Oriel
Ar lawr uchaf y ganolfan, yn y to fel petai, mae’r oriel. Dyma ichi ofod mae pawb yn hoff ohono a hynny'n bennaf oherwydd y nodweddion gwreiddiol a thrawiadol megis y trawstiau pren a'r ffenestr liw. Does dim nenfwd i’r ystafell dim ond ffenestri mawr yn gadael golau naturiol i lifo mewn.
Cynlluniwyd yr oriel ar gyfer artistiaid preswyl, ac mae ystafell dywyll a sinc ar gael yn y gofod hwn. Erbyn hyn caiff yr oriel ei defnyddio i bob math o ddigwyddiadau o gynhadleddau i ymarferion a pherfformiadau. Mae'n ofod braf ar gyfer ciniawa neu barti, a chynhaliwyd priodas yma yn dilyn ein hagoriad!
Os hoffech logi'r galeri ar gyfer eich digwyddiad neu achlysur arbennig, mae croeso ichi gysylltu a ni!
Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN
01970 617998
01970 611223
post@aradgoch.org
![]()
