Swydd yn Arad Goch!


15/11/11


Cynorthwyydd i Gyfarwyddwr Gŵyl

Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr israddedig neu raddedig i gael lleoliad 12 wythnos gyda chwmni theatr yng nghanol tref Aberystwyth. Mae’r lleoliad yn cynnig cyfle ardderchog i gael profiad uniongyrchol o reoli digwyddiadau, gweinyddu a marchnata yn sector y celfyddydau.

Lleoliad gyda phwy?
Mae Arad Goch yn creu theatr gyffrous a pherthnasol i blant a phobl ifainc. Maent yn anelu at greu profiad o’r theatr sy’n ysbrydoli, ysgogi ac sy’n aros yn y cof. Mae eu gwaith yn defnyddio traddodiadau a deunydd cynhenid Cymru yn ogystal â themâu ac arddulliau cyfoes a heriol. Drwy deithio’n eang yn y Gymraeg a’r Saesneg, ledled Cymru i theatrau, ysgolion, neuaddau a chanolfannau, mae’r cwmni yn ymdrechu i roi’r cyfle i weld a mwynhau theatr gyfoes i’r gynulleidfa ehangach posib. Am ragor o wybodaeth gweler http://www.aradgoch.org.

Beth fyddwch yn ei wneud?
Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn trefnu ‘Agor Drysau – Opening Doors’ bob yn ail flwyddyn, sef Gŵyl Ryngwladol Cymru i’r Celfyddydau Perfformiadol i Gynulleidfaoedd Ifainc, a gynhelir ym mis Mawrth 2012. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu’r Cyfarwyddwr i drefnu’r digwyddiad. Bydd y sawl sy’n cael y swydd yn cyfrannu at waith trefnu, gweinyddu a marchnata’r digwyddiad.

Canlyniadau disgwyliedig
Erbyn diwedd y lleoliad, byddwch wedi cael profiad uniongyrchol o reoli digwyddiadau, gweinyddu a marchnata yn y celfyddydau wrth gynorthwyo Arad Goch i gynllunio, trefnu a marchnata gŵyl ddwyflynyddol yn llwyddiannus.

Pa sgiliau fydd eu hangen arnoch?
Er mwyn cael eich ystyried am y lleoliad hwn, rhaid:

- naill ai wedi cael, neu’n gweithio tuag at gael gradd mewn Rheoli Digwyddiadau, Gweinyddu’r Celfyddydau, Marchnata, Cysylltiadau Cyhoeddus, Astudiaethau Busnes, Astudiaethau Theatr, neu bwnc cysylltiedig
- fod yn gallu defnyddio cyfrifiaduron, ac yn gyfarwydd â MS Windows ac Excel
- bod gennych sgiliau ardderchog o ran cyfathrebu ac ymwneud â phobl eraill
- yn hollol rugl yn y Gymraeg a’r Saesneg (efallai y bydd Iaith Ewropeaidd ychwanegol yn cael ei gweld yn fanteisiol, ond nid yw’n hanfodol)

Gwybodaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol
Cynllun a ariennir gan yr UE yw GO Wales ac felly dim ond myfyrwyr o wledydd yr UE gaiff gymryd rhan. Caiff graddedigion o unrhyw wlad gymryd rhan ond rhaid i raddedigion o du allan i’r UE fod â’r deitheb weithio briodol (nid teitheb myfyrwyr). Er bod teithebau myfyrwyr yn caniatáu i fyfyrwyr o’r tu allan i’r UE weithio amser llawn yn yr haf, nid yw’n cyfyngiadau cyllidol ni yn caniatáu hynny.

Gwybodaeth gyffredinol am leoliadau
Mae croeso i chi ddod draw i dîm Lleoliadau GO Wales ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod eich dewisiadau o ran lleoliadau gwaith. Er mwyn trefnu apwyntiad, ebostiwch .(JavaScript must be enabled to view this email address). (Cofiwch beidio â defnyddio’r cyfeiriad hwnnw i wneud cais am leoliadau)

Manylion Ymgeisio
Lleoliad am dâl yw hwn, a drefnir drwy gynllun GO Wales a Phrifysgol Aberystwyth, ac er mwyn bod ar dir i wneud cais rhaid i chi fod wedi graddio a bod gennych gyfeiriad yng Nghymru. Gall lleoliadau yn aml arwain at gynigion o waith cyflogedig yn y dyfodol. Lleoliad amser llawn yw hwn, am ryw 10 wythnos ac fe gewch eich talu o leiaf £6.67 yr awr / £250 yr wythnos. I gael eich ystyried, bydd angen gwneud cais ar-lein. Ewch i www.gowales.co.uk


Cysylltu


Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN

 

ffon 01970 617998
ffon 01970 611223
ffon post@aradgoch.org

 

Ymuno



 

Hefyd ar

Facebook

TwitterBlog

Flickr

llun or fan