Arad Goch Theatre Company - opening page Arad Goch Theatre Company - news on our activities Cwmni Theatr Arad Goch - theatre productions for the public Cwmni Theatr Arad Goch - theatre productions for schools   reviews and comments on the work of Cwmni Theatr Arad Goch Cwmni Theatr Arad Goch - how to contact the companyCwmni Theatr Arad Goch - the archive of our past productions


current productions | forthcoming productions | recent productions | archive of past theatre in eduction productions

  O Fore Gwyn tan Nos
 

Un dydd ym mywyd Plentyn.
Mae gwneud penderfyniadau a dewisiadau yn rhan o fywyd pob dydd oedolyn ond weithiau, i blentyn mae dewis yn beth anodd.

“Mae pob dydd yn brysur – mae’n rhaid mynd i’r ysgol, rhaid chwarae, gwisgo- cyn mynd i’r ysgol wrth gwrs – bwyta, darllen, chwarae mwy, siarad…. a dewis! A weithiau mae dewis yn beth anodd – IAWN! Beth i’w wisgo, beth i’w fwyta, dewis pa gemau i’w chwarae, dewis cerdded neu fynd yn y car, mynd i siopa gyda Dad neu helpu Mam – a dewis ffrindiau, dyna’r peth anoddaf weithiau – dewis..”

Cyflwyniad theatr i flynyddoedd 1 a 2 sydd yn edrych ar brofiadau plentyn bach a’r holl benderfyniadau ym mywydau plant ifanc sy’n gallu eu drysu weithiau a rhoi gormod o bwysau arnynt. Dyma gyflwyniad yn llawn digwyddiadau a cherddoriaeth fyw fydd yn cynnwys gwaith iaith, celf ABICH a cherddoriaeth.

  Staged from 24 02 2004 until 20 06 2004
  author: Jeremy Turner a'r cast, directed by: Jeremy Turner
  cast: Ffion Wyn Bowen
Rhiannon Morgan
Eifion Dafydd
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau O Fore Gwyn tan Nos ymaread the reviews of O Fore Gwyn tan Noshere
   
  Anrheg
 

Ydych chi’n gwybod sut gafodd y Robin Goch ei enw? Wel gofynnwch i rai o blant bach ysgolion Sir Gâr a Sir Benfro -bydda’n nhw’n siŵr o wybod. Pam? Am bod hon yn un o’r storïau sy’n cael ei hadrodd yn ystod sioe ‘Anrheg’, gan Arad Goch.

Mae’r sioe yn trafod rhai o symbolau’r Nadolig – yn hen a chyfredol, yn Gymreig ac yn estron. Un o’r traddodiadau tramor sy’n cael sylw yw arfer plant yr Iseldiroedd o roi clocsen allan, (yn hytrach na hosan fel a wnawn ni), i ddisgwyl am Santa. Ond mae plant yr Iseldiroedd yn rhoi yn ogystal a derbyn – noswyl y Nadolig mae nhw’n llenwi’r glocsen â gwair a siwgr ar gyfer ceffyl Sion Corn gan obeithio canfod y glocsen yn llawn cacennau a losin yn y bore.

Sioe dymhorol yw hon sy’n ceisio dangos nad anrhegion drudfawr yw’r rhai mwyaf gwerthfawr bob tro. Efallai, fel y dylwythen deg yn y sioe yma, y dylem ninnau hefyd geisio lapio hapusrwydd, gwên, chwerthin a geiriau caredig y Nadolig hwn!


  Staged from 22 11 2004 until 17 12 2004
  author: , directed by: Sera Moore Williams a Ffion Wyn Bow
  cast: Ffion Wyn Bowen
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau Anrheg ymaread the reviews of Anrheghere
   
  CRASH
 

Pobl ifanc eisiau hwyl a chymryd risg, eu 'oldies' eisiau iddynt basio arholiadau (o leiaf cyn gystal a phlant y cymdogion) a chael swyddi breision. Problemau oesol mewn cyd-destun modern - "Crash".

Addas i oedolion a phobl ifanc dros 14 oed.


  Staged from 14 02 2005 until 27 03 2005
  author: , directed by: Sera Moore Williams
  cast: Rhiannon Morgan
Rhys ap Trefor
Dafydd Rhys Evans
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau CRASH ymaread the reviews of CRASHhere
   
  Yr Ysbryd
 

Sut mae helpu plant i ddygymod a cholli aelod o’r teulu neu hyd yn oed anifail anwes? Dyma mae Cwmni Theatr Arad Goch yn geisio wneud yn ei gynhyrchiad diweddaraf “Yr Ysbryd”. Yn sicr mae’r pwnc yn un senstif iawn ond gobaith y cwmni yw y bydd gweld y bachgen bach 11 oed, prif gymeriad y ddrama, yn dod i dermau a cholli ei frawd yn fodd i blant ystyried y broses o alaru, o ddatblygu ac o ‘droi cornel’. “Yn y pen draw mae colled yn rywbeth mae pawb yn gorfod dygymod ag e wrth dyfu i fyny, ac os ydym ni yn llwyddo helpu plant i ddeall bod eu teimladau yn hollol naturiol, ond bod modd, gydag amser, deimlo’n hapus eto, yna mae’n werth chweil” meddai Iwan Charles sy’n cyfarwyddo’r ddrama hon gan Caryl Lewis.

  Staged from 20 01 2005 until 22 04 2005
  author: Caryl Lewis, directed by: Iwan Charles
  cast: Ffion Wyn Bowen
Eifion Dafydd
Darren Stokes
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau Yr Ysbryd ymaread the reviews of Yr Ysbrydhere
   
  Merch Cae Bach
 

Perfformir y sioe yma mewn amgueddfeydd yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gâr.
Stori Joan yw hon, merch fach a ddaeth i Gymru fel ‘evacuee’. Mae’r ddrama wedi’i selio ar atgofion a straeon cefn gwlad Gorllewin Cymru 40au’r ganrif ddiwethaf.

Sioe i flynyddoedd 5 a 6.

Perfformiadau Cyhoeddus:

Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth
16.11.05 (perfformiad Cymraeg)
17.11.05 (perfformiad Saesneg)
7.30pm
Tocynnau £3 o'r Amgueddfa 01970 633085

Amgueddfa Sir Benfro, Scolton Manor, Hwlffordd
7.12.05 (perfformiad Saesneg)
7pm
Tocynnau 01970 617998




  Staged from 03 10 2005 until 16 12 2005
  author: , directed by: Jeremy Turner
  cast:
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau Merch Cae Bach ymaread the reviews of Merch Cae Bachhere
   
  Anrheg/The Gift
 

Sioe un cymeriad– a thylwythen deg yw honno. Mae’r dylwythen yn defnyddio rhai o symbolau’r Nadolig – yn hen a chyfredol, yn Gymreig ac yn estron ac i ystyried beth sydd o wir werth.

Sioe i flwyddyn 1 a 2 yw hon.

  Staged from 31 10 2005 until 09 12 2005
  author: Sera Moore Williams, directed by: Sera Moore Williams
  cast: i'w gadarnhau
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau Anrheg/The Gift ymaread the reviews of Anrheg/The Gifthere
   
  Anrheg/The Gift
 

Sioe un cymeriad - a thylwythen deg yw honno. Mae'r dylwythen yn defnyddio rhai o symbolau tymor y Nadolig er mwyn ceisio deall beth sydd o wir werth.

  Staged from 10 10 2005 until 09 12 2005
  author: Sera Moore Williams, directed by: Sera Moore Williams
  cast: Ffion Bowen
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau Anrheg/The Gift ymaread the reviews of Anrheg/The Gifthere
   
  Merch Cae Bach
 

Perfformir y sioe yma yn Amgueddfa Caerfyrddin, Abergwili, Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth ac Amgueddfa Scolton Manor, Spittal.

Stori Joan yw hon, merch fach a ddaeth i Gymru fel 'evacuee'. Mae'r ddrama wedi'i selio ar atgofion a straeon cefn gwlad Gorllewin Cymru ym 40au'r ganrif ddiwethaf.

  Staged from 03 10 2005 until 09 12 2005
  author: Jeremy Turner, directed by: Jeremy Turner
  cast: Eifion Dafydd, Sara Harris-Davies, Rhiannon Morgan. Rheolwr Llwyfan - Llyr Jones
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau Merch Cae Bach ymaread the reviews of Merch Cae Bachhere
   
  Cinio Ysgol/School Dinners
 

Mae'r sioe yma yn cynnig golwg ysgafn a chyffrous ar ran o'r maes llafur gwyddoniaeth trwy lygaid y cymeriadau holl bwysig yna- bobl y gegin sy'n paratoi bwyd i'r plant.

Sioe i flynyddoedd 5 a 6.

A light-hearted and lively play which looks at part of the science curriculum through the eyes of those very important dinner ladies.

Suitable for pupils in years 5 & 6

  Staged from 13 03 2006 until 14 04 2006
  author: , directed by:
  cast: Ffion Wyn Bowen a Delyth Wyn
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau Cinio Ysgol/School Dinners ymaread the reviews of Cinio Ysgol/School Dinnershere
   
  Tafliad Carreg/Stones
 

Drama ffraeth a phwerus sy'n dangos sut mae bywyd yn medru newid gyda Thafliad Carreg.

Dramateiddiad o ddigwyddiad go iawn. Gyda cherddoriaeth fyw yn gyfeiliant cyffrous i goctel o gomedi a chrio - dyma stori dau fachgen, nad oedd mewn gwirioned, yn fechgyn anghyffredin.

Rhai ymatebion i berfformiadau Arad Goch o'r ddrama hon yn 2001/2:

"Superb, captivating, thought provoking and answer giving. I'm so very glad that I booked the talent of Iwan and LLyr" (Ysgol Bryngwyn)

"Roedd y disgyblion i gyd yn hollol frwdfrydig - fe ddywedodd pob un eu bod wedi mwynhau pob munud." (Ysgol Gyfun Aberaeron)

"The best thing I've ever seen"
(Alex Davies (disgybl/pupil) - Ysgol Dyffryn Taf

  Staged from 12 12 2005 until 03 02 2006
  author: Tom Lycos & Stefano Nantsou, directed by:
  cast: Iwan Charles
Owain Llyr Edwards
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau Tafliad Carreg/Stones ymaread the reviews of Tafliad Carreg/Stoneshere
   
  Hel Meddyliau
 

Mae Heti a Handel, pâr o lygod bach, yn paratoi am hirlwm y Gaeaf. Maent yn wynbeu gaeaf caled o ddiffyg bwyd. Cawn weld sut mae un yn casglu bwyd tra bo’r llall yn paratoi stôr o bethau prydferth i godi ei galon yn ystod misoedd llwm y gaeaf. Cawn rannu eu helyntion a gwrando ar eu straeon, eu breuddwydion a’u cyfrinachau tra’n aros am y Gwanwyn yn eu twll bach clyd yng nghwaelod y goeden.

Dyfeisiwyd y cynhyrchiad gwreiddiol yn 1990. Bellach mae’r ddrama hon wedi ei hail-greu mewn partneriaeth a Theatr Ark, Dulyn, a gyda chefnogaeth CCAT, rhaglen Interreg a gynlluniwyd i ddatblygu’r berthynas rhwng artistiaid ar ddwy lan y Môr Gwyddelig. Mae’r cynhyrchiad newydd hwn, sy’n cynnwys cerddoriaeth fyw ac a gyfarwyddwyd gan Jeremy Turner, yn rhoi cyfle i genhedlaeth newydd o blant rannu profiadau Heti a Handel.

Mae Hel Meddyliau hefyd ar gael yn Saesneg o dan y teitl Winter Pictures. Mae hwn yn gyhyrchiad addas ar gyfer sesiynau ar ôl ysgol neu fel sioe deulu.

  Staged from 15 09 2006 until 15 12 2006
  author: Jeremy Turner et al., directed by: Jeremy Turner
  cast: Ffion Wyn Bowen, Dafydd Rhys Evans, Thomas Johnston
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau Hel Meddyliau ymaread the reviews of Hel Meddyliauhere
   
  LLyfrau'n Taro 10 2006
 

Un o’r cynhyrchiadau sydd ar daith gan gwmni Arad Goch ar hyn o bryd yw ‘Llyfrau’n Taro 10’. Cynllun ar y cyd ydyw â Chyngor Llyfrau Cymru, a’i brif nôd yw hybu darllen ymysg ieuenctid. Dewiswyd pedair nofel ar gyfer y perfformiad sef Adref Heb Elin gan Gareth F. Williams; Swshi Snogs a Sgribls Hogan Flêr gan Gwen Lasarus; Helo Brian gan Meleri Wyn James a Ffêc tan, Risols a Chips, Caryl Lewis. Cyfarwyddir y sioe gan Sêra Moore Williams a’r actorion eleni yw Sioned Wyn Williams, Mari Beard a Robin Ceiriog. Unwaith eto eleni cafwyd ymateb brwd i’r cynllun ac ar hyn o bryd mae’r actorion wrthi’n brysur yn teithio’r wlad yn ymweld â nifer o ysgolion uwchradd. Cychwynwyd y daith ddydd Llun, Hydref yr 16eg, ac mae’n parhau hyd y 24ain o Dachwedd. Os ydych yn ddisgybl sydd wedi gweld perfformiad, yna mae croeso i chi yrru eich sylwadau atom i’r cyfeiriad canlynol: post@aradgoch.org

  Staged from 16 10 2006 until 00 00 0000
  author: , directed by: Sera Moore Williams
  cast: Robin Ceiriog
Mari Beard
Sioned Wyn Jones
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau LLyfrau'n Taro 10 2006 ymaread the reviews of LLyfrau'n Taro 10 2006here
   
  Crash - Sioe i Ysgolion 2007
 

Yn dilyn llwyddiant taith fer Crash yn 2005 penderfynwyd cynnig cyfle arall i'w gweld.

Drama sy'n delio a phynciau sy'n berthnasol i'n pobl ifanc yw hon - pwysau cyfoedion, disgwyliadau rhieni, alcohol, cyffuriau, digartrefwch a thrais. Yr hyn a geir yw darn o waith pwerus, bywiog a llawn hiwmor.

Mewn adolygiad soniodd yr awdures Meleri Wyn James am y 'buzz' a gafodd wrth wylio'r ddrama ac am yr egni a'r bwrlwm a ddaw o'r perfformiad. Positif oedd ymateb pobl ifanc a'i gwelodd a hynny wedi ei fynegi mewn iaith nodyn bodyn - "lol"!

Mae hon yn ddrama ac iddi apel ryngwladol.
Mae'r ddrama yn cael ei hyrwyddo bellach gan asiant yn yr Almaen ac fe fydd sawl cynhyrchiad ohoni yno o fis Medi ymlaen.

  Staged from 18 01 2007 until 12 03 2007
  author: Sera Moore Williams, directed by: Sera Moore Williams
  cast: Robin Ceiriog
Dafydd Rhys Evans
Rhiannon Morgan
Oliver Morys
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau Crash - Sioe i Ysgolion 2007 ymaread the reviews of Crash - Sioe i Ysgolion 2007here
   
  LLYNCU GEIRIAU/BOOKWORMS 2007
 

Bwriad y cynllun yw trosglwyddo'r neges i blant bod geiriau a darllen yn rhan annatod o fywyd - dylai darllen fod yn fraint ac nid yn fwrn. Perfformir yn y Gymraeg a'r Saesneg.

  Staged from 03 12 2007 until 29 02 2008
  author: , directed by:
  cast: Rhodri Trefor, Nerys Lewis a Ioan Gwyn
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau LLYNCU GEIRIAU/BOOKWORMS 2007 ymaread the reviews of LLYNCU GEIRIAU/BOOKWORMS 2007here
   
  MWNCI AR DAN / BURNING MONKEY
 

Wrth galon Mwnci ar Dán, mae hanes bachgen ifanc anniddyg sy’n chwilio am fywyd gwell, a’i gariad sydd hefyd a’i breuddwydion. Mae dieithryn, yn rhan o’r stori hefyd, oedolyn gyda gorffennol garw a stori drist i’w datgelu.
Mae’r ddrama yn trafod cyfrifoldeb yr unigolyn am ei hunan a thros eraill, gyda phwyslais efallai ar gyfrifoldeb bod yn rhiant.

Mae'r ddrama hon yn addas ar gyfer disgyblion Uwchradd CA 10, 11 a 12.

  Staged from 19 11 2007 until 11 01 2008
  author: Sera Moore Williams, directed by: Sera Moore Williams
  cast: I'w cadarnhau
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau MWNCI AR DAN / BURNING MONKEY ymaread the reviews of MWNCI AR DAN / BURNING MONKEYhere
   
  CANERI, GWYLAN A BRAN 2007
 

Cyflwyniad theatrig i blant blynyddoedd 5 a 6 sy'n gwau hen chwedlau a hanes lleol ynghyd gan ddefnyddio ffilm a thechnegau modern. Stori antur sy'n dilyn llwybr plentyn wrth iddi ddatrys cwestiynau a chanfod fod taith drwy hanes a gwybodaeth yn brofiad o ddarganfod
a chyffro.

Bydd perfformiadau yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Bydd y cynhyrchiad hwn yn addas ar gyfer disgyblion CA 2

Mae'r holl ddelweddau a welir yn y cyflwyniad hwn boed yn bortreadau, mapiau, paentiadau, llawysgrifau, i'w gweld ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol a byddai plant yn cael llawer o hwyl a budd yn chwilio amdanynt :

http://www.llgc.org.uk/

  Staged from 17 09 2007 until 12 10 2007
  author: , directed by: Jeremy Turner
  cast: Emyr Bell a Nia Ann.
   
  Darllenwch adolygiadau darllenwch adolygiadau CANERI, GWYLAN A BRAN 2007 ymaread the reviews of CANERI, GWYLAN A BRAN 2007here