 |

sioeau cyfredol | sioeau i
ddod | sioeau diweddar | archif
sioeau cyhoeddus
| |
Letus |
 |
Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2003 |
Drama wedi ei hysbrydoli gan hanesion am Lis Letus, ydi'r ddrama gomisiwn yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003.
Dynes fu'n crwydro Maldwyn am flynyddoedd oedd Lis Letus, a down i wybod bob yn dipyn am ei charwriaeth anarferol yn ystod cwrs y ddrama, pan mae'n edrych yn ôl dros ei gorffennol.
Mae'r ddrama wedi ei lleoli yn bennaf yn ystafell y meddyg mewn wyrcws, wrth i Lis, (Sara Harris-Davies) sydd bellach yn heneiddio, siarad gyda'r doctor (Meilyr Siôn) mae'n datgleu hanesion am ei gorffennol a'i phresennol.
Awn yn ôl ac ymlaen rhwng y gorffennol a'r presennol, a gwelwn olygfeydd o Letus yn cyfarfod ei chariad (Iwan Tudor.)
|
| llwyfanwyd 01 08 2003 tan 01 09 2003 |
cast: Sara Harris-Davies
Meilir Sion
Iwan Tudor |
| awdur: Mari Rhian Owen, cyfarwyddwr:Jeremy Turner |
| |
Darllenwch adolygiadau Letus yma |
| |
|
| |
Riff |
 |
Sioe Gymuned gan Arad Goch |
Sioe un dyn… ac un arall ar gitâr.
Cymro Ifanc ar yr ymylon.
Dau Americanwr ifanc yn mynnu dial.
Perfformiad egnïol. Cerddoriaeth fyw wreiddiol.
Sefyllfa hynod o ddirdynnol.
|
| llwyfanwyd 10 03 2004 tan 30 04 2004 |
cast: Darren Stokes
Owain Llyr Edwards |
| awdur: Sera Moore Williams, cyfarwyddwr:Sera Moore Williams |
| |
Darllenwch adolygiadau Riff yma |
| |
|
| |
Llew Lletchwith |
 |
Sioe haf i blant, 2004 |
Sioe Gowbois!!
Sioe am anturiaethau siryf trwsgl pentre bach Gwlff Garw, Llew Lletchwith. Ei gariad at Lwlw Lewis, perchennog salwn Gwlff Garw, a'i ymdrechion ynghyd a'i ffrind pennaf, Cen Cwrw i rwystro Gwthgan Jenkins (y badi! fu yng ngharchar San Antonio am grogi defaid) rhag saethu pob copa walltog yn y pentre.
Llu o gymeriadau difyr, hwrli bwrli o stori, a cherddoriaeth byw. A'r dynion da yn ennill y dydd dros y badi! |
| llwyfanwyd 24 05 2004 tan 02 07 2004 |
cast: Sara Harris- Davies
Catrin Evans
Gruffudd Ifan
Darren Stokes
Rhys ap Trefor |
| awdur: Gwyn Morgan, cyfarwyddwr:Sera Moore Williams |
| |
Darllenwch adolygiadau Llew Lletchwith yma |
| |
|
| |
Lleuad yn Olau |
 |
Ar daith o 23 Mai – 1af o Orffennaf 2005 |
Addas i blant 7-11 oed
Bob haf mae Arad Goch yn cynhyrchu cyflwyniad newydd i blant i’w berfformio mewn theatrau a chanolfannau ledled Cymru. Eleni, byddwn yn creu cynhyrchiad newydd o un o sioeau mwyaf llwyddiannus y cwmni, sef LLEUAD YN OLAU, wedi’i seilio ar lyfr hardd T. Llew Jones.
Mae pawb yn hoffi clywed stori dda. Drwy ddyfeisgarwch gwaith Arad Goch cyflwynir rhan o’n traddodiad, unwaith eto, i gynulleidfaoedd cyfoes.
Mae’r llyfr LLEUAD YN OLAU yn boblogaidd ymhlith plant, athrawon ac oedolion fel ei gilydd. Bydd yr addasiad llwyfan yn cyfuno swyn a hwyl y straeon gydag arddull bywiog, lliwgar a cherddorol Arad Goch – ac yn sicr o apelio!
|
| llwyfanwyd 23 05 2005 tan 01 07 2005 |
cast: Ffion Wyn Bowen
Owain Llyr Edwards
Rhiannon Morgan
Iwan Charles |
| awdur: T. Llew Jones, cyfarwyddwr:Jeremy Turner |
| |
Darllenwch adolygiadau Lleuad yn Olau yma |
| |
|
| |
Tafliad Carreg/Stones |
 |
Dau fachgen...un weithred ffol...creithiau oes |
Drama ffraeth a phwerus sy'n dangos sut mae bywyd yn medru newid gyda Thafliad Carreg.
Dramateiddiad o ddigwyddiad go iawn. Gyda cherddoriaeth fyw yn gyfeiliant cyffrous i goctel o gomedi a chrio - dyma stori dau fachgen, nad oedd mewn gwirioned, yn fechgyn anghyffredin.
Rhai ymatebion i berfformiadau Arad Goch o'r ddrama hon yn 2001/2:
"Superb, captivating, thought provoking and answer giving. I'm so very glad that I booked the talent of Iwan and LLyr" (Ysgol Bryngwyn)
"Roedd y disgyblion i gyd yn hollol frwdfrydig - fe ddywedodd pob un eu bod wedi mwynhau pob munud." (Ysgol Gyfun Aberaeron)
"The best thing I've ever seen"
(Alex Davies (disgybl/pupil) - Ysgol Dyffryn Taf
Noder - mae'r sioe hon yn anaddas i blant oed cynradd. Perfformir yn Gymraeg a Saesneg.
|
| llwyfanwyd 06 02 2006 tan 17 03 2006 |
cast: Iwan Charles
Owain Llyr Edwards |
| awdur: Tom Lycos & Stefano Nantsou, cyfarwyddwr: |
| |
Darllenwch adolygiadau Tafliad Carreg/Stones yma |
| |
|
| |
Merch Cae Bach (cyhoeddus) |
 |
|
Perfformir y sioe yma mewn amgueddfeydd yng Ngheredigion, Sir Gar a Sir Benfro.
Stori Joan yw hon, merch fach a ddaeth i Gymru fel 'evacuee'. Mae'r ddrama wedi'i selio ar atgofion a straeon cefn gwlad Gorllewin Cymru 40au'r ganrif ddiwethaf. |
| llwyfanwyd 12 10 2005 tan 07 12 2005 |
cast: Eifion Dafydd, Sara Harris-Davies, Rhiannon Morgan a LLyr Jones (Rheolwr Llwyfan) |
| awdur: Jeremy Turner, cyfarwyddwr:Jeremy Turner |
| |
Darllenwch adolygiadau Merch Cae Bach (cyhoeddus) yma |
| |
|
| |
Penbobi Hapus/Happy Bobiday |
 |
Sioe haf 2006 i blant 3-7 |
Mae’n ddiwrnod arbennig yng ngwlad y Bobinogi ac mae rhywun am gael syrpreis neis iawn. Ond tybed ai Bobin, Nib neu Ogi fydd yr un lwcus ?
Dewch i rannu yn anturiaethau’r cymeriadau annwyl yma – da’ch chi wedi eu gweld ar y teledu, nawr dewch i’w gweld yn fyw ar lwyfan. Bydd canu, cawlio, cynllwyn…a lot o sbri hefyd yn y sioe hon fydd yn siŵr o apelio at blant 3-7 oed.
Crewyd y sioe mewn cydweithrediad â BBC Cymru a chomisinwyd cwmni Masquerade o Gaerdydd i greu’r set – cwmni sydd âg enw da iawn am greu setiau gwych - felly mae disgwyl i’r sioe hon fod yn wledd i’r glust a’r llygad.
|
| llwyfanwyd 22 05 2006 tan 15 07 2006 |
cast: Ffion Wyn Bowen, Eifion Dafydd, Dafydd Rhys Evans, Rhiannon Morgan, Delyth Wyn. |
| awdur: Jeremy Turner, cyfarwyddwr:Jeremy Turner a Sera Moore Williams |
| |
Darllenwch adolygiadau Penbobi Hapus/Happy Bobiday yma |
| |
|
| |
Hel Meddyliau |
 |
Sioe i blant bach 4-8 oed. |
Mae Heti a Handel, pâr o lygod bach, yn paratoi am hirlwm y Gaeaf. Maent yn wynbeu gaeaf caled o ddiffyg bwyd. Cawn weld sut mae un yn casglu bwyd tra bo’r llall yn paratoi stôr o bethau prydferth i godi ei galon yn ystod misoedd llwm y gaeaf. Cawn rannu eu helyntion a gwrando ar eu straeon, eu breuddwydion a’u cyfrinachau tra’n aros am y Gwanwyn yn eu twll bach clyd yng nghwaelod y goeden.
Dyfeisiwyd y cynhyrchiad gwreiddiol yn 1990. Bellach mae’r ddrama hon wedi ei hail-greu mewn partneriaeth a Theatr Ark, Dulyn, a gyda chefnogaeth CCAT, rhaglen Interreg a gynlluniwyd i ddatblygu’r berthynas rhwng artistiaid ar ddwy lan y Môr Gwyddelig. Mae’r cynhyrchiad newydd hwn, sy’n cynnwys cerddoriaeth fyw ac a gyfarwyddwyd gan Jeremy Turner, yn rhoi cyfle i genhedlaeth newydd o blant rannu profiadau Heti a Handel.
Mae Hel Meddyliau hefyd ar gael yn Saesneg o dan y teitl Winter Pictures. Mae hwn yn gyhyrchiad addas ar gyfer sesiynau ar ôl ysgol neu fel sioe deulu.
|
| llwyfanwyd 14 09 2006 tan 24 11 2006 |
cast: Ffion Wyn Bowen, Dafydd Rhys Evans, Thomas Johnston |
| awdur: Jeremy Turner et al., cyfarwyddwr:Jeremy Turner |
| |
Darllenwch adolygiadau Hel Meddyliau yma |
| |
|
| |
Twm Sion Cati |
 |
|
Stori ramantus y ‘Robin Hood Cymreig’ wedi ei chyflwyno’n fywiog gan Gwmni Theatr Arad Goch sy’n arbenigo mewn theatr i blant a phobl ifanc. Bydd hwn yn gynhyrchiad llawn campau, castau a cherddoriaeth wrth i stori anhygoel yr arwr gwerinol o Dregaron gael ei datgelu. Cawn ein cipio’n ôl i’r 16 ganrif – i briffyrdd llawn lladron a pheryglon a’n llonni wrth i’n harwr helpu’r tlawd a’r anghenus. Pwy na all hoffi cymeriad drygionus fel Twm, yn enwedig os yw hwnnw’n ymladd dros ei gymuned yn erbyn anghyfiawnder a gorthrwm. Heb os mae Twm yn rhan o’n hetifeddiaeth – dewch a’r plant i ddysgu ychydig am hanes a diwylliant Cymru – ond yn fwy na dim i fwynhau awr o theatr difyr dros ben.
Yn addas i blant 7-11 oed.
|
| llwyfanwyd 21 05 2008 tan 04 07 2008 |
cast: Ffion Wyn Bowen; Emyr Bell, Lowri Sion, Marc Roberts, Ioan Gwyn |
| awdur: Jeremy Turner, cyfarwyddwr:Jeremy Turner |
| |
Darllenwch adolygiadau Twm Sion Cati yma |
| |
|
|