cartref newyddion arad goch cynhyrchiadau cyhoeddus cynhyrchiadau i ysgolion cysylltwch a ni adolygiadau cynhyrchiadau arad goch afrchif cynhyrchioadau arad goch

archif holl cynhyrchiadau Arad Goch

  MWNCI AR DAN / BURNING MONKEY

Awdur: Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams

Rhwng 14 Ionawr a 20 Chwefror 2008 bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn teithio cynhyrchiad newydd sbon. Mwnci ar Dân yw enw’r gwaith.

Wrth galon Mwnci ar Dân, mae hanes bachgen ifanc anniddig sy'n chwilio am fywyd gwell, a'i gariad sydd hefyd a'i breuddwydion. Mae dieithryn yn rhan o'r stori hefyd, oedolyn â gorffennol garw a stori drist i'w datgelu. Mae'r ddrama yn trafod cyfrifoldeb yr unigolyn am ei hunan a thros eraill, gyda phwyslais efallai ar y cyfrifoldeb a ddaw yn sgil bod yn riant.

Mae’r ddrama hon yn dilyn yn nhraddodiad cynyrchiadau diweddar gan Gwmni Theatr Arad Goch – cwmni sy’n arbenigo mewn gwaith i blant a phobl ifanc. Fel Crash, gan yr un awdur a fu’n teithio yn Ionawr/Chwefror 2007, mae’n ddrama sy’n mynd i’r afael a bywyd pobl ifanc heddiw. Mae gwaith Sêra Moore Williams wedi ennill ei blwyf ymhlith disgyblion ysgol a’u hathrawon fel gwaith sy’n berthnasol, yn ddifyr iddynt, a gwaith sydd o help gyda gofynion gwaith cwrs yn Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Cymraeg a Drama. Daeth grwpiau sylweddol o ysgolion uwchradd a chlybiau ieuenctid i weld Crash, yn ogystal ag uniogolion o bob oed, ac rydym yn hyderus yn sgil eu hymateb i’r gwaith hwnnw y daw cynulleidfaoedd da eto i weld y ddrama hon.

Manylion:

Dyddiadau: 14 Ionawr - 20 Chwefror 2008
Iaith: Ar gael yn Gymraeg a Saesneg (bydd pecyn paratoi i ddysgwyr a phecyn gwaith i ysgolion ar gael)
Oed: Addas i bawb dros 13+
Hyd: Oddeutu Awr
Gofod perfformio: Stiwdio neu neuadd neu lwyfan theatr cymharol fach


Cast:

Blwyddyn: 2008

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau MWNCI AR DAN / BURNING MONKEY yma....

  Rhieni Hanner Call a Gwyrdd/The Impossible Parents Go Green

Awdur: addasiad Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams

Mae newid ffordd o fyw er mwyn achub y blaned yn beth da iawn yn tydi? Wel nac ydy wir os taw’r ‘Rhieni Hanner Call a Gwirion’ sydd wrthi! Unwaith eto mae’r rhieni gwirion yn embaras llwyr i’w plant call, Nia a Wyn, wrth iddynt droi’n wyrdd go iawn! Addasiad llwyfan byrlymus gan Gwmni Theatr Arad Goch o lyfr hyfryd Brian Patten “Rhieni Hanner Call a Gwyrdd”. Addas i blant 7-11 oed.

Cast:
Sara Harris-Davies; Darren Stokes; Mari Wyn; Dafydd Rhys Evans; Lowri Sion.

Blwyddyn: 2007

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Rhieni Hanner Call a Gwyrdd/The Impossible Parents Go Green yma....

  Crash (2007)

drama 'galed' llawn hiwmor

Awdur: Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams

Yn dilyn llwyddiant taith fer Crash yn 2005 penderfynwyd cynnig cyfle arall i'w gweld.

Drama sy'n delio a phynciau sy'n berthnasol i'n pobl ifanc yw hon - pwysau cyfoedion, disgwyliadau rhieni, alcohol, cyffuriau, digartrefwch a thrais. Yr hyn a geir yw darn o waith pwerus, bywiog a llawn hiwmor.

Mewn adolygiad soniodd yr awdures Meleri Wyn James am y 'buzz' a gafodd wrth wylio'r ddrama ac am yr egni a'r bwrlwm a ddaw o'r perfformiad. Positif oedd ymateb pobl ifanc a'i gwelodd a hynny wedi ei fynegi mewn iaith nodyn bodyn - "lol"!

Mae hon yn ddrama ac iddi apel ryngwladol.
Mae'r ddrama yn cael ei hyrwyddo bellach gan asiant yn yr Almaen ac fe fydd sawl cynhyrchiad ohoni yno o fis Medi ymlaen.

Cast:
Robin Ceiriog, Dafydd Rhys Evans, Rhiannon Morgan

Blwyddyn: 2007

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Crash (2007) yma....

  Llyfrau'n Taro 10 2006

Awdur:
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams

Cynllun ar y cyd â’r Cyngor Llyfrau sy’n cyflwyno pytiau o lyfrau newydd mewn modd bywiog a difyr.

Sioe i flynyddoedd 7,8 a 9.

Cast:
Ffion Wyn Bowen
Dafydd Rhys Evans
Robin Ceiriog

Blwyddyn: 2006

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Llyfrau'n Taro 10 2006 yma....

  Crash

Drama Gomisiwn Arad Goch Eisteddfod Eryri 2005

Awdur: Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams

Nos Fercher - Nos Wener 3-5 Awst, 8pm, Neuadd JP, Prifysgol Bangor. Bws yn rhad ac am ddim o'r maes ac yn ol (7.30pm o'r man codi gyferbyn a maes parcio 1).

Pobl ifanc eisiau cael hwyl a chymryd risg, eu rhieni eisiau iddynt basio arholiadau o leiaf cyn gystal a phlant y cymdogion) a chael swyddi breision. Problemau oesol mewn cyd-destun modern.

Anaddas i unrhywun dan 11ish!

"Yng nghanol y chwerthin mae yna wirioneddau chwerw yn dod i'r wyneb...tri perfformiad arbennig...mynnwch eich tocyn." - Meleri Wyn James
Tocynnau £5 (neu 5 am bris 4) ar gael o Siop Pendref, Bangor, Palas Print, Caernarfon, Arad Goch,Aberystwyth, Theatr y Maes.

am fanylion pellach cysylltwch a Cwmni Theatr Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth 01970 617998; post@aradgoch.org

Cast:
Rhys ap Trefor
Rhiannon Morgan
Dafydd Rhys Evans

Blwyddyn: 2005

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Crash yma....

  Lleuad yn Olau

Awdur: T Llew Jones
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Detholiad o lyfr lledrithiol T Llew Jones
Addas i blant 7-11 oed

Mae pawb yn hoffi stori dda ac mae cyfrol T Llew Jones ‘Lleuad yn Olau’ yn llawn chwedlau gwych. Mae yma storïau o’r Mabinogi, storïau sy’n gyffredin i nifer o’r gwledydd Celtaidd, storïau sy’n seiliedig ar hanes Cymru; mae yma dylwyth teg, cewri, gwrachod a hud a lledrith. Mae rhain yn storïau sydd wedi sefyll prawf amser, maent yn ein cludo yn ôl mewn amser, ond eto maent mor berthnasol ag erioed. Storïau cyffrous, byrlumus ydynt fydd yn swyno cynulleidfaoedd o blant ac oedolion fel ei gilydd.

Bydd ein sioe yn cynnwys detholiad o’r storïau yma a’r detholiad hwnnw yn sicr o gynnwys y stori sy’n rhoi i lyfr T. Llew Jones ei deitl “Lleuad yn Olau”.


Cast:
Ffion Wyn Bowen, Rhiannon Morgan, Iwan Charles, Eifion Dafydd, Owain Llŷr Edwards

Blwyddyn: 2005

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Lleuad yn Olau yma....

  Llyfrau'n Taro Deg 2004

Awdur:
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams, Ffion Wyn Bowe

Bydd y cwmni yn perfformio pytiau o bump nofel Gymraeg newydd i bobl ifanc yn eu harddegau – Snogs a Sgribls Hogan Flêr, Y Fo yn y Ty, Beicio yn y Gwaed, Streic a Noson Boring i Mewn. “Mae’r sioe yn troi’r rhyddiaith yn ddarn o theatr bywiog, fformat sy’n amlwg yn llwyddo i berswadio pobl ifanc bod llyfrau yn medru bod yn ddiddorol a pherthnasol iddyn nhw”, meddai Sera Moore Williams un o’r tîm o gyfarwyddwyr sy’n gweithio ar y sioe “Llyfrau’n Taro Deg”; ac ar ran y Cyngor Llyfrau meddai Menna Lloyd Williams “rydym yn sicr y bydd y disgyblion yn cael blas ar y perfformiadau yn ogystal a’r llyfrau”.

Cast:
Mae’r actorion Rhiannon Morgan, Owain Llŷr Edwards ac Eifion Dafydd yn wynebau cyfarwydd i unrhywun sydd wedi gweld gwaith diweddar Arad Goch. Mae’r tîm cyfarwyddo hefyd a chysylltiad hir â’r cwmni – Ffion Wyn Bowen, Sera Moore Williams, a Gareth Potter sydd newydd ddychwelyd o Kosovo lle bu’n cyfarwyddo drama yn iaith frodorol Albania

Blwyddyn: 2004

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Llyfrau'n Taro Deg 2004 yma....

  Caneri Gwylan a Bran

Sioe yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Awdur: Jeremy Turner/ Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner a Ffion Bowen

Cyflwyniad theatrig i blant blynyddoedd 5, 6 a 7 sy'n gwau hen chwedlau a hanes lleol ynghyd gan ddefnyddio ffilm a thechnegau modern. Stori antur sy'n dilyn llwybr plentyn wrth iddi ddatrys cwestiynau a chanfod fod taith drwy hanes a gwybodaeth yn brofiad o ddarganfod a chyffro.
Bydd perfformiadau yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cynru, Aberystywth

Cast:
Rhiannon Morgan
Eifion Dafydd

Blwyddyn: 2004

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Caneri Gwylan a Bran yma....

  Llyfrau sy'n Taro 10

Awdur: Criw Arad Goch
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Cast:

Blwyddyn: 2003

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Llyfrau sy'n Taro 10 yma....

  Twm a Mati Tat a'r Ddoli

Awdur: Martin Morgan
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams

Mae rhan o waith Arad Goch yn canolbwyntio ar drosglwyddo llenyddiaeth Gymraeg i theatr fyw a chyfoes. Mae'r Cwmni yn credu'n gryf mewn hybu llenyddiaeth Gymraeg ac annog plant i ddarllen gan ddod a theatr fyw, llawn hwyl a chyffro o flaen llygaid plant Cymru.

Cast:
Ffion Wyn Bowen
Sara Harris- Davies
Rhys ap Trefor
Eifion Dafydd
Darren Stokes

Blwyddyn: 2003

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Twm a Mati Tat a'r Ddoli yma....

  Cinio Ysgol

Awdur: Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams

Mae'r sioe yma yn cynnig golwg ysgafn a chyffrous ar ran o'r maes llafur gwyddoniaeth trwy lygaid y cymeriadau holl bwysig yna- bobl y gegin sy'n paratoi bwyd i'r plant.

Cast:
Ffion Wyn Bowen
Delyth Wyn

Blwyddyn: 2003

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Cinio Ysgol yma....

  Brig Credo

Yr ymfudiad i'r 'byd newydd' yn yr Amerig

Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Sioe am hanesion y bobl hynny a ymfudodd o Gymru i gyfandiroedd pell yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn fwy penodol yr ymfudiad i'r 'byd newydd' yn yr Amerig. Dyma stori ddychmygol am fordaith, antur a newid byd - wedi'i seilio ar ffeithiau a digwyddiadau hanesyddol wir.

Cast:
Eifion Dafydd
Huw Emlyn
Rhys ap Trefor
Rhiannon Morgan

Blwyddyn: 2003

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Brig Credo yma....

  Nel

Awdur: Dora Jones a Jeremy Turner
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Prosiect theatr mewn addysg i flynyddoedd 1 a 2 sy'n edrych ar y ffordd mae plant bach yn trin eu gilydd. Dyna fyrdwn y cyflwyniad - gwneud ffrindiau, eu cadw a'u gwarchod.

Cast:
Dora Jones

Blwyddyn: 2002

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Nel yma....

  Conffeti

Awdur: Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams

Yn gymysgedd egniol o hiwmor ag anobaith, i gyfeiliant cerddoriaeth fyw, cred Arad Goch bod Conffeti yn darparu profiad theatrig cynhyrfus i bobl ifanc. Mae'r ddrama yn cyffwrdd ar ystod eang o bynciau sy'n gysylltiedig a chyfrifoldeb gan gynnig man cyhwyn i drafodaethau dosbarth am berthynas, bwlio, rhyw a chyffuriau.

Cast:
Iwan Charles
Owain Llyr Edwards
Rhys ap Trefor

Blwyddyn: 2002

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Conffeti yma....

  Y Sied

Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Mae Arad Goch yn aml yn creu cynyrchiadau newydd sbon ar gyfer plant a phobl ifanc. Er mai drama i blant yw y Sied, nid drama am blant yw hi. Mae'n ymdrin a materion sensitif a phynciau dyrys

Cast:
Delyth Wyn
Huw Llyr
Llion Williams

Blwyddyn: 2002

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Y Sied yma....

  Heri Pers

'Rwy'n gallu gwneud Unrhywbeth'

Awdur: Jeremy Turner
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams

Cynhyrchiad ar y cyd rhwng Arad Goch ac Awdurdod Datblygu Cymru er mwyn hybu diwylliant o entrepreneuraiaeth yng Nghymru. Mae'r ddrama wedi ei lleoli yn gryf iawn mewn ardal wledig, ac felly yn berthnasol iawn i gymuned ac i economi cefn gwald. Prif neges y cynllun yw mentro a'r syniad o 'Rwy'n gallu gwneud unrhywbeth'

Cast:
Meilyr Sion
Rhian James
Rhiannon Morgan
Mathew Pegram

Blwyddyn: 2001

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Heri Pers yma....

  Stones/ Tafliad Carreg

Dau fachgen... un weithred ffol... creithiau oes

Awdur: Tom Lycos a Stefo Nantsou
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Cydweithrediad rhwng Arad Goch a Zeal Theatre o Awstralia yw'r ddrama hon. Mae cynhyrchiad Arad Goch wedi ei chyfarwyddo gan y perfformwyr gwreiddiol o Awstralia.
Dramateiddiad o stori go iawn - dau fachgen yn wynebu cyhuddiad o ddynladdiad am daflu cerrig oddi ar bont traffordd, a lladd doctor yn ei gar ar ei ffordd adre yn 1994.

Cast:

Blwyddyn: 2000

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Stones/ Tafliad Carreg yma....

  Culhwch ag Olwen

Awdur: Jeremy Turner
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Mae stori Culhwch ag Olwen yn frith o sefyllfaoedd y gall plant uniaethu a nhw:llethu drygioni, gwynebu peryglon ac ansicrwydd a chyflawni uchelgais. Mae anturiaethau a rhyfeddodau'r straeon yn gweddu i'r dim ag arddull liwgar a chwareus y cwmni.

Cast:
Iwan Charles
Noni Lewis
Ffion Bowen
Rhian James
Owain Llyr Edwards

Blwyddyn: 2000

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Culhwch ag Olwen yma....

  Merched y Gerddi

Drama hanesyddol am garfan o bobl mewn cyfnod arbennig

Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams

Mae'r cynllun hwn yn cynnwys amrywiaeth o themau hanseyddol, oesol a chymdeithasol.

Cast:
Heledd Bianchi
Dora Jones
Carys Griffiths
Darren Stokes

Blwyddyn: 2000

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Merched y Gerddi yma....

  Hen Het

Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Sioe un person yw Hen Het. O bryd i'w gilydd bydd Arad Goch yn canolbwyntio ar sioeau un person gan gredu ei bod yn ffordd o gryfhau technegau theatrig gan greu agosatrwydd rhwng yr actor a'r gynulleidfa. Mae hefyd yn medru bod yn ffordd o godi proffil actorion

Cast:
Mari Rhian Owen

Blwyddyn: 2000

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Hen Het yma....

  Clychau'r Mor

Awdur: Jeremy Turner
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Mae cyflwyno gwaith traddodiadol a hen chwedlau lleol mewn ffordd liwgar a chyffrous yn rhan o ethos Arad Goch. Un o chwedlau enwocaf Cymru yw stori Cantre'r Gwaelod - y pentref coll o dan y mor. Ond a'i chwedl yw hon? Yn ol y morwyr mae'n bosib clywed clychau'n canu o dan y dwr.

Cast:
Dora Jones
Ffion Wyn Bowen
Huw Llyr
Iwan Tudor
Rhys ap William

Blwyddyn: 1998

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Clychau'r Mor yma....

  Parachutes and Petticoats

Awdur: Gwasg Honno
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams

Mae'r cynllun hwn wedi ei seilio ar lyfr a argraffwyd gan Wasg Honno - llyfr sydd yn gofnod o atgofion menywod yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd. Cynllun Theatr Mewn Addysg i flynyddoedd 9 a 10.

Cast:
Dora Jones
Helen Rosser Davies
Iwan Tudor

Blwyddyn: 1998

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Parachutes and Petticoats yma....

  Rownd y Byd Mewn Lori

Awdur: Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams

Drwy gyfuniad o ganu, cerddi, a mymrun o ddawnsio traddodiadol, ynghyd a stori garu gyfoes ac ambell gip ar beth oedd y Cymry yn arfer ei wneud wrth garu, mae'r cynhyrchiad yn edrych ar y pethau sy'n ein cyflyru ni nawr wrth ddewis partner a chynnal perthynas.

Cast:
Gwion Huw
Mari Rhian Owen

Blwyddyn: 1997

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Rownd y Byd Mewn Lori yma....

  Anna Mari lyfs Dic Wili

Anterliwt gyfoes, ddireidus

Awdur: John Glyn Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Anterliwt gyfoes, ddireidis

Cast:
Gwion Huw
Huw Llyr
Mari Rhian Owen
Ryland Teifi
Sian Meirion

Blwyddyn: 1997

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Anna Mari lyfs Dic Wili yma....

  Y Ffin

Awdur: Gwenlyn Parry
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Cyflwyniad o ddrama bryfoclyd Gwenlyn Parry. Cyfyd ynddi lu o gwestiynau sydd o ddiddordeb parhaus- am ein perthynas a'n gilydd, am ein cyflwr meidrol, am yr awydd i resymu ein bodolaeth, ac am ein anallu i wneud hynny.

Cast:
Alun Elidyr
Gwion Huw
Lowri Steffan

Blwyddyn: 1997

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Y Ffin yma....

  Aderyn Glas mewn Bocs Sgidiau

Bachgen un ar bymtheg oed wedi ei gloi yn ei ystafell wely...

Awdur: Sian Summers
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Bachgen un ar bymtheg oed wedi ei gloi yn ei ystafell wely fel penyd am beidio ei glanhau am ddwy flynedd...

Yn y bocsus sy'n llenwi'r ystafell mae atgofion oes gyfan:
teganau...
crys pel droed...
rasal beryglus yr olwg...

Beth yw eu harwyddocad i'r bachgen?
Beth yw ei freuddwydion, ei ddyheadau, a'i chat up lines i Pamela Anderson?

Cawn weld y byd drwy lygaid unigryw Gary Jones - hynny yw nes daw ei fam yn ol o'r siopau ac agor y drws...

Cast:
Gwion Huw

Blwyddyn: 1996

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Aderyn Glas mewn Bocs Sgidiau yma....

  Taliesin

Cyflwyniad o un o chwedlau hynaf a mwyaf cyffrous Cymru

Awdur: Jeremy Turner
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Mae Arad Goch yn credu mewn defnyddio hen chwedlau er mwyn dod a hen hanes yn fyw mewn modd cyffrous a sw real. Mae sioe Taliesin wedi teithio i Iwerddon, Denmarc, Canada a Llundain. Mae'r stori wedi'i seilio ar stori draddodiadol Taliesin, lle mae'r wrach Ceridwen am wneud ei mab hyll a thwp yn olygus a galluog.

Cast:
Reyland Teifi
Gwenfair Vaughan Jones
Ioan Evans
Gwion Huw
Sian Meirion Jones

Blwyddyn: 1996

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Taliesin yma....

  Cerdyn Post o Wlad y Rwla

Awdur: Angharad Tomos
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Comisiynwyd Angharad Tomos i ysgrifennu'r ddrama yn arbennig ar gyfer Arad Goch.Mae'r ddrama yn dilyn helyntion Rala Rwdins, Rwdlan a chymeriadau hoffus eraill Gwlad y Rwla wrth iddynt fynd ar wyliau. Ceir hanes y pacio, y plagio a'r picnic rhyfeddol a noson hudol dan y ser.

Cast:
Rhys Bleddyn
Carys Huw
Gwion Huw
Mair Tomos Ifans

Blwyddyn: 1995

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Cerdyn Post o Wlad y Rwla yma....

  Sgrech

Awdur: Gareth Ioan
Cyfarwyddwr:

Prif thema Sgrech yw diffyg grym pobl ifanc yn y gymdeithas. Mae'r ddrama yn edrych ar y modd y mae pobl ifanc yn cael eu gwahardd o benderfyniadau cymdeithasol a pholiticaidd sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae'r ddrama yn dangos fod gan bobl ifanc eu syniadau a disgwyliadau eu hunain ac y byddai'n ddoeth i gymdeithas yn gyffredinol wrando ar y syniadau hynny yn lle eu anwybyddu.

Cast:

Blwyddyn: 1995

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Sgrech yma....

  Saer Doliau

Awdur: Gwenlyn Parry
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Cast:

Blwyddyn: 1995

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Saer Doliau yma....

  Ffrwgwd y Tad a'r Mab

Awdur: John Glyn Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Golwg ddoniol a direidus ar berthynas oedolion a'r iyngyr jenyrseion heddiw. Llond bol o chwerthin!

Cast:
Rhys Bleddyn,
Alun Elidyr,
Carys Huw,
Jonathon Nefydd

Blwyddyn: 1994

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Ffrwgwd y Tad a'r Mab yma....

  Cai (Caligula)

Awdur: Camus
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Cast:

Blwyddyn: 1994

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Cai (Caligula) yma....

  Ty Ni

Awdur: Gareth Ioan
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Cast:

Blwyddyn: 1994

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Ty Ni yma....

  Hyn oll yn ei Chalon

Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Drama yn seiliedig ar fywyd y Forwyn Fair. Gyda chymorth cerddoriaeth, symud, barddoniaeth a chan - cawn rannu rhai o gyfrinachau'r fenyw arbennig hon a chawn gyfle i chwerthin a chrio efallai wrth rannu rhai o'i phrofiadau dwysaf.

Cast:
Mari Rhian Owen
Mair Tomos Ifans

Blwyddyn: 1993

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Hyn oll yn ei Chalon yma....

  Yn Ein Dwylo

Drama Fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, Aberystwyth

Awdur: Pam Palmer
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Hanes teulu o Lithuania ar adeg y frwydr dros annibyniaeth eu gwlad. Brwydr sydd yn ysbrydoli'r fam i wneud safiad gwleidyddol am y tro cyntaf erioed.

Cast:
Mari Rhian Owen
Sior Llyfni
Rhys Bleddyn
Huw Garmon
Carys Gwilym
Mair Tomos Ifans
Idris Morris Jones
Sian Summers

Blwyddyn: 0000

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Yn Ein Dwylo yma....

  Nid Fi / Not Me 2007

Mae'r cynllun hwn yn gyfrwng i ddod a phroblemau bwlian i frig ein hymwybyddiaeth ni i gyd, yn help i ysgolion wynebu'r problemau ac yn bwysicach na dim yn help i'r disgyblion ei goresgyn.

Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Ioan Evans

Lluniwyd ‘Nid Fi’ er mwyn ceisio dod â’r broblem o fwlio i’r amlwg, i geisio sirchau bod bobl yn derbyn ei fod yn broblem a thrwy hynny i wneud rhywbeth cadarnhaol i roi stop ar yr holl ddioddef a diflastod.

Sali Morgan yw prif gymeriad y ddrama. Merch unig sydd yn byw gyda’i mam-gu a hynny ers marwolaeth ei mam ac wedi i’w thad dderbyn swydd newydd yn Dubai. Sali yw’r ddioddefwraig yn y ddrama, a chaiff ei phryfocio am fod yn ddisgybl newydd yn yr ysgol gan Lydia Thomas. Wrth i’r ddrama ddatblygu, daw i’r amlwg bod Lydia ei hun yn anahapus gartref, a chawn yr argraff ei bod yn cuddio y tu ôl i fwgwd wrth ymddwyn mor gas tuag at eraill. Diwedd y gân yw bod y ddwy yn rhoi terfyn ar yr holl gweryla, a maes o law yn datblygu i fod yn ffrindiau.

Mae'r cynllun hwn yn gyfrwng i ddod a phroblemau bwlian i frig ein hymwybyddiaeth ni i gyd, yn help i ysgolion wynebu'r problemau ac yn bwysicach na dim yn help i'r disgyblion ei goresgyn.

Crewyd y cynllun hwn yn wreiddiol drwy gydweithrediad rhwng Cwmni Theatr Arad Goch, yr NSPCC, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Dyfed.

Cast:
Ffion Wyn Bowen
Mari Beard
Sioned Wyn Jones
Mark Roberts

Blwyddyn: 0000

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Nid Fi / Not Me 2007 yma....

  Winter Pictures

Awdur:
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Anturiaethau Heti a Handel, par o lygod bach wrth iddynt fwynhau pendwmpian yn haul poeth yr haf. Ond daw'r haf i ben, ac maent yn gorfod paratoi at hirlwm y gaeaf

Cast:

Blwyddyn:

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Winter Pictures yma....

  Cwrw Chips a Darlith Deg

Comedi gan Sian Summers

Awdur: Sian Summers
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Dyma ail hanner stori cymeriad Gary Jones. Mae'r sioe yn delio gyda amrywiaeth o brofiadau sy'n gyfarwydd i lawer mae'n siwr - canlyniadau lefel A, disgwyliadau ac ymateb y teulu, y symud, lle newydd ac estron a cheisio bodoli a byw yno. Comedi un dyn yn son am ddyddiau Coleg

Cast:
Gwion Huw

Blwyddyn:

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Cwrw Chips a Darlith Deg yma....

  Rwtsh Ratsh Rala Rwdins

Awdur: Angharad Tomos
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

"Llipryn! Rwyt ti'n eistedd fan hyn yn gwneud dim byd ond crio a bod yn ddigalon, ac rydw i'n cynnig Antur Mawr dy fywyd i ti. Fedri di ddim gwrthod!"

Cast:
Rhys Bleddyn
Iwan Charles
Gwen Lasarus
Siwan Bowen Davies

Blwyddyn:

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Rwtsh Ratsh Rala Rwdins yma....

  Yn y Dechreuad

Awdur:
Cyfarwyddwr:

Cynllun theatr mewn addysg sy'n ymdrin a chrefydd - Cristnogaeth a Dyneiddiaeth.

Cast:

Blwyddyn:

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Yn y Dechreuad yma....

  Dros y Garreg

Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Mae themau'r ddrama hon yn gyfarwydd i bawb sy'n ymwneud a phlant bach. Merch fach hunanol yw Lizzie sy'n gwrthod rhannu, yn dewis bod yn ynysig ac yn filain wrth blant eraill. Drwy ofal llongwr caredig mae hi'n dysgu pwysigrwydd gofalu am ei ffrindiau, trafod ei theimladau a bod yn gymdeithasol. Mae nhw'n camu gyda'i gilydd "dros y garreg" tuag adref.

Cast:
Mari Rhian Owen,
Ryland Teifi

Blwyddyn:

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Dros y Garreg yma....

  Morus y Gwynt ac Ifan y Glaw

Awdur:
Cyfarwyddwr:

Mae Morus y Gwynt ac Ifan y Glaw yn ddau gymeriad sy'n adnabyddus i blant Cymru drwy rimigau a cherddi. Yn y cynhyrchiad hwn clywir hynt a helynt Morus ac Ifan, storiau am eu bywydau direidus, am y triciau maent yn eu chwarae ar ei gilydd ac ar y bobl sy'n cerdded islaw.

Cast:
Ffion Wyn Bowen
Ryland Teifi
Iwan Tudor

Blwyddyn:

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Morus y Gwynt ac Ifan y Glaw yma....

  Ma's o 'Ma

Awdur: Sera Moore Williams
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams

Comedi am sioe dalent

Cast:
Ioan Evans
Dora Jones
Huw Llyr

Blwyddyn:

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Ma's o 'Ma yma....

  Nid Fi

Cynllun i ddod a phroblemau bwlian i'r amlwg

Awdur: Mari Rhian Owen
Cyfarwyddwr: Sera Moore Williams

Mae'r cynllun hwn yn gyfrwng i ddod a phroblemau bwlian i frig ein hymwybyddiaeth ni i gyd, yn help i ysgolion wynebu'r problemau ac yn bwysicach na dim yn help i'r disgyblion ei goresgyn.

Cast:
Darren Stokes
Dora Jones
Ffion Wyn Bowen
Siwan Bowen Davies

Blwyddyn:

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Nid Fi yma....

  Lleuad yn Olau

Awdur:
Cyfarwyddwr:

Dramateiddiad o lyfr T Llew Jones sy'n gasgliad o hen chwedlau gwerin.

Cast:

Blwyddyn:

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Lleuad yn Olau yma....

  Rushes

Awdur: Lucy Gough
Cyfarwyddwr: Jeremy Turner

Cast:

Blwyddyn:

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Rushes yma....

  Rhyfel y Sais Bach

Awdur:
Cyfarwyddwr:

Cast:

Blwyddyn:

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Rhyfel y Sais Bach yma....

  Agor Drysau 2008

Awdur:
Cyfarwyddwr:

Cast:

Blwyddyn:

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Agor Drysau 2008 yma....

  Agor Drysau 2008

Awdur:
Cyfarwyddwr:

Cast:

Blwyddyn:

 

darllenwch adolygiadau yma....darllenwch adolygiadau Agor Drysau 2008 yma....