Arad Goch yn cipio Gwobr Aur!
20/05/11
Rydym yn dathlu yma yn Arad Goch heddiw wedi inni gipio Tystysgrif Safon Aur yn Siarter Iaith Ceredigion!
Pwrpas Siarter Iaith Ceredigion yw i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog sy’n cael eu darparu ar draws y sir.
Datblygwyd y Siarter Iaith gan weithgor Dyfodol Dwyieithog Ceredigion, ar ran Bwrdd Gwasanaeth Lleol Ceredigion.
"Mae Siarter Iaith Ceredigion yn amlygu darpariaeth o wasanaethau Cymraeg ar draws y Sir ac yn agored i bob mudiad, sefydliad, gwasanaeth, clwb neu fusnes yng Ngheredigion.
Ni fydd disgwyl fod pawb yn darparu’r un lefel o wasanaeth Cymraeg ac felly datblygwyd y cysyniad o lefelau o wasanaeth, sef lefel un seren, dwy seren neu tair seren
Mae pawb yn y cwmni wrth ein bodd gyda'r wobr. "Rydym yn gwmni sy'n ymfalchio yn ein darpariaeth o wasanaethau Cymraeg ac rydym yn gweithio'n galed i hyrwyddo'r iaith a'n diwylliant Cymreig yma yng Nghymru a thu hwnt, wrth inni gydweithio a chwmniau o bob cwr byd wrth drefnu Agor Drysau, ein Gwyl Celfyddydau Perfformio Rhyngwladol"
Llongyfarchiadau i bawb lwyddodd i gipio tystysgrif yn y seremoni wobrwyo yma yn Aberystwyth heddiw.
Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN
01970 617998
01970 611223
post@aradgoch.org
![]()
