Sneb yn Becso Dam!
03/06/11
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi mai "Sneb yn Becso Dam" fydd y ddrama gerdd newydd a gaiff ei pherfformio mewn tri lleoliad yng Nghymru yn ystod mis Gorffennaf 2012.
Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch yw Cyfarwyddwr Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd, ac mewn datganiad i'r BBC yr wythnos hon, soniodd ei fod yn gyffrous iawn am y ddrama gerdd newydd sbon.
"Rwy'n falch iawn bod cwmni Sain ac aelodau'r band Edward H Dafis wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio'r albwm 'Sneb yn Becso Dam fel sail ar gyfer cynhyrchiad cenedlaethol y cwmni yn 2012.
"Mae'r caneuon yn sôn am y tyndra sydd yn wynebu pobl ifanc wrth ddewis rhwng bywyd y dref a bywyd cefn gwlad, rhwng gwarchod etifeddiaeth a llunio Cymru gyfoes yr unfed ganrif ar hugain; bydd hyn yn sail trafodaeth ddifyr gan holl aelodau'r cwmni, yn bobl ifanc ac yn staff proffesiynol."
Ewch i dudalen ar dudadlen Newyddion BBC Cymru i ddysgu mwy am gynlluniau Cwmni Theatr yr Urdd dros y flwyddyn nesaf.
Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN
01970 617998
01970 611223
post@aradgoch.org
![]()
