Chwilio am sioeau un person


10/02/12


Yn eisiau: 6 sioe un-person newydd - gwahoddiad i berfformwyr llaw-rydd

Yn ystod 2012-13 bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn datblygu trywydd newydd o waith wrth greu neu gomisiynu 6 sioe un-person newydd i’w perfformio yng Nghanolfan Arad Goch fel rhan o gyfres o weithgareddau i deuluoedd.
Rydyn ni’n awyddus i gomisiynu gwaith newydd gan artistiaid eraill fel rhan o’r gyfres yma a gwahoddir perfformwyr llaw-rydd i gysylltu â ni i drafod syniadau ar gyfer y datblygiad cyffrous yma. Gwahoddir ceisiadau erbyn Mawrth y 13eg.

Cysylltwch a Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch: .(JavaScript must be enabled to view this email address) ; 01970 617 998 ; www.aradgoch.org


Cysylltu


Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN

 

ffon 01970 617998
ffon 01970 611223
ffon post@aradgoch.org

 

Ymuno



 

Hefyd ar

Facebook

TwitterBlog

Flickr

llun or fan