chwarae myg." Shelby

"Roeddwn yn hoff iawn o'r 'Ysbryd' er ar brydiau roedd y stori yn rhy drist". Gareth

"Roedd y sain yn anhygoel fel swn y mor pan oedd Ioan yn rhoi ei glust yn y gragen". Ynyr

"Roedd y set a'r props yn realistig iawn gyda'r gwely a'r tost a popeth arall". Evan

"Roedd Ioan yn siarad yn ei gwsg. Dyna beth arall oeddwn yn hoffi". Craig Harries





"

adolygiad gan: , 01 / 02 / 2005
   
   

CRASH

Gan
cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams

Review by Dafydd Prys

" Whenever I see ‘appropriate for 14+’ on a poster advertising a play I inwardly cringe, assuming the worse from acute experience. It is something which inspires dread in me after many months research into educational productions. It is however somewhat misguiding on the poster of Crash as it is a highly polished production. Arad Goch seem to have settled very cosily into the niche of the educational production that carries weight amongst audiences of all ages, amalgamating many genres and techniques which evades most other touring companies. Crash is no different, in fact, it competes, and rightfully so, with Stones as the finest in their and Wales’s repertoire.

The actors all completed fine performances, their diction and clarity, through some harsh emotions was excellent and they portrayed their characters with vivacity and obvious relish, enjoying themselves with avid encouragement from the audience, and very refreshing to see such a young audience in attendance too, to complement the wonderfully young cast.

Dafydd Rhys Evans gave a genuine performance as Wes, the apparent good-for-nothing layabout. He attacked the role with energy and seemed to make lounging an Olympic sport. Rhys ap Trefor gave yet another strong and lively performance, a great young actor and good to see him swapping stage and screen, very good presence on stage with an excellent range, from timid to raging lion, though maybe a little overplay on the comic side. But surely it’s time for this man to grasp some meatier roles on the Welsh stage. Rhiannon Morgan’s performance as Elin, the central character, was very moving. I thought, wrongly, that I had passed my teenage years many moons ago, yet her portrayal of such an innocent soul brought it all back, the anguish of an open mind yet to realise its role in the world, let alone the family home. Their inter-mingling worked well within the structure of the whole production, with dance and movement all woven into the very same cloth of tongue and sound. The raised platform improved on the vitality of the movement, seemingly propelling them to an austere oneness with that which they strived for, “between the clouds and the waves”, trying to find a space for them to park their own souls.

I felt that Rhiannon Morgan’s role was finely tuned to the others, and a balancing act ensued, but neither end extended beyond the carefully placed ful