Newyddion

 

CWRW, CHIPS A DARLITH DEG

Gan Sian Summers


AR DAITH HYDREF 2010


Comedi yng nghwmni Gary Jones, glasfyfyriwr o’r cymoedd sy’n ceisio troi yn ddyn yw “Cwrw, Chips a Darlith Deg”. Ni’n cwrdd â Gary ar ddiwedd ei dymor cyntaf yn y coleg ac yn dod i adnabod ei deulu, ei ffrindiau a chael hanes crôls, darlithoedd a merched! Bydd y ddrama yn atgoffa myfyrwyr y gorffennol o’i ieuenctid ffôl, yn dal drych i fywyd myfyrwyr y presennol, ac yn agoriad llygad doniol i fyfyrwyr y dyfodol.

Mae Gary Jones yn mynd mas i’r byd mawr i wneud ei farc (!)

Dilynwch ei stori i dyrre eifori byd addysg.

Ei wewyr wrth ysgrifennu traethode.

Ei vindaloos a pheintie lager.

Ei fywyd yn syrthio yn bishus yn y chutney tray ddiwedd noson.

Mae’r cwbwl yma.

Chwerthin, dagre a sawl syniad creadigol i guro deadlines aseiniad.”


Dewch yn ffrind i Gary Jones ar Facebook


Cast : Gwydion Griffiths

Cyfarwyddydd : Angharad Lee


                            

 

cwrwchips
dim
dim