Addysg Uwchradd
Mae Arad Goch wedi bod yn cynhyrchu theatr i bobl yn eu harddegau ers 1989 a’i theithio i theatrau, canolfannau cymuned ac ysgolion. Ni yw’r unig gwmni sydd yn darparu theatr trwy gyfrwng y Gymraeg yn benodol ar gyfer pobl ifanc yn genedlaethol ac yn rheolaidd.
Yn ogystal â’n perfformiadau arbenigol i ysgolion mae ein cynyrchiadau yn ymweld â theatrau ledled Cymru bob hydref. Yn ddiweddar bu ‘Yr Ystafell Aros’ a ‘Tafliad Carreg’ a ‘Cwrw Chips a Darlith Deg’ ar daith. Rydym ni'n comisiynnu dramâu newydd i bobl ifanc yn rheolaidd gan edrych am ffyrdd o gydweithio gydag awduron a phobl ifanc i greu gwaith newydd a chyffrous.
Os hoffech lawrlwytho Pecyn Gwaith ewch i'r dudalen addysg
I gael gwybodaeth am sioeau o’r gorffennol ewch i’r archif
Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN
01970 617998
01970 611223
post@aradgoch.org
![]()
