cartref newyddion arad goch cynhyrchiadau cyhoeddus cynhyrchiadau i ysgolion cysylltwch a ni adolygiadau cynhyrchiadau arad goch afrchif cynhyrchioadau arad goch

Cynhyrchiadau cyhoeddus Arad Goch

sioeau cyfredol | sioeau i ddod | sioeau diweddar | archif sioeau cyhoeddus

Mae cynhyrchiadau cyhoeddus Arad Goch yn cael eu teithio i bob cwr o Gymru. Mae’r Cwmni yn gweithio’n agos gyda nifer o drefnwyr a gwirfoddolwyr er mwyn denu cynulleidfaoedd hen a newydd i brofi theatr fyw a chyfoes. Bydd y perfformiadau yn cael eu cynnal mewn theatrau, neuaddau pentref a neuaddau ysgol. Ariannir y prosiectau gan Gyngor Celfyddydau Cymru ynghyd a chynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru.

Bob Haf mae Arad Goch yn teithio perfformiad i blant i theatrau ledled Cymru. Yn y gorffennol mae Arad Goch wedi perfformio Rwtsh Ratsh Rala Rwdins, Taliesin, Culhwch ac Olwen, Y Sied, Twm a Mati Tat a’r Ddoli ac yn ddiweddar Llew Lletchwith.

Mae Arad Goch hefyd yn cyflwyno sioe gyhoeddus o amgylch neuaddau pentref a chanolfannau cymuned ym mhob cwr o Gymru yn flynyddol. Mae sioeau cyhoeddus blaenorol y Cwmni yn cynnwys Y Ffin, Saer Doliau (Gwenlyn Parry) Caligula (Cai ) a nifer o ddramâu newydd gan awduron cyfoes gan gynnwys Aderyn Glas mewn Bocs Sgidiau (Siân Summers), Rownd y Byd mewn Lori (Sera Moore Williams), Ty Ni (Gareth Ioan), Anna Marî Lyfs Dic Wili (John Glyn Owen) a Letus (Mari Rhian Owen).