Jeremy Turner yn Agor Drysau yn Ewrop!
14/02/11

Cynhelir Gŵyl Agor Drysau yma yn Aberystwyth yn ystod Mawrth 2012, sef Gŵyl Theatr Ryngwladol Cymru i bobl ifanc. Yn ystod y misoedd nesaf bydd ein Cyfarwyddwr Artistig Jeremy Turner yn teithio Ewrop er mwyn canfod y deunydd gore ar gyfer yr Ŵyl, a cychwynnodd ei waith ymchwil yng Ngŵyl MOMIX ar ddechrau Mis Chwefror.
Yn ogystal â mynd ati i ganfod arlwy newydd a chyffrous ar gyfer 2012, rydym hefyd yn cydweithio â chwmni ELFEN o Gaerdydd er mwyn ail frandio a chreu gwefan newydd ar gyfer yr Ŵyl.
Mae manylion ychwanegol am yr Ŵyl ar Wefan Agor Drysau
Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN
01970 617998
01970 611223
post@aradgoch.org
![]()
