Stiwdio
Ar lawr waelod y Ganolfan mae’r stiwdio hefyd yn ofod hyblyg iawn. Yn llai na’r theatr mae’n medru cynnig yr hyn dymuna grŵp bach neu fawr, boed agosatrwydd neu le i gynnal gweithgaredd torfol. Gellir ddefnyddio’r ystafell gyfarfod sydd ar draws y coridor fel ‘breakout room’ neu lle i gael paned os y dymunir. Mae sgrin a thaflunydd ar gael i’w defnyddio yn y fan hyn hefyd.
MANYLION TECHNEGOL:
Gofod yn mesur 7.8mx8.7m gyda uchder o 2.8m i’r grid.
Gallwn ddarparu system sain wyth sianel yma.
Mae 12 sianel oleuo yma sy’n cael eu rheoli gan ddesg Zero88 Jester.
Arad Goch
Stryd y Baddon
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NN
01970 617998
01970 611223
post@aradgoch.org
![]()
