Cyflwyniad
Arbenigedd Arad Goch yw darparu theatr ag iddi berthnasedd i fywydau a datblygiad plant a phobl ifanc. Rydym ni’n bwriadu i bob cynhyrchiad gynnig profiadau esthetig fydd yn cyfoethogi dealltwriaeth plant a phobl ifanc ohonynt eu hunain, eu cynefin a’u cymdeithas, yn lleol ac yn fyd-eang.
Yn ein tyb ni mae pob plentyn yn haeddu profi celfyddyd fyw a chyfoes. Rhoddir pwyslais ar yr elfen ‘theatr’ yn ein gwaith bob amser gan gredu fod theatr gref ac ystyrlon yn gallu esgor ar addysg dda.
Gwyddom fod modd i’r profiad theatrig fod o gymorth i athrawon a disgyblion yn eu gwaith dosbarth. Felly, yn ychwanegol, mae ein cynyrchiadau sy’n teithio i ysgolion gan amlaf yn cynnig Rhagolwg i Athrawon, perfformiadau mewn ysgolion unigol, gweithgaredd ymarferol a Phecyn Adnoddau i athrawon. Rydym yn falch iawn o’r berthynas agos gennym ag ysgolion Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Rydyn ni hefyd wedi hen arfer â chyflwyno ein gwaith mewn theatrau ym mhob ardal yng Nghymru a dros y blynyddoedd nesaf byddwn yn cynnig ein gwaith arbenigol i ysgolion mewn siroedd eraill.
Mae’r cwmni yn cynnig sawl gweithgaredd a chyfle cyfranogol i gyfoethogi profiad plant, pobl ifanc ac oedolion o’r celfyddydau boed yn weithdy, clwb neu gwrs. Ceir y wybodaeth yma yn llawn ar y dudalen gweithdai a hyfforddiant
Mae Arad Goch yn gwerthfawrogi’n fawr cydweithrediad athrawon a swyddogion addysg a’r ymateb adeiladol a geir gan athrawon a disgyblion fel ei gilydd i’n gwaith.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN
01970 617998
01970 611223
post@aradgoch.org
![]()
