Guto Nyth Bran
16 Mai - 30 Meh 2012
Rhedwr. Arwr.
Yn y ddrama llawn hwyl a symud yma cewch glywed am gampau anhygoel bachgen cyflyma’r byd. Ymhell cyn i Usain Bolt ddod i’r byd roedd pawb yn bloeddio enw Guto Nyth Brân. Rhedwr anhygoel oedd Guto ac yn bencampwr di-guro. Tasai Guto wedi cystadlu yn yr Olympics mi fyddai’n berchen sawl medal aur.
Heb os mae chwedl Guto Nyth Brân yn un mae plant a’u teuluoedd yn mwyhau. Bydd y cynhyrchiad yma yn tanio’r dychymyg ymhellach, gyda defnydd o gerddoriaeth traddodiadol, caneuon a dawnsio.
Ydych chi wedi gweld bachgen yn dal aderyn tra’n hedfan?
Neu’n rhedeg yn gynt na sgwarnog?
R’ych chi heb gwrdd â Guto Nyth Brân.
Oed : 7 +
Cyd-gynhyrchiad gyda Theatrau RCT
Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN
01970 617998
01970 611223
post@aradgoch.org
![]()
