 |
|
GWEITHDAI DRAMA
15 / 07 / 2008
28/07/08 - 1/08/08
Gweithdai Drama i blant 7 - 11 oed
Bydd Arad Goch yn cynnal cyfres o weithdai drama yr haf hwn yn eu canolfan newydd ar Stryd y Baddon, Aberystwyth. Mae’r gweithdai eleni wedi cael eu hanelu at blant rhwng 7 ac 11 mlwydd oed, a cheir hyd at 20 o blant ym mhob sesiwn. Bydd y gweithdai yn para am wythnos – o’r 28ain o Orffennaf i’r 1af o Awst a cheir dau weithdy bob dydd – y cyntaf yn cychwyn am 10am nes 1pm a’r ail i gychwyn am 2pm ac yn gorffen am 5pm. Mae croeso i’r plant fynychu naill ai’r sesiynau bore neu’r sesiynau prynhawn trwy gydol yr wythnos. Ar ddiwedd yr wythnos, bydd cyfle i’r plant gynnal perfformiad o’u gwaith i’w ffrindiau a’u teuluoedd yma yng Nghanolfan Arad Goch. Arweinir y gweithdai gan Ffion Wyn Bowen a Rhiannon Morgan – actoresau profiadol sydd wedi gweithio i’r cwmni ers sawl blwyddyn bellach– mae gan y ddwy brofiad helaeth o arwain gweithdai o'r fath mewn ysgolion ac yn y gymuned. (Mae Ffion hefyd wedi ei chymhwyso i fod yn athrawes).
Am fwy o fanylion ac i archebu lle – cofiwch gysylltu â ni ERBYN 21 Gorff. Cofiwch mai dim ond lle i 20 o blant sydd ymhob grŵp!
|
|
| |
|
|
Drama Caryl Lewis ar daith yn yr hydref
09 / 07 / 2008
Yr Ystafell Aros - yn teithio rhwng 27 Hydref a 29 Tachwedd 2008
Taith Hydref Cwmni Theatr Arad Goch – Yr Ystafell Aros/The Waiting Room
Drama i bobl ifanc ac oedolion. Yn addas i 13+ gan yr awdur ifanc Caryl Lewis.
Yr Awdur:
Mae Caryl yn awdur amryddawn. Mae wedi ennill gwobrau am ei nofelau – efallai mae’r nofel a’i gwnaeth yn enw cyfarwydd yw Martha, Jac a Sianco a enillodd wobr LLyfr y Flwyddyn iddi yn 2005 ac a ryddheir fel ffilm yn fuan. Mae hefyd yn brofiadol fel awdur i bobl ifanc gan ennill gwobr Tir-Na-Nog am Iawn Boi! yn 2004. Dyma yr ail ddrama i Arad Goch ei chomisiynu gan Caryl.
Y Ddrama:
Mae yna ystafelloedd aros ymhobman - yn y clinig iechyd, yn y ganolfan brawf gyrru, yn yr orsaf drenau ac hyd yn oed y tu ôl i'r llwyfan. Pan wyt ti'n aros i dy fywyd ddechrau, mae'r byd yn medru teimlo fel un ystafell aros fawr.
Dyma ddrama am dyfu i fyny. Drama sy'n cwestiynu ein syniad o 'lwyddiant'. Drama sy'n edrych ar pa mor wahanol gall aelodau o'r un teulu fod. Dilynwn frawd sy'n serennu ar lwyfannau, chwaer sy'n aros i'w bywyd ddechrau yn ôl adref a mam sydd â chyfrinach fawr fydd yn gwyrdroi bywydau'r tri am byth.
Bydd y ddrama hon ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac yn teithio trwy Gymru rhwng 27.10 2008 a 30.11 2008.
Os hoffech fwcio perfformiad/au cysylltwch â: Dana Edwards 01970 617998; dana@aradgoch.org; Stryd y Baddon, Aberystwyth SY23 2NN
|
|
| |
|
|
Cwmni Theatr Amatur Cymraeg i Aberystwyth
09 / 07 / 2008
Yn Eisiau: POBL
sydd â diddordeb mewn sefyldu cwmni theatr amatur Cymraeg newydd i oedolion yn Aberystwyth.
Efallai nad ydych wedi actio ers dyddie ysgol, neu heb gael y cyfle i wneud erioed; efallai eich bod yn torri’ch bol eisiau gwneud gwaith cefn llwyfan – goleuo neu sain, y gwisgoedd neu’r props, y set neu’r cyfarwyddo – wel nawr yw eich cyfle chi.
Mae Arad Goch yn barod iawn i gynnig defnydd o’i canolfan a’i hadnoddau i’r cwmni newydd; mae rhai o staff Arad Goch hefyd yn fodlon rhannu eu sgiliau gyda aelodau’r cwmni newydd – ond cwmni cymunedol fydd hwn, yn perfformio gwaith mae’r aelodau yn ei ddewis ac yn cael ei redeg gan amaturiaid brwd.
Felly beth am fentro gwneud rhywbeth newydd? Mae croeso i oedolion o bob oed (16+) ymuno â’r cwmni newydd; croeso hefyd i bobl brofiadol a’r rhai sydd yn hollol newydd i’r ddrama amatur.
Bydd y cwmni newydd yn cyfarfod yn Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth ar nosweithiau Mawrth o Fis Medi 08 ymlaen. Mae’r dramâu ar gael, mae’r arbenigedd ar gael, mae’r adnoddau ar gael, ond mae angen pobl. Byddwch yn un o’r bobl hynny a chysylltwch âg Arad Goch i fynegi eich diddordeb: 01970 617998; post:aradgoch.org.
|
|
| |
|
|
Penwythnos i ddathlu cartref newydd Cwmni Theatr Arad Goch
18 / 06 / 2008
Penwythnos i ddathlu agor adnodd newydd pwysig i'r holl gymuned
Sesiynau i gyd yn rhad ac am ddim—
rhywbeth yn eich temtio? - ffoniwch ni i
sicrhau eich lle— neu dowch am sgowt i weld yr adeilad ac i rannu paned â ni.
AMSERLEN Y PENWYTHNOS
(Mae angen i chi sicrhau eich lle ar gyfer pob sesiwn o flaen llaw drwy ffonio 01970 617998)
GWENER / FRIDAY 4.7.08
4 – 7.30pm Gweithdy Ail-greu Dillad/ Clothes
recycling workshop
6 – 7.30pm Sesiwn Rapio gyda
Aneirin Karadog ac Ed Holden/
Rap workshop lead by Aneirin Karadog and Ed Holden
7.30pm Sioe Ffasiwn / Fashion Show
8-9.30pm: Sesiwn dawnsio stryd/Brazilian Combat gyda/with Collie Dog
9.30-11.30pm
Bandiau byw yn y Theatr /Live bands in the theatre – Stone Free Band, Violetones & Triattica
SADWRN / SATURDAY 5.7.08
12.15—12.45pm: Hwyl a chân i blant oed meithrin a’u rhieni gyda Eleri Turner/ Sing-along for nursery aged children and their parents with Eleri Turner
1.00-1.30pm: Cyfle i rieni a’u plant (dros 7 oed) i dynnu tant! Cyflwyniad i’r delyn i ddechreuwyr llwyr gyda Eleri Turner. Darperir telynau/ An introduction to the harp with Eleri Turner. Suitable for parents and children (over 7 years old). A harp workshop for pure beginners! Harps will be provided.
1.00– 1.45pm + 2.00-2.45pm:
Gweithdy drama i blant 7-11 oed yn seiliedig ar ein sioe haf Twm Siôn Cati / drama workshop for children 7—11 based on our summer show—Twm Siôn Cati
1.40pm + 2.50pm: Teithiau tywys o amgylch yr
adeilad a phaned / a guided tour around the centre and a chance for a cuppa!
1.45– 2.45pm: Sesiwn i oedolion yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn ymuno â chwmni Am Dram
Cymraeg newydd. Bydd cyfle i drafod gwaith y cwmni newydd a chyfle i roi tro ar gyfarwyddo neu actio dan arweiniad Sêra Moore Williams
3.00 – 3.45pm: Sesiwn yoga i blant a’u rhieni / A yoga group for children and their parents with
Sue Jones Davies
|
|
| |
|
|
Penwythnos Fawr Arad Goch – gyda phopeth yn rhad ac am ddim!
18 / 06 / 2008
O’r diwedd mae Arad Goch ar agor ei drysau i’r cyhoedd unwaith yn rhagor. Mae dwy flynedd bellach ers i’r cwmni theatr symud allan o’i cartref yn Stryd y Baddon, Aberystwyth er mwyn ehangu a moderneiddio’r ganolfan. Bellach mae gan y cwmni theatr bwrpasol i berfformio ynddi, ystafelloedd ymarfer a swyddfeydd, ynghyd â’r offer technegol diweddaraf. Ond holl bwrpas yr adnewyddu oedd darparu gofod y byddai’r cwmni proffesiynol yma yn fedru ei rannu â’r gymuned a dyna a adlewyrchir yn ystod y penwythnos agoriadol ar y 4ydd a’r 5ed o Orffennaf.
Rhaid wrth gwrs wrth seremoni ddadorchuddio carreg i goffau’r achlysur ac Elin Jones AC fydd yn gwneud hynny. Mae cefnogaeth Academi hefyd wedi sicrhau y bydd y Bardd Cenedlaethol, Gillian Clarke, yn bresennol i ddarllen cerdd o’i gwaith i ddathlu’r achlysur ,a darllenir cerdd i’r un perwyl o waith Bardd Plant Cymru, Ifor ap Glyn.
Ond mae hwn yn benwythnos i bawb yn y gymuned – noson y bobl ifanc yw nos Wener y 4ydd pan fydd yna sesiynau rap, ‘Brazilian Combat’, sioe ffasiwn amgen a gig gyda’r Stone Free Band, Violetones a Triattica. Ar y dydd Sadwrn bydd sesiynau canu i’r plant lleiaf, blas o ganu’r Delyn i ddechreuwyr pur (yn blant 7+ a’u rhieni), sesiwn yoga, gweithdy drama i blant 7-11 a sesiwn i oedolion sydd â diddordeb sefydlu cwmni drama amatur newydd yn yr iaith Gymraeg yn Aberystwyth. Mae croeso hefyd i bobl sydd am gip ar yr adeilad i daro fewn am baned.
Mae’r Ganolfan newydd wedi ei hariannu gan Gyngor Tref Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion, Arian Amcan 1, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Dywedodd Dr Kath Davies, Pennaeth Ariannu’r Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae wedi bod yn bleser i weithio gyda Theatr Arad Goch yn y trawsffurfiad i gartref y cwmni yn Aberystwyth. Ar ôl tair blynedd o waith caled iawn, dylid llongyfarch y cwmni ar ei gamp a dylai’r ardal gyfan fod yn falch iawn o’r cyfleusterau newydd arbennig yma. O’r diwedd mae gan Gwmni Arad Goch adeilad sy’n adlewyrchu ei uchelgais greadigol a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at berfformiadau’r dyfodol gan bobl ifanc, gyda llawer ohonynt yn profi theatr am y tro cyntaf erioed”.
Mae’r gwaith felly wedi ei wneud, felly dewch i ymuno yn y parti dathlu. Gofynnir i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno yn un o’r sesiynau uchod gysylltu â Arad Goch o flaen llaw (01970) 617998; post@aradgoch.org. Yn yr wythnos yn dilyn y penwythnos yma mae yna groeso mawr hefyd i bobl alw ar nos Fawrth 8 neu nos Fercher 9 o Orffennaf, rhwng 5-7, i weld yr adeilad ac i gael paned.
Am wybodaeth pellach cysylltwch â: Dana Edwards, Arad Goch, 01970 617998, dana@aradgoch.org www.aradgoch.org
|
|
| |
|
|
Arad Goch yn Chwilio am Artistiaid Graffiti
14 / 05 / 2008
Graffiti – Celf neu Fandaliaeth?
Yn ddiweddar bu ymateb chwyrn i ail baentio y garreg ger Llanrhystud sydd ers blynyddoedd wedi datgan ‘Cofiwch Dryweryn’ gan newid y neges i ‘Angofiwch Dryweryn LOL’. Ac yn gysgon daw cynigion lu i gyfrannu at gost cynnal a chadw’r neges wreiddiol sy’n profi bod gwerth i’r graffiti – boed hwnnw’n werth hanesyddol neu ddiwylliannol. Mae gwerth ambell fath o graffiti felly wedi ei brofi yng Ngheredigion, ond dros y byd mae’r ddadl ynglŷn a graffiti yn rhygnu mlaen – gyda llawer yn condemnio’r cyfan fel fandaliaeth llwyr.
Un awgrym yw ‘cyfreithloni’ graffiti – darparu gofodau er mwyn i artistiaid graffiti gael penrhyddid i wneud fel y mynnant, a thrwy hynny gadw llefydd eraill yn lân a pharchus, ac arbed miloedd i’r cynghorau sir ac unigolion sy’n gorfod talu am glirio’r llanast. Dyma mae Arad Goch am wneud yn ei pencadlys newydd yn Aberystwyth – creu wal graffiti yn y rhodfa gul ddigon diflas sydd rhwng Stryd y Baddon a Stryd Portland. Bydd artist graffiti profiadol yn arwain gweithdy fydd yn rhad ac am ddim i bobl ifanc leol sydd â diddordeb mewn helpu i greu’r wal.
Nid ‘problem’ ddiweddar yw graffiti – mae enghreifftiau o gyfnod teyrnasiad y Groegiaid a’r Rhufeiniaid. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ymddangosodd darlun gyda’r geiriau “Kilroy was here” mewn nifer o wledydd. Ers hynny mae graffiti wedi esblygu ac mae’n newid o hyd – yn aml y pwrpas yw cyfleu safbwynt cymdeithasol neu wleidyddol fel ‘Cofiwch Dryweryn’ a’r enghreifftiau lu a gafwyd ar Wal Berlin cyn i honno gael ei dymchwel.
Mae rhai llefydd yn gwneud y gorau o’r math yma o fynegiant – yn Melbourne mae nifer o’i strydoedd sy’n frith o wahanol fathau o graffiti yn denu llu o dwristiaid. Yn Llundain rhoddwyd gwerth o filiwn ar wal sy’n dangos Stalin a’r Mona Lisa yn cario gwn. Mae Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch yn frwdfrydig am y syniad: “mae’n un ffordd o annog pobl ifanc i fod yn greadigol tra’n creu gwaith difyr a lliwgar bydd y cyhoedd yn medru ei fwynhau yn rhad ac am ddim.”
Felly os oes yna unrhyw Banksy’s allan yna fyddai’n hoffi bod yn rhan o greu’r wal cysylltwch â ni yma yn Arad Goch 01970 617998; post@aradgoch.org neu galwch fewn i’n cartref yn Stryd y Baddon, Aberystwyth am sgwrs.
|
|
| |
|
|
Canolfan newydd Arad Goch.
01 / 04 / 2008
O’r diwedd, wedi dwy flynedd o aros, rydym bellach wedi ail gartrefu yn ein cartref moethus ar Stryd y Baddon, Aberystwyth. Bu’r adeiladwyr wrthi’n ddyfal yn trawsnewid yr hen Fans yn ganolfan chwaethus ar ein cyfer, ac mae’r canlyniad yn wefreiddiol! Mae i’r ganolfan ddwy ystafell berfformio – un stiwdio fach ac un theatr gweddol o faint sydd yn eistedd hyd at 100 o bobl. Y bwriad yw i ddenu pobl ifanc mewn i’r ganolfan trwy gynnal amrywiol weithgareddau y gallent fod yn rhan ohonynt – er hyn mi fydd ein gwaith theatr mewn addysg yn parhau i deithio o amgylch ysgolion. Ceir yma hefyd ystafell gyfarfod, swyddfeydd, ystafell golygu ffilmiau ac yn y nenfwd mae ystafell yr arlunwyr (y gobaith yma yw rhoi’r cyfle i artistiaid lleol ddefnyddio’r gwagle ar gyfer eu gwaith). Nid dim ond Cwmni Theatr Arad Goch fydd yn elwa o’r ganolfan newydd – bydd modd i gwmnïau a sefydliadau eraill fanteisio ar y cyfle i hurio gofod yr adeilad – i drafod hyn ymhellach, cysylltwch â Nia Evans, Rheolwr Gweinyddol y Cwmni – nia@aradgoch.org. Felly, tro nesaf y byddwch chi’n crwydro tref Aberystwyth, cofiwch alw heibio ein cartref newydd – bydd rhywun ar gael i’ch tywys o amgylch yr adeilad unrhyw bryd! |
|
| |
|
|
TWM SION CATI
31 / 03 / 2008
Cyn hir, bydd Arad Goch ar daith gyda'r sioe haf Twm Sion Cati - cynhyrchiad sy'n addas ar gyfer plant 7 - 11oed.
Stori ramantus y ‘Robin Hood Cymreig’ wedi ei chyflwyno’n fywiog gan Gwmni Theatr Arad Goch sy’n arbenigo mewn theatr i blant a phobl ifanc. Bydd hwn yn gynhyrchiad llawn campau, castau a cherddoriaeth wrth i stori anhygoel yr arwr gwerinol o Dregaron gael ei datgelu. Cawn ein cipio’n ôl i’r 16 ganrif – i briffyrdd llawn lladron a pheryglon a’n llonni wrth i’n harwr helpu’r tlawd a’r anghenus. Pwy na all hoffi cymeriad drygionus fel Twm, yn enwedig os yw hwnnw’n ymladd dros ei gymuned yn erbyn anghyfiawnder a gorthrwm. Heb os mae Twm yn rhan o’n hetifeddiaeth – dewch a’r plant i ddysgu ychydig am hanes a diwylliant Cymru – ond yn fwy na dim i fwynhau awr o theatr difyr dros ben.
Am fanylion y daith - ewch i'r dudalen Cynyrchiadau Cyhoeddus
|
|
| |
|
|
Pelen Loteri fawr yn rholio mewn i Aberystwyth a'r Drenewydd!
31 / 03 / 2008
Bydd ymwelwyr i Gwmni Theatr Arad Goch yn Aberystwyth ac Oriel Davies yn y Drenewydd, yn cael sioc yr wythnos hon, pan welant y gwaith celf newydd sy'n bresennol yno - pelen Loteri chwe troedfedd o daldra!
Mae'r belen loteri fawr yn un o nifer sydd wedi ymddangos yr wythnos ddiwethaf, mewn lleoliadau ar draws Cymru, sydd wedi derbyn arian loteri. Mae'r peli, oll wedi eu labelu gyda neges am brosiect Loteri, yn ran o ymgyrch i ddangos i bobl lle mae arian Achosion Da'r Loteri wedi ei wario yn lleol a sut mae'n elwa nhw.
Mae Cymru wedi elwa gyda buddsoddiad o £43 miliwn o arian Loteri yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, ac ers i'r Loteri ddechrau 13 mlynedd yn ôl, mae arian wedi ei roi i brosiectau bach a mawr, trwy Gyngor Celfyddydau Cymru a dosbarthwyr Loteri arall yng Nghymru, yn cynnwys Cwmni Theatr yr Arad Goch yn Aberystwyth.
Fel esboniodd Owen Jenkins o'r Loteri Genedlaethol:
"Mae'r holl brosiectau sydd â phelen Loteri fawr, yn ogystal â'r miloedd o brosiectau eraill ag ariannwyd trwy'r Loteri yng Nghymru, yn gwella bywydau'r bobl lleol a'r lleoedd maent yn eu mwynhau. Trwy Gymru, mae grantiau Loteri'n cael eu rhoi i brosiectau cymunedol proffil uchel a llai adnabyddus, yn cynnwys y celfyddydau, chwaraeon, etifeddiaeth, elusennau, iechyd, addysg a'r amgylchedd, sy'n gwneud gwahaniaeth bositif i gymunedau ar draws y wlad".
Am fwy o wybodaeth am sut i weld y peli a'r prosiectau sydd wedi derbyn arian Loteri yng Nghymru ewch ar: www.lotterygoodcauses.org.uk
DAW'R ERTHYGL UCHOD O WEFAN CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU.
|
|
| |
|
|
Gwyl Agor Drysau
31 / 03 / 2008
Bu Gŵyl Agor Drysau eleni yn llwyddiant ysgubol gyda nifer o ymwelwyr o bell ac agos wedi mynychu digwyddiadau’r wythnos. Daeth nifer o blant, pobl ifanc ac oedolion i wylio perfformiadau cofiadwy gan gwmnïau o Gymru, Lloegr, Iwerddon, Gwlad Belg, Denmarc a Ffrainc – bu cymaint â 4,651 yn profi cynnyrch yr Ŵyl. Heb os, mae’r ffigwr hwn yn brawf o lwyddiant Gŵyl Agor Drysau unwaith yn rhagor. Diolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod yr wythnos – a gobeithio i chi gyd fwynhau’r arlwy.
Edrychwn ymlaen nawr at Ŵyl 2010!
|
|
| |
|
|
GWYL AGOR DRYSAU Mawrth 11-15 2008
07 / 02 / 2008
Bydd Gŵyl Agor Drysau eleni yn cynnwys perfformiadau gan gwmnïau o Ffrainc, Denmarc, Gwlad Belg, Lloegr, Iwerddon a Chymru wrth gwrs – cyfle gwych i gynulleidfaoedd ifanc brofi a mwynhau rhai o berfformiadau gorau’r byd. Lleolir rhan fwyaf o ddigwyddiadau’r Ŵyl yn Aberystwyth – ond os nad oes modd i chi ymweld âg Aberystwyth yn ystod yr wythnos, na phoenwch! Bydd nifer o’r cwmnïau yn teithio o amgylch canolfannau a threfi eraill yng Nghymru yn ogystal. Am raglen yr Ŵyl a manylion perfformiadau mewn canolfannau tu hwnt i Aberystwyth ewch i wefan yr Wyl - www.agordrysau-openingdoors.org
Bydd yr Ŵyl yn cynnig perfformiadau a digwyddiadau at ddant pawb o bob oed, felly cysylltwch á ni i archebu eich tocynnau – manteisich ar y cyfle hwn i brofi rhai o berfformiadau theatrig gorau’r byd!
Am wybodaeth pellach a’r newyddion diweddaraf, cofiwch ymweld â’r wefan neu cysylltwch á swyddfa Arad Goch ar 01970 617998 |
|
| |
|
|
Taith Drama Newydd Sbon
08 / 01 / 2008
Ar ddydd Mawrth 15 Ionawr tan Ddydd Mercher 20 Chwefror bydd cynhyrchiad diweddaraf Arad Goch – Mwnci ar Dân/Burning Monkey gan Sêra Moore Williams yn teithio ledled Cymru. Bydd perfformiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg (am fanylion pellach gwler ein tudalen ‘perfformiadau cyhoeddus’).
2 ddrws ar gau. Gwrachod, bwystfilod, graffiti, bwledi, bayonets a bras. Beth ddaw o’r 3 sy’n cwrdd o flaen y drysau?
Awr o theatr afaelgar gyda cherddoriaeth fyw fydd yn apelio i gynulleidfaoedd 13+ ac oedolion.
|
|
| |
|
|
Ail gylchu Stampiau, Sbectolau a Ffonau Symudol at achosion da.
28 / 09 / 2007
Yn ystod taith haf Arad Goch, Rhieni Hanner Call a Gwyrdd, gwahoddwyd y gynulleidfa i ddod a stampiau, sbectolau a ffonau symudol nad oeddent yn eu defnyddio bellach i ychwanegu at gasgliad Arad Goch. Roedd yr ymateb yn anhygoel a chasglwyd llond bwcedi o’r eitemau hyn a’u trosglwyddo i elusennau. Yn y llun, gweler Clive Willimas, optegydd yn Aberystwyth yn derbyn y sbectolau ar ran ‘World Vision Overseas’. Gyrrwyd y stampiau i’r RNIB a’r ffonau symudol i Oxfam.
Roedd cyfarwyddwraig y ddrama, Sêra Moore Willimas, yn hynod falch o ymateb postitif y plant i’r ymgyrch. Dywedodd: “mae’n holl bwysig fod plant yn dysgu bod pob un yn gallu cyfrannu at greu ffordd well o fyw ac rwy’n credu i’r apêl hwn roi boddhâd mawr iddynt – nid yn unig roeddynt yn cael taith i’r theatr ond roeddynt yn helpu eraill ar yr un pryd.”
|
|
| |
|
|
1,500 o ddisgyblion i weld drama gan Arad Goch yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
28 / 09 / 2007
Fel rhan o’r dathliadau canmlwyddiant bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn croesawu dros 1,500 o blant 9 a 10 oed i’w hadeilad hardd yn Aberystwyth i weld perfformiad o ddrama gan Gwmni Theatr Arad Goch.
Caneri, Gwylan a Bran yw’r cynhyrchiad ac mae’n cynnwys defnydd o rai o adnoddau gorau’r Llyfrgell – yn beintiadau a ffotograffau, darnau o ffilm a storïau o rai o lawysgrifau amhrisiadwy Cymru er mwyn a dod a hanes yn fyw a dangos bod chwilota adnoddau’r llyfrgell am wybodaeth yn union fel datrys pos mawr. Perfformir y ddrama yn y Drwm - awditoriwm amlgyfrwng y Llyfrgell.
Dau wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C yw’r actorion. Mae Emyr Bell yn dychwelyd i waith theatr wedi canolbwyntio ar waith teledu dros y blynyddoedd diwethaf, efallai mai fel y D. I. Lewis yn ‘Pobl y Cwm’ y mae’n fwyaf enwog. Yr actor arall yw Nia Ann sydd hefyd wedi gwneud llawer o waith teledu gan gynnwys chware rhan y ferch biwis, Gwenllian, yn ‘Con Passionate’.
‘Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn i groesawu Cwmni Theatr Arad Goch atom. Bydd y cynhyrchiad amlgyfrwng hwn yn help i bobl ifanc ddod i adnabod casgliadau’r Llyfrgell a dysgu mwy am hanes Cymru’ meddai Owen Llywelyn, Swyddog Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae’r cynhyrchiad yn rhedeg o 17 Medi – 12 Hydref.
|
|
| |
|
|
Yn Eisiau: Rheolwyr Llwyfan/Technegwyr
21 / 09 / 2007
Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn edrych am Reolwyr Llwyfan / Technegwyr i weithio ar amryw o brosiectau fydd yn teithio led led Cymru yn y dyfodol agos.
Trwydded yrru lawn a phrofiad o waith tebyg yn hanfodol.
Am wybodaeth pellach cysylltwch a Llyr Jones, Rheolwr Technegol y Cwmni ar 01970 617998. Gallwch e-bostio eich CV i llyr.jones@aradgoch.org neu ei bostio i :-
Arad Goch,
Stryd y Baddon,
Aberystwyth.
SY23 2NN
|
|
| |
|
|
FFILMIO YN ABERYSTWYTH
03 / 09 / 2007
Ymlacio, torheulo, chwarae pêl droed – dyma wna’r mwyafrif o bobl ifanc yn ystod eu chwe wythnos o wyliau’r haf, ond rhywbeth gwahanol i’r arfer oedd yn aros ieuenctid Aberystwyth yr Haf hwn.
Yn ystod wythnos gyntaf Awst, ‘roedd nifer o bobl ifanc yr ardal yn brysur yn ffilmio’r ffilm fer ‘A Better Life’ sy’n gydweithrediad rhwng Cwmni Theatr Arad Goch ac It’s My Shout (cynllun ffilmio ar y cyd â ITV Wales) . Dyma’r bedwaredd flywddyn i ffilm o’i bath gael ei chynhyrchu o dan ymbarél It’s My Shout. Bob blwyddyn mae’r prosiect yn tyfu o nerth i nerth gan ddenu diddordeb ymysg nifer o gwmnïau adnabyddus – Sgrin Cymru; S4C; Barcud Derwen ond i enwi rhai. Eleni cynhyrchir un o’r chwe ffilm fydd yn gweld golau ddydd ar y sgrin fach yn 2007 gan Gwmni Theatr Arad Goch.
Ysgrifennwyd ‘A Better Life’ gan Debbie Moon ac mae’n mynd i’r afael a brawd a chwaer wrth iddynt ddelio â phroblemau bwlio mewn ffyrdd anarferol. Yn dilyn cyfres o weithdai lleol, castiwyd 80 o bobl ifanc o Aberystwyth a’r cyffuniau a phenodwyd Sam Ebennezer ac Elin Hywel o Ysgol Penweddig a Ruth Taylor o Ysgol Penglais i rannau’r prif gymeriadau. Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch fydd a’r cyfrifoldeb o gyfarwyddo’r holl waith. Dywedodd:
Mae cael y cyfle i gyfarwyddo ffilm fer yn hytrach na chynhyrchiad theatr yn brofiad cwbl newydd a chyffrous i mi ac’rwy’n edrych ‘mlaen i dderbyn yr her a ddaw o weithio ar y prosiect. Nid yn unig y bydd y cynllun hwn yn brofiad gwerthfawr i mi, ond yn sicr i’r pobl ifanc fydd yn rhan ohono. Gobeithiaf yn fawr y gwna’r pobl ifanc hyn fwynhau a thrysori’r cyfle gymaint a minnau.
Bydd A Better Life yn cael ei ddarlledu ar ITV Wales fis Hydref 2007.
|
|
| |
|
|
Crash House
30 / 07 / 2007
Ar ddydd Gwener y 27ain o Orffennaf, cynhaliwyd dau berfformiad o 'Crash House' yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth.
Dros nifer o flynyddoedd mae Cwmni Theatr Arad Goch wedi cyd-weithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion ac yn arbennig y Project Gweithgaredd o fewn y Tîm Troseddu Ieuenctid ac Ysgol Ceredigion i redeg projectau sy’n galluogi pobl ifanc ac artistiaid proffesiynol i gyd-greu theatr sy’n fywiog a pherthnasol. Ariannwyd y project cyfredol gan Bartneriaeth Cymunedau Diogelach Ceredigion.
Nod y project yw mynd i’r afael ag ymddygiad anghymdeithasol drwy annog pobl ifanc i ymddiddori mewn gwaith creadigol ac yn sgil hynny codi eu hymwybyddiaeth o effaith ymddygiad anghymdeithasol ar eu cymunedau. Mae’r project yn rhoi pwyslais ar weithgaredd gynhwysol a thrwy hynny yn galluogi’r bobl ifanc i daclo eu problemau. Dyma enghraifft wirioneddol o bolisiau cynhwysol ar waith ac o waith tîm sy’n hybu hyder a hunanwerth pobl ifanc â phroblemau.
Rydym yn hollol sicr bod y fath brojectau yn gweithio. Nid yw bob amser yn bosib mesur hyn yn wrthrychol ond rydym yn credu bod ymateb positif nifer o bobl ifanc sydd wedi ymwneud â phrojectau o’r fath yn y gorffennol yn ddigon o brawf. Mae nifer ohonynt yn dal i ddod i’n gweld (gan ddod a ffrindiau gyda nhw!) sydd yn gorfod meddwl eu bod yn teimlo bod y profiad o gyd-weithio â ni wedi bod yn un buddiol a chadarnhaol.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf bu grŵp o rai o bobl ifanc mwyaf di-freintiedig Ceredigion yn mynychu gweithdai a arweinir gan ein Cyfarwyddydd Cyswllt, Sêra Moore Williams, y dramodydd Lucy Gough a’r actorion – Ffion Wyn Bowen, Darren Stokes, Delyth Wyn ac Iwan Charles. Yn sgil hyn crewyd “Crash House”
|
|
| |
|
|
AGOR DRYSAU
26 / 06 / 2007
Gwyl Theatr Ryngwladol Cymnru i Gynulleidfaoedd Ifanc
Mae Agor Drysau yn falch iawn o'r cyfle unwaith yn rhagor i ddod a pherfformiadau o'r safon uchaf rhyngwladol i Gymru. Bydd yr Wyl yn diwgydd yn Aberystwyth yn bennaf rhwng yr 11eg a'r 15fed o Fawrth 2008. Am fwy o fanylion, cysylltwch a ni ar 01970 617998. |
|
| |
|
|
ARAD GOCH YN PERFFORMIO YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL SIR FFLINT A’R CYFFUNIAU
13 / 06 / 2007
Os na chawsoch y cyfle i fwynhau’r cynhyrchiad hyfryd, Hel Meddyliau, nôl ym mis Hydref, na phoener! Byddwn yn ail-berfformio’r ddrama hon yn Theatr y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffuniau a hynny am 12.00pm dydd Gwener y 10fed a dydd Sadwrn yr 11eg o Awst.
Mae’r ddrama yn addas ar gyfer plant 4-8 oed ac mae’r stori yn mynd i’r afael a dwy lygoden, Heti a Handel a’u hymateb gwahanol iawn wrth iddynt wynebu hirlwm gaeaf. Mae Heti, y lygoden ofalus, yn casglu bwyd i’w cynnal yn ystod y misoedd caled, tra bo Handel, y breuddwydiwr, yn casglu atgofion a lluniau o bethau prydferth i lonni eu calonnau. Pan fo’r bwyd yn darfod mae’r llygod bach yn ysbeilio’i stôr o atgofion o’r gwanwyn, haf a hydref wrth iddynt hel meddyliau.
Dyfeisiwyd y cynhyrchiad gwreiddiol yn 1990. Yn ddiweddar cafodd y ddrama hon ei hail-greu mewn partneriaeth â Theatr Ark, Dulyn, a gyda chefnogaeth CCAT, rhaglen Interreg a gynlluniwyd i ddatblygu’r berthynas rhwng artistiaid ar ddwy lan y Môr Gwyddelig. Mae’r cynhyrchiad hwn, sy’n cynnwys cerddoriaeth fyw ac a gyfarwyddwyd gan Jeremy Turner, yn rhoi cyfle i genhedlaeth newydd o blant rannu profiadau Heti a Handel.
|
|
| |
|
|
LLINELLAU RHIF 6
04 / 06 / 2007
Cofiwch edrych allan am eich copi o 'Llinellau' rhif 6 fydd yn y post yr wythnos yma. Os nad ydych ar ein rhestr bostio ac yn awyddus i dderbyn copi o gylchgrawn tymhorol y cwmni, yna mae croeso i chi fy e-bostio i Heledd Mair i'r cyfeiriad isod, ac fe wnaf yrru copi i chi yn y post.
heledd@aradgoch.org
|
|
| |
|
|
CYFWELIADAU AGORED
30 / 05 / 2007
CYFWELIADAU AGORED I ACTORION AC ACTORESAU
Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn gwahodd actorion ac actoresau profiadol neu dibrofiad i ddod i gwrdd â chyfarwyddwyr y cwmni mewn cyfweliadau agored a gynhelir Ddydd Sadwrn, Mehefin y 23ain yng Nghanolfan Arad Goch, Uned 60, Ystad Ddiwydiannol Glanyrafon, Aberystwyth gan ddechrau am 10.00 y bore.
Bydd hyn yn rhan o broses castio ar gyfer nifer o gynyrchiadau yn ystod y 18 mis nesaf.
Dylid cysylltu â’r cwmni drwy anfon C.V. a manylion cyswllt (rhifau ffôn, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad) at y Cyfarwyddwr Artistig yn y cyfeiriad isod, gan gynnwys, os yn bosib, llun diweddar.
Jeremy Turner
Y Cyfarwyddwr Artistig,
Cwmni Theatr Arad Goch,
Stryd y Baddon
Aberystywth
SY23 2NN
Ffôn: 01970.617998
e-bost: post@aradgoch.org
|
|
| |
|
|
Apel Sioe Haf
03 / 05 / 2007
Gan mai byw mewn ffordd wyrddach yw thema ein sioe hâf eleni – Rhieni Hanner Call a Gwyrdd mae’n gyfle gwych i gasglu rhai pethau a ellir eu hail-ddefnyddio neu eu hail-gylchu.
Mae sawl rheswm dros wneud hyn. Y pwysicaf efallai yw ceiso dangos i blant fod modd i bawb gyfrannu at ffordd mwy cynaladwy o fyw; mae’n fodd hefyd i ni wneud rhywbeth ymarferol sy’n helpu eraill. Gofynnir i’n cynulleidfaoedd ddod â:
Sbectol sydd ddim bellach yn cael eu defnyddio gan aelodau o’r teulu; neu
Ffônau symudol sydd hefyd bellach yn ddiwerth iddynt; neu
Stampiau post sydd wedi eu defnyddio.
Sbectol : Mae angen i’r rhain fod yn gyfan. Fe’i rhoddir i ‘Vision Aid Overseas’ i wella golwg pobl yn y gwleddydd sy’n datblygu.
Ffonau: Mae nifer o elusenau, gan gynnwys Oxfam, yn ail-werthu hen ffonau i bobl mewn gwledydd tlawd lle nad yw pobl yn medru fforddio ffonau newydd. Gyda’r ychydig ffonau na fedrant eu hail-werthu maent yn defnyddio rhannau ohonynt ac yn sicrhau bod y defnyddiau toxig ynddynt yn cael eu gwaredu yn ddiogel. Gorau oll os yw’r batris yn dal yn y ffônau, ond nid yw’n ofynnol cael y cardiau SIM na’r tshiarjr.
Stampiau: Mae’r RNIB yn casglu stampiau o Brydain a thu hwnt er mwyn eu hail-werthu i ariannu llawer o’i gwaith gan gynnwys cynnal ysgol i blant dall a rhannol ddall yn Northwood – y Sunshine House School. Gofynnir i bobl dorri stampiau oddi ar amlenni gan adael tua ½cm o amlen o’u cylch.
Bydd bwcedi yn myndefeydd y feniws i’r plant gael gadael eu cyfraniadau cyn y perfformiadau.
Plîs helpwch ni i helpu eraill.
|
|
| |
|
|
ARAD GOCH YN DATHLU GŵYL DEWI
26 / 04 / 2007
Os buoch chi yn helpu Arad Goch i lenwi cenhinen bedr ag arian tu allan i Siôp y Pethe ar Fawrth 1af, yna i chi mae’r diolch bod y Cwmni wedi llwyddo casglu dros £600.
Codwyd £615.56 i’w rannu rhwng Ward Angharad, Bronglais a’r NSPCC a hoffai’r cwmni ddiolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd gan gynnwys siop flodau Expressions a roddodd y cennin pedr er mwyn sicrhau bod canran uchel o bobl Aberystwyth yn gwisgo’r genhinen ar ddydd Gŵyl Dewi.
Heledd Mair fu’n cyflwyno’r sieciau ar ran y cwmni i Julie Richards o’r NSPCC ac
Yvonne Morris-Lewis o ward Angharad, Ysbyty Bronglais.
|
|
| |
|
|
Cwmni Theatr Arad Goch a’r Genhinen Bedr
02 / 03 / 2007
I ddathlu’r ffaith bod Bwrdd goleuedig Cwmni Theatr Arad Goch wedi cytuno rhoi diwrnod o wyliau i staff y cwmni i gydnabod pwysigrwydd dydd Gŵyl Dewi gwnaeth y tim rywbeth arbennig i ddathlu! A pha ffordd well na thynnu sylw at ddydd ein nawddsant na thrwy godi Cenhinen Bedr fawr y tu allan i Siop y Pethe yn Sgwâr Glyndwr, Aberystwyth a gwahodd pobl y dre i’w llenwi â’u harian mân. Creodd yr artist o Dalybont, Ruth Jên, genhinen, fe’i ‘planwyd’ y tu allan i Siop y Pethe a gwahoddwyd y gyhoedd i’w llenwi â arian. Yn anffodus oherwydd y gwynt rhyfeddol o uchel ar Fawrth y 1af nid oedd y daffodil yn edrych yn hollol fel y bwriadwyd iddo wneud fel yn y llun uchod – chwythwyd y petalau yn ddidrugaredd ac o fewn munudau roedd y trwmped yn noeth!
Roedd Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch, wrth ei fodd: “Mae’n wych o beth bod ein Bwrdd wedi dewis cydnabod Mawrth 1af fel dydd o bwysigrwydd cenedlaethol ac roeddem yn falch iawn o’r cyfle i ddathlu drwy wneud rhywbeth positif dros ein cymuned ac i blant yn arbennig. Rydym yn arbenigo mewn theatr i gynulleidfaoedd ifanc ac mae unrhywbeth sy’n gwella byd plant yn agos at ein calonau.”
Codwyd £615.56 i’w rannu rhwng Ward Angharad, Bronglais a’r NSPCC a hoffai’r cwmni ddiolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd gan gynnwys siop flodau Expressions a roddodd y cennin pedr er mwyn sicrhau bod canran uchel o bobl Aberystwyth yn gwisgo’r genhinen ar ddydd Gŵyl Dewi.
|
|
| |
|
|
Llinellau Rhifyn 5
27 / 02 / 2007
Cofiwch edrych allan am eich copi o 'Llinellau' rhif 5 fydd yn y post yr wythnos yma. Yn y rhifyn hwn cewch flas o sioeau cyfredol y cwmni, cewch gyfle i ddod i adnabod rhai o'r staff yn well yn ogystal a'r newyddion diweddaraf yn Arad Goch. Os nad ydych ar ein rhestr bostio ac yn awyddus i dderbyn copi o gylchgrawn tymhorol y cwmni, yna mae croeso i chi fy e-bostio i Heledd Mair i'r cyfeiriad isod, ac fe wnaf yrru copi i chi yn y post.
heledd@aradgoch.org |
|
| |
|
|
Y Parch Owen Morgan Pobl y Cwm yn cael ail-fywyd!
12 / 02 / 2007
Yn wahanol i’w gymeriad teledu mae Ioan Evans, cyn bregethwr amharchus Pobl y Cwm, yn dal yn fyw iawn. Ar hyn o bryd mae Ioan yn gweithio yn ei dre enedigol, Aberystwyth, gyda Chwmni Theatr Arad Goch. Ond er bod gan Ioan flynyddoedd o brofiad fel actor, cyfarwyddo a wna y tro hwn. Mae’r ddrama – Nid Fi/Not Me yn delio â bwlio mewn ysgolion a bydd yn teithio i ysgolion yng Ngheredigion, Sir Gâr a Sir Benfro rhwng Chwefror 5ed a Ebrill 27ain.
Cyfaddefa Ioan bod eistedd yng nghadair y cyfarwyddwr am y tro cyntaf yn brofiad eithaf arswydus: “Mae cyfarwyddwr yn sylweddoli’n o fuan taw job unig yw cyfarwyddo; mae actorion yn gweithio fel rhan o dîm. Mae nhw hefyd yn cael y cyfle i weld y cynhyrchiad yn datblygu wrth i’r daith fynd rhagddi ond dyma pryd mae’r cyfarwyddwr yn gorfod camu’n ôl ac ymddiried yn ei actorion”. Dywed y bydd yn colli bod ar daith gyda’r criw – ond mae yna fanteision hefyd. Ar ôl tair wythnos o ymarfer yn ddyddiol yn Aberystwyth bydd yn cael dychwelyd at ei deulu ifanc yng Nghaerdydd.
|
|
| |
|
|
ARAD GOCH YN RHYNGWLADOL
12 / 02 / 2007
Mae theatr i gynulleidfaoedd ifanc, weithiau, yn faes ynysig: prin yw’r sylw a roddir iddo gan y wasg a’r cyfryngau; ychydig iawn o oedolion sydd yn cymryd diddordeb ynddo (i nifer helaeth theatr+plant = panto, a dim mwy); ‘dyw rhan fwya’ o’r colegau a phrifysgolion ddim yn ei ystyried fel gweithred o bwys academaidd nac ymarferol: a hynny oll er bod dros 80,000 o blant Cymru yn gweld darn o theatr a grëwyd yn bwrpasol ar eu cyfer bob blwyddyn.
Rhan bwysig o waith Arad Goch yw rhoi ein gwaith o fewn cyd-destun ehangach na’i gyd-destun perfformiadol uniongyrchol; rydyn ni’n falch iawn o’n hanes o gydweithio gyda mudiadau a chyrff amrywiol gan gynnwys yr NSPCC, y Llyfrgell Genedlaethol, amgueddfeydd a’r BBC.
Enghraifft arall o’r ymgais i osod ein gwaith mewn cyd-destun ehangach yw drwy greu a magu cysylltiadau rhyngwladol. Mae gwaith Arad Goch wedi cael ei berfformio mewn nifer o wyliau a theatrau tramor – o Singapore yn y Dwyrain i Seattle yn y Gorllewin; y daith ddiweddaraf oedd i Wlad Pŵyl gyda perfformiad i blant 5 – 8 oed. Bob yn ail flwyddyn mae’r cwmni yn cynnal yr ŵyl theatr ryngwladol i blant, Agor Drysau www.agordrysau-openingdoors.org, pryd y ceir cyfle i wahodd cwmnïau o dramor i berfformio yng Nghymru.
Cefais gyfle yn ddiweddar i dreulio wythnos yn Buenos Aires i fynychu gŵyl theatr i blant a chyfarfodydd a chynhadledd ASSITEJ (l’Association International du Théâtre pour l’Enfance et la Jeunesse - Cymdeithas Ryngwladol Theatr i Blant a Phobl Ifanc). Fi yw cynrychiolydd y Deyrnas Unedig ar bwyllgor gwaith y gymdeithas ar hyn o bryd – tipyn o gyfrifoldeb a thipyn o deithio ddwywaith neu dair bob blwyddyn. Yn Buenos Aires cefais gyfleodd i weld gwaith cydweithwyr o nifer o wledydd De America – ac wrth gwrs bu llawer o drafod a chyfnewid gwybodaeth a syniadau am ein gwaith. Er mor wahanol yw’r cynnyrch o wlad i wlad yr un yw’r uchelgais – darparu’r theatr orau posib i’r gynulleidfa orau posib – sef plant a phobl ifanc.
Mae’n debyg fod ‘na ddau beth arall y dylid eu gwneud yn Buenos Aires - bwyta LOT o gig eidion (dim dewis!) a mynychu palas tango: anghofiwch Come Dancing – hwn oedd y real thing - gweld pobl o bob oed yn dawnsio’r ddawns dyner, drist a breuddwydiol yma a dim un sequin i’w weld yn agos!
Ond wrth gwrs, i Gymro mae ‘na drydydd peth y dylid ei wneud – sef mynd i weld a yw’r wladfa mor wych a beth maen nhw’n dweud! Cefais bedwar diwrnod yn y Gaiman ac aros gyda theulu hyfryd Gabriel Retushka – athro yr oeddwn wedi’i gyfarfod yng Nghymru rai blynyddoedd yn ôl. Tra roeddwn i yno rhoddais tri pherfformiad – a nifer o’r bobl ifanc oedd yno wrth eu boddau yn profi darn o theatr fyw yn y Gymraeg am y tro cyntaf. A phwy a wyr, hwyrach y bydd taith arall i Arad Goch rhywbryd yn y dyfodol – i’r De y tro yma.
|
|
| |
|
|
Cartref Newydd Arad Goch
01 / 02 / 2007
Fel y sylwch os ydych wedi pasio drwy Stryd y Baddon yn ddiweddar, mae’r gwaith yng Nghanolfan Arad Goch yn mynd yn ei flaen, ac er nad oes newid mawr i’w weld o du allan i’r adeilad, gallaf sicrhau fod newidiadau mawr yn mynd ymlaen y tu mewn! Erbyn hyn, mae’r lloriau i mewn a gellir gweld sgerbwd y ganolfan newydd yn glir.
Mae’n gyfnod eithaf cyffrous yn y prosiect ar hyn o bryd, oherwydd mae’n rhaid gwneud y penderfyniadau terfynol, e.e. pa fath o garpedi / ddesgiau / ddrysau, a.y.b. fyddwn yn eu cael. Mae’n dda gweld golau yn mhen draw’r twnnel!! Rydym hefyd ar fin dewis y comisiwn celf ar gyfer yr adeilad - tasg anodd iawn oherwydd daeth 36 o geisiadau i law – a phob un ohonynt yn haeddu cael ystyriaeth deg. Bydd y gwaith gorffenedig yn cael ei ddangos ar wal y lifft yn y ganolfan, a bydd yn siŵr o fod yn bwynt siarad i bawb fydd yn dod i’r adeilad!
Gobeithio nad ydym wedi achosi gormod o drafferthion i chi wrth i ni gau’r stryd bob yn hyn a hyn; (mae’n ofynnol i wneud hyn pan fydd llwythi mawr yn cyrraedd oherwydd iechyd a diogelwch). Gallaf eich sicrhau na fyddwn yn achosi llawer rhagor o drafferthion eto!
Gobeithiwn symud yn ôl i ganol y dref o Stad Ddiwydiannol Glanyrafon yn ystod yr haf, a gobeithiwn y bydd y ganolfan yn weithredol erbyn dechrau tymor yr Hydref.
|
|
| |
|
|
Enillwyr Cystadleuaeth Penbobi Hapus
17 / 10 / 2006
Diolch yn fawr iawn i bawb a aeth ati i dynnu lluniau i’r gystadleuaeth. Dyma ddywedodd y beirniad, yr artist Ruth Jên:
Cystadleuaeth 3-5 oed: “Anodd iawn oedd dod i benderfyniad ond dwi wedi dewis darn gan Iwan Williams, Ysgol Abererch am ei ddelwedd dramatig. Ma na elfen o stori yn y cyfansoddiad – mae hefyd yn gwneud i mi wenu!”
Cystadleuaeth 6-7 oed: “Roedd hi’n anodd iawn dewis enillydd yn yr adran yma gan fod pob un o’r llunie mor arbennig o wreiddiol. Cara Wyn Hughes sy’n cael y wobr am ddelwedd syml a chryd, sy’n cyfleu nodweddion y cymeriadau ar y poster, ac yn y sioe. Roeddwn hefyd yn hoff iawn o gynlluniau Gethin Owen a Ebrill Lloyd a lwyddodd i greu golygfeydd effeithiol iawn.”
|
|
| |
|
|
Stori Dylwyth Teg... Wahanol
23 / 08 / 2006
Yn ddiweddar perfformiodd grŵp o bobl ifanc o Geredigion sioe yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth – Cacen Dylwyth Teg. Nhw oedd wedi ysgrifennu’r stori hefyd– stori lle roedd y Lys-Fam ddrwg yn gaeth i Fodca, Rumplestilkskin yn gwerthu cyffuriau a’r Hugan Fach Goch yn lleidr pen-ffordd. Cyfeiriodd Chris Robinson o’r Tîm Troseddu Ieuenctid a fu’n gyfrifol am drefnu’r prosiect ati fel “stori dylwyth teg dywyll sy’n dwyn sylw at beryglon alcohol a chyffuriau”.
Roedd y bobl ifanc yn gweithio ochr wrth ochr â actorion proffesiynol a Chyfarwyddydd o Arad Goch ynghyd â un o awduron Hollyoaks ,Lucy Gough a’r Dylunydd Dillad Theatr a Theledu, Edwina Williams Jones.
Cafwyd dau berfformiad i neuadd lawn ac roedd y Cyfarwyddydd Sêra Moore Williams yn amlwg yn falch iawn o waith y cast: “Nid yw’n hawdd, hyd yn oed i bobl broffesiynol i ysgrifennu, dysgu a pherfformio darn gwreiddiol o arwyddocâd mewn 10 niwrnod! Mae gennym barch enfawr at y bobl ifanc yma sydd, er waethaf amgylchiadau personol sy’n aml yn anodd, wedi codi i ateb y sialens ac wedi llwyddo cystal. Mae’n amlwg iawn bod pob un o’r cast yma â’r gallu i wneud mwy nac a gredant. Rydym yn taer obeithio y cant, rywsut, y cyfleodd y maent yn eu haeddu”.
Roedd y prosiect hwn yn rhan o waith Atal Troseddu Tîm Troseddu Ieuenctid Ceredigion a derbyniwyd cefnogaeth ariannol oddi wrth Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion.
|
|
| |
|
|
Gweithdai Machynlleth
22 / 08 / 2006
Roedd dwy o actorion y cwmni, Ffion Wyn Bowen a Rhiannon Morgan, wrth eu bodd yn cael cyfle i gynnal tridiau o weithdai drama ym Machynlleth ganol Awst. Daeth y gwahoddiad i wneud y gwaith oddi wrth Wasanaeth Ieuectid Powys ym Machynlleth ac yn dilyn llwyddiant tebyg prosiect o’r fath y llynedd neidiodd y ddwy ar y cyfle. Yr un oedd ymateb y bobl ifanc gyda nifer o wybebau cyfarwydd yn mynychu’r sesiynau eto eleni.
Gan bod rhai o’r actorion ifanc yn reit brofiadol erbyn hyn teimlau Rhiannon a Ffion eu bod yn ddigon abl i ysgrifennu’r sgript yn ogystal a’i pherfformio; ac felly y bu. Llwyddodd y fenter ddwyieithog yn syndod ac ar ôl perfformio i ffrindiau a theulu ar ddiwedd y tridiau byr sylw un o’r bobl ifanc oedd “gawn ni ddod am wythnos flwyddyn nesa”. Gobeithio wir.
|
|
| |
|
|
Cartref Newydd Arad Goch
15 / 05 / 2006
Ar Fai’r 9fed 2006 trosglwyddodd Arad Goch allweddi eu canolfan yn Stryd y Baddon, Aberystwyth – cartre’r cwmni theatr teithiol am y pymtheg mlynedd diwethaf – i WRW, cwmni adeiladu o Lanelli. Dym’r cwmni fydd yn gyfrifol am drawsnewid yr adeilad a ffurfio pencadlys mwy a gwell i’r cwmni fydd yn cynnwys yr Hen Fans sydd ar hyn o bryd drws nesaf.
Mae’r cynllun wedi dod i fwcwl yn sgil cefnogaeth ariannol oddi wrth Cyngor Celfyddydau Cymru, Arian Amcan 1 trwy law Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Ceredigon a Chyngor Tref Aberystwyth. Y nod yw creu canolfan gelfyddydol unigryw yng nghanol y dref fydd yn galluogi’r cwmni i ehangu ei ddarpariaeth cymunedol gan gynnig lle ymarfer i grwpiau eraill sydd â diddordeb yn y maes ac a fyddai yn elwa o arbenigedd actorion, cyfarwyddwyr a thechnegwyr profiadol y cwmni. Y nod hefyd yw rhoi lle i artistiaid eraill sydd am ddatblygu mentrau newydd.
Er gwaethaf newidiadau enfawr i du mewn yr adeilad yn Stryd y Baddon, bydd y tu allan yn aros yn union yr un fath. Mae Jeremy Turner, cyfarwyddwr artistig Arad Goch yn falch iawn fod penseiri lleol, JamesJenkins a bellach cwmni adeiladu blaenllaw o Gymru yn ymwneud â’r cynllun. Mae WRW wedi gwneud gwaith clodwiw yn yr ardal eisoes – nhw oedd yn gyfrifol am godi pencadlys newydd y Mudiad Ysgolion Meithrin yn y Dre a’r Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol. Derbyniodd y cwmni glod arbennig am Bentref Nicklaus ger Llanelli– project a enillodd iddynt wobr o fri.
Cwmni teuluol yw WRW ac fel sy’n gweddu i gwmni o Lanelli maent yn gefnogwyr rygbi brwd. Nhw yw prif noddwyr dim y Scarlets ac roedd Capten y tîm – Simon Easterby wrth law i weld yr allweddi’n cael eu trosglwyddo i WRW –hyderwn y bydd e’n sicrhau eu bod yn cael eu dychwelyd i Gwmni Theatr Arad Goch ymhen blwyddyn. Yn y cyfamser mae’r cwmni theatr yn prysur ymarfer ei sioe haf – Penbobi Hapus yn ei cartref dros dro ar Stad Ddiwydiannol GlanyrAfon yn Llanbadarn. |
|
| |
|
|
Arad Goch ar Wasgar
20 / 09 / 2005
Yr wythnos hon bydd criw o actorion Cwmni Theatr Arad Goch yn teithio cannoedd o filltiroedd o gartref y cwmni yn Aberystwyth tra bod eu Cyfarwddwr Artistig yn teithio miloedd o filltiroedd i’r cyfeiriad arall. Bydd yr actorion yn gyrru drwy’r Iseldiroedd a’r Almaen er mwyn cyrraedd Warsaw yng Nghwlad Pŵyl lle byddant yn perfformio mewn Gŵyl Theatr i Blant a Phobl Ifanc.
Gwahoddwyd y cwmni i berfformio yno yn sgil ymweliad trefnwyr gŵyl Warsaw â gŵyl debyg - Gŵyl Agor Drysau -yn Aberystwyth ym mis Mawrth. A bydd testun ei ddrama yn llawn mor berthnasol i blant bach gwlad Pŵyl ac y mae i blant Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro, cynulleidfaoed arferol y cwmni. Mae ‘From Dawn to Dusk’ yn dangos sut mae plant bach weithiau yn ei chael hi’n anodd iawn gwneud penderfyniadau a sut mae gorfod dewis yn boen meddwl iddynt. Wedi’r cyfan rhaid gwneud dewisiadau pob dydd – beth i wisgo, beth i fwyta, ac efallai yn waeth na dim – dewis ffrindiau.
Ond tra bod Ffion Wyn Bowen, Eifion Dafydd a Rhiannon Morgan yn diddanu yn Warsaw bydd pennaeth y cwmni, Jeremy Turner, yn Montreal, Canada yn mynychu Cyngres arall sy’n rhoi’r blaenoriaeth i gelfyddydau pobl ifanc. Bydd e ymysg cynulleidfa ryngwladol o 1,000 o bobl fydd yn ymgasglu yno i drafod ac i weld cynhyrchiadau theatrig o draws y byd.
Mae’r actorion yn edrych ymlaen yn frwd am eu taith ac mae Llŷr Jones, Rheolwr Llwyfan y cwmni a’r prif yrrwr ar y daith yn teimlo’n sicr y bydd y profiad yn werth pob un o’r 1,200 milltir rhaid eu gyrru i gyrraedd yno!
|
|
| |
|
|
Arian Amcan 1 i Arad Goch
27 / 07 / 2005
Mae cynlluniau Cwmni Theatr Arad Goch i wella ac ehangu cartref y cwmni yn Aberystwyth i’w wireddu diolch i arian Amcan 1. Cyhoeddwyd yn ddiweddar ein bod i dderbyn bron i £575,000 o Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop. Roeddem eisoes wedi sicrhau cefnogaeth ariannol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Tref Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion ag Awdurdod Datblygu Cymru, ac mae’r cyhoeddiad diweddaraf yma yn golygu bod yr arian i gyd bellach wedi ei addo gan sicrhau y gellid cychwyn ar y gwaith o drawsnewid cartref y cwmni yn Stryd y Baddon i gynnwys yr Hen Fans sydd, ar hyn o bryd, drws nesaf.
Bydd ein cartref ar ei newydd wedd yn ein galluogi i ehangu ein darpariaeth cymunedol gan gynnig lle ymarfer i grwpiau eraill sydd â diddordeb yn y maes ac a fyddai efallai yn elwa o arbenigedd actorion, cyfarwyddwyr a thechnegwyr profiadol y cwmni. Y nod hefyd yw rhoi lle i artistiaid eraill sydd am ddatblygu mentrau newydd.
Rhagwelir y bydd y dynion mewn hetiau caled yn symud i fewn ym mis Hydref, ac Arad Goch yn symud allan i gartref dros dro ar Stâd Ddiwydiannol Glanyrafon.
|
|
| |
|
|
£1.8 miliwn i Arad Goch
17 / 03 / 2005
Newyddion gwych i'r cwmni
Neithiwr (Mawrth 17) mewn derbyniad a gynhaliwyd fel rhan o Ŵyl Agor Drysau – Gŵyl Theatr Ryngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc yn Aberystwyth cyhoeddodd Peter Tyndall, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru ei bod yn rhoi grant o £1,846,165 i Gwmni Theatr Arad Goch. Rhoddir yr arian i alluogi’r cwmni, sy’n arbenigo mewn perfformio i blant a phobl ifanc, i ehangu a datblygu ei cartref yn Aberystwyth fel y gallant gynnig adnoddau perfformio o safon uwch, gofod a chyfleusterau ychwanegol at ddefnydd y cyhoedd, a gofod ar gyfer artistiaid a grwpiau eraill fydd am greu mentrau newydd. Sicrhawyd cefnogaeth ariannol Cyngor Tref Aberystwyth hefyd ar gyfer y fenter hon.
Mae cynlluniau Arad Goch yn cynnwys yr Hen Fans sydd drws nesaf i’w swyddfeydd presennol. Unir y ddau adeilad er mwyn creu canolfan gelfyddydol yng nghanol y dref. Y gobaith yw y bydd y ganolfan newydd yn caniatau i’r cwmni estyn allan i’r gymuned mewn amryw o ffyrdd newydd ac yn arbennig i rannu sgiliau actorion, cynhyrchwyr a thechnegwyr proffesiynol gyda grwpiau amatur.
Mae Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni yn amlwg wedi ei blesio â’r newyddion: “Mae hyn yn newyddion grêt i ni ac i Aberystwyth. Rwy’n teimlo bod y Cyngor yn sgil hyn yn cymeradwyo gwaith Arad Goch, y Celfyddydau y tu allan i Gaerdydd a phwysigrwydd y celfyddydau i bobl ifanc. Mae cyfleusterau celfyddydol da yn Aberystwyth eioes, bydd hyn yn ychwanegu at y bwrlwm.”
Dywedodd Peter Tyndall ar ran Cyngor y Celfyddydau: “Mae Cyngor y Celfyddydau yn falch iawn o roi’r arian yma i Gwmni Theatr Arad Goch. Yn dilyn cyfnod cythryblus mae ein cwmnïau theatr-mewn-addysg wedi goroesi a chryfhau a bellach hyd yn oed yn fwy penderfynol o ddod a’r celfyddydau i bobl ifanc yng Nghymru, ac mae Arad Goch yn esiampl da o hyn. Mae’n addas bod y cwmni i gael cartref newydd fydd yn adlewyrchu safon uchel ei gwaith. Bydd yr arian loteri yma yn rhoi hwb mawr i theatr-mewn-addysg yn Aberystwyth a’r cyffuniau.”
|
|
| |
|
|
AGOR DRYSAU 15-19eg Mawrth 2005
08 / 01 / 2005
Gwyl Theatr Ryngwladol Cymru i Gynulleidafoedd Ifanc
Mae Arad Goch yn trefnu AGOR DRYSAU sef Gwyl Theatr Ryngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc. Bydd yr Wyl yn cael ei chynnal yn Aberystywth rhwng Mawrth 15-19eg 2005. Eleni bydd Cwmniau theatr o Wlad Belg, Awstralia, Awstria, Denmark a'r Almaen yn cymryd rhan. Dyma gyfle i brofi rhai o gynyrchiadau Theatr gorau'r byd.
Am fwy o fanylion e bostiwch agor.drysau@aradgoch.org a bydd mwy o fanylion ar wefan agor drysau yn fuan |
|
| |
|
|
Apêl Sioe Haf
00 / 00 / 0000