cartref newyddion arad goch cynhyrchiadau cyhoeddus cynhyrchiadau i ysgolion cysylltwch a ni adolygiadau cynhyrchiadau arad goch afrchif cynhyrchioadau arad goch

GWAITH CWMNI THEATR ARAD GOCH

CYNNIG DRYCH PROFIAD AC AGOR DRWS DYCHYMYG

Mae Cwmni Theatr Arad Goch, a sefydlwyd ym 1989, ac sydd â'i gartref yn Aberystwyth, ymhlith y cwmnïau theatr teithiol prysuraf yng Nghymru; ei brif faes yw darparu theatr i blant a phobl ifanc. Mae gwaith Arad Goch yn tynnu ar draddodiadau cynhenid Gymraeg yn ogystal â themâu ac arddulliau cyfoes a heriol.

Mae Arad Goch yn:

  • arloesi er mwyn creu ac hyrwyddo theatr wreiddiol, berthnasol a chyfoes o’r safon uchaf i gynulleidfaoedd ifanc yng Nghymru gan artistiaid Cymraeg;
  • mynd â chynyrchiadau cyhoeddus i blant, pobl ifanc ac oedolion i theatrau a lleoliadau eraill ym mhob cwr o Gymru;
  • cyflwyno theatr-mewn-addysg i ysgolion Sir Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro;
  • darparu o leiaf chwech cynhyrchiad newydd bob blwyddyn;
  • cyflwyno gwaith yn y Gymraeg ac yn Saesneg;
  • cyflwyno gwaith gan artistiaid tramor yng Nghymru;
  • hyrwyddo gwaith theatr gan artistiaid o Gymru mewn gwledydd tramor – mae artistiaid y cwmni wedi perfformio mewn gwyliau a theatrau yn yr Iwerddon, Unol Daleithiau America, Denmarc, Yr Alban, Canada, Awstria, Sweden, a Singapore;
  • trefnu AGOR DRYSAU - OPENING DOORS - Gwyl Theatr Ryngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc;
  • datblygu partneriaethau a chydweithrediadau gydag asiantaethau eraill gan gynnwys, yn y gorffennol, yr NSPCC, Amgueddfa Ceredigion, Y Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Llyfrau Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru, colegau ac ysgolion.
  • comisiynu awduron ac artistiaid eraill i greu gwaith i'r cwmni;
  • gynnig cefnogaeth ac adnoddau i alluogi artistiaid theatr i ddatblygu eu gwaith eu hunain.

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn aelod o:

  • yr ITC – Independent Theatre Council www.itc-arts.org
  • ASSITEJ (l’Association Internationale du Théâtre pour l’Enfance et la Jeunesse – Cymdeithas Ryngwladol ar gyfer Theatr i Blant a Phobl Ifanc) www.assitej.org

Cysylltiadau eraill


Gwasanaethau i'r gymuned

Trefnir gweithgareddau eraill i blant, pobl ifanc a’r gymuned drwy:

  • gynnal GWEITHDAI drama i BLANT a PHOBL IFANC yn achlysurol y tu allan i oriau ysgol;
  • creu cyfleoedd creadigol newydd a threfnu CYRSIAU i alluogi pob ifanc i gydweithio ac hyfforddi gydag artistiaid proffesiynol; dros y blynyddoedd diwethaf mae gwaith y cwmni wedi elwa’n fawr o weithio gyda grwpiau o bobl ifanc;
  • cynnig gweithgareddau theatr a drama i FYFYRWYR yn achlysurol;
  • cydweithio gydag YSGOLION i gynnal gweithdai drama i ddisgyblion cynradd ac uwchradd;
  • cynnig HYFFORDDIANT I ATHRAWON ; cynhelir cyrsiau amrywiol ynglyn â sut i ddefnyddio theatr a drama yn y dosbarth – er enghraifft wrth ymdrin â phynciau hanesyddol, wrth ddatblygu defnydd o iaith
  • croesawu disgyblion a myfyrwyr i dreulio amser yng nghanolfan y Cwmni ar gyfnodau PROFIAD GWAITH;
  • GWEITHDAI IAITH - darparu gweithgareddau dysgu iaith drwy ddrama mewn ysgolion
  • cynnig hyfforddiant ac arwain gweithdai drama i GWMNÏAU AMATUR.

Os ydych am fwy o wybodaeth am rhain, neu am unrhyw elfen arall o waith y cwmni mae croeso i chi gysylltu â ni – byddem yn falch o glywed oddi wrthych!

Aelodau'r Bwrdd Rheoli

Aelodau: Mr Arwel Jones (Cadeirydd)
Mr Gareth William Jones (Is-Gadeirydd)
Mr Raymond Walters (Trysorydd)

Mrs J Ann Davies
Lynwen ap Gwynedd
Deian Creunant
Anwen James
Ann Ffrancon Jenkins
Falyri Jenkins
Elin Royles
Iestyn Leyshon
Ifan Evans

Aelod Ymgynghorol: Wyn Hughes (Humphrey, Roberts & Bott)

Sylwedyddion: Sian Griffiths/ Sandra Wynne / Jo Williams (CCC);
Aled Evans / Gareth Jones (Cyngor Sir Ceredigion);
Vernon Morgan(Cyfarwyddydd Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin).

Cyfrifwyr: Patterson Jones ac Evans



CYSYLLTWCH Â NI drwy glicio yma.CYSYLLTWCH Â NI drwy glicio yma.