 |

sioeau cyfredol | sioeau i
ddod | sioeau diweddar | archif
sioeau cyhoeddus

|
ARDDANGOSFA JENNY HUGHES |
| Nos Fercher 12.11.08 bu lawnsio arddangosfa gwych yr artist lleol Jenny Hughes. Newydd raddio o Goleg Celf Caerfyddin mae Jenny ac wedi bod yn artist preswyl yn stiwdio Arad Goch ers ychydig fisoedd. Wedi'r arddangosfa bydd Jenny yn derbyn gwahoddiad i fynd i weithio yn Iwerddon. Galwch mewn i brofi gwaith arbennig Jenny yng Nghanolfan Arad Goch bob dydd tan 15.11.08. |
| Blwyddyn: 2012 |
| |
awdur: , cyfarwyddwyd gan |
| |
darllenwch
adolygiadau ARDDANGOSFA JENNY HUGHES yma |
| |
|

|
MWNCI AR DAN / BURNING MONKEY |
Rhwng 14 Ionawr a 20 Chwefror 2008 bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn teithio cynhyrchiad newydd sbon. Mwnci ar Dân yw enw’r gwaith.
Wrth galon Mwnci ar Dân, mae hanes bachgen ifanc anniddig sy'n chwilio am fywyd gwell, a'i gariad sydd hefyd a'i breuddwydion. Mae dieithryn yn rhan o'r stori hefyd, oedolyn â gorffennol garw a stori drist i'w datgelu. Mae'r ddrama yn trafod cyfrifoldeb yr unigolyn am ei hunan a thros eraill, gyda phwyslais efallai ar y cyfrifoldeb a ddaw yn sgil bod yn riant.
Mae’r ddrama hon yn dilyn yn nhraddodiad cynyrchiadau diweddar gan Gwmni Theatr Arad Goch – cwmni sy’n arbenigo mewn gwaith i blant a phobl ifanc. Fel Crash, gan yr un awdur a fu’n teithio yn Ionawr/Chwefror 2007, mae’n ddrama sy’n mynd i’r afael a bywyd pobl ifanc heddiw. Mae gwaith Sêra Moore Williams wedi ennill ei blwyf ymhlith disgyblion ysgol a’u hathrawon fel gwaith sy’n berthnasol, yn ddifyr iddynt, a gwaith sydd o help gyda gofynion gwaith cwrs yn Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Cymraeg a Drama. Daeth grwpiau sylweddol o ysgolion uwchradd a chlybiau ieuenctid i weld Crash, yn ogystal ag uniogolion o bob oed, ac rydym yn hyderus yn sgil eu hymateb i’r gwaith hwnnw y daw cynulleidfaoedd da eto i weld y ddrama hon.
Manylion:
Dyddiadau: 14 Ionawr - 20 Chwefror 2008
Iaith: Ar gael yn Gymraeg a Saesneg (bydd pecyn paratoi i ddysgwyr a phecyn gwaith i ysgolion ar gael)
Oed: Addas i bawb dros 13+
Hyd: Oddeutu Awr
Gofod perfformio: Stiwdio neu neuadd neu lwyfan theatr cymharol fach
|
| Blwyddyn: 2008 |
| |
awdur: Sera Moore Williams, cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams |
| |
darllenwch
adolygiadau MWNCI AR DAN / BURNING MONKEY yma |
| |
|

Rhiannon a Dafydd
|
Crash (2007) |
Yn dilyn llwyddiant taith fer Crash yn 2005 penderfynwyd cynnig cyfle arall i'w gweld.
Drama sy'n delio a phynciau sy'n berthnasol i'n pobl ifanc yw hon - pwysau cyfoedion, disgwyliadau rhieni, alcohol, cyffuriau, digartrefwch a thrais. Yr hyn a geir yw darn o waith pwerus, bywiog a llawn hiwmor.
Mewn adolygiad soniodd yr awdures Meleri Wyn James am y 'buzz' a gafodd wrth wylio'r ddrama ac am yr egni a'r bwrlwm a ddaw o'r perfformiad. Positif oedd ymateb pobl ifanc a'i gwelodd a hynny wedi ei fynegi mewn iaith nodyn bodyn - "lol"!
Mae hon yn ddrama ac iddi apel ryngwladol.
Mae'r ddrama yn cael ei hyrwyddo bellach gan asiant yn yr Almaen ac fe fydd sawl cynhyrchiad ohoni yno o fis Medi ymlaen. |
| Blwyddyn: 2007 |
cast: Robin Ceiriog, Dafydd Rhys Evans, Rhiannon Morgan |
| |
awdur: Sera Moore Williams, cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams |
| |
darllenwch
adolygiadau Crash (2007) yma |
| |
|

|
Rhieni Hanner Call a Gwyrdd/The Impossible Parents Go Green |
| Mae newid ffordd o fyw er mwyn achub y blaned yn beth da iawn yn tydi? Wel nac ydy wir os taw’r ‘Rhieni Hanner Call a Gwirion’ sydd wrthi! Unwaith eto mae’r rhieni gwirion yn embaras llwyr i’w plant call, Nia a Wyn, wrth iddynt droi’n wyrdd go iawn! Addasiad llwyfan byrlymus gan Gwmni Theatr Arad Goch o lyfr hyfryd Brian Patten “Rhieni Hanner Call a Gwyrdd”. Addas i blant 7-11 oed. |
| Blwyddyn: 2007 |
cast: Sara Harris-Davies; Darren Stokes; Mari Wyn; Dafydd Rhys Evans; Lowri Sion. |
| |
awdur: addasiad Sera Moore Williams, cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams |
| |
darllenwch
adolygiadau Rhieni Hanner Call a Gwyrdd/The Impossible Parents Go Green yma |
| |
|

|
Lleuad yn Olau |
Detholiad o lyfr lledrithiol T Llew Jones
Addas i blant 7-11 oed
Mae pawb yn hoffi stori dda ac mae cyfrol T Llew Jones ‘Lleuad yn Olau’ yn llawn chwedlau gwych. Mae yma storïau o’r Mabinogi, storïau sy’n gyffredin i nifer o’r gwledydd Celtaidd, storïau sy’n seiliedig ar hanes Cymru; mae yma dylwyth teg, cewri, gwrachod a hud a lledrith. Mae rhain yn storïau sydd wedi sefyll prawf amser, maent yn ein cludo yn ôl mewn amser, ond eto maent mor berthnasol ag erioed. Storïau cyffrous, byrlumus ydynt fydd yn swyno cynulleidfaoedd o blant ac oedolion fel ei gilydd.
Bydd ein sioe yn cynnwys detholiad o’r storïau yma a’r detholiad hwnnw yn sicr o gynnwys y stori sy’n rhoi i lyfr T. Llew Jones ei deitl “Lleuad yn Olau”.
|
| Blwyddyn: 2005 |
cast: Ffion Wyn Bowen, Rhiannon Morgan, Iwan Charles, Eifion Dafydd, Owain Llŷr Edwards
|
| |
awdur: T Llew Jones, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Lleuad yn Olau yma |
| |
|

|
Crash |
Nos Fercher - Nos Wener 3-5 Awst, 8pm, Neuadd JP, Prifysgol Bangor. Bws yn rhad ac am ddim o'r maes ac yn ol (7.30pm o'r man codi gyferbyn a maes parcio 1).
Pobl ifanc eisiau cael hwyl a chymryd risg, eu rhieni eisiau iddynt basio arholiadau o leiaf cyn gystal a phlant y cymdogion) a chael swyddi breision. Problemau oesol mewn cyd-destun modern.
Anaddas i unrhywun dan 11ish!
"Yng nghanol y chwerthin mae yna wirioneddau chwerw yn dod i'r wyneb...tri perfformiad arbennig...mynnwch eich tocyn." - Meleri Wyn James
Tocynnau £5 (neu 5 am bris 4) ar gael o Siop Pendref, Bangor, Palas Print, Caernarfon, Arad Goch,Aberystwyth, Theatr y Maes.
am fanylion pellach cysylltwch a Cwmni Theatr Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth 01970 617998; post@aradgoch.org |
| Blwyddyn: 2005 |
cast: Rhys ap Trefor
Rhiannon Morgan
Dafydd Rhys Evans |
| |
awdur: Sera Moore Williams, cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams |
| |
darllenwch
adolygiadau Crash yma |
| |
|

|
Twm a Mati Tat a'r Ddoli |
| Mae rhan o waith Arad Goch yn canolbwyntio ar drosglwyddo llenyddiaeth Gymraeg i theatr fyw a chyfoes. Mae'r Cwmni yn credu'n gryf mewn hybu llenyddiaeth Gymraeg ac annog plant i ddarllen gan ddod a theatr fyw, llawn hwyl a chyffro o flaen llygaid plant Cymru. |
| Blwyddyn: 2003 |
cast: Ffion Wyn Bowen
Sara Harris- Davies
Rhys ap Trefor
Eifion Dafydd
Darren Stokes |
| |
awdur: Martin Morgan, cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams |
| |
darllenwch
adolygiadau Twm a Mati Tat a'r Ddoli yma |
| |
|

|
Y Sied |
| Mae Arad Goch yn aml yn creu cynyrchiadau newydd sbon ar gyfer plant a phobl ifanc. Er mai drama i blant yw y Sied, nid drama am blant yw hi. Mae'n ymdrin a materion sensitif a phynciau dyrys |
| Blwyddyn: 2002 |
cast: Delyth Wyn
Huw Llyr
Llion Williams |
| |
awdur: Mari Rhian Owen, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Y Sied yma |
| |
|

|
Conffeti |
| Yn gymysgedd egniol o hiwmor ag anobaith, i gyfeiliant cerddoriaeth fyw, cred Arad Goch bod Conffeti yn darparu profiad theatrig cynhyrfus i bobl ifanc. Mae'r ddrama yn cyffwrdd ar ystod eang o bynciau sy'n gysylltiedig a chyfrifoldeb gan gynnig man cyhwyn i drafodaethau dosbarth am berthynas, bwlio, rhyw a chyffuriau. |
| Blwyddyn: 2002 |
cast: Iwan Charles
Owain Llyr Edwards
Rhys ap Trefor |
| |
awdur: Sera Moore Williams, cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams |
| |
darllenwch
adolygiadau Conffeti yma |
| |
|

|
Stones/ Tafliad Carreg |
Cydweithrediad rhwng Arad Goch a Zeal Theatre o Awstralia yw'r ddrama hon. Mae cynhyrchiad Arad Goch wedi ei chyfarwyddo gan y perfformwyr gwreiddiol o Awstralia.
Dramateiddiad o stori go iawn - dau fachgen yn wynebu cyhuddiad o ddynladdiad am daflu cerrig oddi ar bont traffordd, a lladd doctor yn ei gar ar ei ffordd adre yn 1994. |
| Blwyddyn: 2000 |
| |
awdur: Tom Lycos a Stefo Nantsou, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Stones/ Tafliad Carreg yma |
| |
|

|
Culhwch ag Olwen |
| Mae stori Culhwch ag Olwen yn frith o sefyllfaoedd y gall plant uniaethu a nhw:llethu drygioni, gwynebu peryglon ac ansicrwydd a chyflawni uchelgais. Mae anturiaethau a rhyfeddodau'r straeon yn gweddu i'r dim ag arddull liwgar a chwareus y cwmni. |
| Blwyddyn: 2000 |
cast: Iwan Charles
Noni Lewis
Ffion Bowen
Rhian James
Owain Llyr Edwards |
| |
awdur: Jeremy Turner, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Culhwch ag Olwen yma |
| |
|

|
Hen Het |
| Sioe un person yw Hen Het. O bryd i'w gilydd bydd Arad Goch yn canolbwyntio ar sioeau un person gan gredu ei bod yn ffordd o gryfhau technegau theatrig gan greu agosatrwydd rhwng yr actor a'r gynulleidfa. Mae hefyd yn medru bod yn ffordd o godi proffil actorion |
| Blwyddyn: 2000 |
cast: Mari Rhian Owen |
| |
awdur: Mari Rhian Owen, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Hen Het yma |
| |
|

|
Clychau'r Mor |
| Mae cyflwyno gwaith traddodiadol a hen chwedlau lleol mewn ffordd liwgar a chyffrous yn rhan o ethos Arad Goch. Un o chwedlau enwocaf Cymru yw stori Cantre'r Gwaelod - y pentref coll o dan y mor. Ond a'i chwedl yw hon? Yn ol y morwyr mae'n bosib clywed clychau'n canu o dan y dwr. |
| Blwyddyn: 1998 |
cast: Dora Jones
Ffion Wyn Bowen
Huw Llyr
Iwan Tudor
Rhys ap William |
| |
awdur: Jeremy Turner, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Clychau'r Mor yma |
| |
|

|
Rownd y Byd Mewn Lori |
| Drwy gyfuniad o ganu, cerddi, a mymrun o ddawnsio traddodiadol, ynghyd a stori garu gyfoes ac ambell gip ar beth oedd y Cymry yn arfer ei wneud wrth garu, mae'r cynhyrchiad yn edrych ar y pethau sy'n ein cyflyru ni nawr wrth ddewis partner a chynnal perthynas. |
| Blwyddyn: 1997 |
cast: Gwion Huw
Mari Rhian Owen |
| |
awdur: Sera Moore Williams, cyfarwyddwyd gan Sera Moore Williams |
| |
darllenwch
adolygiadau Rownd y Byd Mewn Lori yma |
| |
|

|
Y Ffin |
| Cyflwyniad o ddrama bryfoclyd Gwenlyn Parry. Cyfyd ynddi lu o gwestiynau sydd o ddiddordeb parhaus- am ein perthynas a'n gilydd, am ein cyflwr meidrol, am yr awydd i resymu ein bodolaeth, ac am ein anallu i wneud hynny. |
| Blwyddyn: 1997 |
cast: Alun Elidyr
Gwion Huw
Lowri Steffan |
| |
awdur: Gwenlyn Parry, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Y Ffin yma |
| |
|

|
Taliesin |
| Mae Arad Goch yn credu mewn defnyddio hen chwedlau er mwyn dod a hen hanes yn fyw mewn modd cyffrous a sw real. Mae sioe Taliesin wedi teithio i Iwerddon, Denmarc, Canada a Llundain. Mae'r stori wedi'i seilio ar stori draddodiadol Taliesin, lle mae'r wrach Ceridwen am wneud ei mab hyll a thwp yn olygus a galluog. |
| Blwyddyn: 1996 |
cast: Reyland Teifi
Gwenfair Vaughan Jones
Ioan Evans
Gwion Huw
Sian Meirion Jones
|
| |
awdur: Jeremy Turner, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Taliesin yma |
| |
|

|
Aderyn Glas mewn Bocs Sgidiau |
Bachgen un ar bymtheg oed wedi ei gloi yn ei ystafell wely fel penyd am beidio ei glanhau am ddwy flynedd...
Yn y bocsus sy'n llenwi'r ystafell mae atgofion oes gyfan:
teganau...
crys pel droed...
rasal beryglus yr olwg...
Beth yw eu harwyddocad i'r bachgen?
Beth yw ei freuddwydion, ei ddyheadau, a'i chat up lines i Pamela Anderson?
Cawn weld y byd drwy lygaid unigryw Gary Jones - hynny yw nes daw ei fam yn ol o'r siopau ac agor y drws... |
| Blwyddyn: 1996 |
cast: Gwion Huw |
| |
awdur: Sian Summers, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Aderyn Glas mewn Bocs Sgidiau yma |
| |
|

|
Sgrech |
| Prif thema Sgrech yw diffyg grym pobl ifanc yn y gymdeithas. Mae'r ddrama yn edrych ar y modd y mae pobl ifanc yn cael eu gwahardd o benderfyniadau cymdeithasol a pholiticaidd sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae'r ddrama yn dangos fod gan bobl ifanc eu syniadau a disgwyliadau eu hunain ac y byddai'n ddoeth i gymdeithas yn gyffredinol wrando ar y syniadau hynny yn lle eu anwybyddu. |
| Blwyddyn: 1995 |
| |
awdur: Gareth Ioan, cyfarwyddwyd gan |
| |
darllenwch
adolygiadau Sgrech yma |
| |
|

|
Cerdyn Post o Wlad y Rwla |
| Comisiynwyd Angharad Tomos i ysgrifennu'r ddrama yn arbennig ar gyfer Arad Goch.Mae'r ddrama yn dilyn helyntion Rala Rwdins, Rwdlan a chymeriadau hoffus eraill Gwlad y Rwla wrth iddynt fynd ar wyliau. Ceir hanes y pacio, y plagio a'r picnic rhyfeddol a noson hudol dan y ser. |
| Blwyddyn: 1995 |
cast: Rhys Bleddyn
Carys Huw
Gwion Huw
Mair Tomos Ifans |
| |
awdur: Angharad Tomos, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Cerdyn Post o Wlad y Rwla yma |
| |
|

|
Ffrwgwd y Tad a'r Mab |
| Golwg ddoniol a direidus ar berthynas oedolion a'r iyngyr jenyrseion heddiw. Llond bol o chwerthin! |
| Blwyddyn: 1994 |
cast: Rhys Bleddyn,
Alun Elidyr,
Carys Huw,
Jonathon Nefydd |
| |
awdur: John Glyn Owen, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Ffrwgwd y Tad a'r Mab yma |
| |
|

|
Hyn oll yn ei Chalon |
| Drama yn seiliedig ar fywyd y Forwyn Fair. Gyda chymorth cerddoriaeth, symud, barddoniaeth a chan - cawn rannu rhai o gyfrinachau'r fenyw arbennig hon a chawn gyfle i chwerthin a chrio efallai wrth rannu rhai o'i phrofiadau dwysaf. |
| Blwyddyn: 1993 |
cast: Mari Rhian Owen
Mair Tomos Ifans |
| |
awdur: Mari Rhian Owen, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Hyn oll yn ei Chalon yma |
| |
|

|
Yn Ein Dwylo |
| Hanes teulu o Lithuania ar adeg y frwydr dros annibyniaeth eu gwlad. Brwydr sydd yn ysbrydoli'r fam i wneud safiad gwleidyddol am y tro cyntaf erioed. |
| Blwyddyn: 0000 |
cast: Mari Rhian Owen
Sior Llyfni
Rhys Bleddyn
Huw Garmon
Carys Gwilym
Mair Tomos Ifans
Idris Morris Jones
Sian Summers
|
| |
awdur: Pam Palmer, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Yn Ein Dwylo yma |
| |
|

|
Cwrw Chips a Darlith Deg |
| Dyma ail hanner stori cymeriad Gary Jones. Mae'r sioe yn delio gyda amrywiaeth o brofiadau sy'n gyfarwydd i lawer mae'n siwr - canlyniadau lefel A, disgwyliadau ac ymateb y teulu, y symud, lle newydd ac estron a cheisio bodoli a byw yno. Comedi un dyn yn son am ddyddiau Coleg |
| Blwyddyn: |
cast: Gwion Huw |
| |
awdur: Sian Summers, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Cwrw Chips a Darlith Deg yma |
| |
|

|
Rwtsh Ratsh Rala Rwdins |
| "Llipryn! Rwyt ti'n eistedd fan hyn yn gwneud dim byd ond crio a bod yn ddigalon, ac rydw i'n cynnig Antur Mawr dy fywyd i ti. Fedri di ddim gwrthod!" |
| Blwyddyn: |
cast: Rhys Bleddyn
Iwan Charles
Gwen Lasarus
Siwan Bowen Davies |
| |
awdur: Angharad Tomos, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Rwtsh Ratsh Rala Rwdins yma |
| |
|

|
Dros y Garreg |
| Mae themau'r ddrama hon yn gyfarwydd i bawb sy'n ymwneud a phlant bach. Merch fach hunanol yw Lizzie sy'n gwrthod rhannu, yn dewis bod yn ynysig ac yn filain wrth blant eraill. Drwy ofal llongwr caredig mae hi'n dysgu pwysigrwydd gofalu am ei ffrindiau, trafod ei theimladau a bod yn gymdeithasol. Mae nhw'n camu gyda'i gilydd "dros y garreg" tuag adref. |
| Blwyddyn: |
cast: Mari Rhian Owen,
Ryland Teifi |
| |
awdur: Mari Rhian Owen, cyfarwyddwyd gan Jeremy Turner |
| |
darllenwch
adolygiadau Dros y Garreg yma |
| |
|
|