Clwb drama blAGur yn cyflwyno ‘SWYN Y SER’
11/02/12
SWYN Y SER
Mae criw blAGur, clwb drama cynradd Arad Goch wedi bod yn brysur iawn yn cydweithio gyda'r actores Ffion Wyn Bowen i gynhyrchu sioe theatr 'SWYN Y SER'
Rydw i wedi bod yn arwain y clwb drama cynradd ers sawl blwyddyn bellach ac ryden ni'n gyffrous iawn i gael y cyfle i rannu doniau'r criw ifanc yn ystod eu perfformiad cyhoeddus cyntaf un. Mae'r actorion yn amrywio rhwng 8 - 11oed ac yn ystod y mis diwethaf mae nhw wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn dysgu geiriau, datblygu eu cymeriadau a dysgu ambell i gan, ac yn cael cryn dipyn o sbort yn cydlynnu'r actio a'r cymeriadu gyda'r effeithiau sain dramatig!
Wedi ei sgriptio gan Ffion Wyn Bowen, mae'r ddrama hon yn seiliedig ar 'Lleuad yn Olau' gan T Llew Jones. Yn ystod y ddrama mae criw o bobl ifanc yn darganfod hen dy sy'n fan delfrydol i gysgodi rhag y glaw. Heb yn wybod iddynt mae'r adeilad yn llawn ysbrydion, ond nid rhai cas, rhai cyfeillgar ond trist...trist am eu bod yn erfyn am ddiddanwch ac am glywed stareon i wneud iddynt wenu a bod yn hapus.
Mae'r bobl ifanc yn penderfynnu helpu'r ysbrydion ac adrodd ambell i stori ddifyr gan gynnwys stori hudolus am fab y teiliwr o Landysul, stori ddoniol am y ffarmwr a'i wraig sy'n penderfynnu newid rol am y dydd a stori am Frenin sydd a chlustiau fel ceffyl!
Cynnhelir dau berfformiad o'r ddrama;
Ble? Canolfan Arad Goch
Pryd? Dydd Sadwrn Chwefror 11eg am 3.00 + 5.30yh
Hyd y sioe? 45 munud
Cynulleidfa Darged? Plant a theuluoedd o bob oedran
Tocynnau? £3 i blant a £5 i oedolion (£2.50 i aelodau o glybiau drama AGwedd a blAgur) - 01970 617 998
Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN
01970 617998
01970 611223
post@aradgoch.org
![]()
