Y Ganolfan
Y Ganolfan yw cartref Arad Goch yng nghanol tref Aberystwyth. Mae’r adeilad - oedd yn gapel ar un cyfnod - yn drawiadol tu hwnt a’r drysau mawr coch yn estyn croeso i bawb. Wedi ei adnewyddu’n llwyr y tu mewn mae’r adnoddau yn wych ac ar gael i’w defnyddio gan unrhyw fudiad neu unigolyn.
Mae’n adeilad hyblyg a mae yma ofod ar gyfer pob math o weithgaredd, boed hynny yn barti pen-blwydd, cyfarfod, perfformiad, arddangosfa, gig, cynhadledd, gwersi piano neu hyd yn oed Briodas!
• Mae mynediad i’r anabl, henoed a phrams i bob llawr
• Croeso i chi archebu te a choffi i gyd-fynd â’ch digwyddiad
• Mae modd i fandiau ifanc ymarfer yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor.
• Yn cwrdd yma bob wythnos mae’r clybiau drama cynradd ac uwchradd blAGur ac AGwedd.
I wybod mwy am yr amryw weithgareddau sy’n cael eu cynnal yn Y Ganolfan ymunwch â’r e-restr
Os hoffech logi’r Ganolfan ar gyfer digwyddiad mawr neu fach yna cysylltwch â .(JavaScript must be enabled to view this email address)
Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN
01970 617998
01970 611223
post@aradgoch.org
![]()
