AGOR DRYSAU
19 - 24 Mawrth
Unwaith eto bydd yr Ŵyl unigryw yma yn cynnig y gorau sydd gan y byd i’w gynnig o ran celfyddyd perfformio ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae rhywbeth i bawb, boed yn bypedau, chwarae, dawns, trafod, rhedeg, seminarau neu gerddoriaeth byw.
O ran yr arlwy o dramor, bydd 16 Rue de Plaisance o Ffrainc â sioe anhygoel ar gyfer y plant ifancaf, dawnsio gwych gan Norrdans o Sweden, pypedau annwyl Branar a hefyd cerddoriaeth rhyngweithiol Nico a Martin o’r Iwerddon a bydd Consol Theatre o’r Almaen yn eich gwneud i chwerthin a chrio!
Y cwmnïau o Gymru bydd yn perfformio yw Cwmni Theatr Arad Goch, Theatr Iolo, Ballet Nimba, Cwmni’r Fran Wen, Run Ragged Productions a Mess Up The Mess.
Yn fwy nac erioed o’r blaen mae cynyrchiadau gwych yr Ŵyl i’r weld mewn sawl canolfan a theatr ar draws Cymru. Mi fydd perfformiad o bob cynhyrchiad o dramor yn y Gwyn Hall, Castell Nedd. A bydd cwmnïau yn ymweld a Theatr Felinfach, Theatr Mwldan, Borough Theatre, Blackwood Miners Institute a Pontio. Dim esgus felly i beidio profi ychydig ar Ŵyl Agor Drysau!
Am y rhaglen lawn ewch i wefan yr Ŵyl www.agordrysau-openingdoors.org
Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN
01970 617998
01970 611223
post@aradgoch.org
![]()
